English

Ysgol Aeaf 2019 - mwy o gwybodaeth

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm yr Ysgol Aeaf drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.

Gwneud cais am yr Ysgol Aeaf

Faint mae'n ei gostio?

£500 + TAW. Mae hyn yn cynnwys:

  • mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Aeaf
  • pecyn cynrychiolydd
  • llety (dydd Mawrth 5 Chwefror i dydd Iau 7 Chwefror 2019)
  • brecwast, pryd o fwyd gyda'r nos a chinio yn ystod y digwyddiad

Rhaid i chi dalu unrhyw gostau personol sy'n codi, megis teithio i'r digwyddiad ac oddi yno. Gall llefydd bwrsari fod ar gael ar gais i sefydliadau yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol.

Sylwch: Os byddwch yn cael lle ar y rhaglen ac wedyn yn penderfynu tynnu’n ôl, bydd Academi Wales yn cadw’r hawl i godi cost lawn y rhaglen ar eich sefydliad. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Dewisiadau llety a disgowntiau

Gallwn gynnig nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar gyfer mwy nag un unigolyn gyda’i gilydd. Mae’r ystafelloedd cynllun agored eang hyn mewn bloc newydd o ystafelloedd sy’n cyrraedd safon uchel iawn, gyda chyfleusterau gwneud te a choffi. Maen nhw’n cael eu cynnig am y pris gostyngol isod. Mae'r holl ystafelloedd eraill yn rhai sengl.

Gan hynny, rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar y cyd ar gyfradd is, lle byddai'r disgowntiau a ganlyn yn berthnasol.

Ein cyfraddau awgrymedig ar gyfer ystafelloedd i fwy nag un unigolyn yw:

Sengl£500.00 fesul cynrychiolydd
Dwbl£350.00 fesul cynrychiolydd
Triphlyg£200.00 fesul cynrychiolydd

Mae'n bosibl yr hoffech chi ystyried hyn wrth ddewis a nodi'r rhai yr hoffech eu cyflwyno ar gyfer lle yn nigwyddiad y flwyddyn nesaf. Sylwer y bydd dyrannu’r ystafelloedd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses ddethol ar gyfer yr Ysgol Aeaf.

Ystafelloedd mawr

Ystafelloedd mawr, sy'n cynnwys llawr isaf a llawr mezzanine, 3 gwely sengl ar bob llawr, ystafell ymolchi ar y cyd gyda thoiled, a thoiled a basn ymolchi ar wahân ar y llawr isaf.

Ystafelloedd dau wely

Ystafelloedd dau wely, yn cynnwys 2 wely sengl ac ystafell ymolchi ar y cyd, gyda chawod a thoiled.

Am ragor o fanylion, anfonwch air i flwch derbyn yr Ysgol Aeaf drwy e-bostio.

Talu ffioedd eich cwrs

Os yw eich cais yn llwyddiannus, mae ein canllawiau caffael yn golygu y bydd yn rhaid i ni anfonebu eich sefydliad am y swm perthnasol ar ôl i chi fod yn yr Ysgol Aeaf.

Ymgeiswyr o'r tu allan i Lywodraeth Cymru

Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:

  • enw’r person a fydd yn gyfrifol am drefnu taliad ar gyfer eich lle fel cynrychiolydd
  • enw’r sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • enw a chyfeiriad e-bost eich swyddog bilio/cyfrifol

Ar ôl cadarnhau eich lle, byddwn yn cysylltu â’r person cyfrifol / swyddog bilio er mwyn iddo roi rhif archeb brynu i ni. Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw eich swyddog bilio pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gais, rhowch eich manylion eich hun ac fe wnawn ni gysylltu â chi i gael y manylion hyn. Mae’n bwysig eich bod yn darparu’r wybodaeth uchod er mwyn sicrhau eich lle.

Bydd yr anfonebau’n cael eu hanfon a’r ffioedd yn cael eu casglu ar ôl y digwyddiad.

Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion anfonebu, cysylltwch â’n Rheolwr Cyllid drwy anfon e-bost.

Creu eich archeb prynu

Defnyddiwch y wybodaeth a nodir isod os bydd angen i’ch sefydliad baratoi ei archeb brynu ei hun i dalu'r costau hyn:

Cyflenwr
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cyswllt: Academi Wales
Ffôn: 03000 256 687
E-bost: academiwales@llyw.cymru

Ymgeiswyr o Lywodraeth Cymru

Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:

  • cyfeiriad e-bost eich rheolwr cyllid yn Llywodraeth Cymru

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â’ch rheolwr cyllid a fydd yn gorfod darparu codau gweithgarwch ac elw'r ganolfan ar gyfer talu’r ffi o £500 fesul cynrychiolydd (does dim TAW i’w hychwanegu). Bydd trosglwyddiadau cofnodi yn cael eu cyhoeddi a bydd ffioedd eich cwrs yn cael eu casglu ar ôl y digwyddiad.

