English

Telerau ac amodau

Gwybodaeth

Gallwch ddarganfod mwy am sut rydym yn rheoli eich gwybodaeth bersonol ar dudalen ein polisi preifatrwydd.

Diweddarwyd 3 Awst 2021

Diolch i chi am ddefnyddio academiwales.gov.wales (y ‘wefan’). Darllenwch y telerau ac amodau hyn (y ‘telerau’) cyn defnyddio’r wefan, sy'n cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru (‘ni’). Mae’r telerau hyn yn berthnasol i’r defnydd o’r gwefannau canlynol ac unrhyw is-barth cysylltiedig:

  • academiwales.gov.wales
  • academiwales.llyw.cymru
  • academiwales.org.uk

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, anfonwch e-bost atom i academiwales@llyw.cymru, neu ysgrifennwch atom yn Academi Wales, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych chi’n dangos eich bod yn derbyn y telerau hyn, ac am hynny byddwn ni’n rhoi mynediad i chi. Mae’n bosibl y byddwn ni’n addasu’r telerau hyn o bryd i’w gilydd. Yn unol â hynny, dylech barhau i fwrw golwg dros y telerau pan fyddwch chi’n mynd ar y wefan neu yn ei defnyddio. Os byddwch ar unrhyw adeg am beidio â derbyn y telerau, dylech beidio â defnyddio’r wefan.

Y ffordd orau o weld y wefan hon yw ar Microsoft Edge neu Google Chrome.

Os ydych chi’n cael negeseuon ‘byffro’ wrth geisio gwylio fideos, nid yw eich cysylltiad yn ddigon cyflym. Dylech glicio’r botwm ‘Rhewi’ (‘Pause’) ar reolyddion y fideo ac aros i’r bar cynnydd lenwi. Dylai'r fideo chwarae’n llwyddiannus ar ôl i chi glicio'r botwm ‘Chwarae’ (‘Play’).

Mae rhannau o’r wefan hon wedi’u cyfyngu i ddefnyddwyr awdurdodedig. Oni bai eich bod chi’n ddefnyddiwr awdurdodedig, does gennych chi ddim hawl i ddefnyddio’r rhannau hynny o’r wefan. Gallai fod yn drosedd i chi fynd ar y rhannau hynny, yn unol â'r Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron. Os ydych chi’n mynd ar unrhyw rannau cyfyngedig o’r safle yn ddamweiniol, anfonwch e-bost i academiwales@llyw.cymru.

Gall defnyddwyr awdurdodedig gynnwys pobl sy'n gweithio i wasanaeth cyhoeddus neu sefydliadau trydydd sector sy’n gweithredu yng Nghymru (gyda’i gilydd, ‘aelodau’). Cadwn yr hawl i atal cyfrifon aelodau dros dro heb rybudd.

Bydd gan aelodau penodol eu hadrannau eu hunain ar y wefan (‘rhwydweithiau’) sy’n cael eu gweithredu ganddyn nhw heb gyfeirio atom ni. Fel aelod, mae’n rhaid i chi sicrhau, fel amod ar gael eich adran eich hun ar y wefan, eich bod chi'n gosod telerau ac amodau priodol yng nghyswllt mynd ar y rhwydweithiau a’u defnyddio. Dylai’r rhain fod yn debyg yn fras i’r telerau hyn ac i’n polisi preifatrwydd (ond yn achos yr olaf, mae’n rhaid i’r polisi preifatrwydd roi manylion ynglŷn â natur a phwrpas prosesu a wnewch).

Os ydych chi’n aelod neu’n ddefnyddiwr rhwydwaith, rhaid i chi fynd ar y wefan a’i defnyddio yn unol â'r telerau hyn yn ogystal ag unrhyw delerau ac amodau ychwanegol sy’n berthnasol i’r rhwydweithiau.

Mae’r wefan (a'r rhwydweithiau) yn cynnwys fforymau a deunydd sydd wedi’u creu gan ddefnyddwyr, a gellir uwchlwytho a throsglwyddo’r rhain i ddefnyddwyr eraill neu i ddefnyddwyr awdurdodedig.

Os ydych chi’n uwchlwytho deunydd i’r wefan, rydych trwy hyn yn cytuno’n ddi-droi’n-ôl

  • i ni ac i’r aelodau gael trwydded barhaus i gopïo, dosbarthu, cyhoeddi ac addasu’r holl hawliau eiddo deallusol mewn deunyddiau o’r fath fel bo angen i sicrhau bod y wefan ar gael i ddefnyddwyr; ac
  • yn ildio pob hawl moesol yng nghyswllt deunyddiau o’r fath

Mae’r holl ddeunyddiau sy’n cael eu huwchlwytho neu sydd fel arall yn cael eu trosglwyddo neu eu cyhoeddi drwy gyfrwng y wefan, boed nhw’n cael eu postio’n gyhoeddus neu’n cael eu trosglwyddo’n breifat, yn gyfrifoldeb llwyr y person sydd wedi creu deunydd o’r fath, ac mae’n rhaid i’r person hwnnw ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros sicrhau nad yw’n cynnwys unrhyw ddeunydd maleisus, niweidiol neu anghyfreithlon nac yn cynnwys unrhyw ddata neu frand sydd wedi’i gopïo gan berson neu gwmni arall heb awdurdod.

Bydd Llywodraeth Cymru ac unrhyw berson sydd wedi’i enwebu gennym ni neu sydd wedi’i enwebu gan ein partneriaid yn gallu monitro neu reoli deunydd sydd wedi’i uwchlwytho neu sydd fel arall wedi’i drosglwyddo neu ei gyhoeddi drwy gyfrwng y wefan, neu’n gallu peidio â’i fonitro neu ei reoli (‘rheolwr rhwydwaith’).

