English

Cyrsiau byr a dosbarthiadau meistr

Cyfres o gyrsiau datblygu byr sy’n agored i reolwyr ac arweinyddion ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru. Ymyriadau byr ydyw’r rhain, wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’n gyflym agwedd benodol ar eich sgiliau arwain.

  • Adnewyddu ac Ail-egnïo

    Gall arweinyddiaeth fod yn heriol a rhoi boddhad mawr. Mae'r sesiwn ryngweithiol a myfyriol hon yn cyflwyno offer a strategaethau i'ch helpu i gynnal egni, lles ac effeithiolrwydd dros amser.

  • Arwain ar Gyflymder Ymddiriedaeth

    Mae Arwain ar Gyflymder Ymddiriedaeth yn weithdy undydd lle byddwch nid yn unig yn archwilio pwysigrwydd hanfodol ymddiriedaeth mewn perthnasoedd ond hefyd yn gwella eich gallu i greu ac arwain timau a sefydliadau ymddiriedaeth uchel.  Mae ymddiriedaeth yn ffurfio ac yn cynnal amgylchedd lle mae pobl yn hyderus ac yn hapus; mae hefyd yn gwella cyfathrebu, creadigrwydd, ymgysylltu a chynhyrchiant o fewn timau a sefydliadau.

  • Arwain ar Iâ

    Cynulleidfa: Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, Hyd: 3 oriau

  • Arwain gyda phwrpas, dilysrwydd a hyblygrwydd - gwella eich gwytnwch!

    Bydd eich gallu i arwain gydag eglurder a hyder mewn oes sy’n newid yn well pan fydd gennych bwrpas sydd wedi'i ddiffinio'n glir ac sy’n cyd-fynd ag – ac yn cael ei gynnal gan – arweinyddiaeth sy’n ddilys ac yn hyblyg.

  • Arwain yn y 2020au

    Mae gweithleoedd wedi newid yn sylweddol ers 2020 ac felly hefyd disgwyliadau staff, rheolwyr llinell ac arweinwyr. Mae'r gweithdy hwn ar gyfer arweinwyr sydd eisiau ffynnu yn y ngweithle heddiw, sy'n esblygu'n gyflym, gyda ffocws penodol ar sefydliadau aml-genhedlaeth, timau o bell a hybrid.

  • Arweinyddiaeth Gynhwysol

    Nid yw arwain yn gynhwysol yn rhywbeth ychwanegol i arweinwyr ei wneud. Yn hytrach, mae'n newid pwerus, ymarferol sy'n eu galluogi i chwalu rhwystrau i aelodau'r tîm a dod yn gatalydd ar gyfer amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn eich sefydliad. Mae'r gweithdy hwn yn helpu cyfranogwyr i ddysgu'r sgiliau i fabwysiadu dull cynhwysol o ymdrin ag ymddygiadau a phenderfyniadau arweinyddiaeth bob dydd.

  • Arweinyddiaeth yn gryno

    Cynulleidfa: Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, Hyd: 1 awr

  • Asesiad Rhestr Cymhwysedd Emosiynol a Chymdeithasol (ESCI)

    Gyda dim ond un cyfle ar gael bob mis, manteisiwch ar y cyfle hwn i wella eich datblygiad a'ch arferion fel arweinydd, ac arwain gyda mwy o effeithiolrwydd a hyder.

  • Cyflwyno gwelliant parhaus

    Cynulleidfa: Agored i bob sefydliad sector cyhoeddus ac elusen gofrestredig yng Nghymru; Hyd: 1 diwrnod

  • Cyfres dosbarthiadau meistr

    Bydd y damcaniaethwyr blaenllaw yn rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol a byddant yn cynnig syniadau unigryw, rhagweithiol ac arloesol i alluogi arweinwyr y gwasanaeth cyhoeddus i ddefnyddio syniadau'r dyfodol i roi cysyniadau heddiw ar waith.

  • Deallusrwydd Emosiynol

    Gyda'n gilydd, byddwn yn myfyrio ar sut y gall datblygu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth emosiynol ein helpu i arwain yn fwy effeithiol, yn enwedig mewn amgylcheddau heriol neu brysur.

  • Dwy Ochr Arweinyddiaeth

    Mae ymddygiadau arweinyddiaeth yn cael dylanwad pwerus ar sut mae timau'n teimlo, yn gweithio ac yn perfformio. Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno dwy ochr arweinyddiaeth, gan helpu cyfranogwyr i ddeall sut y gall eu nodweddion arweinyddiaeth gefnogi a rhwystro'r diwylliant y maent am ei greu.

  • Insights Discovery

    Bydd Insights Discovery yn newid y ffordd rydych chi'n gweld eich hun ac eraill. Mae'n gymorth pwerus i’ch helpu tuag at hunanymwybyddiaeth yn eich rôl fel arweinydd. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn, sy’n defnyddio Insights Discovery, offeryn seicometrig sy'n seiliedig ar seicoleg Carl Jung, yn eich helpu i berfformio ar eich gorau trwy wella eich dealltwriaeth ohonoch chi eich hun ac eraill.

  • Llywio Gwleidyddiaeth Sefydliadol

    Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn gwella eich dealltwriaeth ac yn rhoi mwy o grebwyll gwleidyddol i chi tra’n byw gwerthoedd arwain a dylanwadu gydag uniondeb. Bydd y mewnwelediadau a geir hefyd yn eich cynorthwyo i feddwl a gweithredu mewn ffyrdd sy'n helpu i gyflawni amcanion personol, tîm a sefydliadol. Hyd: 3 oriau.

  • Rhaglen Agored Arweinyddiaeth Bwrdd

    Mae pob digwyddiad yn cael ei arwain gan hwyluswyr ac ymarferwyr profiadol ar lefel lleol a chenedlaethol. Maent yn dod â safbwyntiau rhagweithiol, dyfeisgar ac arloesol er mwyn helpu aelodau byrddau i ragweld y dyfodol, cryfhau llywodraethiant, ac arwain ag eglurder a hyder yn eu rolau presennol.

  • Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol

    Cynulleidfa: Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, Hyd: 2 oriau

  • Sgwrs am Wrth-hiliaeth

    Beth yw ystyr bod yn wrth-hiliol mewn gwirionedd – a sut gall pob un ohonom fod yn gyfrifol am herio hiliaeth yn ein gweithleoedd a'n cymunedau?