English

Gyda phwy yr ydym yn gweithio

Rydym yn cynnig ein hystod o gynhyrchion a gwasanaethau i arweinwyr a rheolwyr sy’n gweithio ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru:

  • Addysg - ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac addysg Uwch yng Nghymru
  • Tân ac Achub - sefydliadau tân ac Achub yng Nghymru
  • Awdurdodau Lleol - awdurdodau lleol yng Nghymru
  • GIG Cymru - sefydliadau GIG Cymru
  • Yr Heddlu - gwasanaethau heddlu yng Nghymru
  • Trydydd/Gwirfoddol - elusennau cofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru
  • Llywodraeth Cymru - adrannau Llywodraeth Cymru
  • Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru - cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru: sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a ariannir gan Lywodraeth Cymru
  • Whitehall - sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a gynhelir gan Lywodraeth y DU
  • Cyrff a Noddir gan Whitehall - sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a ariannir gan Lywodraeth y DU
  • Arall - gwesteion a wahoddwyd o sefydliadau partner a chyrff eraill yn y gwasanaeth cyhoeddus ledled y DU

Ffurfiwyd Panel Arbenigwyr Academi Wales yn 2022. Gan ddisodli Bwrdd Cynghori Academi Wales, mae’r newid hwn i Banel Arbenigwyr yn adlewyrchu ein strategaeth a’n cyfeiriad newydd o deithio.

Mae ein Panel Arbenigwyr yn dwyn ynghyd grŵp o unigolion sy’n barod i ddefnyddio eu harbenigedd a’u profiad i gynghori ar brif heriau a chyfleoedd arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd aelodau’r panel yn cynrychioli eu sector, yn ogystal â darparu eu profiad a’u barn broffesiynol eu hunain. Yn dilyn hynny, bydd eu cyngor yn cynorthwyo Academi Wales i hwyluso’r gwaith o ddatblygu sgiliau a galluoedd arwain â blaenoriaeth newydd, wedi’u hadeiladu ar egwyddorion cydweithredu a phartneriaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am bob aelod o’r panel i’w gweld isod.

Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Estyn

Mae Owen Evans yn gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â rheolaeth, staffio a threfniadaeth Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru, sy’n cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau yng Nghymru. Yn ogystal, mae Owen yn chwarae rôl allweddol yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill yng Nghymru, i roi sylfaen i gynllunio a gweithio ar y cyd. Yn ogystal, fel Swyddog Cyfrifyddu Estyn, mae’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol a’u bod yn rhoi gwerth am arian. Yn ogystal, mae’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cafodd Owen, sy’n Gymro Cymraeg, ei addysg yn Ysgol Penweddig a Choleg Ceredigion, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ymunodd Owen ag Estyn o’i swydd fel Prif Weithredwr S4C, y darlledwr Cymraeg. Cyn ymuno ag S4C, roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhwng 2008 a 2010, roedd yn gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru, ac am 10 mlynedd cyn hynny bu’n gweithio i BT, gan gynnwys fel aelod o dîm y DU yn datblygu strategaeth band eang BT. Mae wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn flaenorol bu’n gadeirydd Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd cynghori Marie Curie yng Nghymru, yn rhan o’r rhaglen Siaradwyr i Ysgolion ac mae’n gadeirydd WEPCo. Mae’n aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth.

Ymunodd Owen â Phanel Arbenigol Academi Wales fel cadeirydd yn 2024.

Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Dechreuodd Ian ei swydd fel Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam ym mis Awst 2018 ac am y pedair blynedd ar ddeg flaenorol bu'n gweithio ar lefel uwch arweinwyr o fewn sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus mawr ym Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi a Gogledd Ddwyrain Cymru. Yn fwyaf diweddar, ers 2014, mae hyn wedi bod yng Nghyngor Sir y Fflint fel Prif Swyddog sy'n arwain yn llwyddiannus at ddatblygu a gweithredu nifer o raglenni strategol mawr.

