English

Cyfres dosbarthiadau meistr

Damcaniaethwyr blaenllaw yn eu meysydd dewisol fydd yn cyflwyno ein dosbarthiadau meistr i’ch herio a’ch ysbrydoli.

Trosolwg

Bydd y damcaniaethwyr blaenllaw yn rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol a byddant yn cynnig syniadau unigryw, rhagweithiol ac arloesol i alluogi arweinwyr y gwasanaeth cyhoeddus i ddefnyddio syniadau'r dyfodol i roi cysyniadau heddiw ar waith.

Mae’r gyfres hon o ddosbarthiadau meistr wedi’u datblygu gan Academi Wales. Ei hamcan yw rhoi cyfle i arweinwyr y gwasanaeth cyhoeddus gymryd rhan mewn archwiliad cyfredol o'r heriau y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu yn yr hinsawdd sy’n newid. Gobeithiwn y cewch eich ysbrydoli gan y siaradwyr dawnus ac y byddwch yn achub ar y cyfle i rwydweithio a dysgu oddi wrth y cyfranogwyr eraill yn y dosbarthiadau meistr.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y gyfres hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Digwyddiadau yn y gorffennol

  • Arweinyddiaeth Ddilys; Y Dewrder i Arwain
  • Dyfalbarhau fel Esiamplau yng nghanol Ansicrwydd
  • Cefnogi hyfforddiannol fel Arddull Reoli
  • Clywch Clywch! Grym Gwrando
  • Gwerth Cyhoeddus a Dadansoddiad Cost a Budd o Seilwaith – yr angen i ddiwygio yn y sector cyhoeddus
  • Margaret Wheatley 'Arweinyddiaeth Synhwyrol'
  • Chwe Sigma Darbodus Seiliedig ar Gryfderau (Gwella busnes mewn ffordd gadarnhaol ac ysgogol)
  • Using Your Multiple Brains to Do Cool Stuff – Niwrowyddoniaeth Gymhwysol ym maes Arwain a Choetsio
  • Gweithio gyda Chenhedlaeth y Mileniwm
  • Y 4 sgwrs hanfodol y dylai pob rheolwr eu cael
  • Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Yr Athro Eldar Shafir (Prifysgol Princeton) dosbarth meistr: Safbwynt Ymddygiadol ar Wneud Penderfyniadau a Pholisi
  • Adnoddau Ymarferol i Rymuso Pobl – dull gweithredu sy’n seiliedig ar asedau
  • Ymgysylltu - y niwrowyddoniaeth y tu ôl i greu sefydliadau llwyddiannus
  • Arweinyddiaeth ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Sut gall Cenhedlaeth y Mileniwm greu Argraff yn y Gwaith
  • Gweithio gyda Chenhedlaeth y Mileniwm
  • ‘Meddwl ar Raddfa Fawr’ Arwain i Drawsnewid
  • Polisi Cyhoeddus - Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Governance Monsters and Trolls – Canllaw i Lywodraethu
  • Dosbarth Meistr ar Arloesi
  • Cyfraith Gymreig - Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Dosbarth meistr mewn sgiliau ar gyfer cyfarwyddwyr anweithredol yn y gwasanaeth cyhoeddus
  • Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio archwaeth am risg
  • Arweinyddiaeth Systemau: creu sefydliadau cadarnhaol
  • Gwleidyddiaeth Cymru - Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Llywodraeth Ddatganoledig Gymharol ac Agweddau’r Cyhoedd - Canolfan Llywodraethiant Cymru
  • Gwella Gwasanaethau - Materion Llywodraethu