English

Ysgol Aeaf 2022 - mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tím drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.

Cyfarwyddwr, Academi Wales

Alex yw Cyfarwyddwr Academi Wales; y ganolfan ragoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth a rheoli gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd ym mis Medi 2012 ac mae Academi Wales yn rhan o bortffolio’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Mae Alex wedi bod mewn nifer o swyddi arweinyddiaeth yn ystod ei gyrfa yn y gwasanaeth sifil, gydag Asiantaeth Ffiniau'r DU, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac yn fwyaf diweddar yn Nhy'r Cwmnïau, lle roedd hi’n gyfrifol am arwain cyfres sylfaenol o ddiwygiadau deddfwriaethol i gefnogi trawsnewidiad y sefydliad.

Mae'n hyfforddwr ac yn fentor gweithredol cymwysedig, ac mae'n angerddol am ymgysylltu, datblygu, cydweithio a chynwysoldeb. Yn ei rôl gydag Academi Wales bydd hi’n canolbwyntio ar sicrhau bod y ganolfan yn parhau i ddarparu cyfres o raglenni a digwyddiadau o'r radd flaenaf, wrth gydweithio ledled Cymru i sicrhau bod y cynnig dysgu yn parhau i fod yn addas i'r diben, yn berthnasol ac yn gyfredol wrth i ni edrych at ddyfodol ansicr.

Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Cafodd Dr Andrew Goodall ei benodi i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog ac yn gweithredu fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cyn hyn, roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru, a hynny ers mis Mehefin 2014.

Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr yn y GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd y bu ynddi ers dechrau'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu'r GIG i fodel integredig y Bwrdd Iechyd.

Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau'r GIG ledled De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo feysydd diddordeb penodol mewn gwella diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen trwy wella a moderneiddio gwasanaethau.

Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Ysgol Fusnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus.

Sylfaenydd, Wild Leadership
“Credaf ein bod ni i gyd yn cael ein geni gyda chyfraniad unigryw i’w wneud yn y byd – a’n bod ni i gyd yn arweinwyr. Efallai fod ein harweinyddiaeth mewn rôl fawr neu efallai ei bod mewn eiliadau yn ein tîm. Beth bynnag, gall pawb ysbrydoli eraill. Daw o’n cryfderau, gwerthoedd a’r hyn sy’n ein hysgogi ni.

Rwy'n partneru pobl mewn sefydliadau i wneud eu cyfraniad unigryw eu hunain yn y gwaith y maen nhw’n ei wneud. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gysylltu â'r deallusrwydd dwfn oddi mewn a dawnsio gyda'r hyn y mae'r byd yn ei ofyn i ni. Yn yr awyr agored ym Myd Natur yw'r lle rwyf wedi dod o hyd i'r cysylltiad hwn. Mae’r cysylltiad systemig dwys hwn yn sail i'r datblygu arweinyddiaeth rwy'n ei gynnig i'r unigolion a'r sefydliadau rwy'n gweithio gyda nhw."

Mae Fi yn goetsiwr arweinyddiaeth, hwylusydd ac anturiaethwr. Mewn bywyd blaenorol, mae wedi sefydlu a rhedeg gwahanol ymgyngoriaethau, cynrychioli ei chymuned fel cynghorydd dosbarth, ac wedi magu dwy ferch anhygoel. Mae'n byw yn y Cotswold yn Lloegr, ac ar hyn o bryd mae'n arfarnu i arwain cwestau gweledigaeth yn Ardal y Llynnoedd.

Yn ddiweddar, o'i harfer awyr agored ei hun, mae Fi wedi datblygu ei syniadau ynghylch 'deallusrwydd awyr agored' a sut mae'n gwasanaethu arweinwyr i dreulio amser unigol yn yr awyr agored. Mae hi wedi datblygu rhaglenni ar-lein ar gyfer arweinwyr, gwneuthurwyr newid a choetswyr i ddod â hyn i'w gwaith.

Mae Fi yn Goetsiwr Ashridge Achrededig gydag MSc mewn Hyfforddi Gweithredol ac mae'n Uwch Ymarferydd achrededig gyda'r Cyngor Mentora a Hyfforddi Ewropeaidd. Mae hi hefyd yn oruchwylydd coetsio cymwys. Mae ei hangerdd yn cynnwys y cyfuniad hapus o gerdded mynyddoedd a bwyd da.