Mae Ian wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'i nod yw gweithio gyda phartneriaid, cymunedau lleol a thrigolion i adeiladu a chyflawni gweledigaeth glir sy'n sicrhau canlyniadau rhagorol. Mae Ian wedi byw yn Wrecsam am y 18 mlynedd diwethaf ac mae'n angerddol am y cyfleoedd cadarnhaol presennol y mae Wrecsam a Chymru yn eu darparu a'r potensial ar gyfer y dyfodol.

Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw Estelle Hitchon.

Ymunodd â’r Gwasanaethau Ambiwlans yn 2014, yn dilyn gyrfa amrywiol mewn newyddiaduraeth, y byd academaidd a nifer o rolau arwain ar draws y sectorau cyhoeddus, dielw a chelfyddydol.

Mae rôl Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu yn unigryw yn GIG Cymru, gan gyfuno amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys cyfathrebu ac ymgysylltu, partneriaethau statudol a materion gwleidyddol a chyhoeddus.

Hyfforddodd Estelle yn wreiddiol fel newyddiadurwr yn ei thref enedigol, Llanelli, yn dilyn gradd mewn Astudiaethau Ewropeaidd a gradd Meistr mewn Astudiaethau Dwyrain Ewrop. Mae hi'n siarad Almaeneg yn rhugl.

Mae Estelle yn brofiadol mewn gweithio gyda Byrddau a Thimau Gweithredol, gyda ffocws penodol ar gyngor strategol ac arwain trwy gymhlethdod. Mae hi'n eiriolwr angerddol dros gyfathrebu ac ymgysylltu, a dros arweinwyr amrywiol, ar lefel Bwrdd.

Y tu allan i'r gwaith, diddordebau eraill Estelle yw pensaernïaeth, dylunio’r cartref a cherddoriaeth. Yn ddiweddar, symudodd yn ôl i Gaerdydd o dde Swydd Gaerwrangon, lle’r oedd yn geidwad tŷ rhestredig Gradd 2 a gynlluniwyd yn wreiddiol fel stabl gan y pensaer tirlunio enwog o'r 18fed ganrif, Lancelot "Capability" Brown. Erbyn hyn mae ganddi gartref ffug-Sioraidd ychydig yn llai mawreddog yng ngogledd Caerdydd, ond mae'n parhau i fod wrth ei bodd â thai hanesyddol.

Mae Estelle yn hoff iawn o ganu’r piano, er nad yw’n dalentog iawn yn hynny o beth, ac mae hefyd yn chwarae'r ffliwt (yn wael) a’r oboe (yn arswydus o wael).

Datblygu Sefydliadol Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dechreuodd Debra ei gyrfa ym maes llywodraeth leol yn y flwyddyn 2000 ar ôl gweithio mewn ymgynghoriaeth hyfforddi gyda sefydliadau mawr yn y sector preifat. Yn athro uwchradd cymwysedig, mae ganddi angerdd dros ddysgu a datblygu ac mae’n darparu cyfleoedd i unigolion gyrraedd eu llawn botensial.

Mae Debra yn gymrawd o’r CIPD ac yn meddu ar Radd Meistr mewn Datblygu Sefydliadol. Mae hi hefyd wedi adeiladu tîm amrywiol sy’n cyflwyno rhaglenni arobryn, gan gynnwys Cynlluniau Graddedigion a Phrentisiaethau’r Cyngor a rhaglenni cyflogaeth arbenigol. 

Mae Debra yn angerddol am ymgysylltiad a lles staff gyda’i thîm, gan ddarparu amrywiaeth o raglenni dysgu a datblygu, gwasanaethau iechyd a lles galwedigaethol, manteision staff ac ymgynghori â staff.

Yr hyn yr hoffai Debra i’w hetifeddiaeth fod yw bod gan y Cyngor raglenni o ansawdd uchel ar waith i sicrhau bod unigolion, yn enwedig y rhai sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig a chymhleth, yn cael cyfle i ffynnu o fewn y Cyngor a thu hwnt.

Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Cyngor Hil Cymru

Yn wreiddiol o Nigeria, mae gan Uzo radd yn y gyfraith o Brifysgol Nigeria ac roedd yn gymwys fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr ac fe'i galwyd i'r Bar yn Nigeria.

Ar ôl cymhwyso fel bargyfreithiwr yn Nigeria, symudodd Uzo i Gymru lle mae bellach yn brif swyddog gweithredol Cyngor Hil Cymru ac mae'n aelod o fwrdd sawl sefydliad gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethu fel cadeirydd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yng Nghymru, a sefydlwyd ganddi yn 2004.

Mae Uzo wedi gwasanaethu gyda thîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, sydd wedi'i leoli yn y Swyddfa Gartref, lle bu'n ymwneud â datblygu polisïau cenedlaethol ar gysylltiadau hiliol ac amrywiaeth.

Yn 2004, ymunodd â Heddlu De Cymru ac, yn yr un flwyddyn, sefydlodd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd gyntaf yng Nghymru a bu'n Gadeirydd ACC am 15 mlynedd.

Gwasanaethodd Uzo gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) UK fel Comisiynydd nes iddo uno â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ym mis Hydref 2007. Yn 2008 dyfarnwyd OBE iddi i gydnabod ei gwasanaethau i gysylltiadau cymunedol a chymunedau de Cymru.

Yn 2022, dyfarnwyd CBE i Uzo gan y Frenhines yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Jiwbilî.

Derbyniodd yr Athro Iwobi y CBE am wasanaethau i gydraddoldeb hiliol ac i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.

Uzo oedd y fenyw Ddu gyntaf i gael ei phenodi'n Gynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldebau i Lywodraeth Cymru.

Rhag Ddeon Ymgysylltu Allanol a Partner Academaidd ar gyfer Dysgu Hyblyg, Ysgol Busnes Caerdydd

Gan weithio gyda’r tîm, mae Sarah yn gyfrifol am holl weithgarwch allanol Ysgol Busnes Caerdydd, gan alluogi eu hymchwil i gael effaith yn y byd go iawn. Mae nhw wedi creu cymuned fusnes bywiog trwy ddarparu cyfleoedd i ymgysylltu gyda'r Ysgol Busnes a'r Brifysgol drwy ein cyfres boblogaidd Hysbysu dros Frecwast/Breakfast Briefing, cynadleddau academaidd a digwyddiadau. Ar hyn o bryd, mae Sarah hefyd yn Bartner Academaidd Prifysgol Caerdydd ar gyfer Dysgu Hyblyg, gan helpu i greu prosesau a pholisïau i gefnogi dull mwy hyblyg o rannu gwybodaeth. Arbenigedd busnes Sarah yw Syniadaeth Ddarbodus a Gwella Gwasanaethau ac mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau, cyhoeddus a phreifat, i gael gwell dealltwriaeth o holl elfennau sefydliadau llwyddiannus a sut i greu diwylliannau lle ceir Gwelliant Parhaus. Mae Sarah yn arbennig o hoff o weithio gyda thimau gwelliant er mwyn ehangu eu gwybodaeth a’u hannog i fod yn hunangynhaliol. Mae hi wrth ei bodd yn archwilio methodolegau gwelliant newydd - sut maent yn cysylltu â'i gilydd, a hefyd y cysyniadau newydd y maent yn eu darparu.

Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunodd Sarah â Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2016 a hi yw'r Cyfarwyddwr sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu'r gweithlu, gwella gwasanaethau, ymchwil, data ac arloesi.

Dechreuodd Sarah ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol, gan gefnogi cyfranogiad a chynhwysiant plant. Mae hi wedi dal swyddi ym maes datblygu polisi awdurdodau lleol a gwella gwasanaethau a chyn ei rôl bresennol bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr ar gyfer partneriaeth y DU o sefydliadau'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae Sarah yn dysgu Cymraeg.

Mae Sarah newydd lwyddo i sicrhau rôl newydd felly o ddiwedd Gorffennaf 2024, bydd hi’n Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru.

