English

Ysgol Haf 2022 - mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch yr Ysgol Haf.

Cyfarwyddwr, Academi Wales

Alex yw Cyfarwyddwr Academi Wales; y ganolfan ragoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth a rheoli gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd ym mis Medi 2012 ac mae Academi Wales yn rhan o bortffolio’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Mae Alex wedi bod mewn nifer o swyddi arweinyddiaeth yn ystod ei gyrfa yn y gwasanaeth sifil, gydag Asiantaeth Ffiniau'r DU, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac yn fwyaf diweddar yn Nhŷ'r Cwmnïau, lle roedd hi’n gyfrifol am arwain cyfres sylfaenol o ddiwygiadau deddfwriaethol i gefnogi trawsnewidiad y sefydliad.

Mae'n hyfforddwr ac yn fentor gweithredol cymwysedig, ac mae'n angerddol am ymgysylltu, datblygu, cydweithio a chynwysoldeb. Yn ei rôl gydag Academi Wales bydd hi’n canolbwyntio ar sicrhau bod y ganolfan yn parhau i ddarparu cyfres o raglenni a digwyddiadau o'r radd flaenaf, wrth gydweithio ledled Cymru i sicrhau bod y cynnig dysgu yn parhau i fod yn addas i'r diben, yn berthnasol ac yn gyfredol wrth i ni edrych at ddyfodol ansicr.

Prif Weithredwr, Cyngor Sir Fynwy

Daeth Paul yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy yn 2009 ac mae ganddo 35 mlynedd o brofiad ym maes gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n athro gwadd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn Llywodraethwr / Ymddiriedolwr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn arweinydd SOLACE ar gyfer yr economi a phortffolio digidol ac yn glerc i Arglwydd Raglaw Gwent. Mae Paul wedi bod yn swyddog canlyniadau ers dros ddegawd ac mae wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o adeiladu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'i Bargen Ddinesig.

Mae Paul wedi dal y swyddi Prif Swyddog Addysg a Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol yn y gorffennol yn ogystal â bod yn gyfrifydd cymwysedig.

Ymunodd Paul â llywodraeth leol yn syth o'r ysgol; dechreuodd ar y troli post, a datblygodd o hynny. Mae Paul wedi dal nifer o swyddi cynghori a Bwrdd o fewn y llywodraeth a sefydliadau masnachol.

Mae Paul yn fentor, yn goetsiwr ac yn falch iawn o fod yn was cyhoeddus galwedigaethol. Mae'n arweinydd sydd bob amser yn cofio dweud 'diolch'.

Sylfaenydd, Wild Leadership

Mae Fi yn partneru arweinwyr i ddatblygu eu heffaith a’u hymdeimlad o bwrpas drwy dreulio amser yn yr awyr agored. Mae hyn yn dod â ffocws, cyfraniad ac awdurdod o’r newydd.

Daw â’r ‘deallusrwydd awyr agored’ hwn i galon sefydliadau drwy ei gwaith fel siaradwr, hwylusydd a choetsiwr. Mae hi yma i newid diwylliant sefydliadol trwy gysylltiad gyda’r Natur sydd gennym ni, a’r byd o’n cwmpas.

Mae Fi wedi datblygu’r dull hwn o’i hamser ei hun yn yr awyr agored a thrwy weithio gydag arweinwyr dros y degawd diwethaf. Mae hi wedi cymryd amser estynedig yn yr awyr agored yn yr Alpau ac ar gwest gweledigaeth yn ardal y Llynnoedd. Mae hi ar hyn o bryd yn hyfforddi fel Arweinydd Mynydd ac yn paratoi i arwain cwest gweledigaeth.

“Credaf ein bod ni i gyd wedi ein geni gyda chyfraniad unigryw i’w wneud yn y byd – a’n bod ni i gyd yn arweinwyr. Efallai fod ein harweinyddiaeth mewn rôl fawr neu efallai ei bod mewn eiliadau yn ein tîm. Beth bynnag, gall pawb ysbrydoli eraill. Daw pan fyddwn yn gweithio o’n cryfderau, ein gwerthoedd a’r hyn sy’n ein hysgogi.

