English

Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022

Cynulleidfa:

Tair lefel uchaf o arweinyddiaeth uchaf ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru

Dyddiadau:

1 i 4 Chwefror 2022
Dyddyad cau: 11 Ionawr 2022

Lleoliad:

Ar-lein

Cost:

Dim cost i gynrychiolwyr

Ni dderbynnir ceisiadau ar gyfer Ysgol Aeaf 2022 bellach.

Trosolwg

Am y ddeuddegfed flwyddyn yn olynol, mae’n bleser gennym gyhoeddi Ysgol Aeaf flynyddol Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.

Gan adeiladu ar ei llwyddiant ers 2011, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio’n benodol mewn ymateb i anghenion datblygu allweddol arweinwyr uchaf Cymru, a’r rhai hynny sy’n gweithio yn nhair haen uchaf gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol Cymru.

Bydd yn tynnu ar wybodaeth ac arbenigedd cymuned enwog o siaradwyr rhyngwladol, a’r thema gyffredinol ar gyfer yr Ysgol Aeaf eleni yw ‘Arwain i Bawb – Adnewyddu, Adfer, Adfywio – llwybr tuag at y dyfodol sy’n dod i’r amlwg’.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

I lawer o uwch arweinwyr, mae Covid-19 yn dal i gyflwyno heriau fel dim arall a wynebwyd gennym yn ddiweddar, ac mae’n dal i arwain at ansicrwydd maith.

Bydd y rhaglen 4-diwrnod hwn yn canolbwyntio ar ddyfodol arweinyddiaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a beth mae hyn yn ei olygu o ran arwain allan o argyfwng, rheoli newid, a diogelu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Mae’n rhoi cyfle i arweinwyr, gweision sifil, ac ymarferwyr datblygu archwilio dulliau newydd, wrth inni adeiladu gwasanaeth cyhoeddus sy’n fwy hyderus a meithrin gwerthoedd arweinyddiaeth cryfion er mwyn creu llwybr a rennir allan o’r argyfwng hwn tuag at y dyfodol.

Mae prif thema’r Ysgol Aeaf yn dangos hanfod y profiad rydym yn ceisio’i greu ar gyfer arweinwyr fel y gallant; Adnewyddu, Adfer ac Adfywio – creu llwybr tuag at y dyfodol.

Barn cynadleddwyr Ysgol Aeaf 2021 oedd:

"Am ddeuddydd ardderchog ac ysgogol i’r meddwl, a gwmpasodd amrywiaeth o bynciau i’n galluogi i ddod yn arweinwyr gwell ledled Cymru." NYAS

"Dyma’r tro cyntaf, ac yn sicr nid dyma fydd y tro olaf. Roedd y cyfan yn amhrisiadwy." Llywodraeth Cymru

"Roedd hi’n fraint ac yn anrhydedd treulio deuddydd gyda 90 a mwy o arweinwyr eraill o wahanol sefydliadau ledled Cymru. Bu’r cyfle i rwydweithio yn ddifyr dros ben. Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig iawn i wrando ar bobl fel Emmanuel Gobillot, Andrew Goodall a Sophie Howe. Mae statws yr hyfforddiant yn uchel iawn ac roedd ansawdd a safon y siaradwyr yn uchel iawn hefyd."

"Roedd yr Ysgol Aeaf yn brofiad datblygiadol o ran arweinyddiaeth a dal drych mewn amgylchedd diogel gyda chefnogaeth cydweithwyr gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod digynsail o her. Bydd yn helpu i wella’r ffordd rydyn ni i gyd yn gweithio mewn partneriaeth." GIG Cymru

Cadeiryddion a siaradwyr

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer y tair lefel uchaf o arweinyddiaeth o bob rhan o'r sector cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru (e.e. uwch weision sifil, prif weithredwyr, cyfarwyddwyr gweithredol, swyddogion anweithredol neu gyfwerth).

Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau ar gyfer yr Ysgol Aeaf eleni gan unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau llywodraeth sydd heb eu datganoli yng Nghymru. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ymateb yn gadarnhaol. Er mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer yr Ysgol Aeaf, rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau llywodraeth ddatganoledig, a’r trydydd sector / sector gwirfoddol yng Nghymru.

Cost

I gydnabod yr amseroedd a'r heriau digynsail a grëwyd gan Covid-19, bydd Academi Wales yn darparu bwrsariaeth o 100% i'r rhai sy'n llwyddo i sicrhau lle ar y rhaglen hon.

Nodwch, os cewch le yn yr Ysgol Aeaf ac yna tynnu’n ôl o’r rhaglen ar ôl derbyn, efallai y bydd yn ofynnol i’ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Sut i wneud cais

Mae lleoedd cyfyngedig ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a chaiff y rhain eu cynnig trwy broses ddethol gystadleuol.

I wneud cais am le, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein hon yn nodi eich bwriadau gyda golwg ar fynychu'r digwyddiad, erbyn 11 Ionawr 2022.

Byddwn yn hysbysu ymgeiswyr a ydynt wedi derbyn lle ai peidio erbyn 15 Ionawr 2022.

Ni dderbynnir ceisiadau ar gyfer Ysgol Aeaf 2022 bellach.

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.