Switched on! podlediad (Spotify)
Rhaglenni a choetsio Wild Leadership

Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Dechreuodd Ian ei swydd fel Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam ym mis Awst 2018 ac am y pedair blynedd ar ddeg cyn hynny bu'n gweithio ar lefel uwch arweinwyr o fewn sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus mawr ym Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi a gogledd-ddwyrain Cymru. Yn fwy diweddar, ers 2014, mae hyn wedi bod yng Nghyngor Sir y Fflint fel Prif Swyddog yn arwain datblygiad a gweithrediad nifer o raglenni strategol mawr yn llwyddiannus.

Mae Ian wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'i nod yw gweithio gyda phartneriaid, cymunedau lleol a thrigolion i adeiladu a chyflawni gweledigaeth glir sy'n sicrhau canlyniadau rhagorol. Mae Ian wedi byw yn Wrecsam am y deunaw mlynedd diwethaf ac mae'n angerddol am y cyfleoedd cadarnhaol presennol y mae Wrecsam a Chymru yn eu darparu a'r potensial ar gyfer y dyfodol.

Laura yw sylfaenydd Regenerators ac mae’n arweinydd agweddau ac arbenigwr ar arweinyddiaeth adfywiol ar lefel ryngwladol. Mae wedi treulio ei holl yrfa’n cynghori arweinwyr y byd ar gynaliadwyedd ac adeiladu sefydliadau a mudiadau a ysgogir gan effaith a phwrpas.

Rhoddwyd y teitl 'Newidiwr Byd' iddi gan Greenbiz, fe’i henwyd yn un o’r 30 o fenywod ar flaen y gad ym maes cynaliadwyedd ac adfywio gan Sustainable Brands, mae hi wedi’i dewis gan Fforwm Economaidd y Byd fel Arweinydd Byd Ifanc ac Arbenigwr Cynaliadwyedd ac mae hi’n cyfrannu at sawl Bwrdd.

Sylfaenydd a Cyfarwyddwr, The TYF Group
Mae Andy yn arbenigwr ar arloesi o ran cynaliadwyedd a strategaeth sy'n helpu sefydliadau i gysylltu uchelgais a chyflawni ar gyfer newid gyda chyflymder ac uchelgais i gyd-fynd â maint yr heriau hinsawdd a bioamrywiaeth sydd o'n blaenau.

Mae gwaith Andy ar 'eco-resymeg' wedi cynnwys prosiectau ar agendâu sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth a chynaliadwyedd ar gyfer Thames Water, Orange, Busnes yn y Gymuned, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Llywodraeth Tsieina. Ar hyn o bryd, mae ei brosiectau'n cynnwys rhaglen newid ar gyfer y wlad gyfan ar feddwl yn gynaliadwy, twristiaeth gynaliadwy o'r radd flaenaf ac Eco Dinas Dewi Sant. Mae Andy yn gweithio'n gyson gyda theledu, radio a'r cyfryngau printiedig, ar brosiectau sy'n cynnwys dogfennau, cyfweliadau a straeon newyddion,
ac mae’n siarad ar gynaliadwyedd, lleihau carbon, twristiaeth werdd a phynciau cysylltiedig mewn cynadleddau ledled y DU.

Yr Athro Uzo Iwobi OBE
Cyn-gynghorydd Polisi Arbenigol i Lywodraeth Cymru
Siaradwr TEDx 2021
Cyn-gomisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol y DU
Sylfaenydd Cyngor Hil Cymru
Sylfaenydd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd
Is-lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Wedi’i gosod yn Rhif 6 ar y rhestr 15 Eicon Du Gorau Cymru gan WalesOnline yn 2021

Yn wreiddiol o Nigeria, mae gan Uzo radd yn y gyfraith o Brifysgol Nigeria a chymhwysodd fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr ac fe’i galwyd hi i Far Nigeria.

Ar ôl cymhwyso fel bargyfreithiwr yn Nigeria, symudodd Uzo i Gymru lle mae hi bellach yn gwasanaethu fel prif swyddog gweithredol Race Council Cymru ac yn eistedd ar fwrdd sawl sefydliad gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethu fel cadeirydd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yng Nghymru, a sefydlwyd ganddi yn 2004.