Prif Weithredwr, y Gymdeithas Rheoli Pobl Gofal Iechyd (HPMA)

Mae Julie yn gymrawd siartredig o'r CIPD ac wedi gweithio yn y sector cyhoeddus ers dros bedwar degawd. Ymunodd â HPMA fel eu Prif Swyddog Gweithredol ar 1 Gorffennaf 2024.

Tan yn ddiweddar, Julie oedd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sef corff gweithlu cenedlaethol GIG Cymru. Cyn hynny, hi oedd y Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Cenedlaethol a’r Pennaeth Proffesiwn ar gyfer GIG Cymru.

Tra oedd hi’n gweithio i’r Llywodraeth, bu Julie yn allweddol wrth ymgyrchu dros gael un corff gweithlu, addysg a hyfforddi i Gymru. Ar ôl sefydlu 'AaGIC' yn 2018, ymunodd â'r GIG ac aeth ymlaen i arwain datblygiad y 'Strategaeth Gweithlu ar Gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2020-30' gyntaf. Yn ystod pandemig Covid-19, bu’n cefnogi cyflwyno’r rhaglen frechu genedlaethol a’r gwaith o drefnu’r gweithlu. Un o'i llwyddiannau mwyaf arwyddocaol oedd datblygu adnoddau a rhaglenni arobryn i gefnogi piblinellau talent gweithredol, datblygiad proffesiynol, ac i ymgorffori arweinyddiaeth dosturiol ar draws GIG Cymru.

Mae Julie wedi cael gyrfa amrywiol yn y Llywodraeth, Senedd Cymru a'r GIG, gan weithio mewn ystod eang o rolau polisi cymdeithasol, datblygu sefydliadol, ac AD. Cyrhaeddodd rownd derfynol Cyfarwyddwr y Flwyddyn HPMA yn 2021.

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phobl, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)

Sara yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phobl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i CGGC ers 2006 ac mae'n gyfrifol am y rheolaeth weithredol ar weithgareddau fel polisi, partneriaethau strategol, AD, aelodaeth, dysgu, marchnata a chyfathrebu.

Cyn ymuno â CGGC, gweithiodd Sara yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan ddechrau ei gyrfa ym maes gwerthu a marchnata yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Fodd bynnag, pan gafodd gyfle i weithio yn y sector cyhoeddus ar gyfer Heddlu Dyfnaint a Chernyw, dechreuodd Sara gydnabod y gall swydd ymwneud â llawer mwy na gwneud arian yn unig – gall hefyd helpu unigolion a'r gymuned ehangach, y rhai sy'n wynebu'r anfantais fwyaf.

Mae Sara'n mwynhau ei rôl yn CGGC a’r gwaith y mae’n ei wneud yn y trydydd sector yn aruthrol, gan ddefnyddio ei hangerdd a'i sgiliau i helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Prif Swyddog Pobl, Heddlu De Cymru

Ymunodd Mark â Heddlu De Cymru ym mis Medi 2018 fel Prif Swyddog Pobl ar ôl mwynhau gyrfa yn ymestyn dros 18 mlynedd mewn diwydiant preifat mawr, Amlwladol.

Gan weithio fel rhan o’r Bwrdd Gweithredol, mae Mark yn rhoi arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ar gyfer datblygu’r gweithlu (tua 6,300). Mae’n gyfrifol am bortffolio gwasanaeth pobl amrywiol, gan gynnwys: diogelwch, iechyd galwedigaethol, Adnoddau a Chynllunio’r Gweithlu, HRSS, gwobrwyo a chydnabyddiaeth, cysylltiadau gweithwyr, ymgysylltu â gweithwyr, rheoli talent a dysgu a datblygu.

Mark yw'r Arweinydd Strategol ar gyfer adnoddau dynol a chydweithio dysgu a datblygu ar draws 4 Heddlu Cymru. Ef hefyd yw Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) y DU ar gyfer dysgu a datblygu.

Mae Mark yn Gymrawd Siartredig o'r CIPD ac yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith Ddiwydiannol.