English

Ysgol Haf 2020 - mwy o wybodaeth

Arweiniad ar gyfer gwneud cais

Cyflwyno'ch cais

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y rhalgen hwn. Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais, os gwelwch yn dda:

  • Amcanion Personol - Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 50 a 100 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad - Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Aeaf? (rhwng 50 a 100 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol - Sut bydd yr Ysgol Aeaf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 50 a 100 gair)

Pa mor benodol dylwn i fod ynglŷn â fy amcanion personol/sefydliadol?

Lawrlwythwch ein dogfen 'Canllawiau ar amcanion a chanlyniadau personol a sefydliadol' i gael rhagor o wybodaeth ac i weld enghreifftiau. Ni ddylai’r amcanion fod yn fwy na 100 gair. Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr bod eich amcanion mor benodol â phosib er mwyn cryfhau eich cais.

Opsiynau achredu

Mae pob taith yn dechrau gyda'r cam cyntaf, a gallai eich cais i fynychu Ysgol Haf Academi Wales eleni fod eich cam cyntaf chi tuag at ennill cymhwyster lefel uwch, cydnabyddedig megis Doethuriaeth - trwy gwblhau modiwl academaidd newydd, sy'n gysylltiedig â'ch amser yn yr Ysgol Haf.

Mae'r modiwl 'Adolygiad o Ddysgu Proffesiynol' yn unigryw, gan ei fod wedi'i ddatblygu fel man cychwyn ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (DProf) ond gellir ei ddefnyddio tuag at Dystysgrif Ȏl-raddedig (PGCert), Diploma Ôl-raddedig (PGDip), Gradd Meistr (MA) neu Radd Meistr Proffesiynol (MProf). Felly, beth bynnag yw'ch dyheadau academaidd, gall y modiwl hwn eich helpu ar eich ffordd.

Fel arfer, byddai'r modiwl hwn yn costio £1,500. Fodd bynnag, gall cynrychiolwyr yn yr Ysgol Haf gofrestru am £600 ac mae nifer fach o fwrsariaethau ar gael gan Academi Wales sy'n lleihau'r gost ymhellach fyth ac yn cynorthwyo gyda hyd at 50% o'r gost. 5 mlynedd fel arfer yw hyd yr amser a gymerir i ennill DProf, a hynny ar gyfanswm cost o tua £16,000.

Bydd angen i chi gyflwyno cais i'r Brifysgol er mwyn cofrestru ar y modiwl hwn, a hynny unwaith y bydd eich lle yn yr Ysgol Haf wedi'i gadarnhau. Rhaid cwblhau'r cofrestriad erbyn diwedd mis Mai ac mae’r lleoedd gwag ar y modiwl hwn wedi’u cyfyngu i 10 ar gyfer 2020.

Ar ôl cofrestru, fe'ch gwahoddir i fynychu 2 sesiwn tiwtorial yn ystod yr Ysgol Haf - y naill ar y bore Llun a’r llall ar y nos Iau. Ni fydd y sesiynau tiwtorial hyn yn para mwy nag awr. Yn ystod weddill yr ysgol haf, fe'ch anogir i gwrdd yn anffurfiol â'ch cyd-fyfyrwyr, er mwyn helpu i gefnogi eich gilydd trwy rai o'r tasgau fydd wedi’u pennu. Bydd gweddill eich cefnogaeth ar sail 1 i 1 trwy gyfrwng Skype, e-bost neu alwadau ffôn.

Bydd cyflwyno'ch gwaith ar gyfer y modiwl hwn yn digwydd ym mis Ionawr/Chwefror 2021. Yn dilyn hynny, gall y rhai sy'n dymuno gweithio tuag at DProf ddechrau ar eu modiwl nesaf ym mis Mawrth. Gall y rhai hynny sy'n dymuno gweithio tuag at ddyfarniad ymadael arall drafod a chynllunio eu llwybr gyda'u tiwtor.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Julie Crossman julie.crossman@uwtsd.ac.uk neu Christine Davies christine.davies@uwtsd.ac.uk.

Rhagor o wybodaeth fanwl

Faint mae'n ei gostio?

£500 + TAW (cofiwch dydy hyn ddim yn cynnwys y costau ar gyfer yr achrediad dewisol)

Mae hyn yn cynnwys:

  • mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Haf
  • pecyn cynrychiolydd
  • llety (o nos Lun 22 i nos Iau 25 Mehefin 2020)
  • brecwast, cinio a phryd o fwyd gyda'r nos yn ystod y digwyddiad

Rhaid i chi dalu unrhyw gostau personol sy'n codi, megis teithio i'r digwyddiad ac oddi yno, papurau newydd, bil yn y bar, ac ati.