  • Cyn rhoi ei fanylion, rhaid i chi ofyn i unrhyw un rydych chi’n ei enwi fel swyddog bilio/cyfrifol a chael ei gymeradwyaeth.

Os oes angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo arnoch, cysylltwch â’n Rheolwr Cyllid drwy anfon e-bost.

Paratoi ar gyfer yr Ysgol Aeaf

Amserlen fras – agor a chloi'r digwyddiad

Dydd Mawrth 5 Chwefror 2019

  • 11 am: cofrestru a phennu pwy sy'n aros ble (os ydych chi'n cyrraedd cyn 11am rhowch wybod inni os gwelwch yn dda)
  • 12 pm: cinio
  • 1 pm: rhaglen yn dechrau

Dydd Gwener 8 Chwefror

  • 1 pm: diwedd y rhaglen

Oes rhaid i mi fod yno drwy gydol y digwyddiad?

Oes - rhaid i gynrychiolwyr fod yn bresennol drwy gydol y rhaglen. Mae wedi cael ei chynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn elwa'n llawn oni fyddwch yn cwblhau pob agwedd.

Os ydw i'n byw gerllaw'r lleoliad - gaf i deithio yno bob dydd?

Cewch - fodd bynnag, rydym yn eich annog i fanteisio ar ochr breswyl y rhaglen. Os ydych chi'n byw'n lleol cewch deithio'n ôl ac ymlaen i'ch cartref - rhowch wybod cyn gynted â phosib os nad oes angen llety arnoch. Rhaid i gynrychiolwyr dibreswyl dalu'r cyfraniad o £500 + TAW.

Cyfleusterau gofal plant / crèche

Nid oes cyfleusterau gofal plant/ crèche ar gael. Bydd disgwyl ichi wneud eich trefniadau gofal plant eich hun.

Prydau a lluniaeth

Mae prydau a lluniaeth wedi eu cynnwys yn y rhaglen (fodd bynnag nid yw alcohol na lluniaeth y bar neu'r caffi yn gynwysedig)

  • Brecwast: rhwng 7.30 a 8.30 am.
  • Swper: 7.30 pm.

Mae bar a siop goffi sy'n derbyn arian parod ar y safle. Sylwch: nid oes peiriant arian ar y safle na gerllaw’r lleoliad ychwaith. Codwch arian ymlaen llaw os ydych chi'n bwriadu defnyddio'r cyfleusterau hyn.

Anghenion dietegol arbennig neu anghenion meddygol/mynediad eraill

Nodwch ar eich ffurflen gais os oes gennych chi anghenion dietegol arbennig neu feddygol. Os oes angen fe wnawn ni gysylltu gyda chi'n nes at y digwyddiad.

Y Gymraeg

Mae’r Ysgol Aeaf yn Saesneg ei chyfrwng. Ond mae’r deunyddiau a'r pecynnau i gynrychiolwyr ar gael yn ddwyieithog

Cyswllt ffôn symudol / y we

  • Nodwch fod y signal ffôn a gwe yn gallu bod yn afreolaidd o achos y lleoliad anghysbell, ac yn ddibynnol ar y tywydd. Bydd gennych fynediad at linell ffôn sefydlog.
  • Mae mynediad i’r rhyngrwyd ar gael mewn ambell lety personol - i’w ddefnyddio bydd arnoch angen cebl ether-rwyd. Holwch yn y dderbynfa wrth gofrestru i gael gwybod a oes gan eich ystafell y cyfleuster hwn.
  • Mae cyswllt diwifr ar gael yn y brif neuadd.

Beth fyddai'n ddefnyddiol i'w bacio?

  • Fflachlamp: Safle bach yw Nant Gwrtheyrn ond, o achos ei leoliad, mae symud rhwng y neuadd weithgaredd a'r llety (yn enwedig yn y nos) yn gallu bod yn arbennig o dywyll felly byddai fflachlamp yn ddefnyddiol.
  • Pethau ymolchi, sychwr gwallt ac ati
  • Arian parod (sylwch: nid oes peiriannau arian na siopau gerllaw)
  • Cyflenwad o de, llaeth a bisgedi, gan fod gan rai o'r bythynnod geginau (ond cyflenwir yr holl fwyd a lluniaeth eraill yn ystod y digwyddiad)

Cod gwisg

  • Sesiynau ystafell ddosbarth - dillad hamddenol.
  • Taith gerdded - awgrymwn eich bod yn dod â dillad cynnes, cyfforddus ar gyfer yr awyr agored, ac esgidiau cryf. Bydd hi'n anodd rhagweld y tywydd a gall droi'n oer iawn.

