English

Croeso

Croeso i wefan Academi Wales - yma, fe welwch amrywiaeth o adnoddau dysgu, cyrsiau a digwyddiadau a rhwydweithiau sydd wedi’u hanelu at arweinwyr a rheolwyr.

Mae’r dudalen hon yn esbonio beth sydd ym mhob rhan o'r wefan ac yn esbonio sut mae mewngofnodi a gosod eich proffil. Os oes gennych unrhyw ymholiadau nad ydynt yn cael eu hateb yma, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Dechrau arni

Mae llawer o’n hadnoddau ar gael i'r cyhoedd; fodd bynnag, mae rhywfaint o gynnwys unigryw sydd ar gael i aelodau’n unig.

Gallwch ymaelodi os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru.

Bydd hyn yn caniatáu i chi gael mynediad at yr ystod lawn o adnoddau, ymuno â rhwydweithiau a dechrau sgwrsio â phobl eraill ar y wefan.

Sut mae aelodaeth Academi Wales yn gweithioDdim yn aelod
(Ar agor i bawb)
Aelod
(Ar agor i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru)
Gweld yn Gymraeg neu’n SaesnegYdwYdw
Ar gael ar gyfrifiadur, ar ffôn symudol neu ar ddyfais tabledYdwYdw
Mynediad at adnoddau dysguYdwYdw
Darllen newyddion a blogiauYdwYdw
Cofrestru ar gyfer y Bwletin CyfleoeddYdwYdw
Gwneud cais am gyrsiau a digwyddiadau-Ydw
Mynediad at adnoddau dysgu unigryw-Ydw
Gwneud sylwadau ar adnoddau dysgu a rhoi sgôr iddynt-Ydw
Cadw eich hoff adnoddau dysgu mewn lle hwylus-Ydw
Creu’ch proffil personol-Ydw
Ymuno â rhwydwaith neu sefydlu un-Ydw
Dechrau sgyrsiau ag aelodau eraill-Ydw

Eich proffil

Byddwch yn cael tudalen proffil yn awtomatig pan fyddwch yn aelod o’r wefan. Yno, gallwch weld yr adnoddau rydych wedi’u dynodi, rheoli eich dewisiadau o ran tanysgrifio i rwydweithiau a gweld unrhyw sgyrsiau ag aelodau eraill.

  • Mynediad at eich proffil – gallwch gael mynediad at eich proffil unrhyw dro ar y brif faner ar frig y wefan
  • Diweddaru eich proffil – pan fyddwch ar eich tudalen proffil, cliciwch ‘Golygu proffil’ (gan gynnwys newid eich cyfrinair) Dim ond aelodau unrhyw rwydweithiau rydych wedi ymuno â nhw fydd yn gallu gweld eich proffil.

Rhwydweithiau

Pan fyddwch yn creu cyfrif, byddwch yn dod yn aelod o rwydwaith Academi Wales. Yma, gallwch gyflwyno eich hun, holi cwestiynau, rhannu adnoddau neu gysylltu ag aelodau eraill.

  • Ymuno â rhwydwaith arall – edrychwch drwy'r rhwydweithiau sydd ar gael a gofynnwch am gael ymuno
  • Newid eich tanysgrifiad – rheolwch hyn o’r dudalen rhwydwaith neu o’ch proffil
  • Creu rhwydwaith – os hoffech greu eich rhwydwaith eich hun, cysylltwch â ni
  • Gadael rhwydwaith – ewch i dudalen y rhwydwaith a chlicio ar ‘Wedi ymuno’, a bydd hwn yn rhoi'r dewis i chi adael

Adnoddau dysgu

Gallwch chwilio am adnoddau penodol neu bori drwy ein categorïau i ddod o hyd i'r deunyddiau sydd eu hangen arnoch. Mae'r adran adnoddau yn cynnwys fideos, cyflwyniadau, erthyglau ac amryw o ddolenni defnyddiol eraill.

Gallwch naill ai clicio ar adnodd a’i ddefnyddio, neu gallwch ddewis o nifer o gamau gweithredu.

  • Nodi tudalen – cadw cofnod o adnoddau defnyddiol
  • Adolygu – gadael sylw neu sgôr i’n helpu ni i ddeall pa fath o gynnwys rydych chi’n ei hoffi a beth hoffech chi weld mwy ohono
  • Adrodd – rhoi gwybod i ni os oes problem
  • Ychwanegu tag – ein helpu ni i gategoreiddio cynnwys er mwyn i eraill ddod o hyd iddo’n haws
  • Rhannu – anfon at eich cysylltiadau neu bostio ar y cyfryngau cymdeithasol

Os hoffech ychwanegu eich adnoddau at ein gwefan, cysylltwch â ni.

Cyrsiau a digwyddiadau

Gallwch chwilio drwy ein prosbectws llawn o gyrsiau, rhaglenni a digwyddiadau, ac archebu.

Y ffordd orau o gael gwybod am yr hyfforddiant diweddaraf yw drwy danysgrifio i’n Bwletin Cyfleoedd.

Newyddion a safbwyntiau

Cael gwybod y diweddaraf yn y newyddion a’r blogiau. Os hoffech i’ch newyddion chi ymddangos ar y dudalen hon, cysylltwch â ni.

Amdanom ni

Rhagor o wybodaeth am Academi Wales a’n gwaith. Gallwch weld telerau ac amodau’r wefan a'r hyfforddiant yn y rhan hon hefyd.

Ac yn olaf...

Gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio'r wefan!

Rydym bob amser yn ceisio gwella, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu adborth, cysylltwch â ni.