Sylwch: os ydych yn cael lle yn yr Ysgol Haf ac wedyn yn tynnu eich enw yn ôl, gallai fod yn ofynnol i’ch sefydliad dalu'r gost yn llawn.

Sut ydw i'n talu? Pa wybodaeth sy'n angenrheidiol?

Bydd eich sefydliad yn cael ei anfonebu am y swm perthnasol ar ôl i chi fod yn yr Ysgol Haf.

Ymgeiswyr o'r tu allan i Lywodraeth Cymru

Pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais, byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:

  • enw’r sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • enw a chyfeiriad y swyddog bilio
  • cyfeiriad e-bost y swyddog bilio

Cyflenwr: Mae Academi Wales yn rhan o Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriad cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n cysylltu â’r swyddog bilio i gael rhif yr archeb brynu ar ôl i'ch lle gael ei gadarnhau. Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw eich swyddog bilio, rhowch eich manylion eich hun ac fe wnawn ni gysylltu â chi’n ddiweddarach i roi cyfle i chi adnabod eich swyddog bilio i gael y manylion hyn. Bydd yr anfonebau’n cael eu hanfon, a bydd y ffioedd yn cael eu casglu ar ôl y digwyddiad.

Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion anfonebu, cysylltwch â’n Tîm Cyllid drwy anfon e-bost at AW.Busnes@llyw.cymru

Ymgeiswyr o Lywodraeth Cymru

Pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais, byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:

  • cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid Llywodraeth Cymru

Mae Academi Wales yn rhan o Llywodraeth Cymru. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhaid i’ch rheolwr cyllid LlC roi’r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:

  • Canolfan elw
  • Cod gweithgarwch
  • Rhif personél neu enw’r cynrychiolydd

Byddwn yn cyhoeddi trosglwyddiadau cofnodi i gasglu ffioedd y cwrs ar ôl y digwyddiad.

Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo, cysylltwch â’n Tîm Cyllid AW.Busnes@llyw.cymru

Amserlen fras – agor a chloi'r digwyddiad

Dydd Llun 22 Mehefin

9.30 i 11.30 y.b.: cofrestru a phennu pwy sy'n aros ble
12 y.b.: cinio
1 y.p.: rhaglen yn dechrau

Dydd Gwener 26 Mehefin

12 y.p.: diwedd y rhaglen

Oes rhaid i mi aros am yr wythnos gyfan?

Mae'r Ysgol Haf wedi cael ei datblygu yn brofiad dysgu cynhwysfawr sy’n para am wythnos. Dylech gwblhau'r wythnos gyfan er mwyn elwa i’r eithaf ar y cyfle hwn.

Hefyd, os ydych chi’n bwriadu achredu eich dysgu, bydd angen i chi fod yn bresennol bob diwrnod fel rhan o’r broses achredu. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadran ‘Opsiynau achredu'.

Beth os ydw i'n byw yn ardal y Brifysgol? Oes rhaid i mi breswylio yno?

Rydym yn annog y cynrychiolwyr i breswylio ar y cwrs, ond efallai y byddai'n well gennych aros gartref a theithio os ydych yn byw yn yr ardal. Mae disgwyl i'r holl gynrychiolwyr ddod bob diwrnod i fanteisio ar y dysgu. Rhowch wybod cyn gynted â phosibl os nad oes angen llety arnoch chi.

Oes cyfleusterau gofal plant neu crèche ar gael yn yr Ysgol Haf?

Nid oes cyfleusterau gofal plant na crèche yn y Brifysgol. Bydd disgwyl i'r cynrychiolwyr wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain.

Prydau a lluniaeth

Mae prydau a lluniaeth wedi'u cynnwys yn y rhaglen (fodd bynnag nid yw alcohol na lluniaeth y bar neu'r caffi yn gynwysedig).

  • Brecwast: rhwng 7 a 8.30 y.b.
  • Swper: 7.30 y.p.

Beth y dylwn ei wneud os oes gennyf ofyniad arbennig o ran deiet neu ofynion meddygol eraill?

Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon fel rhan o’r broses gwneud cais. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw anghenion meddygol neu ddeietegol penodol. O ran gofynion deiet, noder fod y Brifysgol yn gweini amrywiaeth o fwyd. Hefyd mae archfarchnad o fewn pellter cerdded i'r campws.

