English

7 o Arferion Pobl Hynod Effeithiol

Cynulleidfa:

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Hyd:

  • 6 2½-awr sesiynau (ar-lein), neu
  • 2 diwrnodau (wyneb yn wyneb)

Trosolwg

Mae’r rhaglen 7 o Arferion Pobl Hynod Effeithiol yn rhaglen weddnewidiol ac yn brofiad dysgu y gwnewch ei fwynhau’n fawr ac a fydd yn eich helpu chi i fod cystal ag y gallwch fod.

Bydd y rhaglen hon, sydd wedi ei seilio ar egwyddorion effeithiolrwydd personol profedig, yn cael ei rhoi ar waith ar ffurf gweithdy rhyngweithiol ar-lein ac fe’i cynigir i unigolion ac i dimau.

Mae’r rhaglen 7 o Arferion Pobl Hynod Effeithiol yn cydnabod bod newid effeithiol a chynaliadwy yn dechrau o'r tu mewn, ac mae ganddi agwedd 'tu chwith allan’ tuag at ddatblygiad proffesiynol a phersonol.

Waeth pa mor gymwys yw unigolyn, ni fydd yn gallu cynnal llwyddiant oni bai ei fod yn gallu arwain ei hun yn effeithiol, yn gallu dylanwadu ar eraill ac ymgysylltu a chydweithio â nhw ac yn gallu gwella ac adnewyddu ei allu. Mae’r elfennau hyn wrth galon effeithiolrwydd trefnu, effeithiolrwydd tîm ac effeithiolrwydd personol.

Manteision i chi

Bydd y rhaglen yn eich helpu chi i gymhwyso egwyddorion digyfnewid effeithiolrwydd i wneud y canlynol:

  • gweithio ar eich liwt eich hun
  • gwella dulliau cyfathrebu rhyngbersonol
  • sefydlu gwell ymddiriedaeth
  • cryfhau perthnasau
  • cynyddu eich dylanwad
  • cydbwyso blaenoriaethau allweddol.

Darperir y rhaglen dros gyfnod o 6 sesiwn 2½ awr (ar-lein), neu 2 diwrnodau (wyneb yn wyneb) a byddwn yn archwilio arferion sy’n canolbwyntio arnoch chi fel unigolyn. Mae’r rhain yn cynnwys bod yn rhagweithiol, dechrau gyda'r diwedd mewn golwg, blaenoriaethu’r pethau pwysicaf.

Byddwch yn dysgu sut mae meistroli'r tri arfer cyntaf yn rhoi sail i chi allu cyrraedd y llwyddiant cyhoeddus, sef gwella effeithiolrwydd drwy gyd-ddibyniaeth ag eraill. Drwy fabwysiadu ffordd o feddwl sy’n arwain at lwyddiant bob tro, a cheisio deall a defnyddio gwahanol agweddau drwy gydweithio, byddwch yn cynyddu eich dylanwad a’ch ymddiriedaeth ymysg y bobl o’ch cwmpas.

Yn olaf, byddwch yn dysgu sut i chwilio’n barhaus am gyfleoedd i ‘hogi eich meddwl' ac i ymdrechu o’r newydd bob dydd.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.

Cost

Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.

Sut i wneud cais