English

Cynhadledd Coetsio 2020 - siaradwyr

Gwnewch yn siwr eich bod yn ein dilyn ar Twitter i gael yr holl newyddion diweddaraf! Gallwch ymuno â'r drafodaeth yn #UnGwasanaethCyhoeddusCymru a #OneWelshPublicService.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau yn ystod yr wythnos, cysylltwch â ni ar AcademiWalesCoachingandMentoring@llyw.cymru.

Rhaglen y dydd

Bydd y gynhadledd yn dechrau am 09:15 ac yn dod i ben am 16:00.

09:15 - Croeso i’r Gynhadledd Goetsio

Paul Schanzer, Cyfarwyddwr, Academi Wales

09:45 - Pwer ymwybyddiaeth ofalgar berthynol i greu diogelwch a dyfnhau mewnwelediadau mewn perthnasoedd coetsio

Dr Emma Donaldson-Feilder, Cyfarwyddwr, Affinity Coaching and Supervision

Fel coetswyr, bydd ein ffordd o fod yn y berthynas goetsio yn dylanwadu ar ganlyniadau cleientiaid gymaint â'r offer, y technegau a'r sgiliau a ddefnyddiwn. Trwy ymgorffori ymwybyddiaeth o foment i foment mewn perthynas, gallwn gefnogi datblygiad ein cleientiaid trwy greu diogelwch seicolegol yn y sesiwn goetsio a thrwy alluogi mewnwelediadau dyfnach.

Mae ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar berthynol yn ffordd o adeiladu ein hymwybyddiaeth a'n gwytnwch mewn sefyllfaoedd perthynol: mae'n cefnogi ymwybyddiaeth o foment i foment, mewn deialog â pherson arall, ac yn caniatáu archwilio trwy brofiad o natur bod yn ddynol.

12:00 - Egwyl

12:10 - Arwain ar Ia – y stori ddiffiniol am arweinyddiaeth 'cyfyngiadau symud'

Ian Govier, Academi Wales

Fe’i galwyd ‘yr arweinydd gorau a droediodd ddaear Duw erioed, yn anad neb’ ond eto ni arweiniodd byth dîm yn fwy na 27 o bobl, methodd â chyrraedd bron pob nod a osododd a, than yn ddiweddar, prin y’i cofiwyd ers ei farwolaeth ym 1922. Fodd bynnag, pan fyddwch wedi dysgu stori Syr Ernest Shackleton a’i alldaith hynod i’r Antarctig ym 1914, mae’n siwr y cytunwch â’r rheini sy’n mawrygu ei alluoedd arwain, coetsio ac adeiladu tîm gwych.

Gan dynnu ar y stori ryfeddol a gwir hon, bydd gweithdy addysgiadol ac ysbrydoledig Ian yn taflu goleuni ar bwysigrwydd beirniadol arweinyddiaeth ‘y gwir ogledd’ wrth goetsio cleieitniaid sy’n ymateb i’r heriau, a chynyddu’r cyfleoedd mwyaf posibl, sy’n dod i’r amlwg ar adegau o adfyd, ansicrwydd a newid.

Cwestiynau ar gyfer myfyrio

Dilyn Diben Gydag Angerdd

  • Beth yw fy mhwrpas, neu fy ‘Ngogledd Cywir’, a beth ydw i'n ei wneud bob dydd sy’n dangos fy mod I'n mynd ar drywydd fy mhwrpas gydag angerdd?
  • Yn fy mywyd personol a phroffesiynol, a fyddai’r rheini rwy’n eu harwain yn dweud fy mod yn cael fy arwain yn bennaf gan fy oriawr, neu fy nghwmpawd?

Ymarfer Gwerthoedd Cadarn

  • Beth yw’r gwerthoedd craidd sy’n sail i'm ymdeimlad o bwrpas?
  • Sut ydw i'n byw’r gwerthoedd hynny mewn modd cyson a dilys?