Rwy’n partneru pobl mewn sefydliadau i wneud eu cyfraniad unigryw eu hunain yn y gwaith a wnânt. Fe wnawn hyn drwy gysylltu â’r deallusrwydd dwfn oddi mewn a dawnsio gyda’r hyn y mae’r byd ei angen ohonom ni. Rwyf wedi dod o hyd i’r cysylltiad hwn yn yr awyr agored ym myd natur. Mae’r cysylltiad systemig dwys hwn yn sail i’r datblygiad arweinyddiaeth rwy’n ei gynnig i’r unigolion a’r sefydliadau yr wy’n gweithio gyda nhw.”

Yn flaenorol, bu’n entrepreneur, yn gynghorydd dosbarth ac mae hi wedi magu dwy ferch anhygoel. Mae’n byw yn y Cotswolds yn Lloegr. Mae ei hangerdd yn cynnwys y cyfuniad hapus o gerdded mynyddoedd a bwyd da.

Mae gan Fi MSc mewn Hyfforddi Gweithredol ac mae’n aelod achrededig o’r Cyngor Mentora a Hyfforddi Ewropeaidd.

Mae Emmanuel wedi’i ddisgrifio fel ‘y guru arweinyddiaeth cyntaf ar gyfer y genhedlaeth ddigidol’ a’r ‘llais mwyaf ffres ym maes arweinyddiaeth heddiw’. Mae’n ymgynghori’n fyd-eang â sefydliadau sy’n amrywio o Astra Zeneca i Zurich Financial Services drwy Google a’r Cenhedloedd Unedig. Am dros 20 mlynedd, mae ei ymyriadau wedi canolbwyntio ar greu’r gallu mewn sefydliadau i sicrhau canlyniadau drwy arweinyddiaeth o’r radd flaenaf.

Mae’n un o siaradwyr mwyaf poblogaidd Ewrop ar arweinyddiaeth; mae’n awdur 4 o werthwyr gorau’r DU a’r Unol Daleithiau, a chyd-ysgrifennodd 3 llyfr, gan gynnwys ‘Respond, Recover and Re-imagine' a gyhoeddwyd o ganlyniad i bandemig COVID19.  Mae ei lyfrau wedi’i sefydlu fel un o’r meddylwyr mwyaf blaenllaw ar fodelau arweinyddiaeth newydd.

@egobillot

Sylfaenydd APS Intelligence

Mae yna lawer o bethau i’w dweud wrthych am John. Yn amlwg, mae’r holl stwff bywgraffyddol arferol; mae’n seicolegydd sefydliadol uchel ei barch, mae’n OBE, mae’n Wyddonydd Siartredig, mae’n Gymrawd etholedig Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd, mae’n awdur gwerthwr gorau’r New York Times, mae’n Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain, ac yn sylfaenydd APS Intelligence.

Ac yna mae’r holl bethau y mae’n eu gwneud: mae’n fentor i lawer, yn athro i rai, ac mae bob amser yn defnyddio ei fewnwelediad seicolegol dwfn, ynghyd â phrofiad bywyd go iawn, i roi maen prawf i bobl a chwmnïau sydd am ffynnu, cyflawni a chysoni eu credoau, eu gwerthoedd a’u moeseg.

Ond dyma’r pethau y mae gwir angen i chi eu gwybod; mae John yn gawr. Wir i chi, mae’n enfawr! Mae hefyd yn dad, yn frawd ac yn ewythr… o Stockport (mae’n gynnyrch y datganiad ‘Gall y bobol fwyaf annhebygol yn yr amgylchiadau mwyaf annhebygol fod yn rhyfeddol’). Mae pobl sy’n meddwl y dylai ffeithiau a thystiolaeth ddarostwng i ‘farn’ yn ei wneud yn wallgof. Mae’n angerddol am Star Wars, mae’n nerd ac yn geek, mae’n gyn-chwaraewr NBA, mae ganddo lais fel mêl, mae’n ymgolli ei hun mewn cerddoriaeth, a’i hoff beth yw bwyta bwydydd sy’n ddrwg i chi – yn enwedig donyts.

