Gwaith hwyluso a chefnogaeth wedi’u teilwra
Trosolwg
Mae ein tîm profiadol o ymarferwyr datblygu arweinyddiaeth a rheoli yn awyddus i ddarparu cefnogaeth wedi'i theilwra i wasanaethau cyhoeddus ac elusennau cofrestredig Cymru.
Gallwn:
- Gynnig cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar gyfer datblygu sefydliadol
- Cyflwyno sesiynau arweinyddiaeth yn eich cynhadledd neu’ch digwyddiad
- Cyflwyno un o'n cyrsiau neu’n rhaglenni byr i'ch sefydliad
- Hwyluso gweithdai datblygu tîm
- Darparu coetsio
- Cynnig arweiniad ar faterion arweinyddiaeth/gwella sydd ar gael ar draws gwasanaethau cyhoeddus/gwirfoddol Cymru
- Cynnig cymorth i rannu arfer da ar draws Cymru
Er mwyn ein helpu i roi cefnogaeth effeithiol i chi, ystyriwch:
- ein bod angen o leiaf 8 wythnos o rybudd
- pa ganlyniadau yr ydych chi eu heisiau
- faint o bobl fydd yn cymryd rhan (mae gan rai o’n cyrsiau gyfyngiadau o ran isafswm/uchafswm cyfranogwyr)
- pwy fydd y cyswllt allweddol yn eich sefydliad
- pa leoliadau(au) addas sydd ar gael i chi
- pa offer sydd ar gael i chi
Ffioedd
Rydym yn cynnig ein hamser a'n cefnogaeth yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i ni godi tâl er mwyn defnyddio diagnosteg neu ddeunyddiau trwyddedig trydydd parti.
Sut mae cysylltu â ni
Os ydych chi'n gweithio i wasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig yng Nghymru ac yn awyddus i drefnu cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer eich sefydliad neu eich tîm chi, llenwch ein ffurflen cais am gefnogaeth.
Oherwydd y galw mawr, byddwn angen o leiaf 8 wythnos o rybudd. Rydym yn ceisio bodloni ceisiadau lle bynnag y bo modd.