English

Springboard

Cynulleidfa:

Yn agored i bob menyw yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gobeithio rheoli neu sydd yn ei swydd reoli gyntaf

Hyd:

4 diwrnod dros 4 mis

Trosolwg

Bwriad Springboard yw galluogi menywod i roi mwy a chael mwy allan o’u gwaith. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y sector staff sy’n draddodiadol heb ei ddatblygu’n llawn: menywod nad ydyn nhw’n rheolwyr.

Mae’r rhaglen hon yn agored i bob menyw yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gobeithio rheoli neu sydd yn ei swydd reoli gyntaf.

Mae’r rhaglen o blaid menywod, nid yn erbyn dynion. Unig fwriad yr agwedd ‘menywod yn unig’ yw rhoi’r amgylchedd dysgu mwyaf ffafriol ichi ddysgu. Mae’n golygu bod y broses, y cynnwys, yr enghreifftiau a’r astudiaethau achos i gyd yn cyfeirio’n benodol at faterion menywod. Mae hyn yn cyflymu’r broses yn sylweddol, gan sicrhau bod amser ac egni’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Byddwch yn cael y gorau o’r rhaglen hon os ydych chi’n:

  • eich enwebu eich hun – mae’n hanfodol mai chi sy’n penderfynu cymryd rhan, gan y byddwch yn edrych ar faterion personol ac yn gorfod rhoi o leiaf 3 awr o’ch amser eich hun bob wythnos. Mae’r rhaglen yn gofyn am ymrwymiad a’r gallu i’ch ysgogi eich hun
  • agored eich meddwl ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd
  • teimlo’n barod amdani – bydd y rhaglen yn gweithio orau os oes gennych brofiadau bywyd i dynnu arnynt ac os ydych yn awyddus i ailasesu a chynllunio eich camau nesaf
  • gallu cefnogi eraill
  • awyddus i ddatblygu eich potensial yn llawn
  • teimlo mewn rhigol neu’n teimlo bod angen i chi adnewyddu ac adfywio

Oni bai am y meini prawf hyn, mae Springboard yn addas i fenywod o bob oedran ac ar bob cam o’u bywydau, boed yn abl neu’n anabl, o bob cefndir a hil a beth bynnag yw eich gobeithion a’ch amgylchiadau personol.

Manteision i chi

Byddwch chi’n gallu:

  • asesu eich sefyllfa bresennol ac edrych ar eich hun o’r newydd
  • datblygu’r hunanhyder i wneud i bethau ddigwydd
  • gosod nodau personol a phroffesiynol a nodi camau ymarferol i’w cyflawni
  • meithrin agwedd gadarnhaol a sgiliau i gymryd y camau nesaf
  • cyfathrebu’n fwy penderfynol ac effeithiol
  • eich ysgogi eich hun yn well
  • ymdrin â straen

Cwrs gwych i’ch cael yn ôl ar y trywydd iawn a meddwl am eich uchelgeisiau, beth rydych chi am ei gyflawni a nodi beth sy’n bwysig i chi

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa darged

Yn agored i bob menyw yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gobeithio rheoli neu sydd yn ei swydd reoli gyntaf

Cost

Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.

Sut i wneud cais

Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio a ticiwch Springboard.