English

Ysgol Aeaf Arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan 2020

Cynulleidfa:

Lefelau arweinyddiaeth uchaf ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru

Dyddiad:

4 i 7 Chwefror 2020, Preswyl

Lleoliad:

Nant Gwrtheyrn, Gwynedd, North Wales LL53 6NL

Cost:

£500 + TAW

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Trosolwg

Am yr nawfed flwyddyn o’r bron mae’n bleser gennym gyhoeddi’r Ysgol Aeaf Arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan.

Gan adeiladu ar ei llwyddiant ers 2011, rydyn ni wedi dylunio’r rhaglen yn benodol i ddiwallu anghenion datblygu allweddol uwch arweinwyr Cymru, a’r rheini sy’n gweithio yn nhair haen uchaf gwasanaethau cyhoeddus a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar Arwain i Bawb – Creu Diwylliannau a Hinsoddau.

Manteision i chi

Mae'r rhaglen 'ymestyn' unigryw yma'n gyfle i adolygu a gloywi eich sgiliau presennol a dysgu am arferion arwain arloesol. Byddwch yn edrych ar ffyrdd newydd o 'gyflawni busnes' gan ddefnyddio cyfoeth o wybodaeth a phrofiad byd-eang.

"Roedd yr amserlen yn llawn dop gyda meysydd pwnc oedd yn eich ymestyn, a’r cyfan yn alinio ar gyfer cyfnod oedd yn gwir ysbrydoli. Diolch!" Cyfranogwr blaenorol

"Profiad anhygoel fydd yn dylanwadu ar fy ymddygiad o heddiw ymlaen." Cyfranogwr blaenorol

“Profiad dysgu anhygoel gyda phobl wych yn rhoi cyfle i mi gael seibiant o fy swydd arferol. Roedd cael amser i feddwl o fudd personol enfawr.” Heddlu Dyfed Powys

“Gwych! Cwrs ymarferol rhagorol sy’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio gydag eraill er mwyn atgyfnerthu neu herio eich syniadau.” Cyngor Sir Ddinbych

Cadeirydd a siaradwyr

Mae siaradwyr 2020 yn cynnwys:

Gwybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth amdanynt ar gael yn yr adran siaradwyr Ysgol Aeaf 2020.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer y lefelau arweinyddiaeth uchaf ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru (er enghraifft, uwch weision sifil, prif weithredwyr neu gyfatebol). Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael yn y cyfle hwn a byddant yn cael eu dyfarnu drwy broses ymgeisio.

Cost

Y gost am fynychu’r Ysgol Aeaf yw £500 + TAW. Mae hyn yn cynnwys cyfraniad at y costau dysgu ar gyfer y digwyddiad. Mae cymorth llawn gyda’r costau llety a bwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffi yma.

Ni fydd y rhaglen yn talu eich costau teithio. Gall llefydd bwrsari fod ar gael ar gais i sefydliadau yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol.

Cofiwch: Os byddwch yn cael lle ar y rhaglen ac wedyn yn penderfynu tynnu’n ôl, bydd Academi Wales yn cadw’r hawl i godi cost lawn y rhaglen ar eich sefydliad. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Dewisiadau llety - gan gynnwys disgowntiau

Mae nifer y ceisiadau rydyn ni’n eu cael ar gyfer yr Ysgol Aeaf yn llawer mwy na'n disgwyliadau o ran safon a chyfanswm.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, a helpu sefydliadau gyda'u prosesau dethol mewnol a'r galw posibl am leoedd, gallwn gynnig y dewisiadau canlynol ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf er mwyn cynyddu'r lleoedd sy’n cael eu dyrannu.

Sut i wneud cais

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael a byddant yn cael eu dyfarnu drwy broses ddethol gystadleuol.

Mae ceisiadau ar gau. Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio a ticiwch Cynadleddau ac ysgolion.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi ein e-bost at Ysgol Aeaf neu ffonio ni ar 03000 256 687.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.