Cyswllt ffôn symudol / y we

  • Nodwch fod y signal ffôn a gwe yn gallu bod yn afreolaidd o achos y lleoliad anghysbell, ac yn ddibynnol ar y tywydd
  • Mae cyswllt diwifr ar gael yn y brif neuadd

Beth fyddai'n ddefnyddiol i'w bacio?

  • Pethau ymolchi, sychwr gwallt ac ati
  • Fflip fflops i’w gwisgo yn y blociau llety
  • Drych
  • Cyflenwad o de, llaeth a bisgedi, gan fod gan rai o'r bythynnod geginau (ond cyflenwir yr holl fwyd a lluniaeth eraill yn ystod y digwyddiad)

Cod gwisg

  • Lled-ffurfiol

Ffotograffiaeth/recordio fideo

Byddwn yn tynnu lluniau ac yn gofyn am adborth a sylwadau gydol y digwyddiad. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu'r deunyddiau ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol; neu mae'n bosibl y byddwn yn eu defnyddio at ddibenion marchnata'r digwyddiad a hyfforddiant gan Academi Wales yn y dyfodol. Bydd cyfle i chi gytuno i ymddangos yn y deunyddiau hyn neu optio allan wrth i chi lenwi’r ffurflen gais.

Paratoadau personol

Lle y bo’n briodol, mae’n rhaid i chi gwblhau'r holl waith a osodir gan y siaradwyr ymlaen llaw.

Cysylltiadau

Tîm yr Ysgol Haf
ysgolhaf@llyw.cymru
03000 256 687

Teithio

Cyrraedd y lleoliad

http://www.uwtsd.ac.uk/lampeter/travelling-to-lampeter/

Trafnidiaeth Cymru

https://trctrenau.cymru

Bysiau

https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/trafnidiaeth-gyhoeddus-a-chymunedol/bysiau/amserlennu-bws/

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/teithio-ffyrdd-a-pharcio/gwasanaethau-bws/amserlenni-bysiau/#.Xjv-jF77SUk

Rhannu car

Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i'r digwyddiad ac oddi yno.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm yr Ysgol Haf drwy anfon e-bost at Ysgol Haf.

Cyn iddi gael ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Abertawe, roedd Julie yn gyfreithiwr amgylcheddol a chyfansoddiadol. Cyn hyn, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol yng Nghyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o'i gyrfa gyfreithiol mewn llywodraeth leol, gan weithio fel cyfreithiwr polisi gyda Bwrdeistref Camden yn Llundain cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna Dinas a Sir Abertawe.

Ers cael ei hethol eisteddodd Julie ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Cyhoeddodd Julie yr Adroddiad ‘Dylanwadu ar Foderneiddio Polisi Caffael yr UE’ fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Caffael y Pwyllgor Menter a Busnes. Roedd Julie hefyd yn Gadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Pysgodfeydd Cyffredin Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016 penodwyd Julie yn Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Penodwyd Julie yn Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Julie yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Mae Thimon de Jong yn rhedeg WHETSTON / rhagwelediad strategol, melin drafod sy'n arbenigo mewn ymddygiad dynol, newid cymdeithasol a strategaeth fusnes yn y dyfodol.

Mae'n brif gyflwynydd profiadol a hyfforddwr arweinyddiaeth ac mae wedi gweithio i gleientiaid fel Morgan Stanley, Vodafone, ac IKEA. Mae Thimon hefyd yn darlithio yn adran seicoleg gymdeithasol Prifysgol Utrecht lle mae'n dysgu myfyrwyr meistr sut y gellir cymhwyso ymchwil academaidd yn ymarferol i wella strategaeth fusnes.

Mae ganddo radd meistr mewn Astudiaethau Diwylliannol gyda gradd fân mewn Astudiaethau Busnes Rhyngwladol. Mae'n gyn-gyfarwyddwr mewnwelediadau a strategaeth yn TrendsActive, ymchwilydd yn FreedomLab Future Studies ac yn olygydd pennaf Cylchgrawn RELOAD.

Hyfforddodd Gemma yn yr Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst, hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn Cleddyf Carmen gan Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, am berfformiad rhagorol fel swyddog ifanc.

Mae Gemma hefyd yn llysgennad yr Elusen ‘Help for Heroes’, yn cefnogi Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Prydain sydd wedi’u clwyfo, eu hanafu ac yn sâl. Ar ôl dioddef anhwylder straen wedi trawma o ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol, mae'n ymgyrchu i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn sefydliadau heddiw.

Mae Gemma hefyd yn gyn-athletwr rhyngwladol, yn Gapten Cymru mewn lacrosse ac yn cystadlu ar draws tri Chwpan y Byd.