Felly, wrth i chi gwestiynu popeth roeddech chi’n meddwl eich bod chi’n ei wybod, bydd John yn eich diddanu gyda’i straeon, yn eich wynebu â gwirioneddau anghyfforddus, yn gwneud i chi chwerthin ac i grio (weithiau yn yr un funud) ac, yn y pen draw, yn eich ysbrydoli i dyfu ac i ddatblygu mewn ffyrdd na allech chi ddychmygu… fel y gallwch chi fod yn Gawr hefyd.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Cafodd Rebecca Evans ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ym mis Mai 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Gŵyr.

Enillodd Rebecca radd mewn Hanes gan Brifysgol Leeds, a gradd MPhil mewn Astudiaethau Hanesyddol gan Goleg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Cyn iddi gael ei hethol, bu Rebecca yn gweithio yn y trydydd sector.

Yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae Rebecca wedi gwasanaethu ar Bwyllgor yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 

Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 daeth yn Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 ymunodd â’r Cabinet fel Gweinidog Cyllid a Threfnydd. Penodwyd Rebecca yn Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Mai 2021.

Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Cafodd Dr Andrew Goodall ei benodi i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog ac yn gweithredu fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cyn hyn, roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru, a hynny ers mis Mehefin 2014.

Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr yn y GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd y bu ynddi ers dechrau'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu'r GIG i fodel integredig y Bwrdd Iechyd.

Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau'r GIG ledled De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo feysydd diddordeb penodol mewn gwella diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen trwy wella a moderneiddio gwasanaethau.

Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Ysgol Fusnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus.

Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Gwneud pethau'n wahanol…Dawn Docx yw'r Prif Swyddog Tân cyntaf yng Nghymru i gael ei ddyrchafu i'r rôl honno o gefndir annodweddiadol. Er bod ganddi brofiad gweithredol strategol mewn tri gwasanaeth tân ac achub ar draws y DU, dechreuodd ei bywyd gwaith fel dylunydd ffasiwn ac yna cymhwyso fel cyfrifydd cyn dod yn Bennaeth Gwasanaethau Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Cumbria.

Yn 2006 symudodd Dawn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel Prif Swyddog Cynorthwyol, gan ddod yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân benywaidd cyntaf Cymru, yn ôl yn 2009. Ar ôl llywio’r Gwasanaeth drwy’r blynyddoedd o galedi symudodd Dawn i Wasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf (GMFRS) yn 2017. Roedd hyn ar adeg anodd i GMFRS, ar ôl y bomio yn yr Arena ac o dan drefniadau llywodraethu newydd dan arweiniad y Maer newydd, Andy Burnham.

Yn adnabyddus am ei thawelwch proffesiynol a'i chreadigedd, roedd Dawn yn flaengar wrth gyhoeddi adroddiad Kerslake a hi oedd wrth y llyw yn ystod tân mwyaf GMFRS ar Saddleworth Moor yn 2018. Chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad diwylliant GMFRS er gwaethaf yr heriau o ddarparu gwasanaeth brys yn ystod y pandemig.

Roedd Dawn wrth ei bodd yn dychwelyd i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel Prif Swyddog Tân yn 2021 lle mae’n mwynhau datblygu’r Gwasanaeth a pharhau â’i hangerdd dros newid diwylliannol.

Drwy gydol ei gyrfa mae Dawn wedi cael ei chefnogi gan ei gŵr Chris a ymgymerodd â’r rhan fwyaf o’r gwaith o adnewyddu eu cartrefi a magu eu tair merch. Y gyfrinach i'w partneriaeth lwyddiannus yw cael digon o amser i fyw ar wahân a gwerthfawrogi ei gilydd pan fyddan nhw gyda'i gilydd.

Prif Swyddog Corfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru

Penodwyd o Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst i’r Light Infantry yn 2001, cyn dod yn The Rifles. Mae’r cyrnol raglaw Andy Child, wedi gwasanaethu ar draws bataliwn y reifflwyr ac mae wedi gwasanaethu mewn rolau yn ymwneud â Chudd-wybodaeth Diogelu, Offer a Chymorth Diogelu a chyda grŵp cynghori hyfforddiant gweithredol y Fyddin.

