English

Beth ydym yn ei wneud

Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth ledled y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Dysgwch fwy amdanom drwy ddarllen ein Adroddiad Blynyddol.

Gweler ein Strategaeth ar gyfer 2023-2026 yma.

Gweler y strategaeth weledol sy'n cyd-fynd efo'n strategaeth yma.

Mae trosolwg gweledol o'n cynnig i'w weld yma.

Llywodraethu a Datblygu Byrddau

  • Rydym yn datblygu ymyriadau ac adnoddau er mwyn cynorthwyo byrddau i gydnabod pwysigrwydd llywodraethu da.
  • Rydym yn cefnogi datblygiad arweinwyr gwleidyddol, aelodau gweithredol, aelodau anweithredol ac aelodau annibynnol o fyrddau.

Arweinyddiaeth a Datblygu Sefydliadol

  • Rydym yn dylunio ac yn cynnal rhaglenni arweinyddiaeth, rheoli a datblygu sefydliadol, yn cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr a phrosiectau.
  • Rydym yn gweithio â grwpiau arweinyddiaeth proffesiynol, prifysgolion, melinau trafod a chymunedau.

Talent ac Olyniaeth

  • Rydym yn rhoi cyfleoedd unigryw i arweinwyr adolygu ac adnewyddu eu sgiliau.
  • Rydym yn cefnogi datblygu gweithgareddau rheoli talent ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Gwelliant a Newid Parhaus

  • Rydym yn adeiladu capasiti ‘gwelliant parhaus’ (GP) drwy godi ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau.
  • Rydym yn gwella capasiti GP drwy gefnogi rhwydweithiau a rhoi lle i wella a thyfu.

Datblygu Arweinyddiaeth Broffesiynol

  • Rydym yn cefnogi dylunio a chynnal rhaglenni rheoli arweinyddiaeth a datblygu sefydliadol.
  • Rydym yn alinio ein gwaith ag agenda darparu gwasanaeth cyhoeddus a’r gweithlu, yn cynnwys arweinwyr gwleidyddol, gweithredol, clinigol a phroffesiynol eraill.

Enw Da ac Ymgysylltu

  • Rydym yn sicrhau bod ein cynhyrchion a’n gwasanaethau yn cael eu cynnal yn dda, yn gost effeithiol ac yn unol â safonau a gofynion Llywodraeth Cymru.
  • Rydym yn rheoli ymgysylltu cleientiaid a rhanddeiliaid, caffael, prosesu ariannol a monitro cyllidebau.