English

Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2023

Cynulleidfa
Y tair lefel uchaf o arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru

Dyddiadau
7 i 10 Chwefror 2023 Preswyl
Dyddiad cau: 7 Rhagfyr 2022

Cost
£500 + TAW

'Cefnogi arweinwyr heddiw i greu yfory mwy disglair i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru - dathlu’r 10 mlynedd'

Trosolwg

Am y drydedd flwyddyn ar ddeg yn olynol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, a fydd yn dychwelyd fel digwyddiad preswyl byw yn lleoliad prydferth Nant Gwrtheyrn yng ngogledd Cymru.

Gan adeiladu ar ei llwyddiant ers 2011, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio’n benodol mewn ymateb i anghenion datblygu allweddol arweinwyr uchaf Cymru, a’r rhai hynny sy’n gweithio yn nhair haen uchaf gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol Cymru.

Gan dynnu ar wybodaeth ac arbenigedd cymuned enwog o siaradwyr rhyngwladol, thema gyffredinol yr Ysgol Aeaf eleni fydd ‘cefnogi arweinwyr heddiw i greu yfory mwy disglair i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru - dathlu’r 10 mlynedd’.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Bydd y rhaglen 'ymestyn' 4 diwrnod unigryw hon yn rhoi cyfle i chi adolygu ac adnewyddu eich sgiliau presennol a chael cipolwg ar arferion arwain blaengar. Byddwch yn archwilio ffyrdd arloesol o 'gyflawni'r busnes', gan ddefnyddio cyfoeth o wybodaeth a phrofiad byd-eang.

Fel rhan o ddathliadau Academi Wales yn 10 oed, mae’r thema ar gyfer Ysgol Aeaf 2023 yn cyfleu uchafbwyntiau rhaglenni’r Ysgol Aeaf dros y 10 mlynedd diwethaf.

Barn cynadleddwyr Ysgol Aeaf 2022 oedd:

"Roedd yn gwrs dwys a ffeindiais i fy hun allan o’m man cysurus nifer o weithiau, ond fe wnes i dal ei fwynhau'n fawr ac roedd yn ysgogol i’r meddwl. Roedd hi hefyd yn braf rhwydweithio ar ôl amser hir o beidio â gwneud hynny, er ar-lein."

"Er yn rhithwir, roedd Ysgol Aeaf Academi Wales yn brofiad dysgu gwych. Roedden nhw wir wedi meddwl am y rhaglen a sut i saernïo profiad dysgu unigryw. Fel uwch arweinydd, roedd yn braf cael treulio amser i ffwrdd ac i ganolbwyntio ar fy arweinyddiaeth."

"Roeddwn i’n poeni am fod i ffwrdd o’r busnes am bedwar diwrnod, fodd bynnag, fe wnaeth bod i ffwrdd o’r busnes a gweithio ar y busnes helpu’n fawr"

Ymhlith y siaradwyr mae

Dysgwch fwy am y sesiynau a'r siaradwyr. Cyhoeddir rhagor o siaradwyr maes o law.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer y tair lefel uchaf o arweinyddiaeth o bob rhan o'r sector cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru (e.e. uwch weision sifil, prif weithredwyr, cyfarwyddwyr gweithredol, swyddogion anweithredol neu gyfwerth).

Prin yw'r llefydd sydd ar gael ar gyfer y cyfle hwn, ac fe'u dyfernir drwy broses ymgeisio.

Cost

Y gost am fynychu’r Ysgol Aeaf yw £500 + TAW. Mae hyn yn cynnwys cyfraniad at y costau dysgu ar gyfer y digwyddiad. Mae cymorth llawn gyda’r costau llety a bwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffi yma. Ni fydd y rhaglen yn talu eich costau teithio.

Nodwch, os cewch le yn yr Ysgol Aeaf ac yna tynnu’n ôl o’r rhaglen ar ôl derbyn, efallai y bydd yn ofynnol i’ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Sut i wneud cais

Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol. Dyfernir lleoedd i’r ymgeiswyr hynny sy’n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy’n gallu dangos y byddant yn dychwelyd ar fuddsoddiad.

Ni fu dangos elw ar fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni.  Nid yw adenillion ar fuddsoddiad yn ymwneud ag enillion ariannol yn unig. Effaith gynaliadwy'r dysgu i chi a'ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio drwy gyfnod heriol ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i'w canlyniadau sefydliadol.

I wneud cais am le, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein hon yn nodi eich bwriadau gyda golwg ar fynychu'r digwyddiad, erbyn 7 Rhagfyr 2022.

Cadwch y dyddiadau’n rhydd nes ein bod yn cadarnhau canlyniad eich cais. 

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.