Yn ystod ei yrfa, mae wedi cael y fraint o arwain milwyr ar nifer o weithgarwch milwrol yn Sierra Leone, Gogledd Iwerddon, Irac ac Affganistan; cyflawnodd hefyd ymgyrchoedd milwrol yn Ynysoedd Falkland ac ym Mhacistan, ac ymarferion hyfforddi niferus ym Mrunei, Belzie, Saudi Arabia ac yng Nghanada.

Cyn dechrau rheoli WUOTC, roedd yn aelod o staff yn HQ Home Command – gorchymyn 3* y Fyddin sy’n gyfrifol am weithgareddau yn y DU ac am ymateb i’r coronafeirws. Yn rhinwedd y rôl hon, gweithiodd ar brosiectau personél at y dyfodol. Yn benodol, cyfrannodd at y gwaith o roi menywod mewn rolau ymladd, a rhoi’r safonau cyflogaeth corfforol newydd ar waith.

Agile+ Leadership International Ltd (UK)

Mae Nick yn frodor o Brydain/Canada, ac mae wedi’i leoli yn Ffrainc a Tsieina. Nick yw sylfaenydd Complex Adaptive Leadership Ltd, Prif Weithredwr Agile+ Leadership International Ltd (DU), a Rheolwr Gyfarwyddwr Agile+ Consultants (Tsieina). Fel athro arweinyddiaeth yn CEDEP yn Ffrainc (Campws INSEAD, Fontainebleau), mae’n cyfuno gwyddoniaeth cymhlethdodau â doethineb Tsieineaidd hynafol, er mwyn i arweinwyr lywio amseroedd Anwadal, Ansicr, Cymhleth, ac Amwys (VUCA) mewn ffordd ymarferol. Dyfarnwyd Gwobr Aur EFMD i’w ddull gweithredu ar gyfer Datblygu Swyddogion Gweithredol, gan guro llawer o ysgolion busnes o’r radd flaenaf. Mae ganddo brofiad eang o arwain, fel y gwelir isod:

Ymarferydd: Uwch-gapten ym Myddin Prydain (yr ieuengaf ar y pryd) yn ei ugeiniau; Cyfarwyddwr Datblygu cwmni FTSE 100 (cyfrifoldeb llinell am 12,000 o staff, cyfrifoldeb newid am 45,000 o staff);

Ymgynghorydd: Ymgynghorydd Strategaeth Weithredol Ernst & Young.

Academaidd: Athro Arweinyddiaeth Nyenrode (athro MBA y flwyddyn ddwywaith); athro arweinyddiaeth sy’n ymweld: LBS, INSEAD, EHL, Duke CE a Thunderbird. Ar hyn o bryd mae’n athro arweinyddiaeth yn CEDEP (Campws INSEAD, Fontainebleuau).

Awdur: Llyfrau amrywiol gan gynnwys y gwerthwr gorau: “Complex Adaptive Leadership – Embracing Paradox and Uncertainty” (roedd cyfieithiad o’r llyfr o dan y teitl “Future Leadership” yn werthwr gorau yn Tsieina).

Mae mwy ar: https://uk.linkedin.com/in/nickobolensky

Prif Swyddog Gweithredu, Y Groes Goch Prydeinig

Ym mis Mawrth 2021, penodwyd Dorothy yn Brif Swyddog Gweithredu cyntaf y Groes Goch Brydeinig, ar ôl bod yn Brif Swyddog Pobl ers mis Mehefin 2019. Drwy arwain y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Mewnol, mae hi'n atebol am sicrhau bod profiad ein pobl yn un cadarnhaol, yn y modd bod ganddynt yr arfau cywir i wneud eu gwaith a'r buddsoddiad cywir yn eu datblygiad a'u lles.

Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cwmpasu amrywiaeth o swyddogaethau galluogi, gan gynnwys: Digidol, Data a Thechnoleg; Gwasanaethau Pobl; Gwasanaethau Eiddo; Gwasanaethau Proffesiynol; Cydwasanaethau Mewnol; Rheoli Portffolios a Thrawsnewid. Nod Dorothy yw meithrin diwylliant a ffyrdd o weithio sy'n galluogi ein pobl i wneud eu gwaith gorau, mewn amgylchedd diogel a grymus.

Cyn ymuno â’r Groes Goch Brydeinig, bu’n dal nifer o swyddi adnoddau dynol a gweithredol uwch yng Nghyllid a Thollau Ei Mawrhydi, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithrediadau Treth, lle bu’n gyfrifol am 20,000 o bobl a gyflawnai’r holl weithgarwch gweithredol ar gyfer y 40 miliwn o drethdalwyr yn y DU.

Bu Dorothy hefyd yn gweithio yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder lle bu'n dal nifer o rolau gweithredol ac arbenigol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithrediadau Adnoddau Dynol, gan gwmpasu Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi a'r Gwasanaeth Carchardai. Mae'n ymddiriedolwr yn Phoenix Futures, elusen sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl drwy adsefydlu yn dilyn dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol. 

Mae'n fraint enfawr gallu dweud fy mod yn rhan o Fudiad y Groes Goch a'r Cilgant Coch. Bob dydd, mae fy swydd yn caniatáu i mi weld yn uniongyrchol y pethau anhygoel y mae pobl yn eu gwneud i gefnogi eraill ar adegau o angen.

Prif Weithredwr, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Ar hyn o bryd, Shereen Williams yw Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac Ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Yn ddiweddar, mae wedi arwain ar gwblhau rhaglen arolwg etholiadol i Gymru gyfan sydd wedi arwain at y newidiadau mwyaf i drefniadau etholiadol llywodraeth leol mewn dros 20 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae'n goruchwylio'r Arolwg Etholaethau Seneddol a fydd yn lleihau nifer yr ASau yng Nghymru i 32.

Cyn hyn, bu'n gweithio ym maes llywodraeth leol am bron i ddegawd ar draws Awdurdodau Lleol Casnewydd a Sir Fynwy fel y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig, a chyn hynny fel Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol Dwyrain Gwent. Roedd y tîm y bu hi’n ei reoli yn gyfrifol am gyflawni blaenoriaethau strategol, gan gynnwys Ymfudo, Atal Eithafiaeth Dreisgar, Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol.

Dros yr 16 mlynedd diwethaf, mae wedi gwirfoddoli mewn nifer o rolau yn y Trydydd Sector ac i gyrff statudol. Ar hyn o bryd mae hi’n un o ymddiriedolwyr Ambiwlans Sant Ioan Cymru a'r Sefydliad Materion Cymreig. Yn 2010, derbyniodd Wobr Cydnabod Cyflawniad Llywodraeth Cymru am wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru ar y pryd. Yn 2017, dyfarnwyd MBE anrhydeddus iddi am wasanaeth cymunedol ac yn 2018 cafodd ei chydnabod gan y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB) yn eu Her Arweinwyr Dylanwadol, sy'n anrhydeddu cyn-fyfyrwyr rhyngwladol nodedig o ysgolion busnes sydd wedi'u hachredu gan AACSB. Ar ôl iddi gael ei derbyn yn Swyddog Urdd Sant Ioan ym mis Chwefror 2020, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Raglaw yng Ngwent ym mis Tachwedd 2021.

Yn ei hamser rhydd, mae'n eistedd fel ynad ar fainc Gwent ac mae'n llywodraethwr ar ddwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Yn fwy diweddar, oherwydd yr amser chwerthinllyd y mae'n ei dreulio yn y clwb rygbi lle mae ei dau fab ifanc yn chwarae, mae hi bellach yn aelod o Bwyllgor Bach ac Iau'r clwb.

Aspey Associates

Mae Linda yn goetsiwr swyddogion gweithredol, yn hwylusydd, yn oruchwyliwr, yn therapydd, yn awdur ac yn siaradwr sy’n gweithio gydag arweinwyr, timau a grwpiau i ddyfnhau eu gallu i wrando i sbarduno meddwl newydd, i gael sgyrsiau dewr, ac i gymryd camau cadarnhaol ar eu heriau newid, gan gynnwys newid diwylliannnol, cymdeithasol, a newid hinsawdd. Mae hi’n gyfadran fyd-eang yn Time to Think, gan addysgu a chymhwyso coetswyr a hwyluswyr yn yr Amgylchedd Meddwl. Mae hefyd yn gweithio gyda sefydliadau blaengar i greu “sefydliadau meddwl”.

