English

Ysgol Aeaf Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan 2019

Cynulleidfa:

Lefelau arweinyddiaeth uchaf ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru

Dyddiad:

5 i 8 Chwefror 2019, Preswyl

Lleoliad:

Nant Gwrtheyrn, North Wales

Cost:

£500 + TAW

Trosolwg

Am yr wythfed flwyddyn o’r bron mae’n bleser gennym gyhoeddi’r Ysgol Aeaf flynyddol i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Gan adeiladu ar ei llwyddiant ers 2011, rydyn ni wedi dylunio’r rhaglen yn benodol i ddiwallu anghenion datblygu allweddol uwch arweinwyr Cymru, a’r rheini sy’n gweithio yn nhair haen uchaf gwasanaethau cyhoeddus a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar 'Yr Her Arweinyddiaeth – o’r effeithlon i’r eithriadol'.

Manteision i chi

Mae'r rhaglen 'ymestyn' unigryw yma'n gyfle i adolygu a gloywi eich sgiliau presennol a dysgu am arferion arwain arloesol. Byddwch yn edrych ar ffyrdd newydd o 'gyflawni busnes' gan ddefnyddio cyfoeth o wybodaeth a phrofiad byd-eang.

Mae'r digwyddiad dysgu preswyl hwn yn cael ei gynnal yn Nant Gwrtheyrn, canolfan iaith yng Ngogledd Cymru.

"Mae gwybodaeth sy’n ysbrydoli, yn procio’r meddwl ac yn dadansoddi cymhelliant yn eich arfogi i anelu am wir newid. Ar ôl yr Ysgol Aeaf does dim esgus, yr unig rwystr fydd ar ôl fydd chi eich hun." Hosbis Dewi Sant

"Profiad dysgu gwych gyda phobl gwych. Roedd gallu cael seibiant o’r gwaith pob dydd a chael amser i feddwl yn eithriadol o fuddiol i mi." Heddlu Dyfed Powys

"Ardderchog! Cwrs ymarferol gwych sy’n rhoi cyfleoedd i rwydweithio gydag eraill i ategu neu herio’ch syniadau." Cyngor Sir Ddinbych

Siaradwyr

Mae siaradwyr 2019 yn cynnwys:

Mae rhagor o wybodaeth amdanynt ar gael yn yr adran siaradwyr Ysgol Aeaf 2019.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer y lefelau arweinyddiaeth uchaf ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru (er enghraifft, uwch weision sifil, prif weithredwyr neu gyfatebol). Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael yn y cyfle hwn a byddant yn cael eu dyfarnu drwy broses ymgeisio.

Cost

Y gost am fynychu’r Ysgol Aeaf yw £500 + TAW. Mae hyn yn cynnwys cyfraniad at y costau dysgu ar gyfer y digwyddiad. Mae cymorth llawn gyda’r costau llety a bwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffi yma.

Ni fydd y rhaglen yn talu eich costau teithio. Gall llefydd bwrsari fod ar gael ar gais i sefydliadau yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol.

Cofiwch: Os byddwch yn cael lle ar y rhaglen ac wedyn yn penderfynu tynnu’n ôl, bydd Academi Wales yn cadw’r hawl i godi cost lawn y rhaglen ar eich sefydliad. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Dewisiadau llety - gan gynnwys disgowntiau

Mae nifer y ceisiadau rydyn ni’n eu cael ar gyfer yr Ysgol Aeaf yn llawer mwy na'n disgwyliadau o ran safon a chyfanswm.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, a helpu sefydliadau gyda'u prosesau dethol mewnol a'r galw posibl am leoedd, gallwn gynnig y dewisiadau canlynol ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf er mwyn cynyddu'r lleoedd sy’n cael eu dyrannu.

Sut i wneud cais

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael a byddant yn cael eu dyfarnu drwy broses ddethol gystadleuol.

Mae ceisiadau nawr ar gau. Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio a ticiwch Cynadleddau ac ysgolion.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi ein e-bost at Ysgol Aeaf neu ffonio ni ar 03000 256 687.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.