Mae Uzo wedi gwasanaethu gyda thîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, a leolir yn y Swyddfa Gartref, lle bu’n ymwneud â datblygu polisïau cenedlaethol ar gysylltiadau ac amrywiaeth hiliol.

Ar ôl symud i Gymru, bu’n Ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith, Abertawe am naw mlynedd. Enillodd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) gyda rhagoriaeth o Brifysgol Cymru. Cwblhaodd gymhwyster Gradd Meistr mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Morgannwg.

Yn 2004, ymunodd â Heddlu De Cymru ac, yn yr un flwyddyn, sefydlodd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) gyntaf yng Nghymru a bu’n gadeirydd arni am 15 mlynedd.

Penodwyd Uzo i Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu (PNDT), sydd wedi'i leoli yn y Swyddfa Gartref, i gynrychioli Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) a'r 43 heddlu yn y DU ar bartneriaeth deiran strategol lefel uchel, gan gynnwys y Swyddfa Gartref, Awdurdod yr Heddlu (APA) ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) sydd â'r dasg o ddatblygu polisïau cenedlaethol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Gwasanaethodd Uzo gyda Chomisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) y DU fel Comisiynydd nes iddo uno â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ym mis Hydref 2007. Yn 2008 dyfarnwyd OBE iddi i gydnabod ei gwasanaeth i gysylltiadau cymunedol a chymunedau De Cymru.

Mae Uzo yn Hyfforddwr Gweithredol Lefel 7 achrededig llawn gyda'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Cafodd Uzo ei chydnabod a'i chanmol pan gafodd y gwobrau a restrir isod gan wahanol gyrff

  • 2006 Cydnabyddiaeth o gyflawniad rhagorol mewn gwaith cymunedol gan Wobr Fenyw'r Flwyddyn Bae Abertawe (Cyflawniad Cymunedol) 2006
  • 2008 Wrth gydnabod cyflawniad Uzo o ran cyfraniadau cymunedol, ar 14 Mehefin 2008, dyfarnodd y Frenhines OBE (Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) am ei chyfraniadau i gysylltiadau hiliol cymunedol a Chymunedau De Cymru.
  • 2009 Fe wnaeth Comisiwn Cenedlaethol y Menywod gynnwys stori Uzo yn ei gyfnodolyn o'r enw, “A guide to Women in Public Life”.
  • 2010 Cyflwynwyd Gwobr Cydnabyddiaeth y Prif Weindiog i Uzo am ei chyfraniadau at gydraddoldeb hiliol a chysylltiadau hiliol yng Nghymru
  • 2011 Cafodd Uzo ei hanrhydeddu a'i chynnwys yn Adroddiad Myfyrdodau'r Cyngor Prydeinig yn Nigeria
  • 2011 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Genedlaethol Cymunedau Nigeria (NANC –UK)
  • 2015 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Menyw Ddu Eithriadol yng Nghymru am gyfraniadau i’r Mudiad Hanes Pobl Dduon yng Nghymru
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Cydnabyddiaeth fel Sylfaenydd y Mudiad Hanes Pobl Dduon yng Nghymru
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru (EMWWAA), Gwobr Cymru gyfan am Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Llysgennad i Gymru EMWWAA
  • 2020 Fe’i rhoddwyd ar restr WEN Cymru o’r 100 o fenywod gorau yng Nghymru
  • Hydref 2021 Cafodd Uzo ei gosod yn Rhif 6 ar y rhestr 15 o Eiconau Du yng Nghymru
  • 2021 Gwobr BAPIO Cymru am Arweinyddiaeth mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • 2021 Cafodd yr Athro Uzo Iwobi OBE ei henwi a’i gosod fel Rhif 6 yn rhestr y 15 Eicon Du Gorau yng Nghymru.
  • 2021 Gwahoddwyd Uzo i siarad mewn TEDxBargateED am ei thaith bersonol

Penodwyd Uzo gan Ruth Kelly, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, i wasanaethu fel comisiynydd i Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) y DU nes iddo uno â chomisiynau eraill i ffurfio'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ym mis Hydref 2007.

