English

Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2021

Cynulleidfa:

Tair lefel uchaf o arweinyddiaeth uchaf ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru

Dyddiadau:

3 i 4 Chwefror 2021

Lleoliad:

Ar-lein

Cost:

Dim cost i gynrychiolwyr

Trosolwg

Am y ddegfed flwyddyn yn olynol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi Ysgol Aeaf flynyddol Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.

Gan adeiladu ar ei llwyddiant ers 2011, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio’n benodol mewn ymateb i anghenion datblygu allweddol arweinwyr uchaf Cymru, a’r rhai hynny sy’n gweithio yn nhair haen uchaf gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol Cymru.

Bydd yn tynnu ar wybodaeth ac arbenigedd cymuned enwog o siaradwyr rhyngwladol, a’r thema gyffredinol ar gyfer yr Ysgol Aeaf eleni yw ‘Arweinyddiaeth i Bawb – Arwain mewn amseroedd Cymhleth ac Ansicr’.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn rhoi cyfle i arweinwyr ganolbwyntio ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru a’r hyn a olyga o ran arwain a newid mewn argyfwng.

Bydd y cyfranogwyr yn archwilio dulliau newydd, ymddygiad a meddylfryd, creu gwasanaeth cyhoeddus sy’n fwy hyderus i gyflawni a meithrin gwerthoedd arweinyddiaeth cryf wrth i ni symud ymlaen trwy’r argyfwng hwn.

"Braint clywed mewnwelediad gan siaradwyr o safon fyd-eang a chyfle perffaith i ymgysylltu ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill." Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

"Wythnos wych o hunanddarganfod, hunanfyfyrio a chefnogi cynllunio ar gyfer twf personol ac arweinyddiaeth barhaus yn y dyfodol." Cynulliad Cenedlaethol Cymru

“Profiad addysgiadol, myfyriol gwirioneddol ymdrwythol, lle mae popeth yn cyd-fynd - pobl, dysgu - i greu profiad gwirioneddol werthfawr o ddysgu a myfyrio.” Llywodraeth Cymru

Cadeirydd a siaradwyr

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer y tair lefel uchaf o arweinyddiaeth o bob rhan o'r sector cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru (e.e. uwch weision sifil, prif weithredwyr, cyfarwyddwyr gweithredol, swyddogion anweithredol neu gyfwerth).

Cost

Wrth gydnabod yr amseroedd a'r heriau digynsail a achosir gan Covid-19, ni fydd ffi mynychu ar gyfer Ysgol Aeaf 2021.

Sut i wneud cais

Mae lleoedd cyfyngedig ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a chaiff y rhain eu cynnig trwy broses ddethol gystadleuol.

I wneud cais am le, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein hon yn nodi eich bwriadau gyda golwg ar fynychu'r digwyddiad, erbyn 11 Ionawr 2021.

Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr a ydynt wedi derbyn lle ai peidio erbyn 15 Ionawr 2021.

Mae ceisiadau nawr ar gau. Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.