Prif Arolygydd EM, Estyn

Ym mis Ionawr 2022, penodwyd Owen Evans yn Brif Arolygydd EM ac mae’n gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae hefyd yn gyfrifol am reoli, staffio a threfniant Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru sy’n cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ac adolygu polisi yng Nghymru. Mae Owen hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth weithio’n agos gyda’r cyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill yng Nghymru, i fod wrth wraidd y broses o gynllunio a gweithio ar y cyd. Yn ogystal â hyn, fel Swyddog Cyllid Estyn, mae’n sicrhau y caiff adnoddau eu defnyddio’n bwrpasol gan sicrhau gwerth ariannol. Mae’r Prif Arolygydd hefyd yn llunio Adroddiad Blynyddol ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Mae Owen yn siarad Cymraeg a chafodd ei addysg yn Ysgol Penweddig ac yng Ngholeg Ceredigion, Aberystwyth, cyn graddio mewn economeg o Brifysgol Abertawe. Ymunodd Owen ag Estyn o’i swydd fel Prif Weithredwr S4C. Cyn ymuno ag S4C, bu’n gweithio fel Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ac roedd yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhwng 2008 a 2010, bu’n gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru ac am 10 mlynedd cyn hynny, bu’n gweithio i BT, fel aelod o’r tîm yn y DU sy’n datblygu strategaeth band eang BT. Mae wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac mae wedi cadeirio Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd yn y gorffennol.

Ar hyn o bryd, mae’n aelod o fwrdd cynghori Marie Curie yng Nghymru, mae’n rhan o’r rhaglen Speakers for Schools ac mae’n cadeirio WEPCo. Mae’n gyn-aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth.

Cyflwyno eich cais

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar y rhaglen hon, a ddyfernir drwy broses ddethol gystadleuol. Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno amcanion a chanlyniadau cryf sy’n cyd-fynd â chi’ch hun a’ch sefydliad. Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais.

Er mwyn sicrhau bod y grŵp cynrychiolwyr yn elwa o gymysgedd perthnasol o brofiad rydym yn defnyddio nifer o feini prawf i ddidoli ceisiadau gan gynnwys cymhelliant i wneud cais a sut y bydd ymgeiswyr yn cymhwyso’r dysgu er budd eu hunain, eu sefydliad, a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach, ystyrir hefyd yn cael ei roi i gynrychiolaeth sector a rhanbarthol.

Bydd lleoedd yn cael eu dyfarnu i'r ymgeiswyr hynny sy'n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy'n gallu dangos eu hadenillion ar fuddsoddiad.

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol- Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 100 a 150 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad- Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Haf? (rhwng 100 a 150 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol- Sut bydd yr Ysgol Haf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 100 a 150 gair)

Deilliannau dysgu

Mae deilliannau dysgu’n ddatganiadau sy’n disgrifio dysgu arwyddocaol a hanfodol y mae dysgwyr wedi’i gyflawni ac y gallant ei arddangos mewn ffordd ddibynadwy ar ôl yr Ysgol Haf. Mewn geiriau eraill, mae deilliannau dysgu’n dangos yr hyn y byddwch yn gallu ei wneud erbyn diwedd y rhaglen.

Dylai deilliannau dysgu:

  • Adlewyrchu gwybodaeth, sgiliau neu ymddygiadau hanfodol
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau’r profiad dysgu
  • Adlewyrchu canlyniad dymunol y digwyddiad, nid y dull na’r broses
  • Bod o leiaf 100 gair a hyd at 150 o eiriau.
Beth sy'n addas

Fel Pennaeth Gwasanaeth yn yr awdurdod, rhan o fy rôl yw adeiladu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol (ac wedi’u datblygu’n gydweithredol). Mae angen i mi allu ymgysylltu’n llawn â fy rhanddeiliaid a fy nhîm i helpu i fwrw ymlaen â’r agenda hon. Rwyf yn gallu adeiladu ar fy sgiliau drwy gael dealltwriaeth o’r pecynnau cymorth a’r technegau sy’n gallu helpu i ymgysylltu’n effeithiol ag eraill.