Lluniau/recordio fideo

Cadwn yr hawl i dynnu lluniau/fideo yn ystod y digwyddiad a gallant gael eu defnyddio at bwrpas cyhoeddusrwydd a chreu gwybodaeth dysgu.

Paratoadau personol

Yn gymwys, rhaid ichi gwblhau'r holl waith a osodir gan y siaradwyr o flaen llaw.

Hyb Cynrychiolwyr

Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gofrestru â Hyb Cynrychiolwyr yr Ysgol Aeaf. Mae hwn yn safle caeedig diogel a gallwch fynd iddo unrhyw bryd, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd yr hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio â’ch cyd-gynrychiolwyr.

Mae’n bwysig eich bod yn mewngofnodi i’r Hyb i gael diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth bwysig am y rhaglen.

Teithio

Trenau

Rhannu car

Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i'r digwyddiad ac oddi yno.

Cysylltiadau

Tîm yr Ysgol Aeaf

academiwaleswinterschool@llyw.cymru
03000 256 687

Nant Gwrtheyrn - y Lleoliad

Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NL
Ffôn: 01758 750 334

Unrhyw gwestiynau eraill

Cysylltwch â ni ar 03000 256687 neu e-bostiwch academiwaleswinterschool@llyw.cymru

Mae Robin yn goetsiwr gweithredol ac yn hyfforddwr, hwylusydd ac ymgynghorydd sefydliadol. Mae hefyd yn Uwch Aelod Cyswllt ac yn Brif Gyflwynydd Olivier Mythodrama. Bu Robin yn gweithio fel hyfforddwr, addysgwr a rheolwr gwaith cymdeithasol am 15 mlynedd yn Llundain, cyn symud i'r Alban yn 1995 a sefydlu Gwasanaeth Ymgynghori Findhorn. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain a datblygu grwpiau ac unigolion ar draws bob sector – gan gynnwys y sectorau corfforaethol a chyhoeddus a’r trydydd sector.

Mae Robin wedi'i hyfforddi mewn amrywiaeth eang o ddulliau datblygu personol a datblygu sefydliadol, gan gynnwys y canlynol: Ymchwilio Gwerthfawrogol, y Broses Coetsio - Fframwaith ar gyfer Newid, Gwaith Proses, Dynameg Sbiral (Spiral Dynamics) ac Adnoddau Trawsnewid Corfforaethol.

Mae Emmanuel wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y guru arwain cyntaf ar gyfer y genhedlaeth MySpace’ a’r ‘llais mwyaf ffres yn y maes arwain heddiw’. Mae wedi gweithio i sefydliadau sy’n amrywio o Astra Zeneca i Zurich Financial Services drwy Google a’r Cenhedloedd Unedig.

Ers dros 15 mlynedd, mae ei ymyriadau wedi canolbwyntio ar greu gallu mewn sefydliadau, i sicrhau canlyniadau drwy arwain o safon byd. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd y gwasanaeth ymgynghori Collaboration Partners, sy’n arbenigo mewn helpu sefydliadau i gydweithio’n well.

Mae’n un o siaradwyr mwyaf poblogaidd Ewrop ar arweinyddiaeth. Ef yw awdur ‘The Connected Leader’ a gyhoeddwyd gan Kogan Page, llyfr a werthodd yn eithriadol o dda yn y DU ac yn yr Unol Daleithiau, a hefyd ‘LeaderShift’ a ‘Follow the Leader’. Cafodd ei lyfr diweddaraf ‘Disciplined Collaboration’ ei gyhoeddi gan Urbane yn 2016.Mae ei lyfrau wedi ei sefydlu fel un o feddylwyr mwyaf blaenllaw ei oes o ran modelau arwain newydd.

Yr Athro Binna Kandola OBE

Mae’r arbenigwr mewn amrywiaeth, asesu a datblygu, yr Athro Binna Kandola, yn Seicolegydd Busnes, yn Uwch Bartner ac yn un o sylfaenwyr Pearn Kandola. Dros y tri deg o flynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio yno ar amrywiaeth eang o brosiectau ar gyfer cleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat yn y DU a dramor.

Yn ogystal ag arwain y practis, mae gan Binna ddiddordeb penodol mewn astudio’r gogwydd rhwng y rhywiau a gogwydd anymwybodol mewn sefydliadau. Mae wedi ysgrifennu dau lyfr ar y pwnc yma sydd wedi ennill clod gan feirniaid - 'The Invention of Difference: The story of gender bias at work' a 'The Value of Difference: Eliminating bias in organisations'. Cafodd ei lyfr diweddaraf ‘Racism at Work: The Danger of Indifference’ ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2018 ac mae eisoes wedi cael llawer o ganmoliaeth. Mae hefyd yn gyd-awdur nifer o lyfrau rheoli eraill, ac roedd un ohonyn nhw 'Managing the Mosaic' wedi ennill Clod Arbennig yng Ngwobrau Llyfr Rheoli’r Flwyddyn 1994. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd at y wasg adnoddau dynol a busnes ac mae’n siaradwr poblogaidd ac uchel ei barch mewn cynadleddau. Yn fwyaf diweddar roedd wedi siarad yn y digwyddiad Biased Science yn y Sefydliad Brenhinol.

