English

Ysgol Haf Rithwir 2020 - siaradwyr

Cadeirydd a siaradwyr

Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Dechreuodd Ian ei swydd fel Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam ym mis Awst 2018 ac am y pedair blynedd ar ddeg blaenorol bu’n gweithio ar lefel arweinyddiaeth uwch o fewn sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus mawr ym Manceinion Fwyaf, Glannau Merswy a Gogledd-ddwyrain Cymru. Yn fwyaf diweddar, ers 2014, bu hyn gyda Chyngor Sir y Fflint fel Prif Swyddog yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu nifer o raglenni strategol mawr.

Mae Ian wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'i nod yw gweithio gyda phartneriaid, cymunedau lleol a thrigolion i adeiladu a darparu gweledigaeth glir sy'n sicrhau canlyniadau rhagorol. Mae Ian wedi byw yn Wrecsam ers 17 mlynedd ac mae'n teimlo’n angerddol am y cyfleoedd cadarnhaol y mae Wrecsam a Chymru yn eu cynnig ar hyn o bryd a'r potensial ar gyfer y dyfodol.

Chris Bolton

Archwilio Cymru

Mae Chris wedi bod yn cyfrannu i Ysgol Haf Academi Wales ers amser hir, gan ddechrau fel cynrychiolydd yn 2018 a gweithredu fel hwylusydd a chynnal gweithdai dros y blynyddoedd.

Mae'n arwain y Tîm Cyfnewid Arfer Da yn Archwilio Cymru sy'n canolbwyntio ar rannu gwybodaeth ac ysbrydoli gwelliant mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn 2018 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Deithio Winston Churchill iddo ac ymwelodd â Gwlad y Basg yn Ne-ddwyrain Sbaen a Gogledd Ddwyrain yr Unol Daleithiau i edrych ar sut mae cydweithfeydd mawr yn gweithredu i gefnogi economi gynaliadwy a chymdeithas fywiog.

Mae Chris yn cynnal ei frwdfrydedd dros fentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol trwy swyddi Bwrdd gyda Chydweithfa Cartrefi Cymru a Chartrefi Cymoedd Merthyr.

Mae bob amser yn meddwl am gwestiynau; Pam mae pethau'n gweithio fel maen nhw'n ei wneud?, a Sut gallwn ni ei wella? Gallwch ddarllen mwy am hyn ar whatsthepont.blog.

Mae Amy yn teimlo’n angerddol dros gyflwyno’r neges bod gennych chi a’ch sefydliad botensial enfawr y gellir gwneud gwell defnydd ohono os ydych yn deall sut mae gweithio i’r eithaf gyda’ch ymennydd.

Gadawodd ysgol feddygol UCL i ddilyn gyrfa hyfforddi a daeth i ryfeddu at yr hyn y gall yr ymennydd ei ddysgu i ni er mwyn ein helpu i drawsnewid ein ffordd o feddwl a’n perfformiad.

Nawr mae cwmni Amy, Synaptic Potential, yn gweithio ar ymgynghori a hyfforddi gyda sefydliadau yn Ewrop, Asia ac Awstralia ac mae’n ymwneud â phrosiectau ymchwil gyda Phrifysgol Bangor er mwyn hyrwyddo beth gall niwro-wyddoniaeth ei gynnig i fusnesau yn ymarferol.

Hi yw awdur ‘Make Your Brain Work’ a ‘Neuroscience for Coaches’ a gyhoeddwyd gan Kogan Page ac ‘Engaged: The neuroscience behind creating productive people in successful organisations’ a gyhoeddwyd gan Palgrave Macmillan.

Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Mae Tracey wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol ag adfywio Cymru ac Iwerddon ers dros 20 mlynedd ac mae wedi gweithio i Lywodraeth Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Llywodraeth Iwerddon, Llywodraeth y DU yn ogystal â gweithio gyda'r Comisiwn Ewropeaidd.

Tracey yw Uwch Noddwr Rhwydwaith Menywod Ynghyd Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o ddarparu llais unedig ar gyfer materion menywod ar draws y sefydliad.

