English

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Yn dilyn llwyddiant ein hymgyrch ddiwethaf, Arwain drwy Ddewis, rydym wedi cyflwyno ein hymgyrch newydd - Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.

Beth yw Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru?

Mae gennym set o werthoedd gwasanaethau cyhoeddus ac ymddygiadau arwain a fydd yn llywio sut rydym yn gweithio, yn newid diwylliant ac yn llunio'r ffordd rydym yn ymddwyn.

Mae'n ymwneud â gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i'n helpu ni i greu Cymru rydym yn dymuno byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol. Mae'n ffordd o feddwl ac ymddwyn - datblygu dyfodol lle gall pob un ohonom weithio gyda'n gilydd gyda diben cyffredin, gyda gweledigaeth a gwerthoedd a rennir.

Mae byw’r gwerthoedd hyn yn golygu bod yn ymreolaethol ac eto’n atebol, gan fod yn ddewr ac yn feiddgar a chreu diwylliant sy’n agored ac yn dryloyw lle mae pobl yn cyflawni eu potensial.

Rydym hefyd yn gofyn i chi gwneud addewid ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru’

Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n fwy tebygol o weithredu ar ein haddewidion os ydyn ni'n eu rhannu ag eraill - felly nawr eich amser i wneud yn union hynny!

Gallwch chi lawrlwytho, argraffu a phostio ein haddewid i Trydar yn hawdd. Cofiwch 'tagio' ni @AcademiWales a defnyddiwch #UnGwasanaethCyhoeddusCymru fel y gallwn eu gweld nhw.

Sut y byddwn yn cefnogi ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru’?

Mae gennym lawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan a chefnogi Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.

Yn ogystal, mae gennym ein hystod lawn o gyrsiau, rhaglenni a dosbarthiadau meistr. Mae gennym hefyd ddigon o adnoddau dysgu sy'n ymdrin ag ystod eang o bynciau, ‘cyngor cyflym' i'ch helpu chi o ddydd i ddydd a'n llyfrgell gynyddol o gyhoeddiadau ‘Hau Hadau’ - lle rydyn ni'n gwneud yr ymchwil felly gallwch ddarganfod y ffeithiau allweddol am themâu arweinyddiaeth newydd.

Beth nesa?

Byddwn yn lansio mwy o gyfleoedd, cyhoeddiadau a digwyddiadau newydd trwy gydol y flwyddyn. Gewch y wybodaeth ddiweddaraf trwy danysgrifio i'n Bwletin Cyfleoedd a'n dilyn ar Twitter @AcademiWales.