Cyflawnodd Uzo radd ragorol mewn Hyfforddi a Rheoli Gweithredol Lefel 7 gyda'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gwasanaethodd fel ymddiriedolwr y Groes Goch Brydeinig am chwe blynedd yn ogystal ag ymddiriedolwr Coleg y Byd Unedig - Coleg yr Iwerydd. Mae Uzo yn arwain cynlluniau dysgu a datblygu ar gyfer henuriaid Affricanaidd Caribïaidd ledled Cymru trwy Gynllun Henuriaid Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae Uzo yn mentora pobl ifanc a dysgwyr sy'n oedolion i gyflawni eu gweledigaethau a'u dyheadau trwy'r gadwyn hyfforddi y mae'n ei hwyluso.

Roedd Uzo yn un o ddau berson a ddewiswyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gael ei delwedd wedi’i thaflunio ar gerrig Stonehenge am ei chyfraniad gwirfoddol i ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru.

Arweiniodd Uzo y gwaith o ddatblygu’r arddangosfa ‘Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’ sy’n teithio Cymru ar hyn o bryd.

Mae Uzo yn gweithio fel y fenyw ddu gyntaf i gael ei phenodi'n Gynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru.

Ym mis Hydref 2021, gosodwyd Uzo yn y chweched safle ar restr y 15 Eicon Du mwyaf dylanwadol yng Nghymru gan WalesOnline.

Penodwyd Uzo yn Gymrodyr anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD) ac yn Athro Ymarfer Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Yn 2021, penodwyd Uzo yn ymddiriedolwr i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn ymddiriedolwr o Gymdeithas Prifysgolion Dysgu Gydol Oes, sy’n cynnwys Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae’n Is-lywydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae Uzo yn siaradwr TEDx.

Awdur, siaradwr a chyflwynydd podlediad ar berthnasoedd proffesiynol
Mae Andy Lopata yn arbenigwr mewn perthnasoedd proffesiynol a rhwydweithio ers ugain mlynedd. Fe’i disgrifiwyd fel ‘un o brif strategwyr rhwydweithio busnes Ewrop’ gan y Financial Times a ‘gwir feistr rhwydweithio’ gan yr Independent a Forbes.com.

Mae Andy’n siaradwr rhyngwladol profiadol, yn gyflwynydd podlediad ac yn awdur pum llyfr, sydd wedi’i ddyfynnu mewn nifer o lyfrau busnes eraill ac yn rheolaidd yn y wasg ryngwladol.

Mae Andy yn gyn-Lywydd y Gymdeithas Cymrodorion ac yn Aelod o Fwrdd Cymdeithas Siarad Proffesiynol y DU ac Iwerddon (PSA) ddwywaith, yn Gymrawd o’r Sefydliad Dysgu a Pherfformiad, ac yn Feistr o’r Sefydliad Rheoli Gwerthiant. Mae hefyd yn un o ddim ond 28 o dderbynwyr prif anrhydedd y PSA, y ‘Wobr Rhagoriaeth’.

Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Dr Anita Enterprises Inc
Mae Dr. Anita Polite-Wilson, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Dr. Anita Enterprises, Inc., yn rhywun sy'n helpu pobl i gydweithio ag unrhyw un. Mae hi’n helpu arweinwyr a thimau mewn sefyllfaoedd sy’n peri straen mawr i lywio cymhlethdod a newid gyda'i gilydd yn llwyddiannus. Mae ei gwaith yn cynnwys cynghori a hyfforddi arweinwyr ar bob lefel o fewn sefydliadau ar eu llwybrau tuag at dderbyn ac addasu i anghenion unigryw'r gweithlu heddiw, sy'n adlewyrchu unigolion mwy amrywiol, sy'n rhychwantu pum cenhedlaeth, ac sy'n gofyn am dimau deinamig sy'n esblygu'n gyson. Ar ôl gweithio gydag arweinwyr ers dros 20 mlynedd, mae Dr. Anita wedi llwyddo i newid patrymau rheoli newid o "ymarferion ticio blychau" na chafodd fawr o effaith neu unrhyw effaith o gwbl, i ymddygiadau “newid diwylliant” a fydd yn amlwg yn gwella cydweithrediadau. Mae wedi astudio tueddiadau'r gweithlu ers dros ddeng mlynedd ac erbyn hyn yn creu rhaglenni sy'n cynyddu ymgysylltiad gweithwyr, yn cynyddu cyfraddau cadw gweithwyr ac yn gwella cynhyrchaeth ar gyfer endidau corfforaethol, y llywodraeth ac endidau di-elw o bob maint ar draws gwahanol ddiwydiannau.