Mae’r amcan hwn yn rhan allweddol o fy nghynllun datblygiad personol a bydd yn cael ei fesur fel rhan o fy mherfformiad cyffredinol. Ar ôl dychwelyd i’r gwaith ar ôl yr Ysgol Haf, byddaf yn adolygu fy nysgu gyda fy rheolwr ac yn ystyried sut y gall fy helpu i gwblhau fy ngweithredoedd.

Rwyf yn awyddus i glywed mwy am waith David Zinger ar ymgysylltu â chyflogeion a’u lles; yn enwedig yng ngoleuni’r heriau mae fy nhîm yn eu hwynebu wrth geisio cyflawni ein hamcanion busnes yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Ar ddiwedd wythnos yr Ysgol Haf, rwyf yn bwriadu creu cynllun gweithredu i fy helpu i drosi dysgu’r wythnos i weithredoedd drwy ddefnyddio’r pecynnau a’r technegau rwyf yn eu dysgu, ynghyd ag arferion da, meddwl newydd a chymorth cymheiriaid. Byddaf yn cwrdd â fy Mhrif Weithredwr ym mis Gorffennaf i adrodd yn ôl ar yr Ysgol Haf a fy nghynllun gweithredu.

Beth sy'n anaddas

Rwyf yn disgwyl gwella fy sgiliau ymgysylltu yn yr Ysgol Haf drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a thrwy wrando ar y siaradwyr.

Mae’n bwysig fy mod yn meddu ar y sgiliau hyn i fy ngalluogi i wneud fy ngwaith.

Mae rhaglen yr Ysgol Haf yn ymddangos yn ddiddorol dros ben a dylai nifer o’r sesiynau fy helpu gyda fy nysgu a fy natblygiad.

Amcanion Dysgu

Mae amcan dysgu’n ddatganiad pendant sy’n disgrifio’r hyn y mae rhywun yn ceisio’i gyflawni o ganlyniad i weithgarwch dysgu. I’r graddau posibl, dylai amcanion dysgu fod yn rhai CAMPUS: Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol. Mae amcanion CAMPUS yn wahanol i “nodau” sy’n fwy cyffredinol ac sydd weithiau’n anodd i’w mesur yn uniongyrchol.

Enghraifft bersonol
Beth sy'n addas

O ganlyniad i fynychu’r Ysgol Haf, byddaf yn deall fy sgiliau ymgysylltu’n well, gan gynnwys fy nghryfderau a meysydd i’w gwella. Bydd yr wybodaeth hon, ynghyd â fy nghynllun gweithredu o’r Ysgol Haf, yn fy helpu i asesu fy nghynnydd yn y maes hwn yn ystod y 12 mis nesaf. Bydd hyn hefyd yn cael ei drafod a’i fesur fel rhan o’r broses o adolygu fy nghynnydd gyda fy rheolwr.

Beth sy'n anaddas

Hoffwn fynychu’r Ysgol Haf fel yn gallu bod yn arweinydd sy’n ymgysylltu’n well.

Enghraifft sefydliadol
Beth sy'n addas

O ganlyniad i fynychu’r Ysgol Haf, byddaf yn gallu defnyddio amrywiaeth o becynnau a thechnegau i ymgysylltu ag eraill yn y broses o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau, annog rhanddeiliaid, cymunedau ac unigolion allweddol i gyfrannu at hyn ac i berchnogi’r canlyniadau.

 

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i fy ngwaith gyda thimau gwasanaethau brys yng Nghanolbarth Cymru, i ystyried sut y gallwn ddatblygu gwasanaeth mwy ymatebol, cydlynus sy’n berthnasol i gymunedau yn yr ardal.

