English

Cynhadledd Coetsio 2019 - mwy o wybodaeth

Cadeirydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Wedi cymhwyso yn yr India, symudodd Pritpal i’r DU, ac ers 2004 mae wedi bod yn gweithio fel Ymgynghorydd Seiciatrydd o fewn tîm iechyd meddwl Cymunedol Ysbyty Wrecsam Maelor. Mae wedi cael nifer o rolau addysgol fel trefnydd gwaith ôl-raddio yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, ac fel Arweinydd Perfformiad ar gyfer hyfforddiant mewn Seiciatryddiaeth yng Nghymru.

Ochr yn ochr â’i waith clinigol ar hyn o bryd, mae Pritpal yn aelod gweithredol ac arweinydd mentora yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, Aseswr Iechyd a Goruchwyliwr Meddygol ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ac yn hyfforddwr gweithredol gyda’r Welsh Coaching Collaborative. Mae ganddo ddiddordeb oesol yn y cysylltiad rhwng personoliaeth, dysgu a newid ymddygiad.

Hyfforddwr meistr NLP a hyfforddwr sydd wedi’i achredu’n rhyngwladol

Cenhadaeth ac angerdd Sharon yw helpu pobl i fod y gorau allant fod. Gyda chefndir corfforaethol, mae Sharon wedi bod yn Cyflwyno Rhaglenni Proffesiynol Niwro Ieithyddol a Rhaglenni Hyfforddi i’r sector Gyhoeddus a’r Sector Preifat ers 2003.

Mae Sharon yn Aelod Cofrestredig, Seicotherapydd Archededig a Goruchwyliwr gyda NLPtCA ers 2011. Gweithredodd ar fwrdd yr NLPtCA am 7 mlynedd a bu’n Gadeirydd am 3 mlynedd. Mae hi’n Weithredwr o’r Constructivist & Existentialist College. Mae’n is-gadeirydd Pwyllgor UKCP Moeseg. Roedd y proses recriwtio a dewis ar gyfer y Pwyllgor Moeseg wedi digwydd ar-lein gan fod Sharon yng Nghanada; yn derbyn hyfforddiant pellach mewn Satir Systemic Psychotherapy, gan ddod y person cyntaf yn y DU i gymhwyso ar Lefel II.

Gydag athroniaeth cerdded a siarad, mae Sharon yn parhau i ddysgu ac yn astudio ar gyfer gradd MSc mewn Trawma Ffisiolegol.

Cyfarwyddwr, OMH Coaching and Supervision

Mary Coetsiwr a goruchwyliwr coetsio cymwysedig yw Mary Hughes, sy’n datblygu o hyd wrth sylwi ar sut mae ei gwaith yn gweddu i’r gymdeithas amrywiaethol a chysylltiedig sydd ohoni. Gan feddwl yn berthynol, mae hi’n rhoi pwys mawr ar gysylltiadau, ac mae straeon yn rhoi strwythur iddi allu gwneud synnwyr o bethau a chwilio am ystyr. Mae bod yn greadigol wedi bod o fudd iddi hi (ac eraill y mae hi wedi gweithio gyda nhw) dros y blynyddoedd, ac mae’n nodwedd o’i haddewid i dalu sylw manwl mewn ffordd ddiamod, a diduedd. Caiff ei gwobrwyo pan fydd synnwyr yn codi o’r düwch a’r dwli, gan ryddhau cleientiaid o’u terfynau.

Mae ganddi 12 mlynedd o brofiad fel coetsiwr sector gyhoeddus fewnol a llawrydd, ac yn oruchwyliwr coetsio am dair o’r rheiny. Mae wedi rhoi cefnogaeth i waith ymchwil academaidd, ac mae hi’n rhwydweithiwr o fri, yn helpu i drefnu cymunedau o goetswyr yng Nghymru a thu hwnt a’u cysylltu â’i gilydd. Mae Mary yn Gymrawd Prifysgol De Cymru, ac yn cynnig goruchwyliaeth a chefnogaeth coetsio i Ganolfan Coetsio Cymru. Mae hi’n un o Gymrodyr Gray’s Learning, ac mae ganddi gleientiaid coetsio a goruchwylio. Hi yw goruchwyliwr mewnol un o Gymdeithas Tai amlycaf y Deyrnas Unedig, ac mae galw cynyddol arni i adolygu cyhoeddiadau coetsio, cynllunio gweithdai coetsio (a rhai perthnasol) a sgrifennu ar gyfer cyfnodolion.