Fel ymgynghorydd, mae Dr. Anita yn darparu gwasanaethau dylunio, datblygu a chyflawni ar gyfer cynlluniau Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn, arweinyddiaeth, a hyfforddiant sgiliau rheoli ar gyfer sefydliadau megis Abode Communities, Rehrig Pacific Company, Wente Family Estates, Cyfrifon Cyhoeddus a Chynghorwyr Ariannol Ardystiedig SquarMilner, a SONY Entertainment, i enwi ond rhai. Mae hi hefyd wedi hwyluso sesiynau grwpiau trafod i dros 400 o gynadleddwyr 10fed Cynhadledd Flynyddol MGM Resorts ynglyn ag Arweinyddiaeth Menywod o’r enw "Maintaining Grace Under Fire” a oedd yn canolbwyntio ar reoli straen yn y gweithle. O ganlyniad, cafodd ei chynnwys yng ngwasg busnes Las Vegas (Gorffennaf 3, 2016).

Fel arbenigwr mewn ‘effeithlonrwydd o fewn sefydliadau’, mae Dr. Anita wedi treulio 14 mlynedd ymhlith y gymuned awyrofod, yn cydweithio â gweithlu sy'n pontio'r cenedlaethau, gyda dros 5,000 o interniaid coleg, peirianwyr, gwyddonwyr a gweithwyr busnes, fel hyfforddwr a mentor, ac fel cynghorydd dibynadwy i swyddogion milwrol ac uwch weithredwyr corfforaethol. Ar ôl gwasanaethu fel Is-lywydd y Pwyllgor Menywod mewn Awyrofod a’r Aerospace Black Caucus, cafodd ei chydnabod am ei gallu i gysylltu gwersi arweinyddiaeth a ddysgwyd drwy fwy na 50 o weithgareddau Grwpiau Adnoddau Gweithwyr yn ogystal â mentrau Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda chanlyniadau net busnesau er mwyn denu a chadw gweithwyr proffesiynol amrywiol a chymwys.

Fel athrawes atodol Ysgol Fusnes Crowell ym Mhrifysgol Biola, ac fel Cymrawd Sefydliad Prifysgol Simmons ar gyfer Arweinyddiaeth Gynhwysol, mae Dr. Anita yn hwyluso sgyrsiau i ddysgwyr sy'n oedolion fel y gallant ehangu eu cysyniad o amrywiaeth a dangos y ddealltwriaeth newydd hon drwy arferion sy’n cydnabod ac yn darparu profiadau mwy cadarnhaol yn y gweithle. Fel prif siaradwr a phanelwr gwadd, mae'n ymgysylltu'n rheolaidd â gweithredwyr corfforaethol, rhwydweithiau menywod, egin weithwyr a myfyrwyr coleg i ymchwilio i’r gydberthynas rhwng diogelwch seicolegol, nodweddion arweinyddiaeth gynhwysol, cymhelliant, sgiliau a chryfderau o ran sicrhau ymdeimlad o berthyn ac ystwythder gyrfa yn y farchnad heddiw.

Fel aelod cyfadran o Raglen Arweinyddiaeth Elevate, ar y cyd â Chanolfan Ysgol Reolaeth Rady ar gyfer Datblygu Gweithredol ym Mhrifysgol California San Diego, mae Dr. Anita yn dylanwadu ar gannoedd o egin arweinwyr technegol sy’n cychwyn am y tro cyntaf, yn ogystal â’r arweinwyr hynny sydd hanner ffordd drwy eu gyrfaoedd, ledled y wlad, ar gyfer 500 o gwmnïau a sefydliadau o fewn awyrofod, cyfleustodau preifat, gwaith cyhoeddus a lletygarwch, megis Boeing, Raytheon, Northrop Grumman, Edison International, So Cal Gas, ac MGM Resorts International.

Mae pob un achos o ymgysylltu â chleientiaid yn meithrin gwerthoedd Dr. Anita o Gysur, Cymuned ac Ymrwymiad, sy'n hanfodol os yw cleientiaid am brofi dulliau Dr Anita o SHIFT Reflective Learning Model© a Collective Wisdom Forum© yn iawn. Mae ei hymchwil wedi dangos y bydd pobl sy'n teimlo'n gysylltiedig drwy ddeialog ar y cyd yn darganfod bod yr atebion i heriau cyffredin i'w gweld o fewn unigolion, timau a systemau sefydliadol. Wrth ystyried ei hun yn "hwylusydd sgyrsiau o bwys", mae diffiniad Dr. Anita o lwyddiant cleientiaid yn seiliedig ar alinio Pobl, Angerdd a Phwrpas.

Enillodd Dr. Polite-Wilson ddoethuriaeth (Ph.D.) a Gradd Meistr yn y Celfyddydau (M.A.) mewn Systemau Dynol a Sefydliadol o Brifysgol Fielding i Raddedigion, Gradd Meistr yn y Celfyddydau (M.A.) mewn Arweinyddiaeth Sefydliadol o Brifysgol Biola, a Baglor mewn Gwyddoniaeth (B.Sc) mewn Rheolaeth o Brifysgol Pepperdine. Yn ogystal, mae'n Ymarferydd Seicolegol ardystiedig S.A.F.E.T.Y., Hyfforddwr Cryfderau Ardystiedig Gallup, ac yn Hyfforddwr Proffesiynol Ardystiedig iPEC. Mae hi’n un o’r aelodau a fu’n gyfrifol am sefydlu Cyngor Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithas Adnoddau Dynol LA, yn aelod gweithredol o'r Bwrdd Cynghori ar gyfer Sefydliad ‘Executive Next Practices’, Cyngor Arweinyddiaeth Alumni Prifysgol Biola, a Sefydliad Celf Laity.

Dr Anita Enterprises Inc

Pippa Britton yw saethydd mwyaf llwyddiannus Cymru. Mae hi’n Baralympiad dwbl a fu’n cystadlu fel aelod o dîm saethyddiaeth Prydain Fawr am 15 mlynedd. Mae hi hefyd wedi cynrychioli tîm Cymru ar fwy nag 20 achlysur. Mae hi wedi cyrraedd y podiwm mewn chwe Phencampwriaeth y Byd yn olynol a 24 o ddigwyddiadau Rhyngwladol, ac mae wedi cyflawni 16 o recordiau byd ar hyd y ffordd.

Tra oedd hi’n dal i fod yn athletwr, hi oedd yr athletwr para-saethyddiaeth cyntaf i fod yn aelod pwyllgor yn World Archery, gan gynrychioli saethyddion ledled y byd. Wedi iddi roi’r gorau i gystadlu, symudodd i faes llywodraethu. Mae hi bellach yn Is-gadeirydd UK Anti-Doping a bu’n Gadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru cyn ymuno â Bwrdd Chwaraeon Cymru fel Is-gadeirydd yn 2017. Mae hi’n cyfrannu at Grwp Cynghori Dosbarthiad Parlympaidd Prydain a’r Pwyllgor Gwrth-Dopio Paralympaidd Rhyngwladol, ac mae’n Aelod Annibynnol o’i Bwrdd Iechyd Prifysgol lleol.

Ei hangerdd yw gweithio gyda sefydliadau tuag at fwy o gynhwysiant, gwella tegwch, a chodi ymwybyddiaeth o anabledd – gyda lles yn ganolog i’r cyfan, er mwyn creu dyfodol tecach i bawb.

Pippa Britton yw saethydd mwyaf llwyddiannus Cymru, a fu'n cystadlu fel aelod o dimau paralympaidd a thimau athletwyr nad ydynt yn anabl. Mae hefyd yn Baralympiad dwbl.

Ar ôl ymddeol o chwaraeon, mae hi wedi dal nifer o rolau llywodraethu ym maes iechyd a chwaraeon a’i hangerdd yw gweithio gyda sefydliadau i gael mwy o gynhwysiant, gwella tegwch, a chodi ymwybyddiaeth o anabledd – gyda lles yn ganolog i’r cyfan.

Success Intelligence
Robert Holden, Ph.D., yw Cyfarwyddwr Success Intelligence. Mae ei waith arloesol ar lwyddiant a hapusrwydd wedi ymddangos ar Oprah, Good Morning America, PBS Special: 'Shift Happens!' a dwy raglen ddogfen fawr ar y BBC, 'The Happiness Formula' a 'How to Be Happy'.

Cyflogir ei wasanaethau fel prif siaradwr, ymgynghorydd a choetsiwr ledled y byd gan sefydliadau a brandiau fel Dove a’r Ymgyrch Gwir Harddwch, The Body Shop, IBM, Google a Virgin.

