English

Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2024

Cynulleidfa
Y dwy lefel uchaf o arweinwyr yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru

Dyddiadau
27 Chwefror i 1 Mawrth 2024 Preswyl
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22 Ionawr 2024

Cost
£600 + TAW

Arweinyddiaeth Edrych Tua’r Dyfodol mewn Byd Cymhleth

Trosolwg

Mae Academi Wales yn falch iawn bod yr Ysgol Aeaf yn dychwelyd i leoliad hyfryd Nant Gwrtheyrn ar gyfer 2024.

Gan adeiladu ar ei llwyddiant ers 2011, mae’r rhaglen eleni wedi’i chynllunio i ddiwallu prif anghenion datblygu uwch arweinwyr Cymru, yn benodol y rhai sy’n gweithio yn nwy haen uchaf sefydliadau’r sector cyhoeddus a gwirfoddol.

Ein nod ar gyfer Ysgol Aeaf 2024 yw darparu dulliau newydd, arloesol i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â’r gofod, fel y gallan nhw fynd ati i ddatrys heriau cymhleth y byd go iawn. Rydym yn byw mewn byd o gymhlethdod ac argyfyngau systemig sy’n creu heriau a all ymddangos yn rhy fawr i arweinwyr ddod o hyd i ffordd trwyddynt.

Gan weithio ar y cyd â Choleg Prifysgol Llundain a North Star Transition, rydym wedi cynllunio arweinyddiaeth systemau sy’n canolbwyntio are y dyfodol i roi ffyrdd i gefnogi arweinwyr i fynd i’r afael â’u heriau anoddaf. Bydd Ysgol Aeaf 2024 yn rhoi cyfle i herio eich arweinyddiaeth ac ehangu eich effaith.

Rydyn ni’n byw mewn byd o gymhlethdod ac argyfyngau systemig sy’n creu heriau a all ymddangos yn rhy fawr i arweinwyr ddod o hyd i ffordd drwyddyn nhw. Rydyn ni’n cael ein hunain yn ‘ymladd tân’ pan wyddom fod angen newid cynaliadwy go iawn. Dewch â’ch her i’r Ysgol Aeaf breswyl a 4 diwrnod hon a’i rhannu ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill ac arbenigwyr mewn newid systemig. Dychmygwch allu dylanwadu ar y system yn y fath fodd fel bod yr heriau rydych chi’n eu hwynebu yn eich sefydliad, a gaiff eu rhannu yn aml iawn gan arweinwyr mewn sectorau eraill, yn dechrau alinio mewn ffordd sy’n eich galluogi i ddod o hyd i ffordd drwodd gyda’ch gilydd, gan bwysleisio pŵer meithrin cysylltiadau â’ch cyfoedion. Mae Ysgol Aeaf 2024 yn rhoi cyfle i herio eich arweinyddiaeth ac ehangu eich effaith.

Byddwch yn ymchwilio i’r ddamcaniaeth pam mae cydweithio’n bwysig ac yn archwilio ffyrdd arloesol o gydweithio. Byddwch yn ymarfer dulliau newydd ac yn dod o hyd i offer i edrych y tu hwnt i’r hyn y gallwch ei weld, ei wybod a’i wneud ar unwaith. Byddwch yn archwilio heriau ac yn creu mewnwelediadau a chysylltiadau newydd i rannau eraill o’r system a fydd yn eich galluogi i fod yn flaengar ac yn ymatebol, gan weithredu o safbwynt mwy cydweithredol. Bydd yn cynnig cyfle i chi ehangu eich rhwydwaith y tu hwnt i’r gwasanaeth rydych chi’n gweithio ynddo, yn ogystal â chynyddu eich gwelededd fel arweinydd yn y sector cyhoeddus.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r gymuned ddysgu ddeinamig hon sy’n cynnig cyfleoedd i ymgysylltu a chydweithio y tu hwnt i’r Ysgol Aeaf, gan edrych ar sut y gallwch chi wreiddio cydweithredu i ddyfodol eich sefydliad, cwblhewch y ffurflen gais erbyn 22 Ionawr 2024.

I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Rhannwch eich her gydag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill Cymru ac arbenigwyr mewn newid systemig. Dychmygwch allu dylanwadu ar y system yn y fath fodd fel bod yr heriau rydych chi’n eu hwynebu yn eich sefydliad, y mae arweinwyr mewn sectorau eraill yn eu hwynebu’n aml iawn hefyd, yn dechrau alinio mewn ffordd sy’n eich galluogi i ddod o hyd i ffordd drwodd gyda’ch gilydd, gan bwysleisio pŵer meithrin cysylltiadau â’ch cyfoedion.