Cyngor Sir Powys

Mae ei swydd yn cefnogi dyluniad a datblygiad Cyngor Sir Powys drwy hwyluso Rhaglen Arweinyddiaeth Lefel 3 ILM, datblygu a chefnogi hyfforddi, datblygu timau a sesiynau ymyrryd tîm wedi eu teilwra, rhaglenni sefydlu rheolwyr, cefnogi rheoli gwybodaeth a rhaglenni datblygu’r gweithlu.

Yn ei swydd, mae Helen yn arwain ar ddatblygu Cronfa Hyfforddi Busnes Powys er mwyn helpu hyfforddwyr i rannu arfer da, cynnal eu sgiliau hyfforddi a chael eu goruchwylio. Enillodd Helen ei chymhwyster Lefel 7 Hyfforddi a Mentora ILM yn 2012 ac mae’n frwdfrydig wrth hyrwyddo’r hyn y gall hyfforddi ei gynnig.

Mae Helen yn cynnal cwrs undydd o’r enw ‘Sgyrsiau am Hyfforddi ar gyfer Rheolwyr’ er mwyn ceisio annog rheolwyr i roi cyfle i’w gweithwyr greu eu hatebion eu hunain wrth ddefnyddio cwestiynau hyfforddi fel rhan o gylch gwaith arweinyddiaeth. Mae Helen hefyd yn gyfrifol am oruchwylio’r broses o baru hyfforddwyr a hyfforddeion yn y sefydliad, gan ofalu rhoi’r hyfforddai cywir gyda’r hyfforddwr cywir er mwyn cael y fantais fwyaf o’r berthynas. Mae pawb sydd wedi cofrestru ar raglen Lefel 5 ILM yn cael gweithio gyda hyfforddwr.

Cyngor Sir Powys

Wrth ei gwaith bob dydd mae Sue yn arbenigwraig Cyfathrebu ac Ymgysylltu ac mae’n hyfforddwraig gymwys a enillodd ei chymhwyster Lefel 5 Hyfforddi a Mentora ILM yn 2015 ar ôl iddi orfod ailgyflwyno ei haseiniad gan nad oedd digon o dystiolaeth o oruchwylio ganddi i basio.

Arweiniodd y profiad hwn at Sue yn cyflwyno cynnig i uwch-gydweithiwr yn y tîm Datblygu Sefydliadol a Datblygu’r Gweithlu i ystyried sut i gryfhau goruchwyliaeth hyfforddi ar gyfer pob hyfforddwr cymwys a’r rhai sy’n hyfforddi er mwyn cefnogi eu datblygiad parhaus.

Bachodd Sue ar y cyfle i wneud cwrs pum diwrnod arall mewn goruchwylio hyfforddi oedd yn cael ei gynnal gan ECF Training and Coaching a’i gymeradwyo gan ILM yn 2016. Mae hyn wedi arwain at ddull a gytunwyd arno gyda Chyngor Sir Powys ble mae pob hyfforddwr yn cael goruchwyliaeth un i un ddwywaith y flwyddyn gan ddefnyddio modelau achrededig fel Model Saith Llygad Peter Hawkins a Robin Shohet a chwestiynau goruchwylio Peter Hill. Mae Sue yn grediniol bod hyfforddi yn gweithio ac mae nawr yn parhau ar ei siwrne drwy astudio gradd Meistr mewn Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol a Seicoleg Hyfforddi o hirbell drwy Brifysgol Dwyrain Llundain er mwyn ychwanegu rhagor o offer a thechnegau at ei set o sgiliau hyfforddi.