Mae Jonathan yn ymgynghorydd sefydliadol, hwylusydd a hyfforddwr gweithredol - ac yn Uwch Gyfarwyddwr Rhaglen ac yn Brif Gyflwynydd Olivier Mythodrama. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain a datblygu grwpiau ac unigolion ar draws pob sector - corfforaethol, cyhoeddus a'r trydydd sector.

Mae stori arweinydd ysbrydoledig mwyaf pwrpasol Shakespeare, Henry V, yn darparu templed i arweinwyr werthuso eu hunain ac archwilio eu prosiectau mawr. Rhaid i Henry gamu i rôl newydd, casglu tîm amrywiol at ei gilydd, cytuno ar brosiect mawr ac yna goresgyn anawsterau sylweddol ar y daith tuag at fuddugoliaeth fawr.

Mae'r rhaglen hynod ryngweithiol a 'dysgu drwy brofiad' hon yn tynnu sylw at themâu pwrpas, gweledigaeth, cymhelliant ac ysbrydoliaeth. Os nad ydych chi'n gwybod beth sy'n eich ysbrydoli, bydd bron yn amhosibl ysbrydoli unrhyw un arall. Cyflwynir trosolwg o'r stori i'r cyfranogwyr ac yna archwilio'r heriau arweinyddiaeth sydd fwyaf perthnasol iddynt.

Mae Matthew Taylor wedi bod yn Brif Weithredwr yr RSA ers mis Tachwedd 2006. Yn ystod ei gyfnod deiliadaeth, mae'r Gymdeithas wedi cynyddu ei hallbwn ymchwil ac arloesi yn sylweddol, wedi darparu llwybrau newydd i gefnogi mentrau elusennol ei 30,000 o gymrodyr, ac wedi datblygu proffil byd-eang fel llwyfan ar gyfer syniadau.

Ym mis Gorffennaf 2017 cyhoeddodd Matthew yr adroddiad ‘Good Work’; adolygiad annibynnol i gyflogaeth fodern, a gomisiynwyd gan Brif Weinidog y DU. Ym mis Medi 2019, cychwynnodd Matthew rôl ran-amser newydd fel Cyfarwyddwr Gorfodi’r Farchnad Lafur y Llywodraeth ac mae hefyd yn aelod o’i Gyngor Strategaeth Ddiwydiannol.

Mae Matthew Taylor yn berfformiwr cyfryngau rheolaidd ar ôl ymddangos sawl gwaith ar raglen Today, The Daily Politics a Newsnight. Mae wedi ysgrifennu a chyflwyno sawl rhaglen ddogfen Radio Four ac mae'n banelwr ar y rhaglen Moral Maze. Mae wedi postio mwy na mil o weithiau ar ei safle blog RSA ac yn trydar fel @RSAMatthew. Mae hefyd yn Uwch Olygydd cyfres Syniadau Mawr Thames & Hudson.

Cyn y penodiad hwn, roedd Matthew yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, ac yna daeth yn Brif Gynghorydd ar strategaeth wleidyddol i'r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair.

Yr Her Arweinyddiaeth - Arwain i Bawb – Creu Diwylliannau a Hinsoddau

Yn ystod y digwyddiad, bydd Ysgol Haf 2020 yn gyfle i adolygu a gloywi sgiliau arwain hollbwysig, cael gwybodaeth newydd a chryfhau dealltwriaeth o’r ymarfer arwain diweddaraf yn ogystal ag ymchwilio i ffyrdd arloesol o newid ymddygiad er mwyn cael canlyniadau gwahanol, a dysgu sut i ‘gyflawni busnes’ mewn ffordd wahanol er mwyn ateb y galw sy’n wynebu’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Mae rhaglen ddysgu’r Ysgol Haf wedi cael ei datblygu i helpu i drawsnewid eich arddull arwain o’r effeithlon i’r eithriadol; i ddefnyddio eich gwerthoedd a’ch ymddygiadau chi eich hun i helpu pobl i deimlo, meddwl a gweithredu y tu hwnt i’r terfynau y maen nhw’n eu dychmygu, ac i ddefnyddio’r galluoedd a’r capasiti sydd gennych chi go iawn i ateb gofynion arwain mewn gwasanaeth cyhoeddus a bod yn arweinydd sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd yr wythnos hon yn darparu dysgu sy’n ychwanegu gwerth ac yn eich helpu i greu llwyddiant yn eich rôl, gyda’ch tîm ac er budd eich sefydliad.