English

Arwain ar Iâ

Cynulleidfa:

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Hyd:

3 awr (gan gynnwys amser am egwyl)
Sesiynau’r bore: 10yb - 1yp
Sesiynau’r prynhawn: 1yp - 4yp

Trosolwg

Mae Shackleton wedi cael ei alw’n ‘arweinydd gorau erioed daear Duw, yn ddieithriad,’ ond eto ni arweiniodd dîm gyda mwy na 27 o bobl erioed, methodd gyflawni pob nod a osododd iddo’i hun bron a than yn ddiweddar, nid oes llawer o gof wedi bod amdano ers ei farwolaeth yn 1922. Roedd Shackleton a’i dîm wedi’u hynysu ym môr rhewllyd yr Antarctig am bron i ddwy flynedd, lle gwnaethant oddef tymereddau eithafol, iâ peryglus, gorfod gwneud â llai a llai o fwyd a bod yn gwbl ynysig. Er gwaethaf y rhwystrau a oedd yn ymddangos yn amhosib eu trechu, llwyddodd i grwp i gadw’n gydlynol, yn gydnaws, ac yn fyw diolch byth - ac nid dim ond lwc sy’n gyfrifol am hynny, ond arweinyddiaeth heb ei hail.

Gan dynnu ar stori ryfeddol a gwir taith yr ‘Endurance’, bydd y gweithdy ar-lein addysgiadol, rhyngweithiol ac ysbrydoledig hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol arweinyddiaeth y 'Gwir Ogledd' wrth ymateb i'r heriau, ac yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd, sy'n dod i'r amlwg ar adegau o adfyd, ansicrwydd a newid.

Manteision i chi

Bydd y gweithdy ar-lein hwn yn eich ysgogi i:

  • Ddilyn eich pwrpas gydag angerdd
  • Ymarfer gwerthoedd cadarn
  • Arwain gyda’ch calon, yn ogystal â’ch pen
  • Sefydlu perthnasoedd parhaus
  • Arddangos mwy o ffocws a hunanddisgyblaeth

‘Roeddwn i wrth fy modd â hanes Shackleton; doeddwn i’n gwybod dim am yr hanes o’r blaen! Roedd yr ymarferion yn annog pobl i gymryd rhan ac roedd yr hwylusydd yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle, ac yn rheoli’r ‘sgyrsiau’ yn ofalus hefyd.’

Fel arweinydd, bydd gennych lawer i'w ddysgu o’r hanes gafaelgar ac ysbrydoledig hwn am oroesi er gwaethaf popeth, wrth i chi geisio arwain a chyflwyno gwasanaethau’n effeithiol mewn amgylchedd llawn pwysau, sy’n symud yn gyflym ac sydd bob amser yn newid.

"Es i ar y cwrs Arwain ar Iâ (mae’n gas gen i hyfforddiant!), a dyma’r cwrs gorau o bell ffordd… cymaint felly nes y gwnes i ofyn i’m pennaeth a allwn i fynd arno eto! Des i’n ôl i’r swyddfa yn fwrlwm i gyd ac rydw i wedi ei argymell i nifer o’m cydweithwyr." Cyngor Sir Ddinbych

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaeth

Datblygu cydweithio a phartneriaeth

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Ar agor i holl staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn arbennig y rhai sydd â rolau a chyfrifoldebau arwain a rheoli.

Cost

Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.

Sut i wneud cais