Ganwyd Tracey yn Sblot yng Nghaerdydd ac ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2006 pan symudodd o Awdurdod Datblygu Cymru. Ers hynny, mae Tracey wedi dal swyddi ym maes polisi economaidd a pholisi trafnidiaeth, yn ogystal â rôl strategol ehangach ar draws Grwp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol. Penodwyd Tracey i swydd Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Tachwedd 2017.

Sue Evans

Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn dilyn gyrfa amrywiol ym myd diwydiant ac yn y sector adwerthu, cymerodd Sue seibiant o waith cyflogedig i ddod yn ofalwr ac yn rhiant llawn-amser. Yna fe ailgydiodd yn ei haddysg uwch a bu'n gweithio gyda nifer o fudiadau gwirfoddol.

Ymunodd Sue â'r GIG ym 1992, gan symud o Feddygaeth Iechyd y Cyhoedd i amryw swyddi rheoli. Daeth profiad Sue yn y sector gwirfoddol â hi at flaen y gad o ran diwallu anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau. Fe daniodd hyn ei diddordeb mewn gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Roedd ei rolau blaenorol yn y GIG yn canolbwyntio ar gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd (sylfaenol, cymunedol, acíwt a thrydyddol) yn Ne Ddwyrain Cymru, gyda diddordeb arbennig yn y rhyngwyneb rhwng y GIG a sefydliadau allanol.

Rhwng 2006 a 2012, fy ymgymerodd Sue ag ystod o rolau fel Cyd-gyfarwyddwr a hithau'n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a chyflawni gweithredol ar gyfer ystod o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Roedd hyn yn cwmpasu rôl Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, a gadwodd fel Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Thai gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen tan fis Gorffennaf 2016, pan ddaeth hi’n Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae gan Sue ddiddordeb brwd mewn hyrwyddo pwysigrwydd rôl gofal cymdeithasol i helpu i ddiogelu a gwella bywydau pobl, trwy rymuso yn ogystal â chymorth. Mae Sue yn awyddus i ddefnyddio'i phrofiad hi ei hun o fod yn ofalwr di-dâl er mwyn helpu i sicrhau bod gofal cymdeithasol ledled Cymru yn canolbwyntio ar y dinesydd.

Mae Catherine yn academydd profiadol sydd yn weithredol mewn addysg ac ymchwil o fewn meysydd rheolaeth gyhoeddus ac arweinyddiaeth. Mae’n cyflwyno’r ddau gwrs byr a modiwlau wedi eu hachredu gan y Brifysgol.

Ar hyn o bryd, Catherine sydd yn arwain MSc Arweinyddiaeth Gyhoeddus Prifysgol Caerdydd a hefyd yr MSc Arweinyddiaeth a Llywodraethiant fel rhan o raglen Rheoli Gyhoeddus Cymru Gyfan i Raddedigion.

Mae gan Catherine ddiddordeb mewn byrddau cyhoeddus a’u llywodraethiant. Mae ei gwaith ymchwil presennol yn canolbwyntio ar lywodraethiant mewn gwasanaethau yn cynnwys addysg, tân ac achub.

Catherine yw Cadeirydd Bwrdd Cynghori Academi Wales a bu hefyd yn gadeirydd y grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Lywodraethu Ysgolion arbenigol Llywodraeth Cymru fu’n adolygu modelau llywodraethu mewn addysg.

Emmanuel Gobillot

Mae’n un o siaradwyr arweinyddiaeth prysuraf Ewrop; ef yw awdur ‘The Connected Leader’, llyfr a mynd mawr arno yn y DU a’r UD a gyhoeddwyd gan Kogan Page, a ‘LeaderShift’ a ‘Follow the Leader’. Cafodd ei lyfr diweddaraf, ‘Disciplined Collaboration’, ei gyhoeddi gan Urbane yn 2016. Mae ei lyfrau wedi’i sefydlu fel un o’r meddylwyr mwyaf blaenllaw ar fodelau.