Mae wedi cyflwyno dwy sgwrs TEDx - 'The Tea Meditation', a 'Destination Addiction'.

Mae Robert yn awdur llyfrau sy’n werthwyr gorau, gan gynnwys 'Happiness NOW!', 'Authentic Success' ('Success Intelligence' oedd y teitl blaenorol), 'Shift Happens!', 'Loveability', 'Holy Shift!', 'Life Loves You' (wedi’i gyd-ysgrifennu â Louise Hay), a’i lyfr diweddaraf, 'Finding Love Everywhere - 67 ½ Wisdom Poems to Help You Be the Love You Are Looking For'. Mae'n Gymrawd yr Ymddiriedolaeth Arweinyddiaeth ac mae ar Gyfadran Gwesteion Prifysgol Santa Monica.

RobertHolden.com
Facebook

Ymgeisiwch am yr Ysgol Aeaf

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol - Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 50 a 100 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad - Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Aeaf? (rhwng 50 a 100 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol - Sut bydd yr Ysgol Aeaf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 50 a 100 gair)

Wrth gyflwyno eich cais, byddwch yn cael eich cynnwys mewn proses sifftio gystadleuol am le. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer Ysgol Aeaf 2022 a fydd yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sydd wedi nodi amcanion a chanlyniadau cryfion sy’n cyd-fynd â nhw eu hunain a’u sefydliad.

Mae’n bwysig eich bod yn ateb cwestiynau’r amcanion personol yn llawn, a ddefnyddir ar gyfer y broses sifftio gystadleuol.

Faint mae’n costio?

I gydnabod yr amseroedd a'r heriau digynsail a grëwyd gan Covid-19, bydd Academi Wales yn darparu bwrsariaeth o 100% i'r rhai sy'n llwyddo i sicrhau lle ar y rhaglen hon.

Paratoi ar gyfer yr Ysgol Aeaf

A oes rhaid i mi aros ar-lein drwy gydol y digwyddiad?

Oes – rhaid i gynrychiolwyr fod yn bresennol yn y rhaglen gyfan. Mae wedi'i gynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn sylweddoli manteision llawn y rhaglen oni bai eich bod yn cwblhau pob agwedd.

A oes gennych unrhyw ofynion mynediad neu ofynion eraill?

Nodwch ar eich ffurflen gais os oes angen unrhyw gymorth arnoch. Os bydd angen, byddwn yn cysylltu â chi i drafod yn nes at y digwyddiad.

Iaith Gymraeg

Bydd yr Ysgol Aeaf yn cael ei chyflwyno’n Saesneg. Fodd bynnag, darperir pecynnau a deunyddiau i gynrychiolwyr yn ddwyieithog.

Paratoi personol

Lle bo'n berthnasol, rhaid i chi gwblhau'r holl ‘waith ymlaen llaw’ a bennir gan y siaradwyr.

Canolfan cynrychiolwyr

Gwahoddir cynrychiolwyr llwyddiannus i gofrestru ar ganolfan cynrychiolwyr yr Ysgol Aeaf. Mae hwn yn safle caeedig, diogel a gellir ei gyrchu unrhyw bryd, unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd y ganolfan yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig yn arwain at y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio gyda'ch cyd-gynrychiolwyr.

Mae'n bwysig eich bod yn mewngofnodi i'r ganolfan i dderbyn diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth allweddol am y rhaglen.

Sylwch y bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge neu Google Chrome i gael mynediad i'r ganolfan cynrychiolwyr.

Ymunwch â’r Ysgol Aeaf - Microsoft Teams

Bydd yr Ysgol Aeaf yn cael ei chyflwyno drwy Microsoft Teams. Os nad oes gennych gyfrif Teams, gallwch ddewis sefydlu un neu ymuno fel gwestai.

Gallwch ddefnyddio porwyr gwe Microsoft Edge a Google Chrome i ymuno fel gwestai. Os ydych yn defnyddio tabled neu ffôn clyfar, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho ap Microsoft Teams o'ch siop apiau cyn y gallwch ymuno â’r Ysgol Aeaf.

Unwaith y byddwch yn cael mynediad i’r Ysgol Aeaf, ewch i'ch meicroffon oni bai bod yr hwylusydd yn gofyn i chi siarad.

Cysylltiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch yr Ysgol Aeaf.