 

Ym mis Gorffennaf, byddaf yn trefnu sesiwn ar gyfer fy nhîm i rannu’r pecynnau a’r technegau a ddysgwyd yn yr Ysgol Haf ac i ymgorffori’r rhain yn ein cynlluniau ar gyfer y tîm er mwyn bwrw ymlaen â’n prif amcanion busnes.

 

Beth sy'n anaddas

 

Rwyf eisiau gallu ymgysylltu’n well ag eraill a gobeithiaf y bydd yr Ysgol Haf yn rhoi’r sgiliau i mi i wneud hyn.

Codir tâl cynrychiolwyr o £250 + TAW ar gyfer yr Ysgol Haf sy’n cynnwys cyfraniad at gostau dysgu’r digwyddiad.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn dydd Iau, 26 Mai 2022.

Sylwch, os tynnwch yn ôl o’r Ysgol Haf ar ôl i le gael ei ddyfarnu i chi, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Sut ydw i'n talu? Pa wybodaeth sydd ei hangen?

Bilio ar gyfer ymgeiswyr am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a'r trydydd sector

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Enw’r sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • Enw a chyfeiriad y swyddog bilio
  • Cyfeiriad e-bost y swyddog bilio

Cyflenwr: Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

I gadarnhau eich lle, rhaid i chi roi rhif archeb brynu i ni. Byddwn yn anfonebu eich sefydliad am eich ffi cynadleddwyr ar ôl yr Ysgol Haf.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch am y gofynion anfonebu, cysylltwch â'n tîm cyllid yn AW.Busnes@llyw.cymru.

Bilio ar gyfer ymgeiswyr Llywodraeth Cymru

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid cangen

I gadarnhau eich lle, rhaid i'ch rheolwr cyllid cangen ddarparu'r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:

  • Canolfan elw
  • Cod gweithgarwch
  • Rhif personél neu enw’r cynrychiolydd

Byddwn yn cyhoeddi trosglwyddiadau cofnodi i gasglu ffioedd y cwrs ar ôl y digwyddiad.

Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo, cysylltwch â’n Tîm Cyllid AW.Busnes@llyw.cymru.

Amserlen

Dydd Mawrth 28 Mehefin – Dydd Mercher 29 Mehefin - Diwrnod 1 a Diwrnod 2

Gwahoddir cynadleddwyr i fewngofnodi o 09:00
Digwyddiad i ddechrau 09:30 to 17:10

Dydd Iau 30 Mehefin – Diwrnod 3

09:30 to 16:45

A oes rhaid i mi aros ar-lein drwy gydol y digwyddiad?

Oes – rhaid i gynadleddwyr fod yn bresennol ar gyfer y rhaglen gyfan. Mae wedi'i chynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn sylweddoli manteision llawn y rhaglen oni bai eich bod yn cwblhau pob agwedd.

A oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd neu ofynion eraill?

Nodwch ar eich ffurflen gais os oes angen unrhyw gymorth arnoch. Os bydd angen, byddwn yn cysylltu â chi i drafod yn nes at y digwyddiad.

Cymraeg

Bydd yr Ysgol Haf yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Fodd bynnag, darperir pecynnau a deunyddiau i gynadleddwyr yn ddwyieithog.

Paratoadau personol

Lle y bo’n briodol, mae’n rhaid i chi gwblhau'r holl waith a osodir gan y siaradwyr ymlaen llaw.

Hyb cynadleddwyr

Gwahoddir cynadleddwyr llwyddiannus i gofrestru ar Hyb Cynadleddwyr yr Ysgol Haf. Mae hwn yn safle caeedig diogel a gellir ei gyrchu unrhyw bryd, unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd y Hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio gyda'ch cyd-gynadleddwyr.

Mae'n bwysig eich bod yn mewngofnodi i'r Hyb i dderbyn diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth allweddol am y rhaglen. Rydym yn argymell eich bod yn clicio’r botwm Tanysgrifio, a dewiswch yr opsiwn Fel maen nhw'n digwydd i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddi gael ei rhannu.

Bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge neu Google Chrome i gael mynediad i'r Hyb.

Cysylltiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch yr Ysgol Haf.