Mae cefndir proffesiynol Ian ym maes datblygu nyrsio, addysg ac arweinyddiaeth. Gydag ugain mlynedd o brofiad hwyluso, hyfforddi a mentora amlsector, mae gan Ian hanes llwyddiannus o weithio gydag unigolion a thimau aml-broffesiynol i greu a meithrin perthnasoedd sy'n cynhyrchu canlyniadau effeithiol a newid pwrpasol.

Mae'n aelod gweithgar o Gyngor Mentora a Hyfforddi Ewrop, yn ogystal â Chymdeithas Hyfforddi'r DU, ac mae wedi cyflwyno llawer o bapurau arloesol ar arweinyddiaeth, hyfforddi a mentora mewn amrywiaeth o Gynadleddau yn y DU ac Ewrop. Mae Ian yn gweithio'n rhan-amser i Academi Wales, Llywodraeth Cymru ac mae hefyd yn rhedeg busnes hyfforddi ac ymgynghori; mae'n cael ei gydnabod am fabwysiadu dull gwybodus, creadigol sy'n seiliedig ar werthoedd tuag at ddatblygiad personol, proffesiynol a sefydliadol.

Keith Grint

Mae’r Athro Keith Grint yn Athro mewn Arwain a Rheoli Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Warwick.

Treuliodd yr Athro Grint ddeg mlynedd mewn diwydiant cyn troi at yrfa academaidd. Ar hyn o bryd mae’n Athro mewn Arwain a Rheoli Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Warwick. Ef yw Cyfarwyddwr Comisiwn Warwick.

Gynt, arferai addysgu ym Mhrifysgol Brunel a Phrifysgol Rhydychen, ac roedd ganddo gadeiriau ym Mhrifysgolion Caerhirfryn a Cranfield. Mae’n aelod o Sefydliad Sunningdale, yr Ysgol Lywodraethu Genedlaethol. Mae ei ymchwil yn ystyried arweinyddiaeth ym mhob un o’i ffurfiau.

Is-gadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Judith Hardisty yw Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ymunodd â’r Bwrdd fel Aelod Annibynnol yn 2016, gan ddod yn Is-gadeirydd yn Ionawr 2017.

Cyn ymuno â Hywel Dda fel Aelod Annibynnol, roedd Judith yn gyn Brif Weithredwr Cynorthwyol (Datblygiad Trefniadol) a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol/Gweithlu profiadol. Roedd ganddi dros 20 mlynedd o brofiad gweithio ar lefel Bwrdd gyda sawl corff o’r GIG a bron i 40 mlynedd o brofiad gyda’r GIG ar draws pob sector. Mae’n Gymrawd o’r CIPD.

Ymddeolodd Judith o’r GIG yn Rhagfyr 2015, ac mae hefyd yn aseswr allanol ar gyfer y Safonau Iechyd Corfforaethol, ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Academi Wales.

Mae Margaret yn entrepreneur ac yn awdur pum llyfr. Mae dros saith miliwn o bobl wedi gweld ei sgyrsiau TED. Hi yw arweinydd Rhaglen Arweinyddiaeth Gyfrifol y Forward Institute, a thrwy Merryck & Co., mae hi’n mentora prif weithredwyr ac uwch swyddogion gweithredol nifer o sefydliadau mawr byd eang. Mae ganddi ddoethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Caerfaddon ac mae’n parhau i ysgrifennu i’r Financial Times a’r Huffington Post.

https://www.mheffernan.com

Prif Weithredwr, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Dechreuodd Alex weithio yn y GIG fel hyfforddai rheoli graddedig ac mae wedi dal nifer o swyddi rheoli uwch ar draws De Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys naw mlynedd fel Cyfarwyddwr Cynllunio ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent.

Penodwyd Alex i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg pan y'i ffurfiwyd gyntaf yn 2009, fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, a chafodd ei wneud yn Brif Swyddog Gweithredu ym mis Ebrill 2012 gyda chyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ddarparu'r holl wasanaethau clinigol o fewn y Bwrdd Iechyd.

