English

Cynhadledd Coetsio Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022

Cynulleidfa:

Ymarferwyr coetsio a mentora o’r y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Dyddiad ac amser:

17 Tachwedd 2022
09:00 i 16:15

Lleoliad:

Stadiwm Principality, Caerdydd, CF10 1NS

Dim cost i gynrychiolwyr

Trosolwg

Mae’n bleser gennym gyhoeddi Cynhadledd Coetsio 'Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022, Syndrom Twyllwr – Y Teimlad Cudd o Fod yn Dwyllwr'.

Mae pwysigrwydd coetsio yn hynod arwyddocaol wrth gefnogi eraill i fod â meddwl cliriach, gwneud penderfyniadau a chynllunio at y dyfodol.

Mae'r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn cefnogi'r rheiny sydd â rôl goetsio ffurfiol neu anffurfiol o fewn eu sefydliadau.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Bydd y Gynhadledd Goetsio hon yn caniatáu ichi

  • ymgysylltu ag ymarferwyr ac arbenigwyr yn eu meysydd dewisol a fydd yn rhannu eu profiadau, offer a thechnegau
  • gwella'r gefnogaeth rydych chi'n ei darparu fel rhan o'ch ymarfer coetsio eich hun.

Ar gyfer aelodau Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan a Rhwydwaith Llywodraeth Cymru, bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyfrif fel 6 awr o DPP.

Barn cynrychiolwyr o Gynhadledd Goetsio Cymru Gyfan 2021 (rhithwir):

"Roedd yn un o'r cynadleddau gorau i mi fynd iddi. Roedd yna gymysgedd da o gynnwys gan y prif siaradwyr ac roedd y sesiynau grwp yn wych hefyd. Diolch yn fawr. Mae gen i lawer o fyfyrio i'w wneud ac offer newydd i'w defnyddio."

"Cynhadledd hynod addysgiadol a phleserus wrth archwilio dulliau a thechnegau coetsio newydd. Dysgais lawer gan yr holl brif siaradwyr a’r gweithdai. Diolch.”

“Siaradwyr hynod ddiddorol – rhoddodd gyfle i mi oedi a myfyrio ar y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Siaradwyr

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr

Sut i ymgeisio

Rydym wedi cyrraedd capasiti llawn ar gyfer y gynhadledd hon; fodd bynnag, gallwch ymuno â'r rhestr aros yma (bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif yn gyntaf)

Rydych yn gymwys am gyfrif os ydych yn gweithio o fewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru.