English

Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022

Cynulleidfa:

Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Dyddiadau:

28 i 30 Mehefin 2022

Lleoliad:

Ar-lein

Cost:

£250.00 + TAW

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau.

'Dyfodol Creadigol - blaenoriaethau, arferion a phosibiliadau gan gynnal momentwm ar adegau o newid, gan wneud y gorau o bobl a lleoedd'

Trosolwg

Gan ddathlu ei flwyddyn ail ar bymtheg, mae'n bleser gennym gyhoeddi y byddwn eleni yn cynnal digwyddiad ysgol haf rithwir fyw. Bydd y profiad dysgu ar-lein dwys, tri diwrnod hwn yn dwyn ynghyd arweinwyr ac uwch reolwyr i fynd i'r afael â materion allweddol ar bwnc arwain penodol.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Rydym yn croesawu’r cyfle i barhau i gefnogi ein cydweithwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Mae rhaglen yr Ysgol Haf rithwir 3 diwrnod yn ysbrydoledig ac yn dreiddgar! Byddwch yn darganfod safbwyntiau a syniadau newydd a fydd yn gwella eich sgiliau a’ch gwybodaeth i ymgymryd â’r heriau y mae eich sefydliadau’n eu hwynebu ar hyn o bryd.  

Bydd yr Ysgol Haf yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth, 28 Mehefin i ddydd Iau, 30 Mehefin.

Mae COVID-19 wedi trawsnewid y ffordd rydym yn gweithio, gan gyflymu tueddiadau a oedd eisoes ar waith a chwestiynu llawer o bethau a gymerwyd yn ganiataol gennym cyn y pandemig. Mae’r ffordd y mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cydbwyso cynaliadwyedd â chefnogi anghenion gweithwyr yn allweddol wrth i ni greu normal newydd ar ôl y pandemig. Bydd hyn yn golygu bod sefydliadau’n canolbwyntio mwy ar amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant, yn ogystal â materion amgylcheddol a chymdeithasol.

Mae effaith y pandemig wedi cyflwyno heriau a chyfleoedd. Yr her fwyaf arwyddocaol fu addasu a datblygu ystod o sgiliau newydd i ddiwallu anghenion ein hamgylcheddau gwaith newydd, a gwneud hyn yn aml ar gyflymder. Mae gennym gyfle yn awr i symud oddi wrth y dull hwnnw i ddatblygu dull mesuredig a mwy strategol o ddatblygu. Mae ein defnydd cynyddol o dechnoleg a meddalwedd a dulliau newydd o reoli a chefnogi ein timau wedi amlygu’r angen i lawer ohonom ailddatblygu a meithrin amrywiaeth o sgiliau newydd a rhai sy’n datblygu.  Mae’r rhain yn cynnwys hunanreolaeth megis dysgu gweithredol, gwydnwch, goddefgarwch straen a hyblygrwydd a gallu digidol.

Bydd profiad yr Ysgol Haf yn rhoi cyfle i chi fynychu amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a gyflwynir gan Academyddion, Awduron a darparwyr a all ddarparu mewnwelediad a gwybodaeth i’ch cefnogi wrth i ni ddod i’r byd gwaith newydd ar ôl y pandemig.

Manteision i chi

Mae Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru wedi’i chynllunio i roi’r cyfle i chi adolygu ac adnewyddu eich sgiliau, adeiladu gwybodaeth newydd a chael mewnwelediad i’ch ymarfer arwain. Mae’n rhoi cyfle i archwilio ffyrdd arloesol o ‘gyflwyno’r busnes’, gan ddefnyddio cyfoeth o wybodaeth a phrofiad byd-eang.

Sylwadau gan gynrychiolwyr Ysgol Haf 2021 oedd:

“Fe ddes i i’r hyfforddiant hwn pan oeddwn ar groesffordd yn fy ngyrfa. Mae’r tridiau hyn wedi ailgynnau rhywfaint o’r angerdd hwnnw yr oeddwn wedi’i golli am fy swydd. Byddaf yn dragwyddol ddiolchgar am hynny.”

