English

Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan

Cynulleidfa:

Coetsiwyr sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru

Lleoliad:

Ledled Cymru

Hyd:

Parhaus

Os hoffech chi ddod o hyd i goetsiwr i helpu eich datblygiad personol neu broffesiynol, gallwch gofrestru â’r wefan hon a chwilio trwy ein rhestr o goetswyr.

Trosolwg

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi diwylliant coetsio sy’n cael ei arddel mewn sefydliadau sy’n gweithio ym mhob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru. Rydym wedi creu’r rhwydwaith hwn er mwyn dod ag adnoddau at ei gilydd, rhoi cyfle i gael sesiynau coetsio traws-sector am ddim, a helpu coetswyr. Er mai Academi Wales sy'n cynnal y rhwydwaith, rydym yn gwerthfawrogi pob mewnbwn gan goetswyr sy'n aelodau.

Os ydych yn cael eich cyflogi yn y sector gwasanaeth cyhoeddus neu'r trydydd sector yng Nghymru, byddem wrth ein bodd pe byddech chi'n ymuno â'r rhwydwaith.

Manteision i chi

Dyma gyfle i chi ymuno â rhwydwaith o goetswyr ledled Cymru, dod o hyd i gyfleoedd coetsio newydd a chael hyfforddiant.

Mae'r manteision yn cynnwys:

  • Hysbysebu i’r bobl sy’n cael eu coetsio o bob rhan o sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
  • Ehangu eich arbenigedd coetsio y tu allan i gyfyngiadau eich sefydliad eich hun
  • Rhwydweithio gyda choetswyr eraill yn rhanbarthol a/neu'n genedlaethol, i gael cefnogaeth anffurfiol a chefnogaeth gan gyfoedion i'ch gweithgareddau coetsio
  • Rhannu eich arbenigedd mewn goruchwylio coetsio
  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd DPP a drefnir ar y cyd ledled Cymru

Goruchwyliaeth coetsio

Gyda mwy o bwyslais ar goetsio ar draws gwasanaethau cyhoeddus, mae mwy o angen sicrhau bod coetswyr yn cael cymorth i dyfu a datblygu yn eu rolau. Mae goruchwyliaeth coetsio yn allweddol i helpu i reoli hyn a sicrhau ansawdd coetsio, yn ogystal â datblygu arfer proffesiynol da yn y gymuned coetsio.

Gellir diffinio goruchwyliaeth coetsio fel

“proses ffurfiol o gymorth proffesiynol, sy'n sicrhau datblygiad parhaus y coetsiwr ac effeithiolrwydd ei ymarfer coetsio drwy fyfyrio rhyngweithiol, gwerthuso deongliadol a rhannu arbenigedd" (Bachkirova, Stevens a Willis, 2005)

Er bod yr International Coach Federation (ICF) yn dweud bod goruchwyliaeth yn

“perthynas 'rhwng cyfoedion' sy'n darparu lle ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus."

Mynediad i oruchwyliaeth

Mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan mewn goruchwyliaeth:

  • Os oes gennych gymhwyster mewn goruchwyliaeth coetsio ac os hoffech gefnogi goetswyr eraill drwy ddarparu rhai sesiynau goruchwylio anfonwch e-bost atom AW.CoetsioaMentora@llyw.cymru neu soniwch amdano yn eich cais.
  • Os ydych yn darparu hyfforddiant goruchwylio mewnol gyda'ch coetswyr yn eich sefydliad eich hun gallech estyn gwahoddiad i gyd-goetswyr ar y ganolfan rhwydwaith cymunedol i ymuno â chi y gellid ei gyfnewid. Neu gallech ymuno a threfnu rhai sesiynau goruchwylio ar y cyd.
  • Goruchwyliaeth gan gyfoedion – manteisiwch ar y cyfle i gyfeillio â chyd-goetswyr ar y rhwydwaith

Mae ein dogfen Hau Hadau yn rhoi mwy o fanylion am fanteision ac ethos goruchwyliaeth coetsio:

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP):

Fel rhan o'n hymrwymiad i goetsio, rydym yn deall pwysigrwydd cefnogi datblygiad personol parhaus ein coetswyr cofrestredig.

Sut i wneud cais

I ymuno â Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan, rhaid i chi:

  • Bod yn weithiwr yn y sector gwasanaeth cyhoeddus neu'r trydydd sector yng Nghymru
  • Bod â rôl sy'n gysylltiedig â choetsio
  • Cytuno i gydymffurfio â'r Safonau Gofynnol ar gyfer Coetswyr

I ymuno fel coetsiwr, rhaid i chi fod â chymhwyster coetsio gofynnol o ILM 5 neu gymhwyster cyfatebol.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan arweinwyr coetsio – dyna unrhyw un sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am goetsio o fewn eu sefydliad.