Arwain â’r Galon

  • Ym mha ffyrdd y mae fy arweinyddiaeth yn ‘ddeallus yn emosiynol’?
  • Sut alla i fynd ati i ddatblygu fy mhenderfyniadau ‘â’m pen a’m calon’?

Sefydlu Perthnasoedd sy’n Para

  • Sut mae fy arweinyddiaeth yn gwella perthnasoedd o fewn fy nhîm?
  • Pa berthynas(oedd) pwysig y mae angen i mi eu cymodi neu roi mwy o amser a sylw iddyn nhw?

Dangos Hunanddisgyblaeth

  • Sut ydw i'n ymarfer bod yn arweinydd dilys a disgybledig bwriadol bob dydd?
  • Sut fyddai’r rhai o’m cwmpas yn disgrifio lefel fy hunanddisgyblaeth, a pha dystiolaeth fyddent yn ei darparu fy mod yn ymdrechu i fod yn arweinydd ‘Gogledd Cywir’?

13:10 - Cinio

13:30 - Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol

Ross Storr, Academi Wales

Mae seicoleg gadarnhaol yn offeryn defnyddiol i ni gynnal ymdeimlad da o les meddyliol mewn bywyd bob dydd. Daw hyd yn oed yn fwy defnyddiol yn ystod cyfnodau o ansicrwydd ac adfyd, a gall ein helpu i edrych ar ochr orau pethau.

Ymunwch â ni am sesiwn ryngweithiol wrth i ni eich tywys drwy nifer o ymarferion hawdd eu cymhwyso o faes Seicoleg Gadarnhaol. Gall y rhain eich helpu i osod ffrâm gadarnhaol ar gyfer nifer o bethau, gan ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol o’ch cwmpas, a gall eich rhwystro rhag teimlo wedi’ch llethu gan y pethau negyddol i chi’ch hun ac eraill o’ch cwmpas.

14:30 - Egwyl

14:35 - The Art of Being Brilliant
Dr Andy Cope, Art of Brilliance

Mae THE ART OF BEING BRILLIANT yn darparu gwrthwenwyn i wallgofrwydd y byd modern. Y bwriad yw rhannu rhai o gyfrinachau Seicoleg Bositif, gan ganolbwyntio ar ddysgu arferion newydd o ran meddwl ac ymddygiad a fydd yn cynnal ‘rhagoriaeth’ personol. Mae’n gweithio am ei fod yn syml, yn hwyl ac yn sôn amdanoch ‘chi i gyd’ felly mae’n berthnasol yn y gwaith ac ar y tu allan.

Cwestiynau ar gyfer myfyrio

  • Allech chi fod yn hapusach hyd yn oed os na fyddai unrhyw beth o’ch cwmpas yn y byd yn newid ?
  • Pwy yw’r person hapusaf yr ydych yn ei adnabod? Pam ydych chi’n meddwl eu bod mor hapus?
  • Rhestrwch 10 peth yr ydych yn ffodus i’w cael ond rydych yn eu cymryd yn ganiataol.

16:00 - Gorffen a gwerthusoRydym yn gobeithio bod y gynhadledd goetsio hon wedi bod yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol i chi. A fyddech cystal â llenwi ein ffurflen werthuso i’n helpu i wella ein sesiynau yn y dyfodol.

Darllen pellach

Academi Wales (2016) Hyfforddi - Datblygu pobl ar gyfer llwyddiant mewn cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus, Hau Hadau

Academi Wales (2018) Ymwybyddiaeth Ofalgar - Defnyddio ein hadnoddau personol ar gyfer mwy o lwyddiant, Hau Hadau

Academi Wales (2019) Goruchwylio Coetsio - Datblygu eich dull coetsio i gael y gorau o eraill, Hau Hadau

Bluckert, P (2019) A comprehensive guide to vertical development (Expand the Possible)

Cope, A (2020) How to Be a Well Being: Unofficial Rules to Live Every Day, Capstone

Donaldson-Feilder, E (2020) ‘Relational mindfulness: why the enthusiasm and what is it?’, Coaching at Work