Bydd cymuned ddysgu ddeinamig yr Ysgol Aeaf yn rhoi cyfle i chi:

  • Ddatblygu eich dealltwriaeth o sut i fod yn arweinydd traws-sector mwy cydweithredol ar lefel systemig
  • Rhannu eich her, datblygu eich meddylfryd, archwilio modelau a dulliau ymarferol i’ch cefnogi i ddylanwadu ar y system o’ch cwmpas
  • Gwella eich gwybodaeth a’ch arbenigedd o heriau systemau cymhleth ac ecosystem sector cyhoeddus Cymru
  • Cryfhau eich rhwydwaith o gymheiriaid yn y sector cyhoeddus, gan eich galluogi i gydweithio a chwalu seilos ar draws y sector cyhoeddus
  • Yn y pen draw, cael eich ysbrydoli i gyflawni gwelliannau mesuradwy o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus

Barn cynadleddwyr Ysgol Aeaf 2023 oedd:

“Mae cymryd amser i ganolbwyntio ar eich dull o arwain yn hanfodol i allu arwain yn dda, ac mae’r Ysgol Aeaf yn eich galluogi i wneud hynny gydag unigolion o’r un anian mewn man diogel. Mae’n dda i’r meddwl, y corff a’r enaid – byddaf yn arweinydd gwell ar ôl gwneud y mwyaf o’r amser hwn i ffwrdd.”

“Wythnos wych gyda phobl wych. Fe wnaeth fy nysgu ei bod hi’n iawn bod yn ddynol yn eich dull o arwain.”

“Yr Ysgol Aeaf yw’r rhaglen arweinyddiaeth orau i mi ei gwneud erioed. Mae’r rhaglen o siaradwyr o safon fyd-eang, ac mae’r cyfle i gysylltu ag uwch arweinwyr o wasanaethau cyhoeddus Cymru heb ei ail. Dwi wedi dysgu cymaint, wedi gwneud ffrindiau gwych, ac yn gadael wedi fy ysbrydoli. Dydw i erioed wedi cael cymaint o fudd o rywbeth ac mor lwcus o gael profiad o’r fath.”

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer y dwy lefel uchaf o arweinyddiaeth o bob rhan o'r sector cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru (e.e. uwch weision sifil, prif weithredwyr, cyfarwyddwyr gweithredol neu gyfwerth).

Cost

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ac mae’r ffi o £600 + TAW yn cynnwys yr holl ddarpariaeth dysgu a datblygu, llety un ddeiliadaeth ar y safle a’r bwrdd llawn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyfarwyddiadau ymuno unwaith y byddan nhw wedi derbyn eu lle.

Ni fydd y rhaglen yn talu eich costau teithio.

Nodwch, os cewch le yn yr Ysgol Aeaf ac yna tynnu’n ôl o’r rhaglen ar ôl derbyn, efallai y bydd yn ofynnol i’ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Bwrsariaethau

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau o hyd at 100% tuag at gost cynrychiolwyr Ysgol Aeaf 2024. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, yn lleiafrif, ac yn ddifreintiedig a/neu lle mae gan sefydliad gyllid cyfyngedig.

I wneud cais am fwrsariaeth

Darparwch dystiolaeth eich bod yn bodloni’r cymhwyster (50 i 100 gair). Mae angen i'ch ymateb gyd-fynd â'r meini prawf isod:

  • Rydych chi’n rhan o grŵp sy’n cael ei dangynrychioli, yn lleiafrif neu’n ddifreintiedig o fewn eich sefydliad, a/neu lle mae gan eich sefydliad gyllid cyfyngedig.
  • Maint eich sefydliad.
  • Gwerth y bwrsari rydych chi’n gwneud cais amdano.

Sut i wneud cais

Mae Academi Wales yn arfogi arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r rhwydweithiau i ddatrys y problemau mwyaf cymhleth sy’n bodoli heddiw. Ochr yn ochr â’r sgiliau a’r wybodaeth rydym yn gobeithio y bydd y cwrs hwn yn eu rhoi i chi, rydym yn awyddus i bwysleisio pŵer meithrin cysylltiadau â’ch cyfoedion yn yr ystafell. 

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol, gyda chynrychiolwyr yn cael eu dewis o bob rhan o’r sector cyhoeddus i alluogi ystod eang o safbwyntiau yn yr ystafell ac i’ch cefnogi i gryfhau eich rhwydweithiau proffesiynol. Dyfernir llefydd i’r ymgeiswyr hynny sy’n dod â her gymhleth systemig am gymryd rhan yn yr Ysgol Aeaf ac sy’n gallu dangos tystiolaeth o gael gwerth o fuddsoddiad.

Ni fu dangos gwerth o fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni. Nid elw ariannol yn unig yw gwerth o fuddsoddiad. Dyma effaith gynaliadwy'r dysgu i chi a’ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae’n arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio drwy gyfnodau heriol ac sy’n ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i’w canlyniadau sefydliadol ar lefel systemig.

I wneud cais am le, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein gan rannu eich her systemig gymhleth erbyn 22 Ionawr 2024.

Cadwch y dyddiadau’n rhydd yn eich calendr hyd nes y byddwn yn cadarnhau canlyniad eich cais.

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.