Wedi blwyddyn fel Prif Swyddog Gweithredol dros dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, penodwyd Alex yn Brif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ym mis Chwefror 2018, sydd â rôl arweiniol ym maes addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan ddod â thri sefydliad iechyd allweddol at ei gilydd sef; Deoniaeth Cymru, Gwasanaethau’r Addysgu a Datblygu Gweithlu’r GIG (WEDS), a Chanolfan Addysg Fferyllol Cymru i Raddedigion (WCPPE).

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Nes iddi gael ei hethol yn Aelod o'r Senedd dros Orllewin Abertawe, roedd Julie yn gyfreithiwr amgylcheddol a chyfansoddiadol blaenllaw. Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol yng Nghyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa gyfreithiol mewn Llywodraeth Leol, yn gweithio fel cyfreithiwr polisi gyda Bwrdeistref Camden yn Llundain cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna i Gyngor Dinas a Sir Abertawe.

Ers cael ei ethol, mae Julie wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Cyhoeddodd Julie’r adroddiad ‘Dylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael yr Ewrop’ fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael y Pwyllgor Menter a busnes. Eisteddodd Julie hefyd fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016 penodwyd Julie yn Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Penodwyd Julie yn Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 Penodwyd Julie yn Weinidog dros dai a llywodraeth leol.

Mae Thimon de Jong yn rhedeg WHETSTON/strategic foresight,

sef melin drafod sy’n arbenigo mewn strategaethau busnes, newid cymdeithasol ac ymddygiad pobl yn y dyfodol.

Mae’n brif siaradwr ac yn hyfforddwr profiadol ac mae wedi gweithio i gleientiaid fel Morgan Stanley, Vodafone ac IKEA. Hefyd, mae Thimon yn darlithio yn adran seicoleg gymdeithasol Prifysgol Utrecht lle mae’n dysgu i fyfyrwyr gradd meistr sut mae modd rhoi ymchwil academaidd ar waith yn ymarferol i wella strategaethau busnes.

Mae ganddo radd meistr mewn Astudiaethau Diwylliannol a chymhwyster mewn Astudiaethau Busnes Rhyngwladol fel pwnc atodol. Arferai fod yn gyfarwyddwr treiddgarwch a strategaeth yn TrendsActive, yn ymchwilydd yn FreedomLab Future Studies, ac yn brif olygydd y cylchgrawn RELOAD.

Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Ruth yw Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), y corff aelodaeth cenedlaethol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Ruth oedd y Comisiynydd Pobl Hyn cyntaf yn y byd. Sefydlodd y swyddfa annibynnol a defnyddio ei phwer statudol i adolygu gofal iechyd i bobl hyn, gan gynhyrchu’r adroddiad “Gofal Gydag Urddas”.

Mae ganddi brofiad helaeth o weithredu ac arwain yn y sector elusennol. Mae wedi arwain RNIB Cymru a Chwarae Teg ac wedi arwain adolygiad annibynnol o reoleiddio iechyd yng Nghymru.

Mae ganddi gymwysterau ôl-raddedig mewn rheoli adnoddau dynol ac arweinyddiaeth gydweithredol.

Mae Ruth yn cyfrannu’n rheolaidd at ymchwiliadau a Byrddau Cynghori ar faterion megis amrywiaeth, gwirfoddoli, y sector elusennol a chymdeithas sifil. Mae Ruth yn ymddiriedolwr i ACEVO a Cynnal Cymru, yn aelod o fwrdd cynghori Academi Wales, yn aelod o banel cynghori Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, aelod o Fwrdd y Llywodraethwyr ym Mhrifysgol Met Caerdydd ac yn gyfarwyddwr i’r Ffederasiwn Rhyngwladol ar Heneiddio.

Academi Wales

Mae Moira wedi bod yn cynnig ei math unigryw o hyfforddi a hwyluso ers iddi ymuno â’r GiG yn 1991. Roedd ei gyrfa gyntaf yn y celfyddydau perfformio a threuliodd nifer o flynyddoedd yn y busnes recriwtio.