Yn achos fforwm sy’n cael ei fonitro, rydych chi’n cydnabod ei bod hi’n bosibl na fydd deunydd rydych chi’n ei bostio ar gael ar unwaith ar y wefan (neu rwydwaith) ac y gallai gael ei ddiwygio neu, yn unol â disgresiwn rheolwr y rhwydwaith, ei wrthod neu ei ddychwelyd i chi.

Yn achos deunydd sy'n cael ei fonitro a deunydd sydd ddim yn cael ei fonitro, neu ddeunydd sydd fel arall wedi’i drosglwyddo neu ei gyhoeddi drwy gyfrwng y wefan, ni fyddwn ni na rheolwr y rhwydwaith yn cymryd cyfrifoldeb dros ddeunydd o’r fath sy’n ymddangos ar y wefan (neu rwydwaith) neu sy'n ymddangos trwyddynt. Os byddwch chi’n defnyddio neu'n dibynnu ar unrhyw ddeunydd sydd wedi cael ei bostio drwy gyfrwng y wefan (neu rwydwaith) neu sydd wedi ei gael drwy'r wefan (neu rwydwaith), mae hynny ar eich risg eich hun.

Nid ydym yn cymeradwyo, yn cefnogi, yn cynrychioli nac yn gwarantu bod unrhyw ddeunydd neu gyfathrebiadau sydd wedi’u postio drwy gyfrwng y wefan (neu rwydwaith) yn gyflawn, yn wir, yn gywir nac yn ddibynadwy. Nid ydym yn cymeradwyo unrhyw safbwyntiau a fynegir drwy gyfrwng y wefan (neu rwydwaith) chwaith.

Er y byddwn ni’n ceisio sicrhau bod y defnydd o'r wefan yn ddiogel ac saff, mae risg fach y bydd defnyddwyr eraill yn postio deunyddiau neu gyfathrebiadau a all fod yn dramgwyddus, yn niweidiol, yn anghywir neu fel arall yn amhriodol. Os ydych chi’n dod yn ymwybodol o ddefnydd o’r fath, cysylltwch ag academiwales@llyw.cymru, neu yng nghyswllt deunydd neu negeseuon mewn rhwydwaith, cysylltwch â'r pwynt cyswllt sydd wedi’i enwebu ar gyfer y rhwydwaith hwnnw.

Bydd unrhyw berson sy'n defnyddio’r wefan neu rwydwaith er mwyn bwlio neu i bostio deunydd maleisus, niweidiol neu anghyfreithlon yn cael ei atal rhag defnyddio’r wefan a’r rhwydwaith. Efallai y byddant yn wynebu cosbau sifil neu gosbau troseddol ychwanegol. Bydd yr heddlu’n cael gwybod os bydd hynny'n briodol.

Mae'r wefan hon yn cynnwys botwm sy’n caniatáu i aelodau wneud cais am le ar ddigwyddiadau sydd wedi’u creu ac sy’n cael eu rheoli gennym ni neu ein partneriaid. Bydd gofyn i chi roi gwybodaeth i ni amdanoch eich hun er mwyn gallu gwneud cais. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd rydyn ni’n trin eich gwybodaeth bersonol, darllenwch ein polisi preifatrwydd.

Mae archebion ar gyfer digwyddiadau hefyd yn amodol ar delerau ac amodau ychwanegol.

Ni ddylech gamddefnyddio’r wefan drwy gyflwyno yn fwriadol firysau, trojan, cynrhon, bomiau rhesymeg na deunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Ni ddylech geisio mynd ar y wefan nac ar y gweinyddion y mae'n cael ei chadw arnynt heb awdurdod, ac ni ddylech ymosod ar ein gwefan drwy gyfrwng ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig sy’n digwydd ar ôl i chi ddefnyddio’r wefan.

Mae'r wefan, sy'n cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhain) testun, cynnwys, negeseuon, blogiau, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, enwau, logos, nodau masnach a deunyddiau eraill (‘cynnwys’) wedi’u diogelu drwy hawlfraint, cronfeydd data, hawliau mewn dyluniadau, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Gweler ein datganiad hawlfraint i gael mwy o fanylion.

Caniateir mynediad i’r wefan ar sail dros dro a byddwch yn cydnabod nad oes gennych unrhyw hawliau na thrwyddedau yng nghyswllt y wefan a/neu'r cynnwys ac eithrio’r hawl gyfyngedig i ddefnyddio'r wefan yn unol â’r telerau hyn ac i uwchlwytho cynnwys yn unol â'r telerau a nodir yn yr adran hon.

Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o’r wefan na'r cynnwys at ddibenion masnachol oni bai eich bod chi wedi cael ein caniatâd penodol i wneud hynny.

Os ydych chi’n cael cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol a ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw gyfrinair neu god adnabod defnyddiwr os byddwn ni’n credu nad ydych chi’n cydymffurfio ag unrhyw rai o’r telerau.

Ac eithrio’r hyn a nodir yn yr adran hon (neu a ddarperir yn unol â chyfraith berthnasol) chewch chi ddim copïo, datgrynhoi, datgymalu, tynnu’r deunydd oddi wrth ei gilydd, dosbarthu, cyhoeddi, addasu, uwchlwytho, nac mewn unrhyw ffordd arall fanteisio ar unrhyw ran o’r wefan.

Rydyn ni’n caniatáu i chi lwytho i lawr ar yr amodau canlynol:

  • eich bod chi’n llwytho i lawr a/neu’n argraffu copïau o’r wefan neu’r cynnwys at ddibenion dysgu;
  • rydych chi’n cadw pob hysbysiad hawlfraint ar ddeunydd lawrlwytho o’r fath a/neu gopi wedi’i argraffu a byddwch yn parhau i fod yn rhwym wrth delerau geiriau a hysbysiadau o’r fath.

