English

Coetsio a mentora

Croeso i Coetsio a Mentora Academi Wales lle byddwch yn dod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein cyfleoedd coetsio.

Os hoffech chi ddod o hyd i goetsiwr i helpu eich datblygiad personol neu broffesiynol, gallwch gofrestru â’r wefan hon a chwilio trwy ein rhestr o goetswyr. Gallwch ymaelodi os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru.

Chwilio am goetsiwr

Os hoffech ddefnyddio ein gwasanaethau coetsio a threfnu sesiwn goetsio bersonol am ddim, darganfyddwch sut i chwilio am goetsiwr gwasanaeth cyhoeddus Cymru sydd wedi cofrestru ar Rwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.

Dod yn goetsiwr

Byddem yn falch iawn o’ch gwahodd i gofrestru ar Rwydwaith Coetsio Cymru Gyfan os ydych yn cael eich cyflogi yn y gwasanaeth cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru, yn goetsiwr cymwys ac eisiau darparu coetsio gwasanaeth cyhoeddus / trydydd sector ehangach.

Datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

I ddarganfod sut rydym yn cefnogi datblygiad personol parhaus ein coetswyr cofrestredig, chwiliwch ein calendr digwyddiadau.

Hyb y gymuned goetsio

Rydym yn gwahodd pob coetsiwr sydd wedi cofrestru ar Rwydwaith Coetsio Cymru Gyfan i ymuno â hyb rhwydweithio’r gymuned goetsio.

Adnoddau

Rhagor o wybodaeth

  • Yr ateb byr yw unrhyw un sydd eisiau gwella sut maent yn perfformio yn eu rôl ac sydd eisiau gwneud y gorau o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig. Ni all coetsio weithio oni bai bod y sawl sy’n cael ei goetsio (y 'coetsai') yn fodlon gwneud newidiadau ac yn barod i edrych sut y gallant wneud y gorau o’u sgiliau a’u galluoedd. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

    • cychwyn mewn rôl newydd
    • derbyn tîm newydd
    • gwella eu perfformiad eu hunain
    • paratoi am newid yn eu gyrfa
    • delio â chyfnodau o ansicrwydd

    Mae ein dogfen Hau Hadau’n rhoi rhagor o fanylion am fuddiannau ac ethos coetsio:

  • Bydd y tabl canlynol yn eich helpu i benderfynu a yw coetsio yn debygol o ddiwallu eich anghenion:

    CoetsioMentora
    Mae coetsiwr yn meddu ar sgiliau coetsio arbenigol sy’n berthnasol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.Mae mentor yn meddu ar wybodaeth broffesiynol / sefydliadol.
    Mae gan goetsiwr ymagwedd gyfannol ac mae’n canolbwyntio ar amcanion neu feysydd penodol i’w gwella, sy’n aml yn ymwneud yn gymaint â datblygiad personol ag â datblygiad proffesiynol.Mae mentor yn canolbwyntio ar faterion proffesiynol sy’n gysylltiedig â gwaith a datblygiad gyrfa.
    Mae perthynas goetsio fel arfer yn un tymor byr / canolig, weithiau o fewn terfynau amser; mae sesiynau fel arfer wedi’u strwythuro, gyda chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu trefnu.Mae perthynas fentora yn fwy hyblyg, a gall barhau dros gyfnod hir heb fawr ddim / dim cysylltiad.
    Mae coetsiwr yn chwilio am atebion gan y coetsai ac nid yw’n cynnig cyngor.Gall mentor gynnig cyngor, creu cyfleoedd a chyflwyno’r mentorai i rwydweithiau proffesiynol.

     

    1. Os ydych chi’n meddwl bod coetsio yn addas i chi, gallwch gofrestru ar y wefan hon i chwilio am goetsiwr. Bydd rhaid i chi fod yn gyflogai mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru.
    2. Bydd angen i chi gytuno i gydymffurfio â’n cod moesegol (isod). Mae set lawn o delerau ac amodau ar gael hefyd.
    3. Gallwch hidlo’r rhestr o goetswyr sydd ar gael trwy ddefnyddio’r blychau ticio wrth ochr y rhestr. Gallwch hefyd deipio yn y blwch chwilio ar frig y rhestr. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydych chi’n chwilio am goetsiwr neu ymadrodd penodol.
    4. Ar ôl i chi ddod o hyd i goetsiwr sy’n addas ar gyfer eich anghenion, defnyddiwch yr wybodaeth a roddwyd ganddynt yn eu proffil i gysylltu â hwy.
  • Fel client, rydych yn cytuno:

    • mai prif nod y contract coetsio yw helpu, cynnal a gwella eich datblygiad personol a’ch perfformiad dros gyfnod penodol o amser y cytunwyd arno.
    • y bydd popeth sy’n cael ei drafod rhyngoch chi â’ch coetsiwr yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, oni bai bod y ddau ohonoch yn cytuno y gellir rhannu’r wybodaeth honno â pharti arall.
    • i baratoi ar gyfer pob sesiwn, i fod yn brydlon ac i wneud cyfraniad llawn.
    • i sicrhau nad amherir ar eich sesiynau coetsio, er mwyn rhoi sylw llawn i’r rhyngweithio.
    • y byddwch, hyd eithaf eich gallu, yn cyflawni’r amcanion a’r cynllun gweithredu cytunedig a amlinellir ar ddiwedd pob sesiwn
    • gweithredu ar unrhyw gamau yr ydych yn dewis ymrwymo iddynt o fewn y sesiynau coetsio yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnynt.
    • cwblhau’r holl ffurflenni gwerthuso yn ystod ac ar ôl y sesiwn olaf.
  • Ydych chi’n cael eich cyflogi yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru, yn goetsiwr cymwys ac eisiau darparu gwasanaeth coetsio ehangach yn y sector cyhoeddus / trydydd sector?

    Rydym yn falch o’ch gwahodd i gofrestru i fod yn rhan o Rwydwaith Coetsio Cymru Gyfan. Dyma gyfle i chi ymuno â rhwydwaith o goetswyr ledled Cymru, dod o hyd i gyfleoedd coetsio newydd a chael mynediad i hyfforddiant.

Cwestiynau cyffredin

  • Mae’r rhestr am ddim i bob cyflogai mewn sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau cofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru. Nid oes unrhyw ffi am y coetsio a ddarperir.

  • Bydd yn rhaid i chi gytuno i gydymffurfio â’n cod moesegol uchod i ddefnyddio’r gronfa ddata ar-lein. Mae set lawn o delerau ac amodau ar gael hefyd.

  • Hoffem gael cymaint o wybodaeth â phosibl am fanteision coetsio a’r effaith mae’n ei chael ar wella gwasanaethau. Byddwn yn gofyn ichi gwblhau arolwg byr i werthuso ansawdd eich perthynas goetsio.

  • Ewch i’n tudalen rhwydwaith os ydych chi’n cael eich cyflogi o fewn sector cyhoeddus Cymru a/neu’r trydydd sector/sector gwirfoddol, ac yr hoffech gofrestru i fod yn rhan o Rwydwaith Coetsio Cymru Gyfan.

Am ddiweddariadau a rhybuddion, tanysgrifiwch i’n rhestr bostio a ticiwch Coetsio a mentora.