English

Ysgol Haf Rithwir Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan 2020

Trosolwg

Nawr yn ei 15fed flwyddyn, rydym yn falch iawn o gyhoeddi eleni y byddwn yn cynnal Ysgol Haf rithwir, gan edrych yn ôl ar y cyfoeth o brif siaradwyr ysbrydoledig a thalentog o ddigwyddiadau'r gorffennol, i greu Ysgol Haf a gynlluniwyd i gefnogi ein hanghenion arweinyddiaeth a dysgu yn y sefyllfa bresennol.

Mae'r Ysgol Haf rithwir yn dechrau am hanner dydd ddydd Llun 22 Mehefin ac yn gorffen am hanner dydd ddydd Gwener 26 Mehefin. Gallwch gyrchu'r digwyddiad rhithwir trwy wefan Academi Wales yn rhad ac am ddim.

Bydd y rhaglen ddyddiol yn cynnwys sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw yn bennaf, felly nid oes angen i chi wneud cais fel mewn blynyddoedd blaenorol ac nid yw niferoedd y sesiynau wedi'u cyfyngu; byddwch yn gallu cyrchu'r cynnwys ar adeg sy'n gyfleus i chi ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan bob dydd na gwylio pob sesiwn. Bydd pob sesiwn gyweirnod yn cynnwys cyflwyniad wedi'i recordio ymlaen llaw gan aelod o fwrdd cynghori Academi Wales.

Rydym yn croesawu'r cyfle i gefnogi ein cydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a gobeithiwn y bydd ein Hysgol Haf rithwir gyntaf erioed yn bleserus ac yn ddiddorol!

Manteision i chi

Cynlluniwyd ein Hysgol Haf rithwir i roi cyfle i chi adolygu ac adnewyddu eich sgiliau, meithrin gwybodaeth newydd a chael mewnwelediadau i'ch ymarfer arwain. Byddwch yn cael cyfle i archwilio ffyrdd arloesol o ‘gyflawni’r busnes’, gan dynnu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad byd-eang.

Rhith siaradwyr

Bydd siaradwyr rhithwir Ysgol Haf ar gyfer 2020 yn cynnwys:

Darganfyddwch fwy am y siaradwyr yn yr adran siaradwyr Ysgol Haf Rithwir 2020.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. Byddwch yn elwa fwyaf o’r Ysgol Haf os ydych yn uwch reolwr neu’n arweinydd sy’n dylanwadu ac yn siapio cyflwyno gwasanaethau, ac wedi ymroi i arwain newidiadau.

Mae rhai o'n sesiynau siaradwyr ar gael i'r cyhoedd drwy ein sianel YouTube.

Cost

Nid oes unrhyw gost ar gyfer y digwyddiad hwn.

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi cofrestru ar wefan Academi Wales er mwyn gweld y rhan fwyaf o'r sesiynau Ysgol Haf. Gallwch ymaelodi os ydych yn gweithio mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru.

Cwestiynau cyffredin

Oes angen gwneud cais?

Nid oes angen i chi wneud cais am Ysgol Haf Rithwir eleni. Cofrestrwch ar ein gwefan i greu cyfrif a byddwch yn gallu gwylio ein sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw wrth i ni eu cyhoeddi bob dydd.

Rydym hefyd yn cynnal rhai sesiynau ar-lein byw yn ystod yr Ysgol Haf - gallwch ddod o hyd iddynt ar ein tudalen digwyddiadau ar y gweill. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif ac yna gwneud cais am bob un o'r sesiynau yr hoffech chi ymuno.

Mae gan ein sesiynau byw leoedd cyfyngedig, a byddwn yn derbyn ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin.

Beth yw'r amserlen?

Nid oes amserlen gaeth - bob dydd byddwn yn rhestru sawl sesiwn wedi'i churadu sy'n gysylltiedig â thema'r gynhadledd, a gallwch wylio pa bynnag sesiynau sydd o ddiddordeb i chi ar amser sy'n fwyaf addas i chi

Bydd yna gymysgedd o sesiynau hen a newydd - gallwch chi eisoes weld llawer o'n prif siaradwyr yn ein Adnoddau Dysgu

Oes angen cymryd amser bant o'r gwaith i gymryd rhan?

Nid yw'r Ysgol Haf yn gofyn i chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith - rydym wedi'i ddylunio fel y gallwch gael mynediad iddo pryd bynnag y mae'n gyfleus i chi