Hefyd, ni chewch gynnig gwerthu, gwerthu, cyhoeddi na dosbarthu’r cynnwys nac unrhyw ran ohono dros unrhyw gyfrwng arall (gan gynnwys dosbarthu drwy deledu dros-yr-awyr neu ddarllediad radio neu ddosbarthu ar rwydwaith cyfrifiadur).

Heb i hynny amharu ar yr uchod yn gyffredinol, gallwch gynnwys dolen i’n gwefan, ar yr amod bob amser na fydd unrhyw ddolen i’r wefan neu i gynnwys sy’n gyfyngedig i’r cyhoedd ac sydd ar gael i'r aelodau yn unig, yn achosi i’r rhan honno o’r wefan neu gynnwys fod ar gael i unrhyw berson nad yw’n aelod.

Drwy gynnwys dolen i unrhyw rannau cyfyngedig o’r wefan neu gynnwys, rydych chi’n gwarantu mai dim ond yr aelodau fydd yn gallu gweld y rhan honno o’r wefan neu’r cynnwys drwy glicio ar y ddolen, a bod y safle sydd wedi’i gysylltu drwy'r ddolen yn cydymffurfio ym mhob agwedd arall â'r safonau cynnwys a nodir yn y telerau hyn. Cadwn yr hawl i dynnu’r caniatâd i gynnwys dolen ar unrhyw adeg, a hynny heb rybudd.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n monitro dolenni dwfn rhag ofn i ni cael gwared ar y tudalennau neu’r cynnwys yn ddiweddarach.

Er gwaethaf yr hyn a nodir uchod, ni ddylech, ar unrhyw amser, fframio unrhyw ran o’r wefan na'r cynnwys ar unrhyw wefan arall heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni ymlaen llaw.

Yn hynny o beth, ni chaniateir defnyddio’r wefan na'r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ynddi i lunio cronfa ddata o unrhyw fath, ac ni chaniateir storio'r wefan (yn ei chyfanrwydd neu unrhyw ran ohoni) mewn cronfeydd data sy’n cael eu defnyddio gennych chi neu unrhyw drydydd parti, na dosbarthu unrhyw wefannau cronfeydd data sy'n cynnwys y wefan i gyd neu rannau ohoni.

Mae’r gwefannau a’r tudalennau y mae dolenni iddynt ar y wefan (gan gynnwys rhwydweithiau) yno er gwybodaeth yn unig, ac nid ydym wedi'u hadolygu. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau na thudalennau y mae dolenni iddynt ar y wefan neu sy’n cynnwys dolen i’r wefan (gan gynnwys y rhwydweithiau), ac nid ydym yn derbyn dim cyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw golled na chosbau o fath yn y byd y gellir eu cael o ganlyniad i glicio ar ddolenni i wefannau neu rwydweithiau.

Os hoffech chi gael gwybodaeth ynglŷn â chael ein caniatâd i ddefnyddio unrhyw gynnwys neu i gynnwys dolenni dwfn ar eich gwefan i dudalennau gwe neu gynnwys sydd ar gael ar y wefan ac eithrio’r hyn mae’r telerau hyn yn ei ganiatáu, anfonwch e-bost i academiwales@llyw.cymru.

Er ein bod ni wedi ceisio sicrhau cywirdeb gwirioneddol yr wybodaeth sydd ar gael ar y wefan, nid ydym yn gwarantu nac yn rhoi unrhyw warant yng nghyswllt cywirdeb, amseroldeb na chyflawnder unrhyw wybodaeth neu ddeunydd sydd ar y wefan.

Mae’r wefan wedi’i llunio i fod yn adnodd dysgu ac yn fodd i sefydliadau cymwys yng Nghymru ddefnyddio technoleg ar y we at ddibenion dysgu yn unig. Rydyn ni’n gwadu pob atebolrwydd a chyfrifoldeb sy'n deillio wrth i unrhyw un sy’n ymweld â'r wefan ddibynnu ar wybodaeth neu ddeunyddiau o’r fath.

Caiff y wefan a’r cynnwys eu darparu ‘fel y mae’ gan eithrio unrhyw warantau ac amodau o unrhyw fath, wedi’u mynegi neu ymhlyg, i’r holl raddau a ganiateir yn unol â'r gyfraith berthnasol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) addasrwydd ar gyfer diben penodol a pheidio â thorri hawliau perchnogol neu hawliau drydydd parti. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros swyddogaethau sydd wedi’u cynnwys ar y wefan chwaith, ac nid ydym yn gwneud unrhyw warant y bydd y wefan yn gweithio’n ddi-dor neu heb wallau nac y bydd unrhyw ddiffygion yn cael eu cywiro.

Nid ydym ni'n gwarantu bod y wefan yn gydnaws â chyfarpar eich cyfrifiadur nac yn gwarantu nad oes gwallau ar y wefan na’i gweinyddion. Dylech sicrhau eich bod wedi gosod meddalwedd diweddar sy'n gwirio am firysau cyn unrhyw sesiwn ar y rhyngrwyd, ac nid ydym yn atebol am unrhyw ddifrod y byddwch yn ei ddioddef o ganlyniad i nodweddion dinistriol o’r fath a all heintio eich cyfrifiadur neu eich data oherwydd eich bod chi wedi defnyddio’r wefan neu wedi lawrlwytho unrhyw ddeunydd sydd wedi’i bostio arni.