Edmondson, A (2018) The Fearless Organization: Creating Psychological Safety in the Workplace for Learning, Innovation, and Growth, John Wiley & Sons

Frederickson, B (2013) Love 2.0, Finding Happiness and Health in Moments of Connection, Plume

George, B (2015) Discover Your True North – becoming an authentic leader, John Wiley & Sons

Kline, N (2002) Time to Think: Listening to Ignite the Human Mind, Cassell

Porges, S (2011) The Polyvagal Theory: Neurophysiological Foundations of Emotions, Attachment, Communication, and Self-Regulation

Cyfarwyddwr, Academi Wales
Mae gan Paul fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn datblygu arweinyddiaeth ar ôl ymuno â GIG Cymru fel ymarferydd datblygu yn ystod y 1990au. Mae Paul wedi gweithio i Academi Wales, Llywodraeth Cymru ers 2013. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cynnig arweiniad ar lywodraethu a hefyd ar ddatblygu ar lefel bwrdd ac ar lefel weithredol, a hynny ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru.

Ac yntau wedi datblygu fframweithiau asesu uwch dimau ar gyfer arweinwyr, mae Paul yn gysylltiedig â galluogi uwch dimau a byrddau, gan eu helpu i bennu’r nodweddion, y dulliau a’r strategaethau sy’n angenrheidiol i sefydliadau weithredu a chynnal perfformiad uchel o fewn y sefydliad.

Mae gan Paul ddiddordeb arbennig mewn archwilio cysyniadau’n ymwneud â dynameg unigolion, grwpiau a systemau, a’u heffaith ar benderfyniadau effeithiol ar lefel bwrdd. Ar ôl cwblhau’r ‘Rhaglen Dynameg Lefel Bwrdd’ gyda Sefydliad Tavistock, cyfrannodd bennod o astudiaeth achos at ‘High Performing Boards – exploring the influence of unconscious behaviours for the Dynamics at Boardroom Level’ (Cynlyfr Tavistock ar gyfer Arweinwyr, Coetswyr ac Ymgynghorwyr), a gyhoeddwyd yn 2019 gan Routledge.

Prif Weithredwr, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Ar hyn o bryd Shereen Williams yw Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Cyn ymgymryd â'r rôl hon ym mis Ionawr 2019, bu’n gweithio ym maes llywodraeth leol am bron i ddegawd. Fel swyddog llywodraeth leol, bu’n gweithio ar draws Awdurdodau Lleol Casnewydd a Sir Fynwy fel y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig ac roedd yn gyfrifol am gyflawni blaenoriaethau strategol gan gynnwys Ymfudo, VAWDASV, y Gymraeg, Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol.

Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae hi wedi gwirfoddoli mewn sawl rôl yn y Trydydd Sector yn ogystal ag ar gyfer cyrff statudol ac ar hyn o bryd mae'n ymddiriedolwr Ambiwlans Sant Ioan Cymru a'r Sefydliad Materion Cymreig. Mae hi hefyd yn llywodraethwr ysgol ac yn ynad sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yng Ngwent.

Am ei gwaith yn y Trydydd Sector, cyflwynwyd Gwobr Uthman Dan Fodio am Ragoriaeth mewn Datblygu Cymunedol i Shereen yng Ngwobrau Newyddion Mwslimaidd y DU yn 2009 a Gwobr Cydnabod Cyflawniad Llywodraeth Cymru am wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol. Yn 2017 dyfarnwyd MBE anrhydeddus iddi am wasanaeth cymunedol ac yn 2018 cafodd ei chydnabod gan y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB) yn eu Her Arweinwyr Dylanwadol, sy'n anrhydeddu cyn-fyfyrwyr rhyngwladol nodedig o ysgolion busnes sydd wedi'u hachredu gan AACSB. Ym mis Chwefror 2020, fe'i gwnaed yn Swyddog Urdd Sant Ioan.

