Cynadleddau ac ysgolion
Cyfres o ddigwyddiadau ar raddfa fawr sy’n agored i reolwyr ac arweinyddion ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i gael mynediad at rai o’r arweinyddion meddwl, damcaniaethwyr arwain a’r siaradwyr mwyaf uchel eu proffil yn y byd.
Digwyddiadau sydd ar ddod
Cynhadledd Meithrin Coetsio Cysylltiedig 2026
Wrth i goetsio barhau i esblygu mewn ymateb i heriau sefydliadol a chymdeithasol cynyddol gymhleth, bydd y gynhadledd eleni yn archwilio sut y gall coetswyr weithio’n fwy effeithiol o fewn ac ar draws systemau, cymunedau a sefydliadau. Trwy brif siaradwyr gwadd, gweithdai rhyngweithiol a chyfleoedd i rwydweithio, bydd y cynadleddwyr yn archwilio arferion coetsio sy’n dod i’r amlwg, yn dyfnhau eu harbenigedd ac yn rhannu eu mewnwelediadau â chydweithwyr o bob cwr o Gymru.
11 Tachwedd 2026
Digwyddiadau yn y gorffennol
Ysgol Haf 2026: Ysbryd Arweinyddiaeth - Myfyrio, Ailgysylltu, Ailddychmygu
Mae prif raglen eleni, Ysbryd Arweinyddiaeth, yn brofiad preswyl trochol a gynhelir dros 4 diwrnod yn lleoliad prydferth Llanbedr Pont Steffan, yn y gorllewin. Mae'r Ysgol Haf yn dod ag arweinwyr at ei gilydd i rwydweithio, dysgu a mynd i'r afael â materion allweddol yn y gwasanaeth cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru.
23 Mehefin 2026
Ysgol Aeaf 2026: ‘Agweddau Arweinyddiaeth Myfyrio - Ailgysylltu - Ailddychmygu’
Mae rhaglen flaenllaw eleni, Agweddau Arweinyddiaeth wedi'i chynllunio i gryfhau, ysbrydoli a chysylltu uwch arweinwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'r rhaglen yn archwilio beth mae'n ei olygu i arwain yn gydweithredol, yn foesegol, ac yn ddychmygus mewn cyfnod o gymhlethdod, cyfyngiadau a newid. Mae'n cefnogi uwch-weithredwyr i gryfhau eu gwydnwch arweinyddiaeth, ehangu eu persbectif, ac ailegnïo eu hymrwymiad i werth cyhoeddus.
03 Chwefror 2026
Dosbarth Meistr Coetsio 2025: Tu hwnt i’r sbardun: Pam mae pobl yn ymateb fel y maen nhw
Bydd y dosbarth meistr rhyngweithiol hwn yn eich helpu i: Adnabod y gwahaniaethau rhwng ymateb gwirioneddol a strategaeth goroesi; Gweld sut mae'r patrymau hyn yn ymddangos yn y rhai yr ydych yn eu coetsio – ac yn y ffordd rydych chi’n arwain; Defnyddio’r ymwybyddiaeth hon i osgoi gwrthdaro, i gryfhau gwytnwch, i gael canlyniadau hyfforddi mwy effeithiol, ac i ddod yn arweinydd mwy effeithiol.
30 Hydref 2025
Ysgol Haf 2025: 'Cysylltiedig, Cydweithredol, Dewr: Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'n Gilydd'
Cynulleidfa: Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector gwasanaeth cyhoeddus a'r sector gwirfoddol yng Nghymru; Preswyl
01 Gorffennaf 2025
Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2025: 'Arwain am Cydlyniant'
Mae'r Ysgol Aeaf yn darparu dulliau newydd, arloesol i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â gofod, fel y gallant fynd ati i ddatrys heriau cymhleth yn y byd go iawn; Preswyl.
04 Chwefror 2025
Cynhadledd Coetsio Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2024: 'Coetsio mewn Oes Ddigidol'
Ymarferwyr coetsio a mentora o’r y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
14 Tachwedd 2024
Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2024: 'Y tu hwnt i’r gorwel: Arwain gydag eglurder a hyder mewn amseroedd sy’n newid'
Cynulleidfa: Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru; Dyddiadau: 25 i 28 Mehefin 2024 Preswyl
25 Mehefin 2024
Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2024: 'Arweinyddiaeth Edrych Tua’r Dyfodol mewn Byd Cymhleth'
Cynulleidfa: Y dwy lefel uchaf o arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru; Dyddiadau: 27 Chwefror i 1 Mawrth 2024 Preswyl
27 Chwefror 2024
Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2023: 'Cefnogi arweinwyr heddiw i greu yfory mwy disglair i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru - dathlu’r 10 mlynedd'
Cynulleidfa: Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru; Dyddiadau: 26 i 30 Mehefin 2023 Preswyl
26 Mehefin 2023
Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2023: 'Cefnogi arweinwyr heddiw i greu yfory mwy disglair i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru - dathlu’r 10 mlynedd'
Cynulleidfa: Y tair lefel uchaf o arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru; Dyddiadau: 7 i 10 Chwefror 2023 Preswyl
07 Chwefror 2023
Cynhadledd Coetsio Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022: 'Syndrom Twyllwr – Y Teimlad Cudd o Fod yn Dwyllwr'
Cynulleidfa: Ymarferwyr coetsio a mentora o’r y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng
17 Tachwedd 2022
Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022: 'Dyfodol Creadigol - blaenoriaethau, arferion a phosibiliadau gan gynnal momentwm ar adegau o newid, gan wneud y gorau o bobl a lleoedd'
Cynulleidfa: Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru Dyddiadau: 28 i 30 Mehefin 2021
28 Mehefin 2022
Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022: 'Arwain i Bawb – Adnewyddu, Adfer, Adfywio – llwybr tuag at y dyfodol sy’n dod i’r amlwg’
Cynulleidfa: Tair lefel uchaf o arweinyddiaeth uchaf ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru Dyddiadau: 1 i 4 Chwefror 2022
01 Chwefror 2022