English

Arweinyddiaeth yn gryno

Cynulleidfa
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Lleoliad
Ar-lein

Hyd
1 awr

Trosolwg

Bydd y gweithdy rhyngweithiol ‘cryno’ hwn yn ddelfrydol os ydych chi'n paratoi ar gyfer eich swydd arweinyddiaeth a rheoli gyntaf neu eisoes mewn swydd o’r fath.

Byddwch yn cael eich cyflwyno i egwyddorion ac arferion allweddol a fydd yn helpu i dyfu a galluogi eich gallu i ddylanwadu ar dimau ac arwain newid. Mewn byd sy'n newid yn barhaus ac sy’n ansicr, bydd y gweithdy hwn hefyd yn datblygu eich hunanymwybyddiaeth ac yn eich helpu i gyflawni sefydlogrwydd wrth i chi ymdrechu i fod yn arweinydd dilys ac enghreifftiol.

Manteision i chi

Byddwch yn:

  • Sylweddoli rôl arweinyddiaeth ddilys ac enghreifftiol mewn VUCA a byd 'dŵr gwyn parhaol'.
  • Cadw’n gyfredol ac effeithiol yn y gweithle modern.
  • Cael mynediad at adnoddau i gynorthwyo eich datblygiad parhaus.
  • Cael eich ysbrydoli i fod yn arweinydd dilys ac enghreifftiol.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaeth

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa darged

Mae'n agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, yn enwedig y rhai a allai fod yn paratoi ar gyfer eu swydd arweinyddiaeth a rheoli gyntaf neu sydd eisoes mewn swydd o’r fath.

Cost

Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.

Sut i wneud cais