Ni fyddwn ni’n gyfrifol am gynnwys a ddarperir gan drydydd partïon. Nid ydym ni’n gyfrifol chwaith am ddibynadwyedd nac argaeledd parhaus y llinellau ffôn a'r cyfarpar sy’n cael eu defnyddio i fynd ar y wefan.

Rydych chi’n cydnabod eich bod yn defnyddio’r wefan, yn ogystal â'r cynnwys, ar eich risg eich hun. Os ydych chi’n anfodlon â'r wefan, y telerau neu'r cynnwys, yr unig ffordd o ddatrys hyn yw rhoi’r gorau i ddefnyddio’r wefan. Ac eithrio mewn cysylltiad ag unrhyw dwyll neu mewn cysylltiad ag anaf personol neu farwolaeth i’r graddau bod hynny'n deillio o’n hesgeulustod, ni fyddwn yn atebol o dan unrhyw amgylchiadau i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw iawndal uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol, canlyniadol neu ddamweiniol, cosbedigaethol neu golli elw, nac unrhyw ddifrod arall o unrhyw fath boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, hyd yn oed os ydym ni wedi cael gwybod am y posibilrwydd hwnnw.

Efallai na fydd y gyfraith berthnasol yn caniatáu eithrio na chyfyngu ar atebolrwydd ar gyfer iawndal uniongyrchol neu ddamweiniol, felly mae’n bosibl nad yw'r cyfyngiad neu'r eithriad hwn yn berthnasol i chi. Os bydd arnoch angen gwasanaethu, atgyweirio neu gysylltu cyfarpar, meddalwedd neu ddata ar ôl defnyddio deunydd ar y wefan, chi fydd yn gyfrifol am holl gostau hynny.

Ni fyddwn o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol mewn unrhyw ffordd am unrhyw gynnwys, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, unrhyw wallau neu fylchau mewn unrhyw gynnwys, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a geir o ganlyniad i ddefnyddio unrhyw gynnwys sydd wedi’i bostio, ei anfon ar e-bost, ei drosglwyddo neu sydd fel arall wedi cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng y wefan.

Nid ydym yn honni bod y wefan na'r cynnwys yn briodol i’w defnyddio nac yn honni eu bod yn cael eu caniatáu yn unol â chyfreithiau lleol ym mhob awdurdodaeth. Mae’r bobl sy’n defnyddio ein gwefan yn gwneud hynny ar eu liwt eu hunain, a nhw sy’n gyfrifol am gydymffurfio â chyfreithiau lleol cymwys neu reoliadau; dylid cael cyngor cyfreithiol mewn achosion lle ceir amheuaeth.

Efallai y byddwn ni’n terfynu'r telerau hyn gyda neu heb achos ar unrhyw adeg.

Ar unrhyw adeg, gall y wefan gynnwys deunydd sydd wedi dyddio. Er nad oes rhwymedigaeth arnom i wneud hynny, rydych chi’n derbyn bod gennym ni’r hawl i newid cynnwys neu fanylion technegol unrhyw agwedd ar y wefan ar unrhyw bryd yn unol â’n disgresiwn llwyr. Rydych chi hefyd yn derbyn y gall newidiadau o’r fath olygu nad oes modd i chi ddefnyddio'r wefan.

Ni fydd ildiad yng nghyswllt unrhyw achos o dorri unrhyw rwymedigaethau sy'n codi o dan y telerau hyn yn cael ei ystyried yn ildiad yng nghyswllt unrhyw doriad arall, ac os na fyddwn ni’n arfer unrhyw rwymedi, ni fydd hynny’n golygu ein bod ni’n ildio’r hawl i arfer y rhwymedi neu unrhyw un arall yn y dyfodol.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd i gael rhagor o fanylion am y ffordd rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yng nghyswllt y wefan hon.

Darllenwch y ddogfen defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gael rhagor o fanylion am y ffordd rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer ein gweithgareddau eraill.

Rydyn ni’n ceisio sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio ein gwefan ac felly rydyn ni wedi ceisio cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 a 2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG) a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-Eang (W3C). Bwriad arall y wefan yw cydymffurfio â nifer o’r materion sy’n ymwneud â Blaenoriaeth 3. Mae WCAG yn helpu datblygwyr y we i sicrhau bod pobl sydd ag anableddau yn gallu defnyddio safleoedd.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau am hygyrchedd y wefan hon neu os hoffech chi wneud awgrym i’n helpu ni i wneud y safle hwn yn fwy hwylus, anfonwch e-bost i academiwales@llyw.cymru.

Ni fyddwn yn atebol os bydd y telerau hyn yn cael eu torri a hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

Ni fydd gan berson nad yw’r telerau hyn yn berthnasol iddo unrhyw hawl o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw rai o’r telerau hyn.

I’r graddau yr ystyrir bod unrhyw ddarpariaeth yn y telerau hyn yn ddi-rym neu'n anghyfreithlon, bydd y telerau hyn yn berthnasol fel pe bai'r teler hwnnw’n aneffeithiol, a bydd gweddill y darpariaethau yn y telerau yn parhau i fod yn berthnasol.

Caiff y telerau eu llywodraethu yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr fel y'u cymhwysir yng Nghymru a bydd y partïon yn ymostwng yn ddi-droi-nôl i awdurdodaeth lwyr Llysoedd Cymru a Lloegr sy’n eistedd yng Nghaerdydd, i ddatrys unrhyw anghydfod neu hawliad sy'n deillio o’r telerau neu mewn cysylltiad â'r telerau neu'r hyn sydd dan sylw ynddynt (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn ymwneud â chontractau).