Mae Moira wedi ymrwymo i gefnogi ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig o Brifysgol Bangor mewn Dulliau’n Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ac mae'n Hyfforddwr Ardystiedig Rhaglennu Niwro-Ieithyddol (NLP).

Mae Moira wedi helpu unigolion di-ri ar draws y sectorau i gyflwyno’u hunain mewn modd hyderus a chydnaws, rheoli newid, rheoli straen, creu presenoldeb personol mwy pwerus a chreu a chynnal perthnasau adeiladol. Fel hyfforddwr a hwylusydd, mae Moira wedi cael ei galw’n "ysbrydoledig" ac yn "feistr ar ei chrefft".

Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Yn ystod ei gyrfa mae Shan wedi cyflawni ystod eang o rolau yn y Gwasanaeth Sifil a'r Gwasanaeth Diplomyddol. Ar ôl graddio o Brifysgol Caint, ymunodd â'r Adran Gyflogaeth, gan weithio yn y Manpower Services Commission mewn amryw o rolau cyflogaeth a pholisi hyfforddiant.

O 1994-1997 Shan oedd cynrychiolydd Llywodraeth y DU ar Gorff Llywodraethol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol cyn cael secondiad i Lysgenhadaeth Prydain ym Mharis fel Attaché Llafur a Materion Cymdeithasol. Yna cafodd ei phenodiad cyntaf i Gynrychiolaeth y DU ym Mrwsel fel y Prif Swyddog gyda chyfrifoldeb am faterion Cymdeithasol, Amgylcheddol a Rhanbarthol.

Ar ôl dychwelyd i Lundain yn 2006 ar ôl Llywyddiaeth y DU ar yr UE, trosglwyddodd Shan i'r Gwasanaeth Diplomyddol fel Cyfarwyddwr, yr Undeb Ewropeaidd yn y Swyddfa Dramor, yn gyfrifol am drafodaethau ar Gytundeb Lisbon ac arwain proses seneddol y DU o gadarnhau.

Roedd Shan yn Llysgennad EM i'r Ariannin a Paraguay o 2008-2012, cyfnod oedd yn cynnwys 30 mlynedd ers i’r Ariannin oresgyn y Falklands. Dychwelodd i Gynrychiolaeth y DU, Brwsel, fel Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol yn 2012, gan gynrychioli'r DU ar Bwyllgor Cynrychiolwyr yr Aelod-wladwriaethau (Coreper I) yn y Cyngor. Roedd hi'n gyfrifol am arwain trafodaethau ar draws ystod eang o feysydd pwnc gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni, pysgodfeydd, materion cymdeithasol, iechyd, trafnidiaeth, a materion eraill y Farchnad Sengl.

Ym mis Chwefror 2017, penodwyd Shan yn Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ac mae'n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wrth iddynt gyflawni blaenoriaethau’r Gweinidogion, sy’n atebol am gyllideb o £17 biliwn.

Pennaeth a Phrif Weithredwr, Coleg Pen-y-bont

Simon yw Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Pen-y-bont, a farnwyd gan Estyn (Mawrth 2016) yn 'rhagorol’. Dywedodd Estyn fod "y Pennaeth yn darparu arweinyddiaeth ysbrydoledig sydd wedi cael effaith sylweddol ar drawsnewidiad y coleg".

Simon oedd enillydd gwobr Cyfarwyddwr y Flwyddyn 2018 Sefydliad y Cyfarwyddwyr (DU) ar gyfer y Sector Cyhoeddus. Mae Coleg Pen-y-bont wedi ennill nifer o wobrau nodedig yn cynnwys gwobr WhatUni am Goleg Addysg Bellach y Flwyddyn y DU ar gyfer Addysg Uwch (2018); Gwobr Beacon AoC yn y DU am Arweinyddiaeth a Llywodraethu (2018), a Darparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon (2018). Coleg Pen-y-bont yw'r Coleg Addysg Bellach uchaf ei safle yn Times y DU, y 100 Cwmni gorau i weithio iddynt yn 2017 a 2020. Yn 2019, enwyd Coleg Pen-y-bont fel Coleg y Flwyddyn gan y TES.

