English

Cynhadledd Coetsio Rhithwir Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan 2020

Cynulleidfa:

Staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru sydd â diddordeb mewn coetsio

Dyddiad:

19 Tachwedd 2020

Location:

Ar-lein
Dim cost i gynrychiolwyr

Coetsio ar gyfer y normal newydd – helpu unigolion i ffynnu

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Trosolwg

Rydym yn falch o gyhoeddi Rhith-gynhadledd Coetsio Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020, ‘Coetsio ar gyfer y Normal Newydd – helpu unigolion i ffynnu’. Mae’r gynhadledd wedi’i hanelu at ymarferwyr coetsio a mentora sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru.

Rydym yn ymwybodol iawn bod coetsio, yn ystod y cyfnodau hyn o newid ac ansicrwydd, yn cynnig cefnogaeth y mae ei hangen yn fawr i unigolion a’u sefydliadau, a bod ganddo ran allweddol i’w chwarae wrth amsugno pryderon personol a chefnogi ochr ddynol yr argyfwng yr ydym ynddo.

Mae thema ein cynhadledd, ‘Coetsio ar gyfer y Normal Newydd – helpu unigolion i ffynnu’, yn adlewyrchu’r gofynion sy’n ein hwynebu nawr.

Manteision i chi

Bydd y Rhith-gynhadledd Coetsio hon yn eich galluogi i:

  • ymgysylltu ag ymarferwyr ac arbenigwyr yn eu dewis feysydd a fydd yn rhannu eu profiadau, eu hadnoddau a’u technegau
  • gwella’r gefnogaeth rydych yn ei ddarparu fel rhan o’ch arferion coetsio eich hun.

Cadeirydd a siaradwyr

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru sydd â diddordeb mewn coetsio.

Amserlen

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr

Sut mae gwneud cais

Dyddiad cau: 2 Tachwedd 2020

Bydd angen i chi fod â chyfrif ar ein gwefan i ymgeisio am y digwyddiad yma. Gallwch gofrestru os ydych yn gweithio mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru.

Unwaith y byddwch chi wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, ewch i’r dudalen ymgeisio a cliciwch y botwm ‘Gwneud cais am le' i ddechrau eich cais.

Mae gennym nifer gyfyngedig o leoedd yn y digwyddiad hwn, a byddwn yn rhoi blaenoriaeth i bobl sydd â rôl coetsio. Byddwn yn didoli ceisiadau nad ydynt yn gysylltiedig â coetsio yn seiliedig ar eich ateb i’r cwestiwn ‘Rhannwch yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni trwy fynychu’r gynhadledd coetsio a sut y bydd yn cefnogi coetsio i chi a’ch sefydliad’.

Ymuno â’r gynhadledd - Microsoft Teams

Os nad oes gennych gyfrif ‘Teams’, yna dewiswch Ymuno fel gwestai.

Gallwch ddefnyddio porwyr gwe Microsoft Edge a Google Chrome i ymuno fel gwestai. Os ydych chi’n defnyddio tabled neu ffôn clyfar, efallai y bydd angen ichi lawrlwytho app Microsoft Teams o’ch siop apiau cyn y gallwch chi ymuno â’r sesiwn.

Unwaith y byddwch chi’n ymuno â’r sesiwn, diffoddwch eich microffon oni bai bod yr hwylusydd yn gofyn ichi siarad.