Polisi preifatrwydd
Diweddarwyd 23 Mai 2018
1. Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd hwn
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru (‘ni’) yn casglu data ac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch fel rhan o’ch fel rhan o’ch defnydd o academiwales.gov.wales (y ‘wefan’).
Darllenwch y polisi preifatrwydd yn ofalus i ddeall sut byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Mae hyn yn cynnwys data personol:
- sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn i chi allu mewngofnodi i adrannau diogel y wefan;
- sy'n cael ei gasglu gennych chi yn ystod sesiwn bori;
- rydych chi’n ei ddarparu i ni; a
- rydych chi'n ei uwchlwytho fel rhan o'ch defnydd o'r wefan.
Gallwch gael rhagor o fanylion ynglŷn â sut rydyn ni’n rheoli ein digwyddiadau a’ch gwybodaeth bersonol ar ein tudalen Telerau ac Amodau.
2. Cysylltu â ni
Os byddwch yn dymuno cysylltu â ni ynglŷn â’r polisi preifatrwydd hwn, gallwch wneud hynny drwy:
- anfon e-bost atom yn academiwales@llyw.cymru; neu
- ysgrifennu atom yn Academi Wales, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
3. Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn
Mae’n bosibl y bydd y polisi preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Bydd y fersiwn diweddaraf yn ymddangos yma ar y dudalen hon. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i’r polisi preifatrwydd hwn neu i’r ffordd y byddwn ni’n casglu, yn cadw ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
4. Pori’r wefan heb fewngofnodi
Mae’r wefan hon wedi'i strwythuro er mwyn i chi allu ymweld â hi heb ddweud pwy ydych chi na datgelu unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi’ch hun. Os nad ydych chi’n mewngofnodi i'r wefan, ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol sy’n dweud pwy ydych chi'n benodol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich sesiwn bori yn unol â’n polisi cwcis isod (gweler Cwcis).
5. Yr wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei chasglu gennych chi
Gan ddibynnu sut rydych chi’n rhyngweithio â ni, mae’n bosibl y byddwn ni'n casglu’r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:
- Gwybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni. Mae’n bosibl y byddwch chi’n rhoi gwybodaeth i ni amdanoch drwy gofrestru ar y wefan, drwy lenwi ffurflen ar-lein, drwy gofrestru ar gyfer digwyddiad, drwy gysylltu â ni dros y ffôn neu ar e-bost, neu drwy ryngweithio â ni fel arall. Efallai y byddwch chi am uwchlwytho gwybodaeth, llunio tudalen broffil sy'n bersonol i chi a rhannu gwybodaeth â phobl eraill.
Cofiwch y byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol ychwanegol weithiau. Pan fyddwn ni'n gwneud hyn, byddwn yn esbonio pam rydyn ni’n casglu eich gwybodaeth a sut y byddwn yn ei defnyddio. - Gwybodaeth y byddwn ni’n ei chasglu amdanoch chi yn awtomatig. Rydyn ni'n caglu gwybodaeth benodol yn awtomatig wrth i chi ymweld â'n gwefan. Gall hyn gynnwys gwybodaeth dechnegol, er enghraifft, y cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) sy'n cael ei ddefnyddio i gysylltu eich cyfrifiadur chi â'r rhyngrwyd, eich gwybodaeth mewngofnodi, y math o borwr sydd gennych chi, a pha fersiwn ohono, eich gosodiad cylchfa amser, y math o ategyn pori sydd gennych, a pha fersiwn ohono, eich systemau gweithredu a'ch platfform.
Gweler Cwcis.
6. Sut rydyn ni'n defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Rydyn ni’n casglu, yn storio ac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi er mwyn gallu rhoi mynediad i’n gwefan i chi, ac er mwyn i chi allu mwynhau'r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig drwy ein gwefan ac elwa arnynt. Mae’r ffordd y byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth yn dibynnu ar ein rhesymau dros gasglu’r wybodaeth.
Os oes gennych chi hawl i weld adrannau diogel y wefan, caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio i greu manylion mewngofnodi unigryw. Bydd hyn yn golygu y byddwch yn gallu cael mynediad i'r wefan ac yn gallu dilysu pob sesiwn bori.
Er mwyn sefydlu manylion mewngofnodi unigryw ar eich cyfer, a dilysu eich sesiynau pori, efallai y bydd gwybodaeth amdanoch yn cael ei datgelu i’n contractwyr, gan gynnwys CDSM Interactive Solutions Limited a Microsoft Corporation. Dim ond er mwyn i chi allu mewngofnodi a dilysu eich sesiynau pori y caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio.
Mae’n bosibl y byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch yn y ffyrdd canlynol hefyd:
- i gadarnhau pwy ydych chi
- i ddarparu ein gwasanaethau, ein gweithgareddau neu ein cynnwys ar-lein
- i gyfathrebu â chi
- i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’r wefan
- i ddiweddaru a chywiro ein cofnodion defnyddwyr
- i gynnal dadansoddiadau o ystadegau ac o’r farchnad, gan gynnwys ymarferion meincnodi, i’ch deall chi’n well ac i wella ein gwasanaethau
- i ddatblygu, i brofi ac i wella ein systemau
- i sicrhau bod cynnwys ein gwefannau yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi ac i’ch cyfrifiadur
- i weinyddu ein gwefan ac ar gyfer gweithrediadau mewnol, gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, ymchwilio yn ogystal ag at ddibenion ystadegol ac arolygon
- i reoli archebion ar gyfer digwyddiadau rydych chi’n eu gwneud drwy’r wefan
7. Rhannu eich gwybodaeth
Mae cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn fater o bwys allweddol i ni. Ni fyddwn yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti, ond mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig penodol ac yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn, gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i'r canlynol:
- Trydydd parti os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, er mwyn gorfodi neu weithredu ein telerau ac amodau a chytundebau eraill, er mwyn amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch Llywodraeth Cymru neu eraill, neu er mwyn atal neu ymchwilio i drosedd;
- I gael cyngor proffesiynol; a/neu
- I drydydd parti gyda’ch caniatâd. Mewn amgylchiadau o'r fath, cewch ddewis a fyddwn yn datgelu’r wybodaeth amdanoch ai peidio.
Weithiau rydyn ni’n defnyddio trydydd partïon i brosesu eich gwybodaeth ar ein rhan, er enghraifft, i ddarparu gwasanaethau i ni. Ni fyddwn ni’n gwneud hynny oni bai fod gennym ni gontractau priodol yn eu lle i wneud yn siŵr bod eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel. Mae’r trydydd partïon yn cynnwys:
- CDSM Interactive Solutions Ltd – platfform Hwb
Os ydych chi’n cofrestru ar gyfer digwyddiad, byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth bersonol â threfnydd y digwyddiad (gweler adran 8 isod) ac â SmartSurvey Limited, sef contractwr sy'n darparu'r gwasanaeth hwn ar ein rhan.
Mae’n bosibl y byddwn ni’n trosglwyddo'r wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei chasglu amdanoch er mwyn ei chadw mewn lleoliad y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA). Mae'n bosibl y bydd staff sy'n gweithio i ni neu i un o'n cyflenwyr y tu allan i'r EEA hefyd yn ei phrosesu. Er mwyn gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel, rydyn ni wedi gosod y mesurau diogelwch a'r dulliau diogelu cytundebol priodol, gan gynnwys amgryptio, i sicrhau bod y sefydliadau hynny'n trin eich gwybodaeth mewn ffordd sy'n gyson â chyfreithiau diogelu data yr UE a'r DU.
8. Gwasanaeth archebu cyrsiau/digwyddiadau
Mae ein gwefan yn darparu gwasanaeth archebu ar gyfer cyrsiau/digwyddiadau sydd wedi’i greu ac yn cael ei reoli gennym ni. Caiff y gwasanaeth archebu hwn ei weithredu ar ein rhan gan CDSM Interactive Solutions Limited a SmartSurvey Limited.
Os ydych chi am gadw lle ar gwrs/digwyddiad, bydd yn rhaid i chi ddarparu eich manylion personol.
Bydd eich manylion personol yn cael eu rhannu â threfnydd y cwrs/digwyddiad er mwyn iddo allu rheoli eich cais. Bydd trefnydd y cwrs/digwyddiad yn gyfrifol am drin eich gwybodaeth yn unol â gofynion diogelu data.
9. Diogelu a storio eich gwybodaeth bersonol
Rydyn ni wedi ceisio creu gwefan ddiogel a dibynadwy i chi. Rydyn ni wedi sefydlu mesurau diogelu technegol a threfniadol priodol, o gofio natur yr wybodaeth. Byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol rhesymol i sicrhau bod eich data'n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â'r polisi preifatrwydd hwn.
Dylech nodi, fodd bynnag, fod ymholiadau ar ffurf e-bost yn cael eu trawsyrru mewn ffyrdd anniogel, ac yn cael eu storio all-lein. Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio’r rhyngrwyd a’r wefan yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ddiogelwch gwybodaeth bersonol a drawsyrrir drwy gyfrwng y rhyngrwyd.
Byddwn yn storio eich gwybodaeth yn unol â pholisi cofnodion Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol (gan gynnwys ceisiadau am gyrsiau/digwyddiadau) am 13 mis ar ôl i ni werthuso'r cwrs/digwyddiad. Mae hyn yn ein galluogi i adrodd ar ein gweithgarwch a defnyddio data gwerthuso i wella cyrsiau/digwyddiadau yn y dyfodol. Ar ôl hynny byddwn yn troi eich gwybodaeth yn ddienw.
Yn achos rhai cyrsiau/digwyddiadau, mae angen i ni gadw rhywfaint o'ch gwybodaeth am fwy na 13 mis. Er enghraifft, mae angen i ni gadw cofnodion ariannol am ffioedd cyrsiau am gyfnod safonol Llywodraeth Cymru o 7 mlynedd.
10. Cau eich cyfrif ar y wefan
Os nad oes gweithgarwch yn eich cyfrif ar ein gwefan am fwy na 13 mis, gallem ei gau yn awtomatig. Os ydych chi am gau eich cyfrif, anfonwch e-bost i academiwales@llyw.cymru.
11. Dolenni i wefannau eraill
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni. Dylech nodi y gallai’r gwefannau trydydd parti sydd â dolen i’n gwefan ni neu ohoni fod yn gweithredu polisïau preifatrwydd gwahanol i’r polisïau a nodir yma.
12. Mynediad at wybodaeth
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi'r hawl i chi weld yr wybodaeth sydd gennym amdanoch. Ar gyfer ceisiadau am wybodaeth o dan y GDPR, cysylltwch â DataProtectionOfficer@llyw.cymru.