Mae wedi gweithio yn y sector addysg ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae hyn yn cynnwys gweithio yn sectorau Addysg Uwch, Addysg Bellach ac Ysgolion. Gweithiodd fel Pennaeth Adran yn Los Angeles, UDA pan gafodd flwyddyn o Ysgoloriaeth Fulbright. Mae Simon yn eistedd ar Fwrdd Cynghori Academi Cymru ac mae'n aelod o Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Simon yn byw yn Ystradgynlais, yn briod â Kelly a chanddo dri o blant.

Cyfarwyddwr, Academi Wales

Mae gan Paul fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn datblygu arweinyddiaeth ar ôl ymuno â GIG Cymru fel ymarferydd datblygu yn ystod y 1990au. Mae Paul wedi gweithio i Academi Wales, Llywodraeth Cymru ers 2013. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cynnig arweiniad ar lywodraethu a hefyd ar ddatblygu ar lefel bwrdd ac ar lefel weithredol, a hynny ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru.

Ac yntau wedi datblygu fframweithiau asesu uwch dimau ar gyfer arweinwyr, mae Paul yn gysylltiedig â galluogi uwch dimau a byrddau, gan eu helpu i bennu’r nodweddion, y dulliau a’r strategaethau sy’n angenrheidiol i sefydliadau weithredu a chynnal perfformiad uchel o fewn y sefydliad.

Mae gan Paul ddiddordeb arbennig mewn archwilio cysyniadau’n ymwneud â dynameg unigolion, grwpiau a systemau, a’u heffaith ar benderfyniadau effeithiol ar lefel bwrdd. Ar ôl cwblhau’r ‘Rhaglen Dynameg Lefel Bwrdd’ gyda Sefydliad Tavistock, cyfrannodd bennod o astudiaeth achos at ‘High Performing Boards – exploring the influence of unconscious behaviours for the Dynamics at Boardroom Level’ (Cynlyfr Tavistock ar gyfer Arweinwyr, Coetswyr ac Ymgynghorwyr), a gyhoeddwyd yn 2019 gan Routledge.

Mae Naomi yn awdur o nifer o lyfrau. Cyhoeddwyd ei llyfr diweddaraf, sef ‘Organization Design: A Practitioner’s Guide’, yn 2018.

Yn ystod ei gyrfa gynnar yn y DU roedd yn weithiwr corfforaethol mewn cwmnïau rhyngwladol mawr, gan gynnwys Price Waterhouse, British Airways, Xerox a Marks & Spencer, a hi oedd y Pennaeth Cynllunio a Datblygu Sefydliadau.

Wedyn symudodd i UDA gan weithio fel ymgynghorydd cynllunio sefydliadau gydag amrywiaeth o sefydliadau yn sector y llywodraeth ac yn y sectorau dielw a phreifat. Erbyn hyn mae wedi dychwelyd i’r DU i weithio fel prif gynllunydd sefydliadau yn sector llywodraeth y DU.

https://naomistanford.com/about/

Mae Sharon yn arbenigo mewn datblygu arweinyddiaeth annibynnol, ac mae’n academydd sy’n cyhoeddi ac yn cyfrannu yn y maes arwain, newid sefydliadol, a datblygu gweithredol byd-eang ers blynyddoedd lawer. Mae wedi gweithio gydag arweinwyr o ystod eang o sectorau o bedwar ban byd i’w cefnogi hwy a’u sefydliadau i ffynnu yn y byd cyfnewidiol hwn.

Mae wedi addysgu mewn nifer o ysgolion busnes yn y DU a thramor, ac wedi cyd-ysgrifennu tri llyfr. Mae ganddi ddiddordeb yn y ffordd y gall trawsffurfiad personol a sefydliadol atgyfnerthu ei gilydd, ac yn y berthynas bwysig rhwng arwain, twf personol, cynhyrchaeth sefydliadol a’r cyfrifoldeb am gymdeithas.