Diweddarwyd 3 Awst 2021

Drwy gofrestru ar gyfer digwyddiad Academi Wales, rydych yn cytuno i'r amodau a'r telerau canlynol:

1.1 Mae digwyddiadau Academi Wales yn agored i weithwyr yn y sectorau canlynol:

  • Addysg - ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac addysg Uwch yng Nghymru
  • Tân ac Achub - sefydliadau tân ac Achub yng Nghymru
  • Awdurdodau Lleol - awdurdodau lleol yng Nghymru
  • GIG Cymru - sefydliadau GIG Cymru
  • Yr Heddlu - gwasanaethau heddlu yng Nghymru
  • Trydydd/Gwirfoddol - elusennau cofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru
  • Llywodraeth Cymru - adrannau Llywodraeth Cymru
  • Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru - cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru: sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a ariannir gan Lywodraeth Cymru
  • Whitehall - sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a gynhelir gan Lywodraeth y DU
  • Cyrff a Noddir gan Whitehall - sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru a ariannir gan Lywodraeth y DU

1.2 Gellir cofrestru gwesteion gwadd o sefydliadau partner a chyrff gwasanaeth cyhoeddus eraill ledled y DU yn ôl disgresiwn Academi Wales.

1.3 Mae cynrychiolwyr y sector preifat yn gymwys i fynychu digwyddiadau Dysgu a Rhannu AWCIC.

2.1 Byddwn yn ystyried ceisiadau ar ôl derbyn ffurflen archebu wedi'i llenwi.

2.2 Byddwn yn neilltuo lle i gynrychiolwyr mewn digwyddiadau ar sail y cyntaf i'r felin, oni bai bod meini prawf cymhwysedd neu gwotâu yn eu lle ar gyfer y digwyddiad neu'r rhaglen. Byddwn yn hysbysebu hyn yn glir. Byddwn yn cadarnhau archebion cynrychiolwyr drwy e-bost.

2.3 Nid yw cyflwyno ffurflen archebu wedi'i llenwi yn sicrhau lle.

2.4 Mae cyflwyno ffurflen archebu wedi'i llenwi yn dangos bod y cynrychiolydd a’i reolwr llinell yn cytuno i'r amodau a’r telerau hyn.

2.5 Ni fyddwn yn derbyn archebion dros y ffôn.

3.1 Byddwn yn cadarnhau archebion cynrychiolwyr drwy e-bost.

3.2 Fel arfer, byddwn yn anfon cyfarwyddiadau ymuno o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad perthnasol.

4.1 Mae ffioedd cynrychiolwyr yn daladwy fel yr amlinellwyr yn yr hysbysiad.

4.2 Nid yw Academi Wales yn cael elw o werthu tocynnau. Bydd unrhyw ffioedd a godir yn cyfrannu at gostau'r rhaglen.

4.3 Pan fyddwn yn cynnig anfonebu fel dewis ar gyfer talu, byddwn fel arfer yn codi anfonebau a thalebau cyfnodol ar ôl y digwyddiad, neu, yng nghyswllt rhaglen hwy, ar ôl i'r sesiwn gyntaf orffen. Mae’n rhaid i'r cynrychiolydd ddarparu manylion anfonebu cywir wrth archebu.

4.4 Pan gynigir taliad ar-lein fel ffordd o dalu am ffioedd cynrychiolwyr, mae’r taliad llawn yn ddyledus wrth archebu. Bydd methu talu yn golygu na fydd y cynrychiolydd yn gymwys i ddod i'r digwyddiad.

5.1 Mae Academi Wales yn ymdrechu i gynnal digwyddiadau fel y cânt eu hysbysebu. Rydym yn cadw’r hawl i ganslo digwyddiad a chynnig ad-daliad, neu i aildrefnu, heb fod yn atebol am unrhyw golledion canlyniadol nac anuniongyrchol.

5.2 Mae’n rhaid i gynrychiolwyr gadarnhau drwy e-bost os ydynt yn canslo unrhyw archeb, a gwneud hynny o leiaf 10 diwrnod cyn y digwyddiad.

5.3 Bydd y ffioedd canslo canlynol yn berthnasol i gynrychiolwyr:

 Digwyddiad y mae’n rhaid talu amdanoDigwyddiad am ddim
Os ydynt yn canslo 10 diwrnod gwaith neu fwy cyn y digwyddiadDim ffiDim ffi
Os ydynt yn canslo 9 diwrnod gwaith neu lai cyn y digwyddiad100% o'r ffiffi weinyddol o £100
Methu dod i'r digwyddiad100% o'r ffiffi weinyddol o £100

5.4 Os bydd cynrychiolydd yn canslo ei le mewn digwyddiad sydd am ddim, gan roi llai na 10 diwrnod gwaith o rybudd, neu os nad yw’n dod i'r digwyddiad, bydd y cynrychiolydd a’i reolwr linell yn cael eu hysbysu drwy e-bost a byddwn yn codi ffi weinyddol o £100 ar eu sefydliad. Edrychwch ar y tabl ffioedd yn adran 5.3 i gael rhagor o wybodaeth.

5.5 Os bydd cynrychiolwyr yn canslo eu lle ar ddigwyddiad lle codir tâl, gan roi llai na 10 diwrnod gwaith o rybudd, neu os nad ydynt yn dod i'r digwyddiad, ni fyddant yn gymwys i gael ad-daliad. Edrychwch ar y tabl ffioedd yn adran 5.3 i gael rhagor o wybodaeth.

5.6 Gall cynrychiolwyr enwebu rhywun arall o’u sefydliad i ddod yn eu lle, oni bai bod meini prawf cymhwysedd neu gwotâu yn berthnasol i'r digwyddiad. Bydd gwneud hyn yn golygu na fyddwn yn codi ffi weinyddol. Mae’n rhaid i gynrychiolwyr sy'n dod yn lle’r cynrychiolwyr gwreiddiol ddarparu ffurflen archebu wedi'i llenwi cyn y byddwn yn neilltuo'r lle iddynt.