Binna oedd Cadeirydd cyntaf y Pwyllgor Sefydlog dros Hybu Cyfle Cyfartal yng Nghymdeithas Seicolegol Prydain ac mae’n aelod o Banel Syr Robin Butler yn yr Ymchwiliad i Gyfle Cyfartal yn yr Uwch Wasanaeth Sifil. Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Seicolegol Prydain, ac yn 2002 cafodd ei ethol yn Gadeirydd yr Is-adran Seicoleg Alwedigaethol. Ym mis Ionawr 2004, cafodd Binna ei wahodd i ymuno â Phanel Cenedlaethol Llywodraeth y DU ar Gyflogaeth a chafodd ei benodi yn Gadeirydd y Grwp Lleiafrifoedd Ethnig. Ar hyn o bryd mae’n Athro gwadd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Leeds ac Ysgol Fusnes Prifysgol Aston. Yn 2012 cyflwynodd Prifysgol Aston DSc Er Anrhydedd iddo - Doethur Gwyddoniaeth. Mae’n olygydd ymgynghorol ar gyfer y Journal of Occupational and Organisational Psychology ac yn aelod o fwrdd golygyddol Development and Learning in Organisations. Mae’n cyfrannu’n rheolaidd at y cyfryngau ac mae wedi ymddangos ar Sky News, BBC Breakfast, Channel 4 News a'r Today Show ar Radio 4.

Mae’n Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, a chafodd ei gydnabod yn 2004 gan The Independent on Sunday fel un o’r Deg Seicolegydd Busnes Gorau yn y DU. Cafodd yr Athro Binna Kandola OBE yn 2008 am ei wasanaethau i Bobl Ddifreintiedig ac Amrywiaeth.

Yr Athro Catherine Needham

Mae Catherine yn Athro Polisi Cyhoeddus a Rheolaeth Gyhoeddus yn y Ganolfan Rheoli Gwasanaethau Iechyd, Prifysgol Birmingham. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddau brif faes:

  1. gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus (rolau, sgiliau a gwerthoedd) a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Was Cyhoeddus yn yr 21ain Ganrif. Mae ei hymchwil wedi cael ei ddefnyddio’n eang mewn hyfforddiant ar gyfer gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus.
  2. gofal cymdeithasol (gan gynnwys personoli, cydgynhyrchu, cyllidebau personol, pobl hyn, y gweithlu gofal, marchnadoedd gofal).

Mae hi wedi cyhoeddi ystod eang o erthyglau, penodau a llyfrau ar gyfer cynulleidfaoedd o ymarferwyr ac academyddion, ac roedd nifer ohonyn nhw’n canolbwyntio ar ofal cymdeithasol a gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus. Cafodd ei llyfr diweddaraf ei gyhoeddi yn 2018 o’r enw ‘Reimaging the Public Service Workforce.’ Mae hi’n trydar ar @DrCNeedham.

Ymunodd Catherine â Phrifysgol Birmingham yn 2012 ar ôl bod yn gweithio i’r strategydd gwleidyddol Philip Gould ac fel Darlithydd yn Ysgol Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Queen Mary, Prifysgol Llundain.

Mae ei hagenda ymchwil yn cynnwys diddordeb eang mewn diwygio gwasanaethau cyhoeddus, gyda phwyslais penodol ar gyflwyno modelau prynwriaethol o gyflenwi gwasanaethau. Mae hi wedi dadansoddi polisïau mewn ffordd ddeongliadol, mae hi wedi edrych ar y ‘naratifau prynwriaethol’ gwahanol sydd mewn diwygiadau lles diweddar yn y DU.

Mae ei hymchwil gofal cymdeithasol diweddaraf wedi canolbwyntio ar farchnadoedd gofal a phersonoli gwasanaethau cyhoeddus, gan archwilio’r berthynas rhwng meta-naratif personoli ac ymarfer rheng flaen ail ddylunio gwasanaeth. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn cyllidebau unigol mewn gwasanaethau cyhoeddus, a’r ddeinameg o ran ail siapio darpariaeth gwasanaeth. Mae hi hefyd yn archwilio sut mae mecanweithiau a syniadau polisi yn lledaenu ar draws sectorau gwasanaeth gwahanol, gan ddefnyddio theorïau trosglwyddo a throsi.