Ar hyn o bryd Shereen Williams MBE OStJ yw Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBCW). Cyn dechrau yn y swydd gyda LDBCW ym mis Ionawr 2019, bu’n gweithio mewn llywodraeth leol am bron i ddegawd yn cyflawni blaenoriaethau strategol gan gynnwys Ymfudo, Atal Eithafiaeth Dreisgar, Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol.

Cyfarwyddwr, Affinity Coaching and Supervision
Mae Emma Donaldson-Feilder yn Seicolegydd Galwedigaethol Cofrestredig, yn Oruchwylydd Coetsio ac yn Athrawes Ymwybyddiaeth Ofalgar Berthynol sy’n ymddiddori mewn dysgu a datblygu perthynol. Mae portffolio proffesiynol amrywiol Emma’n cynnwys dysgu ymwybyddiaeth ofalgar berthynol, darparu goruchwyliaeth unigol a grwp i goetswyr a gweithwyr proffesiynol eraill, coetsio i uwch reolwyr a swyddogion gweithredol, ymgynghoriaeth i sefydliadau a thimau, ymchwil, ysgrifennu, polisi cyhoeddys, a chyflwyno.

Yn 2019, cwblhaodd Emma Ddoethuriaeth Broffesiynol yn archwilio potensial i ymwybyddiaeth ofalgar ac ymwybyddiaeth ofalgar berthynol gefnogi arweinwyr a rheolwyr i ddatblygu eu gallu i arwain. Amlygodd hyn pa mor bwysig yw hi fod coetswyr a gweithwyr proffesiynol Dysgu a Datblygu yn ymgorffori'r rhinweddau y maent yn ceisio eu hwyluso yn eu cleientiaid. Yn naturiol mae wedi arwain Emma i ddatblygu cyfres o raglenni ymwybyddiaeth ofalgar berthynol, sydd wedi ennyn diddordeb arbennig yn y gymuned coetsio.

Mae Emma’n Gyfarwyddwr Affinity Coaching and Supervision, ymgynghoriaeth seicoleg coetsio sy’n darparu coetsio yn y gweithle, ynghyd â goruchwyliaeth ar gyfer coetswyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Sefydlu Affinity Health at Work, grwp ymchwil arbenigol ac ymgynghoriaeth sydd ag arbenigedd penodol mewn helpu cyflogwyr a rheolwyr i wella iechyd a lles gweithwyr, yn bennaf trwy wella arweinyddiaeth, rheoli pobl a diwylliant sefydliadol. Cyhoeddwyd y llyfr a ysgrifennodd ar y cyd, 'Preventing stress in organisations: how to develop positive managers', gan Wiley-Blackwell, ac enillodd ‘Y Testun Gorau i Ymarferwyr’ yng ngwobrau llyfrau Cymdeithas Seciolegol Prydain.

Mae Emma yn defnyddio dull integredig sy'n seiliedig ar werthoedd, integreiddiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio ei hymchwil ei hun ac ymchwil eraill, ynghyd â modelau ymarferol perthnasol, i gefnogi canlyniadau effeithiol i gleientiaid. Mae hefyd yn defnyddio'r mewnwelediad a gynigiwyd gan ei gyrfa flaenorol mewn cysylltiadau a chyfathrebu rhyngwladol, ei phrofiad fel canolwr hirsefydlog a'i phrofiad o ddigwyddiadau bywyd, i lywio a chyfoethogi ei haddysgu, ei hyfforddi a'i goruchwylio.

Academi Wales
Mae cefndir proffesiynol Ian ym maes datblygu nyrsio, addysg ac arweinyddiaeth. Gydag ugain mlynedd o brofiad hwyluso, hyfforddi a mentora amlsector, mae gan Ian hanes llwyddiannus o weithio gydag unigolion a thimau aml-broffesiynol i greu a meithrin perthnasoedd sy'n cynhyrchu canlyniadau effeithiol a newid pwrpasol.