5.7 Mae Academi Wales yn cadw'r hawl i hepgor y ffi weinyddol yn adran 5.4 ar ein disgresiwn ein hunain.

5.8 Dylai cynrychiolwyr roi manylion cysylltu ar gyfer enwebu i Academi Wales ar gais.

5.9 Os bydd cynrychiolwyr yn canslo neu’n methu bod yn bresennol ddwywaith neu fwy o fewn 12 mis, efallai y byddwn yn gwrthod unrhyw archebion eraill ganddynt yn y dyfodol.

6.1 Byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n Polisi Preifatrwydd.

Diweddarwyd 3 Awst 2021

1.1 Prif ddiben coetsio yw ysgogi newid a chamau gweithredu – rôl y coetsiwr yw helpu’r person y mae’n ei goetsio i ddatblygu’n berson mwy effeithiol.

1.2 Mae’r person sy’n cael ei goetsio yn ddyfeisgar ac yn awyddus iawn i ddatrys ei ‘broblem’.

1.3 Rôl y coetsiwr yw sicrhau bod y person y mae’n ei goetsio mor ddyfeisgar â phosibl.

1.4 Mae coetsio’n mynd i’r afael â’r person cyfan – y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

1.5 Y person sy’n cael ei goetsio sy’n pennu’r agenda.

1.6 Mae’r coetsiwr a’r person y mae’n ei goetsio yn gydradd – does dim beirniadu.

1.7 Mae gan yr coetsiwr a’r person sy’n cael ei goetsio rwymedigaeth i’w gilydd o ran cyfrinachedd, ymddiried ac ymrwymiad. Mae hyn yn allweddol i’r berthynas.

Mae’r ddau barti’n cytuno i’r canlynol:

2.1 Cytuno ar gontract dysgu ar ddechrau’r berthynas, gan gynnwys yr amcan cyffredinol, dulliau dysgu, dulliau cyfathrebu, trefniadau teithio (os o gwbl), dyddiadur o sesiynau, trefn adolygu ac os oes ffi, y gyfradd y cytunir arni a’r trefniadau anfonebu.

2.2 Cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar lefel rithwir ar gyfer sgwrs gychwynnol er mwyn cytuno ar y contract dysgu.

2.3 Dylai uchafswm sesiynau coetsio fod yn ddwy awr o hyd, sy’n cyfateb i isafswm o chwe awr o coetsio dros hyd y berthynas, oni bai ei bod yn cael ei hymestyn trwy gydsyniad y ddau barti.

2.4 Bydd y berthynas yn parhau hyd y dyddiad olaf y cytunwyd arno neu hyd nes y daw i ben yn naturiol.

2.5 Cadw’r holl apwyntiadau a gaiff eu trefnu a/neu aildrefnu apwyntiadau eraill o fewn pum diwrnod gwaith i ddyddiad yr apwyntiad gwreiddiol neu gytuno ar ddyddiad arall fel y bo angen.

2.6 Cadw a buddsoddi amser priodol er mwyn cynnal y berthynas, gan gynnwys unrhyw weithgaredd paratoi a gweithgaredd dilynol.

2.7 Sicrhau bod yr holl wybodaeth am gynnwys sesiwn goetsio yn parhau’n gyfrinachol, oni cheir caniatâd gan y ddwy ochr ymlaen llaw.

2.8 Sicrhau bod lleoliad y coetsio yn briodol hy yn gyfforddus, yn gyfrinachol, yn rhydd o bethau a allai dynnu eich sylw ac os ydyw’n digwydd wyneb yn wyneb, mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r ddwy ochr.

2.9 Adolygu hynt y berthynas goetsio ymhob cyfarfod.

2.10 Ar ddiwedd y cyfnod y cytunwyd arno, adolygu a ddylid estyn hyd y berthynas goetsio a chytuno ar hynny.

2.11 Ymgyfarwyddo â’r broses werthuso ar-lein cyn y sesiwn gyntaf a chwblhau hyn ar adegau perthnasol.

2.12 Dod â’r berthynas goetsio i ben, heb fod neb ar fai, os bernir nad yw’r berthynas yn gweithio’n effeithiol i un ohonynt, yn amodol ar drafodaeth agored ymlaen llaw.

2.13 Os bydd cwyn, bydd y ddau barti’n cytuno i ddilyn y weithdrefn gwyno gymeradwy.

3.1 Rhaid i coetsiwyr naill ai feddu ar gymhwyster cydnabyddedig sy’n cyfateb i o leiaf Lefel 5 ILM, neu fod yn gymwysedig yn sgil profiad addas. Bydd penderfyniadau ar addasrwydd yn cael eu gwneud gan dîm Academi Wales neu arweinydd coetsio y sefydliad perthnasol. Gellir apelio yn erbyn y penderfyniadau hyn o dan adran 5.

3.2 Mae coetsiwr yn ymrwymo i gydymffurfio yn eu hymarfer â chod moesegol cydnabyddedig coetsio e.e. y Gymdeithas Coetsio (AC) neu’r Cyngor Mentora a Coetsio Ewropeaidd (EMCC), a byddant yn datgan eu cytundeb wrth ddiweddaru eu proffil fel coetsiwr.

3.3 I gynorthwyo datblygiad proffesiynol parhaus, rhaid i coetsiwr chwilio am ddull priodol o oruchwylio coetsio a gallu cynhyrchu cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus ar gais.

