English

Cynhadledd Coetsio Gogledd Cymru, Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan 2019: Dimensiynau Dynol

Cynulleidfa:

Staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru sydd â diddordeb mewn hyfforddi

Dyddiad:

21 Tachwedd 2019

Lleoliad:

Glasdir, Conwy, North Wales

Trosolwg

Rydym yn falch o gyhoeddi Cynhadledd Hyfforddi Gogledd Cymru Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru gyfan, ‘Dimensiynau Dynol’. Dyma gyfle cyffrous i glywed ymarferwyr ac academyddion blaenllaw ym maes hyfforddi. Mae’r gynhadledd wedi’i hanelu at ymarferwyr hyfforddi a mentora yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac offer ymarferol, y gellir eu defnyddio ar gyfer twf personol, i gefnogi datblygiad eraill, yn benodol gyda’ch coetswyr a’r rhai rydych yn eu mentora. Mae’r gynhadledd yn gyfle gwych i rwydweithio a rhannu arferion da o bob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru.

Cadeirydd a siaradwyr

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru sydd â diddordeb mewn hyfforddi.

Cost

Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.

Sut mae gwneud cais

Mae ceisiadau nawr ar gau – dyddiad cau 1 Tachwedd 2019