English

Cyrsiau a digwyddiadau

Rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu i reolwyr ac arweinyddion sy’n gweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

  • Cynadleddau ac ysgolion

    Cyfres o ddigwyddiadau ar raddfa fawr sy’n agored i reolwyr ac arweinyddion ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i gael mynediad at rai o’r arweinyddion meddwl, damcaniaethwyr arwain a’r siaradwyr mwyaf uchel eu proffil yn y byd.

  • Rhaglenni

    Cyfres o raglenni datblygu arweinyddiaeth sy’n agored i reolwyr ac arweinyddion ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru. Rhaglenni dwys hirdymor yw’r rhain, sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau arwain.

  • Cyrsiau byr a dosbarthiadau meistr

    Cyfres o gyrsiau datblygu byr sy’n agored i reolwyr ac arweinyddion ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru. Ymyriadau byr ydyw’r rhain, wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’n gyflym agwedd benodol ar eich sgiliau arwain.

Os nad oes gan y cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo unrhyw ddyddiadau ar y gweill, peidiwch â phoeni! Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio. Pan fydd rhagor o ddyddiadau’n codi, fe rown wybod i chi. Yn y cyfamser, mae croeso i chi bori drwy ein Hadnoddau dysgu a’n Rhwydweithiau.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu cymorth pwrpasol ar gyfer eich sefydliad, anfonwch e-bost atom ni yn Academi Wales.