Cynrychiolydd o GIG Cymru

“Hollol anhygoel. Rwy’n teimlo’n egnïol ac yn awyddus i wella a gwneud gwahaniaeth.” 

Cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

“Rwy’n teimlo’n freintiedig o gael y cyfle i ddod i Ysgol Haf 2021 Academi Wales. Rwyf wedi cael fy syfrdanu’n llwyr gan rai o’r siaradwyr ac mae gen i gyfrifoldeb i roi yn ôl i’m sefydliad drwy wella fy arweinyddiaeth a meithrin arweinwyr y dyfodol i ymdrechu i gyrraedd eu potensial.”

Cynrychiolydd o Carmarthenshire CBC

“Doeddwn i ddim wir yn ystyried fy hun yn arweinydd, ond dangosodd yr ysgol haf i mi fod llawer o wahanol fathau o arweinyddiaeth a sut gallwn ni i gyd adeiladau ar ein cryfderau i sicrhau newid.” 

Cynrychiolydd o GIG Cymru

Cadeiryddion a siaradwyr

Rydym wedi datblygu rhaglen 3 diwrnod a fydd yn gyffrous, yn llawn ac yn amrywiol i chi. Bydd y rhaglen yn cynnwys nifer o siaradwyr rhyngwladol yn y DU sy’n academyddion neu’n arbenigwyr yn eu dewis feysydd. Mae’r rhaglen ar gyfer 2022 yn cynnwys:

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at reolwyr ac arweinwyr lefel uwch sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector neu’r sector gwirfoddol yng Nghymru.  I elwa fwyaf ar yr Ysgol Haf, mae’n bwysig eich bod ar y lefel gywir yn eich taith gyrfa. Mae’r Ysgol Haf yn addas ar gyfer y rhai sy’n arwain tîm, cangen neu adran yn eu sefydliad, gyda chyfrifoldeb am greu amgylchedd gwaith effeithiol i’w staff, ac am nodi a hwyluso unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gyflawni amcanion eu sefydliad.

Sylwch mai nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer yr Ysgol Haf gan fod y galw am leoedd bob blwyddyn yn fwy na’r hyn y gallwn ni ei gymryd.

Cost

Codir tâl cynrychiolwyr o £250 + TAW ar gyfer yr Ysgol Haf sy’n cynnwys cyfraniad at gostau dysgu’r digwyddiad.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau, 26 Mai 2022  

Sylwch, os tynnwch chi’n ôl o’r Ysgol Haf ar ôl i le gael ei ddyfarnu i chi, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Sut i wneud cais

Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol. Dyfernir lleoedd i’r ymgeiswyr hynny sy’n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy’n gallu dangos y byddant yn dychwelyd ar fuddsoddiad.

Ni fu dangos elw ar fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni.  Nid yw adenillion ar fuddsoddiad yn ymwneud ag enillion ariannol yn unig. Effaith gynaliadwy'r dysgu i chi a'ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio drwy gyfnod heriol ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i'w canlyniadau sefydliadol.

Y broses ymgeisio

Cyn i chi ddechrau eich cais, gwiriwch a yw eich sefydliad wedi’i gynnwys ar ein rhestr o gysylltiadau sefydliadol ar gyfer yr Ysgol Haf. Os ydyw, cysylltwch â nhw i’w gwneud yn ymwybodol eich bod yn gwneud cais am yr Ysgol Haf. 

Mae’r broses recriwtio agored ar gyfer Ysgol Haf 2022 yn dechrau 11 Ebrill ac yn cau ar 26 Mai 2022.

Byddwn yn rhoi gwybod a ddyfarnwyd lle i chi yr wythnos sy’n dechrau Dydd Llun 6 Mehefin 2022.

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Mwy o wybodaeth

I ddod o hyd i fwy o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.