English

Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2024

  • Cynulleidfa
    Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

  • Dyddiadau
    25 i 28 Mehefin 2024

  • Location
    Preswyl
    Campws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

  • Cost
    £600 + TAW

‘Y tu hwnt i’r gorwel: Arwain gydag eglurder a hyder mewn amseroedd sy’n newid’

Trosolwg

Gan ddathlu ei pedwerydd ar bymtheg flwyddyn, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn cynnal Ysgol Haf fyw eleni. Mae’r Ysgol Haf yn brofiad dysgu preswyl dwys, 4 diwrnod o hyd, sy’n dod ag arweinwyr ac uwch reolwyr ynghyd i fynd i’r afael â materion allweddol ar bwnc penodol yn ymwneud ag arweinyddiaeth.

Rydym yn croesawu’r cyfle i barhau i gefnogi ein cydweithwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Mae rhaglen yr Ysgol Haf 4 diwrnod yn ysbrydoledig ac yn dreiddgar! Byddwch yn darganfod safbwyntiau a syniadau newydd a fydd yn gwella eich sgiliau a’ch gwybodaeth i ymgymryd â’r heriau y mae eich sefydliadau’n eu hwynebu ar hyn o bryd. Byddwch yn cael amser myfyrio gwerthfawr, dysgu wedi'i hwyluso a bydd cyfle i rwydweithio ac adeiladu perthnasoedd ag arweinwyr cymheiriaid ar draws pob rhan o Wasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r trydydd sector, i ehangu eich rhwydweithiau y tu hwnt i'r gwasanaeth rydych chi'n gweithio ynddo, yn ogystal â chynyddu eich gwelededd fel arweinydd sector cyhoeddus.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Mae gan Academi Wales safle unigryw yn nhirwedd Cymru. Gyda mynediad at arweinwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus, dealltwriaeth o anghenion arwain a thrawsnewid ein harweinwyr presennol ac yn y dyfodol, a lefelau uchel o arbenigedd wrth gyflawni ymyriadau ystyrlon ac effeithiol, mae gennym ran allweddol i’w chwarae yn nyfodol Cymru.

Mae sawl edefyn aur yn rhedeg drwy bopeth a wnawn: Gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ethos Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, canolbwyntio’n gryf gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, hyrwyddo’r Gymraeg a defnyddio dulliau digidol a hybrid i gefnogi darpariaeth o ansawdd.

Mae strategaeth newydd Academi Wales yn cyflwyno ein diben uchelgeisiol i drawsnewid Cymru drwy ragoriaeth mewn arweinyddiaeth.

Mae Academi Wales yn ymgorffori ac yn cyflawni ethos Prif Weinidog Cymru o Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mae Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn ymwneud â gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i’n helpu i greu Cymru yr ydym am fyw ynddi nawr ac yn y dyfodol. Mae’n ffordd o feddwl ac ymddwyn – i ddatblygu dyfodol lle gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd gyda phwrpas ar y cyd, gan rannu gweledigaeth a gwerthoedd.

Manteision i chi

Mae Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru wedi’i chynllunio i roi’r cyfle i chi adolygu ac adnewyddu eich sgiliau, adeiladu gwybodaeth newydd a chael mewnwelediad i’ch ymarfer arwain. Mae’n rhoi cyfle i archwilio ffyrdd arloesol o ‘gyflwyno’r busnes’, gan ddefnyddio cyfoeth o wybodaeth a phrofiad byd-eang.

Sylwadau wrth gynrychiolwyr Ysgol Haf 2023:

“Mae’r ysgol haf yn darparu ystod eang o wybodaeth i’r mynychwyr wrth arbenigwyr ac arweinwyr rhagorol yn y sector cyhoeddus a thu hwnt. Os gallwch chi, ewch i'r ysgol haf - ni fyddwch yn difaru.”

“Byddwn yn argymell mynychu’r Ysgol Haf yn fawr os cewch chi’r cyfle. Roedd y cyfle i gamu i ffwrdd o’r ddesg a chael ysbrydoliaeth wrth gydweithwyr ledled Cymru a phobl wych ar y llwyfan yn rhywbeth rwyf yn ddiolchgar amdano.”

“Roedd yr egni positif ar y cyd ar gyfer newid yn yr ystafell wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen yn amlwg - dyna oedd effaith 'pili pala'!”

