English

Yr hyn rydyn ni’n ei gredu

Yn Academi Wales rydym yn falch o fyw yn ôl ein gwerthoedd, gyda ffocws ar gydweithredu, ansawdd, cynaliadwyedd a gwella, a’r cyfan yn cael ei gynnal gan amgylchedd tîm cydnerth, emosiynol ddeallus a gydag ymddiriedaeth gadarn. Rydym yn gofalu bod pob un ohonom yn atebol i’r cerrig sylfaen yma, a’r rhain sy’n cyfrannu at ein llwyddiant.

Nid yw ein proffil a’n dylanwad ar dirlun gwasanaethau cyhoeddus Cymru erioed wedi bod yn fwy. Yn ogystal â chynllun busnes cynhwysfawr, bu i ni hefyd gynnal uwchgynhadledd arweinyddiaeth traws sector ar gyfer y wlad gyfan, ble bu i ni lansio set o Werthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru ac Ymddygiadau Arweinyddiaeth. Erbyn hyn mae’r rhain wedi eu hintegreiddio i waith Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maent yn ganllawiau ar sut y mae gweision cyhoeddus yn gweithio ac yn ymddwyn.

Wrth i gysyniad ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru’ agosáu, a bod y naratif a’r diwylliant wedi dechrau cael momentwm, rydym wedi chwarae rôl ganolog mewn perthynas â newid, cefnogi, galluogi a datblygu arweinwyr i allu cyflawni’r dyfodol nawr.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Bydd gennym set o werthoedd gwasanaethau cyhoeddus ac ymddygiadau arwain a fydd yn llywio sut rydym yn gweithio, yn newid diwylliant ac yn llunio'r ffordd rydym yn ymddwyn.

Mae'n ymwneud â gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i'n helpu ni i greu Cymru rydym yn dymuno byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol. Mae'n ffordd o feddwl ac ymddwyn - datblygu dyfodol lle gall pob un ohonom weithio gyda'n gilydd gyda diben cyffredin, gyda gweledigaeth a gwerthoedd a rennir.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Rydym ar ddechrau symudiad sylfaenol tuag at ddinasyddion a chymunedau mwy grymus a gwladwriaeth sy'n galluogi ei dinasyddion yn well. Sut gellir meithrin y newid hwn fel bod yr ymateb i'r sefyllfa ariannol yn un sy'n cael ei yrru gan werthoedd, a fydd yn galluogi ac yn annog newid cadarnhaol a chynaliadwy wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?

Wedi ei ddatblygu gyda staff ar bob lefel o Wasanaethau Cyhoeddus ac ar draws ffiniau sectorau, rydym yn falch o gyflwyno Gwerthoedd ac Ymddygiadau Arwain Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Rydym wedi ymateb i geisiadau staff i gyflwyno hyn mewn ffordd ddeniadol a hygyrch, fel y bydd staff ar bob lefel yn dod i ddeall yr hyn maen nhw'n ei olygu a sut maen nhw'n troi'n weithrediadau yn y gweithle.

Y bwriad yw i'r poster gwerthoedd a'r ymddygiadau arwain ddechrau gyda datganiad grymus fel rhan o'r naratif integredig craidd, gan ddwyn cyfrifoldebau Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ynghyd.

Mae byw'r gwerthoedd hyn yn golygu bod yn ymreolaethol ac eto'n atebol, gan fod yn ddewr ac yn feiddgar a chreu diwylliant sy'n agored ac yn dryloyw lle mae pobl yn cyflawni eu potensial. Mae'r gwerthoedd a'r ymddygiadau yn ategu yn hytrach na gwrthdaro â gwerthoedd ac ymddygiadau arwain sy'n bodoli'n lleol i chi a'ch sefydliad.

Mae angen i ni greu diwylliant sy'n torri ar draws ffiniau sefydliadol a sectorau. Lle mae pawb sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn rhan o'r ymdrech gyffredin hon, gan rannu gwerthoedd cyffredin a gweithio gyda'i gilydd er lles pobl Cymru.