3.4 Mae’n rhaid i goetsiwyr, adeg eu penodi, ddarparu dau gylchlythyr gan gleientiaid o aseiniadau coetsio y maent wedi’u gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

3.5 Rhaid i gofnodion cleientiaid gael eu casglu, eu storio a’u gwaredu yn unol â pholisi rheoli cofnodion sefydliad cyflogi’r coetsiwr, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

3.6 Rhaid i goetswyr sicrhau bod unrhyw ddiagnosteg, offer, seicometreg neu offerynnau a ddefnyddir i gefnogi perthynas coetsio yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn defnyddio’r mesurau diogelu cyfreithiol priodol ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau rhyngwladol.

4.1 Mae’r rhestr am ddim i bob cyflogai mewn sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau cofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru. Nid oes unrhyw ffi am y coetsio a ddarperir.

4.2 Nid yw Academi Wales yn erbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am gostau sy’n deillio o unrhyw berthynas goetsio a gaiff ei threfnu drwy’r gwasanaeth hwn.

5.1 Bydd pob coetsiwr yn cydymffurfio â’r Polisi Cyfle Cyfartal a gaiff ei ddisgrifio isod.

5.2 Mae’n rhaid i unrhyw sylw ar ran coetsiwr neu berson sy’n cael ei goetsio gael ei gyflwyno i’r Cyfarwyddwr, Rheoli Talent ac Olyniaeth yn Academi Wales o fewn 4 wythnos i’r amgylchiadau sydd wedi ysgogi’r gŵyn.

5.3 Dylai sylwadau gael eu hanfon at AcademiWalesCoachingandMentoring@llyw.cymru. Bydd tîm Academi Wales yn gwneud pob ymdrech i gydnabod eu bod wedi derbyn y neges hon o fewn dau ddiwrnod gwaith.

6.1 Mae’r polisi hwn yn pennu nodau ac amcanion Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan o safbwynt cynnal a hybu cyfle cyfartal ynghyd â chyfrifoldebau’r coetsiwr, y person sy’n cael ei goetsio a thîm Academi Wales. Mae tîm Academi Wales, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo’n llwyr i fabwysiadu a hybu egwyddorion allweddol a threfniadau ymarferol y polisi hwn.

6.2 Caiff cyfle cyfartal ei gydnabod gan dîm Academi Wales fel hawl sylfaenol sydd gan bob defnyddiwr ynghyd â’r rhai sy’n cyfrannu at ddatblygiad Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.

6.3 Ni chaiff unrhyw goetsiwr, person sy’n cael ei goetsio na chyfrannwr ei drin yn llai ffafriol ar sail hil, crefydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu oedran.

6.4 Mae tîm Academi Wales yn cydnabod bod cyfle cyfartal o fudd positif i ddysgu a diben Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.

6.5 O’r herwydd caiff coetsiwyr ynghyd â’r bobl sy’n cael eu coetsio eu hysbysu ynghylch eu cyfrifoldebau posibl o safbwynt sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei hybu. Bydd disgwyl iddynt fod yn effro i unrhyw arferion gwirioneddol neu rai posibl ganddynt eu hunain ac eraill mewn perthynas â Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan sy’n gwahaniaethu. Bydd disgwyl iddynt dynnu sylw tîm Academi Wales at unrhyw weithgaredd o’r fath.

6.6 Gallai unrhyw arfer y mae tîm Academi Wales yn barnu ei fod yn groes i’r polisi hwn arwain at gamau’n cael eu cymryd yn erbyn unigolyn/unigolion a allai gynnwys eu gwahardd rhag bod yn rhan o Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.

6.7 Caiff yr holl systemau a’r prosesau eu cynllunio er mwyn cefnogi’r polisi hwn a chydymffurfio ag ef.

6.8 Mae gan unrhyw goetsiwr, person sy’n cael ei goetsio neu gyfrannwr yr hawl i dynnu sylw’n ffurfiol at unrhyw agwedd ar Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan os ydynt yn teimlo eu bod wedi wynebu gwahaniaethu neu aflonyddwch.

6.9 Ymdrinnir â chwynion yn gyfrinachol, fel arfer gan y Cyfarwyddwr, Rheoli Talent ac Olyniaeth yn Academi Wales. Os yw’r achwynydd yn teimlo na all godi’r mater â’r Cyfarwyddwr, Rheoli Talent ac Olyniaeth yn Academi Wales, dylai’r achwynydd gysylltu â’r sefydliad sy’n cyflogi’r unigolyn sy’n destun y gŵyn.

6.10 Bydd tîm Academi Wales yn mynd ati’n rheolaidd i fonitro’r modd y caiff y polisi hwn ei weithredu ynghyd â’r canlyniadau sy’n deillio ohono. Bydd yn ystyried adroddiadau rheolaidd ar y modd y caiff y polisi ei weithredu ynghyd ag unrhyw fater yn ymwneud â chyfle cyfartal sy’n gysylltiedig â’r rhaglen neu ei gweithgareddau ategol.

6.11 Caiff dulliau gweithredu’r polisi hwn eu hadolygu gan dîm Academi Wales bob blwyddyn a chaiff unrhyw newidiadau y cytunir arnynt eu cynnwys mewn polisi diwygiedig.

7.1 Gofynnir am adborth gan coetsiwr, person sy’n cael ei goetsio a sefydliadau’r person sy’n cael ei goetsio, pan yn briodol, i ganfod a yw’r profiad coetsio wedi datblygu eu dysgu a’u hymarfer a’r effaith ar wella gwasanaethau.

7.2 Bydd coetsiwyr a phobl sy’n cael eu coetsio yn cynnig awgrymiadau a syniadau ynghylch datblygu Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.

7.3 Bydd y system werthuso’n defnyddio’r fframwaith Kirkpatrick, gan edrych ar wahanol lefelau o gyflawniad a budd i unigolion a’r sefydliad.