“Roedd yr Ysgol Haf yn gyfle unigryw i wrando a dysgu. Roedd yn brofiad trochi gwirioneddol a ragorodd ar fy nisgwyliadau. Rwy’n teimlo wedi fy adnewyddu, fy adfywio, ac wedi ymrwymo i gymhwyso fy nysgu.”

Mae fideos o Ysgolion Haf y gorffennol ar gael ar ein sianel YouTube - https://www.youtube.com/academiwales

Cadeiryddion a siaradwyr

Bydd y rhaglen 4 diwrnod cyffrous, lawn, ac amrywiol hon yn cynnwys siaradwyr sy’n academyddion ac yn arbenigwyr yn eu feysydd. Bydd y profiad Ysgol Haf yn rhoi’r cyfle i chi fynychu amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a gyflwynir gan academyddion, awduron a darparwyr a all ddarparu mewnwelediad a gwybodaeth i’ch cefnogi chi, eich sefydliadau, a’r gymuned yr ydych yn ei gwasanaethu.

Dysgwch fwy am y cadeiryddion a'r siaradwyr.

Bydd manylion llawn y siaradwyr yn cael eu rhannu yn fuan. Tanysgrifiwch i'n Bwletin Cyfleoedd, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n tudalen we am y newyddion diweddaraf a diweddariadau am Ysgol Haf 2024.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at reolwyr ac arweinwyr lefel uwch sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector neu’r sector gwirfoddol yng Nghymru.  I elwa fwyaf ar yr Ysgol Haf, mae’n bwysig eich bod ar y lefel gywir yn eich taith gyrfa.

Mae’r Ysgol Haf yn addas ar gyfer y rhai sy’n arwain tîm, cangen neu adran yn eu sefydliad, gyda chyfrifoldeb am greu amgylchedd gwaith effeithiol i’w staff, ac am nodi a hwyluso unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gyflawni amcanion eu sefydliad.

Sylwch mai nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer yr Ysgol Haf gan fod y galw am leoedd bob blwyddyn yn fwy na’r hyn y gallwn ni ei gymryd.

Cost

Codir tâl cynrychiolwyr o £600 + TAW ar gyfer yr Ysgol Haf sy’n cynnwys cyfraniad at gostau dysgu’r digwyddiad.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener, 10 Mai 2024.  

Sylwch, os tynnwch chi’n ôl o’r Ysgol Haf ar ôl i le gael ei ddyfarnu i chi, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Bwrsariaethau

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau i dalu 100% o gost cynadleddwyr Ysgol Haf 2024. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir, grwpiau lleiafrifol a difreintiedig a/neu lle mae gan sefydliadau cyflogi arian cyfyngedig.

I wneud cais am fwrsariaeth

Rhowch dystiolaeth eich bod yn bodloni’r cymhwysedd (50 i 100 gair). Mae angen i’ch ymateb alinio â’r meini prawf isod:

  • Rydych chi’n rhan o grwp sy’n cael ei dangynrychioli, grwp lleiafrifol neu grwp difreintiedig o fewn eich sefydliad trydydd sector neu sector gwirfoddol.
  • Maint eich sefydliad.

Sut i wneud cais am Ysgol Haf 2024

Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol. Dyfernir lleoedd i’r ymgeiswyr hynny sy’n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy’n gallu dangos y byddant yn dychwelyd ar fuddsoddiad.

Ni fu dangos elw ar fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni.  Nid yw adenillion ar fuddsoddiad yn ymwneud ag enillion ariannol yn unig. Effaith gynaliadwy'r dysgu i chi a'ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio drwy gyfnod heriol ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i'w canlyniadau sefydliadol.

Os ydych yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru, ac yr hoffech fod yn rhan o’r gymuned ddysgu ddeinamig hon, gwnewch gais am Ysgol Haf 2024 erbyn 10 Mai 2024.

Bydd angen i'ch cais gael ei ddilysu gan eich rheolwr llinell. Rhowch eu manylion cyswllt yn eich ffurflen gais.

Os yw eich sefydliad ar y rhestr gyswllt ganlynol, efallai y byddwch am hysbysu cyswllt y sefydliad i roi gwybod iddo eich bod yn bwriadu gwneud cais.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi derbyn lle erbyn Dydd Gwener 24 Mai 2024.

Mwy o wybodaeth

I ddod o hyd i fwy o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.