Academi Wales

Ac yntau gyda 25 mlynedd o brofiad yn y sector gyhoeddus, bu Nick yn gweithio ym maes gwelliant a newid parhaus am 20 mlynedd. Treuliodd Nick y 12 mlynedd ddiwethaf yn gweithio gyda sefydliadau a thimau wrth ddatblygu’u gallu i wella ar draws y GIG a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru; mae’n rhan o Dîm Gwelliant a Newid Parhaus Academi Wales.

Mae Richard wedi bod yn arweinydd ym maes addysg ers deunaw mlynedd. Mae ei gwmni, Fearless Leadership, yn cyflwyno gwasanaeth ymgynghori ar hyfforddiant ac arweinyddiaeth yn seiliedig ar ei fodel ‘The Fearless Approach’. Mae’n awdur ‘Fearless Leadership – unlock success using the secrets of the brain’.

Dirprwy Brif Gwnstabl, Heddlu De Cymru

Dyrchafwyd Jeremy Vaughan i Swydd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn Rhagfyr 2019 gyda chyfrifoldeb dydd i ddydd o redeg y sefydliad.

Dechreuodd Jeremy ei yrfa gyda Heddlu Gogledd Cymru ym 1996 gan ymgymryd â sawl rôl a gweithio tuag at reng Prif Uwch-arolygydd gyda chyfrifoldeb am blismona lleol ledled Gogledd Cymru.

Symudodd Jeremy i Heddlu De Cymru yn 2016 fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb am Weithrediadau Arbenigol, yn cynnwys Safonau Proffesiynol, Cyfiawnder Troseddol, Cynllunio Gweithredol a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. Ym mis Rhagfyr 2017, cymrodd gyfrifoldeb am bortffolio Plismona Tiriogaethol gan gynnwys arwain ar Blismona Cymdogaeth.

Yn ychwanegol at ei ddyletswyddau gyda’r Heddlu, Jeremy yw Dirprwy Gadeirydd Grwp Cynghori Gwrthlygredd, a Chadeirydd Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De. Ef yw arweinydd heddlu’r DU ar gyfer Paru Wyneb (adnabod), gan gefnogi’r datblygiad cenedlaethol a defnydd o dechnoleg adnabod wynebau gan heddluoedd Cymru a Lloegr.

Jeremy yw arweinydd Cymru ar gydraddoldeb rhyw, a chafodd ei gydnabod am ei waith yn y maes hwn gan Gymdeithas Ryngwladol Merched mewn Plismona 2019 gyda gwobr HeForShe. Mae’n arweinydd strategol ar gyfer ein prosiect Gweithlu Cynrychioladol sy’n canolbwyntio ar ddenu a chadw mwy o aelodau o’n cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac yn 2019 cafodd ei gydnabod gyda Gwobr Arwain Cymru – Arweinyddiaeth mewn Amrywiaeth a Chynhwysiad.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl, cafodd Jeremy ei wneud yn Aelod o Orsedd Cymru yn 2019 am ei wasanaeth i’r iaith Gymraeg.

Prif Weithredwr, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Mae Susie, sydd ag angerdd dros gynnwys pobl mewn rhyngwladoldeb, yn arwain WCIA, ac mae hi wedi bod yn gweithio i’r mudiad ers cymryd rhan fel gwirfoddolwr yn 2013. Fel rhan o’i gyrfa yn y trydydd sector, mae Susie wedi gweithio ym meysydd cydraddoldeb rhywiol, addysg a chynhwysiant yng Nghymru, Lloegr, De Corea ac Eritrea.

“Rwy’n cael fy ysbrydoli’n drwy’r adeg gan y bobl yng Nghymru sy’n rhoi eu hamser, eu hegni a’u profiad i greu byd tecach a mwy heddychlon. Yn WCIA, rydym eisiau adeiladu ar yr enghreifftiau gwych hyn, a sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan, fel bod Cymru yn gallu parhau i gystadlu â’r goreuon fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.”