Diweddarwyd 3 Awst 2021

1.1 Mae hwyluso yn ymwneud â newid a gweithredu - rôl yr hwylusydd yw cefnogi unigolion/timau i gyflawni nodau/canlyniadau y cytunwyd arnynt.

1.2 Mae’r unigolyn/tîm wedi ymrwymo i gymryd camau gweithredu mewn perthynas â nodau/canlyniadau.

2.1 Mae’r ddau barti'n cytuno i wneud y canlynol:

2.2. Cyfathrebu’n agored ac yn amserol a sicrhau bod ill dau yn cytuno ar y dyddiadau cyflawni ac yn eu blaenoriaethu.

2.3 Cadw a buddsoddi digon o amser i gyflawni’r gweithgaredd hwyluso, yn cynnwys unrhyw weithgareddau paratoi a gweithgareddau dilynol.

2.4 Sicrhau bod lleoliad y gwaith hwyluso yn briodol.

3.1 Bydd hwyluswyr yn sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n deillio o’r sesiwn/sesiynau hwyluso yn aros gyda’r unigolyn/tîm. Ni fydd yr hwylusydd yn datgelu gwybodaeth o’r fath i drydydd parti heb gytundeb penodol gan yr unigolyn/tîm.

3.2 Bydd hwyluswyr yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, o dan gyfarwyddyd arweinydd cwrs/rhaglen Academi Wales.

3.3. Bydd hwyluswyr yn sicrhau bod gwybodaeth bersonol / sensitif yn cael ei diogelu a’i gwaredu yn unol â’r GDPR a chyfreithiau diogelu data.

3.4 Bydd hwyluswyr nad ydynt yn cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru yn gweithredu o dan delerau contract neu gytundeb rhannu data Academi Wales.

3.5 Rhaid i hwyluswyr sicrhau bod unrhyw ddiagnosteg, offer, seicometreg neu offerynnau a ddefnyddir i gefnogi hwyluso yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn defnyddio'r mesurau diogelu cyfreithiol priodol ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau rhyngwladol.

4.1 Dylai hwyluswyr fod wedi hyfforddi’n briodol neu dylent fod â’r profiad addas. Tîm Academi Wales fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch addasrwydd.

4.2 Rhaid i hwyluswyr ymgymryd â’r datblygiad proffesiynol parhaus priodol.

4.3 Bydd hwyluswyr yn cydymffurfio â'r safonau cyfle cyfartal a nodir isod.

4.4 Os na chaiff rhwymedigaethau neu ymrwymiadau eu cyflawni yn unol â’r safonau gofynnol, gellir cyflwyno sylwadau i Gyfarwyddwr Academi Wales o fewn 4 wythnos i'r amgylchiadau sy'n arwain at yr achwyniad.

4.5 Dylai sylwadau gael eu hanfon at AW.Cyfarwyddwr@llyw.cymru. Bydd tîm Academi Wales yn gwneud pob ymdrech i gydnabod eu bod wedi derbyn y neges hon o fewn dau ddiwrnod gwaith.

5.1 Mae’r safonau hyn yn nodi nodau ac amcanion cynnal a hyrwyddo cyfle cyfartal a chyfrifoldebau’r hwylusydd a thîm Academi Wales. Mae tîm Academi Wales wedi ymrwymo’n llwyr i fabwysiadu a hyrwyddo egwyddorion allweddol a threfniadau gwaith y safonau hyn, ar ran Llywodraeth Cymru.

5.2 Mae tîm Academi Wales yn cydnabod bod cyfle cyfartal yn un o hawliau sylfaenol yr holl ddefnyddwyr a'r rheini sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyluso.

5.3 Ni fydd yr un hwylusydd nac unigolyn/tîm yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail hil, crefydd, ethnigrwydd neu genedligrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, amgylchiadau teuluol, statws priodasol nac oedran.

5.4 Mae tîm Academi Wales yn cydnabod bod cyfle cyfartal yn fantais bositif i ddysgu.

5.5 Caiff hwyluswyr felly eu hysbysu o’u cyfrifoldebau posib dros sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu hyrwyddo. Bydd disgwyl iddynt fod yn wyliadwrus am arferion gwahaniaethol posib neu go iawn ganddynt eu hunain ac eraill sydd, mewn unrhyw ffordd, yn gysylltiedig â'r gweithgareddau hwyluso.

5.6 Gallai unrhyw arferion sy’n mynd yn groes i’r safonau hyn, ym marn tîm Academi Wales, arwain at eithrio hwyluswyr o gyrsiau/digwyddiadau a/neu o wefan Academi Wales.

5.7 Caiff prosesau eu dylunio i gefnogi’r safonau hyn.

5.8 Mae gan unrhyw hwylusydd neu unigolyn yr hawl i godi unrhyw agwedd ar y gweithgareddau hwyluso, yn ffurfiol, os yw o’r farn ei fod wedi bod yn destun gwahaniaethu neu aflonyddu.

5.9 Bydd tîm Academi Wales yn mynd ati’n rheolaidd i fonitro’r broses o roi'r polisi hwn ar waith a chanlyniadau ei ddefnyddio.

6.1 Bydd gofyn i’r hwyluswyr ac unigolion/timau roi adborth er mwyn i ni weld a yw’r gweithgareddau hwyluso wedi cyflawni’r nodau/canlyniadau.

6.2 Bydd yr hwyluswyr a’r cleientiaid yn cynnig awgrymiadau a syniadau ar gyfer datblygu gweithgareddau hwyluso.

6.3 Bydd y system werthuso yn edrych ar lefelau gwahanol o gyflawniad a mantais i unigolion, timau a sefydliadau fel y bo’n briodol.