English

Ysgol Haf Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan 2019

Dyddiad:

24 i 28 Mehefin 2019, Preswyl

Prifysgol Cymru, Llanbedr

Canfonwch eich cais erbyn:

Llwybr 1: 15 Mawrth 2019
Llwybr 2: 8 Ebrill 2019
Darllenwch: Sut mae gwneud cais?

Cost:

£500

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Trosolwg

Mae’r Ysgol Haf yn brofiad dysgu preswyl dwys dros bum diwrnod a fydd yn dwyn ynghyd arweinwyr a rheolwyr i drafod materion allweddol sydd ynghlwm â phwnc arwain penodol.

Bydd yr wythnos o ddysgu yn canolbwyntio ar 'Yr Her Arweinyddiaeth – o’r effeithlon i’r eithriadol'.

Manteision i chi

Mae’r wythnos wedi’i llunio fel rhaglen ‘ymestyn’ a fydd yn rhoi cyfle i chi adolygu a gloywi eich sgiliau, cael gwybodaeth newydd a dod i wybod mwy am arferion arwain arloesol. Bydd cyfle i chi edrych ar ffyrdd arloesol o ‘ddarparu busnes’, gan fanteisio ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiadau byd-eang.

'Alla i ddim dweud bod yr Ysgol Haf wedi “bodloni” fy nisgwyliadau! Aeth y tu hwnt i fy nisgwyliadau. Yn wir, mae wedi peri i fi ail-lunio’r disgwyliadau sydd gennyf ohonof fi fy hun. Dim llai na GWEDDNEWIDIOL!'
Cynadleddwr 2018, Cyfoeth Naturiol Cymru

'Aeth y tu hwnt i fy nisgwyliadau. Teimlaf ei bod wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o grwp mor rhyfeddol o bobl.'
Cynadleddwr 2018, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

'Os nad ydych yn sicr bod yr Ysgol Haf ar eich cyfer chi; meddyliwch eto! Bydd yn agor eich meddwl, yn ehangu eich gwybodaeth a’ch rhwydweithiau (cyfeillion) ac yn bwysicach na dim, yn gwneud i chi feddwl!'
Cynadleddwr 2018, Sefydliad Materion Cymreig

Siaradwyr

Mae siaradwyr 2019 yn cynnwys:

Mae rhagor o wybodaeth amdanynt ar gael yn yr adran siaradwyr Ysgol Haf 2019.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Ar gyfer pwy mae’r Ysgol Haf?

Anelwyd yr Ysgol Haf at uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru, sy’n dylanwadu a llunio cyflenwi ein gwasanaethau ac sy’n ymwneud ag arwain newid.

Lleoliad

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 7ED

Mae manylion ynghylch sut i gyrraedd Llanbedr Pont Steffan hefyd ar gael ar wefan y Brifysgol (dolen allanol).

Cost

Mae cost o £500 ar gyfer yr Ysgol Haf sy’n cynnwys cyfraniad at gostau dysgu ar gyfer y digwyddiad. Talir am gost llety a bwyd ar gyfer yr wythnos ond ni fydd y rhaglen yn talu am gostau teithio cynrychiolwyr.

Gofynnir i chi, os dyfernir lle i chi yn yr Ysgol Haf a’ch bod wedyn yn penderfynu peidio ymuno yn y rhaglen, y gall eich sefydliad fod yn atebol i dalu’r gost iawn.

Sut mae gwneud cais?

Mae dangos elw ar fuddsoddiad yn bwysicach nag erioed yn yr hinsawdd sydd ohoni heddiw.

Mae elw ar fuddsoddiad yn golygu mwy na dim ond budd ariannol. Mae’n ymwneud ag effaith gynaliadwy y dysgu i chi ac i’ch sefydliad, a sut mae hyn yn gysylltiedig â'r gwasanaethau a ddarperir i bobl yng Nghymru. Mae’n hynod berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio mewn cyfnod heriol ac sy’n awyddus i wneud gwelliannau sylweddol i ganlyniadau ei sefydliad.

Gyda hyn mewn golwg, gofynnwn i sefydliadau gyflwyno enwebeion ar gyfer llefydd yn yr Ysgol Haf.

Edrychwch ar ein rhestr cysylltiadau sefydliadol i weld a yw eich sefydliad yn defnyddio’r broses hon i reoli ceisiadau:

Mae 2 ffordd o wneud cais am le

  • Llwybr 1: Enwebiad os yw eich sefydliad ar ein rhestr gyswllt, mae’n rhaid i chi ddilyn y llwybr hwn (neu ni fydd eich cais yn cael ei brosesu)
  • Llwybr 2: Annibynnol os nad yw eich sefydliad ar ein rhestr gyswllt, gallwch ddilyn y llwybr hwn (ar ôl cael caniatâd ar lefel uwch)

Llwybr 1: Enwebiad - 15 Mawrth 2019

Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad sydd ar y rhestr gyswllt, mae’n rhaid i chi gysylltu â'r unigolyn a enwir i gael gwybod sut mae gwneud cais drwy eich proses fewnol. Yna, bydd arnoch angen llenwi ein ffurflen gais ar-lein erbyn 15 Mawrth 2019.

Cofiwch: ni allwn dderbyn ceisiadau uniongyrchol gan weithwyr y sefydliadau hyn (oni bai ein bod wedi cael caniatâd gan y cyswllt sefydliadol).

Ar ôl i’ch sefydliad gadarnhau eich enwebiad, bydd modd i chi lenwi ein ffurflen gais ar-lein.

Llwybr 2: Annibynnol - 8 Ebrill 2019

Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad sydd heb fod ar y rhestr gyswllt uchod, gallwch lenwi ein ffurflen gais ar-lein yn annibynnol (mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan eich prif weithredwr neu’ch uwch arweinydd) erbyn 8 Ebrill 2019.

Ffurflen gais

Ar ôl i chi fynd drwy'r llwybr ymgeisio cywir uchod, bydd modd i chi lenwi’r canlynol y ffurflen gais.

  • Mae ceisiadau nawr ar gau.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o fanylion am yr Ysgol Haf ar gael yn ein gwybodaeth fanwl.