English

Datganiad hawlfraint

Diweddarwyd 23 Mai 2018

Mae'r wefan, sy'n cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i'r rhain) testun, cynnwys, negeseuon, blogiau, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, enwau, logos, nodau masnach a deunyddiau eraill (‘cynnwys’) wedi’u diogelu drwy hawlfraint, cronfeydd data, hawliau mewn dyluniadau, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae’r cynnwys yn golygu cynnwys sydd dan ein perchnogaeth neu ein rheolaeth ni neu gynnwys sydd dan berchnogaeth neu reolaeth trydydd partïon ac sydd wedi’i drwyddedu i ni. Efallai y bydd cynnwys hefyd yn golygu cynnwys sy'n cael ei gyflwyno o bryd i’w gilydd gan aelodau.

Mae pob erthygl, adroddiad ac elfennau eraill unigol sy’n rhan o’r wefan yn waith sy'n destun hawlfraint. Rydych chi’n cytuno i ddilyn yr holl gyfyngiadau neu hysbysiadau hawlfraint ychwanegol sydd wedi’u cynnwys ar y wefan ac yn y drwydded isod.

Chewch chi ddim defnyddio unrhyw rai o’n henwau masnach nac ein nodau masnach heb ein caniatâd ac rydych yn derbyn nad oes gennych chi unrhyw hawliau perchnogaeth yn nac i unrhyw rai o'r enwau a'r nodau hynny. Rydych chi’n cytuno i roi gwybod i ni ar bapur os ydych chi’n dod yn ymwybodol o unrhyw barti sy'n mynd ar y wefan neu sy’n ei defnyddio heb awdurdod, neu os ydych yn dod yn ymwybodol o unrhyw honiad bod y wefan neu unrhyw gynnwys yn torri unrhyw hawlfraint, nod masnach, neu hawliau cytundebol, statudol neu hawliau cyfraith gwlad unrhyw barti.