Mae'n aelod gweithgar o Gyngor Mentora a Hyfforddi Ewrop, yn ogystal â Chymdeithas Hyfforddi'r DU, ac mae wedi cyflwyno llawer o bapurau arloesol ar arweinyddiaeth, hyfforddi a mentora mewn amrywiaeth o Gynadleddau yn y DU ac Ewrop. Mae Ian yn gweithio'n rhan-amser i Academi Wales, Llywodraeth Cymru ac mae hefyd yn rhedeg busnes hyfforddi ac ymgynghori; mae'n cael ei gydnabod am fabwysiadu dull gwybodus, creadigol sy'n seiliedig ar werthoedd tuag at ddatblygiad personol, proffesiynol a sefydliadol.

Academi Wales
Mae Ross yn Rheolwr Busnes Arwain a Datblygu yn Academi Wales ac mae’n rheoli rhedeg eu prif bortffolio o gyrsiau ac ymyriadau datblygu arweinyddiaeth o ddydd i ddydd.

Mae wedi bod yn gweithio yn y sector cyhoeddus ers dros 15 mlynedd ac mae ganddo gefndir ym maes Adnoddau Dynol a rolau Dysgu a Datblygu mewn Llywodraeth Leol a Chenedlaethol. Mae’n hwylusydd profiadol, yn mwynhau helpu pobl i fod y gorau allant fod ac yn aelod o Rwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Seicoleg Gadarnhaol (European Network for Positive Psychology). Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan helpu i weithredu arferion o faes seicoleg gadarnhaol, gyda’r nod o wella’r gwasanaeth i staff a dinasyddion Cymru.

Art of Brilliance
Mae Andy’n athro cymwys, yn arbenigwr llesiant ac yn ‘academydd sy’n ail-adfer’. Treuliodd 12 mlynedd yn gweithio ar ei PhD ym Mhrifysgol Loughborough, ac mae’n ymhyfrydu yn yr eironi bod ei thesis ar ffyniant dynol wedi’i wneud yn ddiflas.

Yn wobr am ymlafnio a rei PhD yw bod Andy’n gallu galw ei hun yn ‘Ddoctor Hapusrwydd’. Peidiwch â phoeni, mae e’n ddigon ymwybodol yn gymdeithasol bod y teitl yn un ofnadwy o gawslyd, ond fymryn yn well na’r dewis arall annerbyniol, ‘Doctor Feelgood’.

Yn gryno, mae Andy yn gwbl groes i'r holl ddoctoriaid eraill rydych chi erioed wedi dod ar eu traws. Tra’u bod nhw wedi cael eu hyfforddi i weithio allan beth sydd o'i le gyda chi, mae Andy yn canolbwyntio ar y gwrthwyneb; beth sy'n iawn gyda chi, beth sy'n gwneud ichi ddod yn fyw a sut allwch chi fod ar eich gorau yn amlach.

Mae’r doctor da yn ddigon ffodus i weithio gyda rhai busnesau mawr iawn, gan gynnwys DHL, Kelloggs, Hewlett Packard, Astra Zeneca, Lego, Nationwide ac UEFA. Yn ddiweddar, mae e wedi teilwra ei weithdai er mwyn bodloni anghenion plant ac athrawon ac mae e erbyn hyn yn cyflwyno i gynulleidfaoedd o 8 oed i fyny!

Mae llyfrau Andy ar restr y gwerthwyr gorau yn aml. Mae ‘The Art of Being Brilliant’, ‘Shine’, ‘The Little Book of Emotional Intelligence’ a ‘Zest’ i gyd wedi cyrraedd brig y siartiau datblygiad personol. Cafodd ‘Happiness Route Map’ ei enwebu fel llyfr hunangymorth gorau’r flwyddyn The Independent. Dyw e ddim wedi gorffen eto; bydd yn cyhoeddi ‘How to be a Well Being’ a ‘A Girl’s Guide to Being Fearless’ yn 2020

www.artofbrilliance.co.uk
andy@artofbrilliance.co.uk
@beingbrilliant