English

Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan

Pam ymuno â’n Cymuned Ymarfer ni?

Ymarferwyr gwelliant parhaus yn gweithio yn y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, sydd â sylfaen wybodaeth eang am dechnegau gwelliant parhaus.​

Rhwydweithio

Cysylltu â phobl sy’n gwneud yr un math o waith, yn wynebu’r un problemau ac sy’n dathlu'r un llwyddiannau â chi.

Cyfarfod ymarferwyr o’r un anian â chi sy’n rhannu eich brwdfrydedd dros welliant parhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Cryfhau cysylltiadau rhwng gwasanaethau cyhoeddus – creu cysylltiadau rhwng amrywiaeth o sefydliadau fel eu bod yn gallu manteisio ar wybodaeth a phrofiadau ei gilydd.

Dysgu

Astudiaethau Achos – deall sut mae sicrhau buddion mewn meysydd megis arbed costau, gwella gwasanaethau a gwneud mwy gyda’r un faint.

Digwyddiadau – mynd i ddigwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol drwy gydol y flwyddyn, ac efallai annerch y gynulleidfa ynddyn nhw. Chwilio'r digwyddiadau AWCIC ar y gweill.

Rhannu

Lleihau camgymeriadau a sicrhau buddion – byddwn ni'n rhannu’r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu gan ein profiadau da a drwg ac yn trafod syniadau ynghylch methodoleg.

Dangos eich gwaith – byddwn yn cyhoeddi astudiaethau achos o’ch adolygiadau, eich ymyriadau a gwaith arall ar welliant parhaus.

Cyfrannu – gadewch i bobl eraill yn y gymuned ddysgu o’ch gwaith.

Gwella

Dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar brosiectau gydag ymarferwyr mewn sefydliadau eraill.

Newid y ffordd rydyn ni’n gweithio drwy ddefnyddio dysgu ar y cyd i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau.

Dylanwadu ar newid a’r gwaith o lunio polisïau drwy ddefnyddio data a phrofiadau o’r gymuned.

Ymunwch â'n Cymuned Ymarfer

Gallwch ymuno â Chymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan yn ardal Rhwydweithiau ein gwefan lle gallwch gael gafael ar wybodaeth am welliant parhaus gan gynnwys offer, technegau a deunyddiau diweddar.

Rhaid bod gennych gyfrif Academi Wales ac wedi mewngofnodi i'ch cyfrif Academi Wales i allu ymuno â'r rhwydwaith hwn.

Gwobrau AWCIC

Mae'r Gwobrau AWCIC yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun sy'n dathlu'r gydnabyddiaeth bwysig o'r gwaith caled sy'n cael ei wneud gan ymarferwyr gwelliant parhaus y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

Mae cyllid y gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i osod heriau. Mae gwaith ymarferwyr gwelliant parhaus yn darparu'r cymorth i gwrdd â'r heriau hyn a'u trawsnewid yn gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio mwy ar y dinesydd. Mae'r gwaith da a wneir ar lefelau sefydliad, tîm ac unigol yn haeddu cydnabyddiaeth. Nod y gwobrau hyn yw dathlu llwyddiant a rhoi'r cyfle i ledaenu arferion da ar draws y gwasanaethau cyhoeddus; ac ychwanegu gwerth pellach at raglen waith AWCIC drwy'r flwyddyn; Digwyddiadau dysgu a rhannu, cynhadledd flynyddol.

Enillwyr Gwobrau AWCIC

2019

2018

2017

2016

  • Gyfraniad Rhagorol i Welliant Parhaus mewn Gwasanaethau Cyhoeddus - Tanya Strange, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Arweinyddiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Gwerth Cyhoeddus - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Cydweithio - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Arloesi - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Digwyddiadau

Ymwelwch ein rhestr chwarae YouTube i weld fideos o'n digwyddiadau.

Am gymryd rhan?

Cysylltwch ag AWCIC@llyw.cymru, dilynwch ni ar Twitter @AllWalesCIC a thanysgrifiwch i'n rhestr bostio a dewis 'Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan' i dderbyn y rhybuddion a diweddariadau digwyddiadau.