English

Cyrsiau a digwyddiadau

Rydym yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr sy'n gweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Rydym wedi trefnu ein rhaglenni arweinyddiaeth a datblygu fesul lefel i'ch helpu i ddod o hyd i’r rhaglen sydd fwyaf addas i chi. Gallwch gadw golwg am ddyddiadau sydd i ddod a lleoedd sydd ar gael drwy edrych ar ein calendr digwyddiadau:

  • I'r rhai sydd ar gamau cynnar eu gyrfa arwain, neu'n newydd i'r pwnc, neu'n newydd i'r gwasanaeth cyhoeddus (fel arfer gyda 0 i 5 mlynedd o brofiad arwain).

    • Arweinyddiaeth yn gryno

      Bydd y gweithdy rhyngweithiol ‘cryno’ hwn yn ddelfrydol os ydych chi'n paratoi ar gyfer eich swydd arweinyddiaeth a rheoli gyntaf neu eisoes mewn swydd o’r fath.

    • Coetsio

      Os hoffech chi ddod o hyd i goetsiwr i helpu eich datblygiad personol neu broffesiynol, gallwch gofrestru â’r wefan hon a chwilio trwy ein rhestr o goetswyr.

    • Cyflwyno gwelliant parhaus

      Ydych chi eisiau gwella eich gwasanaethau? Ydych chi wedi clywed am welliant parhaus, Syniadaeth Ddarbodus (Lean), Six Sigma neu Meddwl trwy Systemau (Systems Thinking), ond ddim yn siŵr beth yn union ydyn nhw? Hoffech chi ddysgu mwy? Dyma’r gweithdy i chi.

    • Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan (AWCIC)

      Ymarferwyr gwelliant parhaus yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sydd â sylfaen wybodaeth eang am dechnegau gwelliant parhaus.​

    • Springboard

      Wedi'i gynllunio i adael i fenywod roi mwy a chael mwy allan o'u gwaith. Ar gael i bob menyw sy'n awyddus i reoli neu sydd yn eu rôl reoli gyntaf.

  • Gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain).

    • 7 o Arferion Pobl Hynod Effeithiol

      Mae’r rhaglen 7 o Arferion Pobl Hynod Effeithiol yn rhaglen weddnewidiol ac yn brofiad dysgu y gwnewch ei fwynhau’n fawr ac a fydd yn eich helpu chi i fod cystal ag y gallwch fod.

    • Arwain ar Iâ

      Gan dynnu ar stori ryfeddol a gwir taith yr ‘Endurance’, bydd y gweithdy ar-lein addysgiadol, rhyngweithiol ac ysbrydoledig hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol arweinyddiaeth y 'Gwir Ogledd' wrth ymateb i'r heriau, ac yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd, sy'n dod i'r amlwg ar adegau o adfyd, ansicrwydd a newid.

    • Arwain gyda phwrpas, dilysrwydd a hyblygrwydd - gwella eich gwytnwch!

      Bydd eich gallu i arwain gydag eglurder a hyder mewn oes sy’n newid yn well pan fydd gennych bwrpas sydd wedi'i ddiffinio'n glir ac sy’n cyd-fynd ag – ac yn cael ei gynnal gan – arweinyddiaeth sy’n ddilys ac yn hyblyg.

    • Coetsio

      Os hoffech chi ddod o hyd i goetsiwr i helpu eich datblygiad personol neu broffesiynol, gallwch gofrestru â’r wefan hon a chwilio trwy ein rhestr o goetswyr.

    • Cyfres dosbarthiadau meistr

      Bydd y damcaniaethwyr blaenllaw yn rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol a byddant yn cynnig syniadau unigryw, rhagweithiol ac arloesol i alluogi arweinwyr y gwasanaeth cyhoeddus i ddefnyddio syniadau'r dyfodol i roi cysyniadau heddiw ar waith.

    • Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan (AWCIC)

      Ymarferwyr gwelliant parhaus yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sydd â sylfaen wybodaeth eang am dechnegau gwelliant parhaus.​

    • Cynhadledd Coetsio Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

      Mae pwysigrwydd coetsio yn hynod arwyddocaol wrth gefnogi eraill i fod â meddwl cliriach, gwneud penderfyniadau a chynllunio at y dyfodol. Mae'r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn cefnogi'r rheiny sydd â rôl goetsio ffurfiol neu anffurfiol o fewn eu sefydliadau.

    • Profiad Uwch Arweinyddiaeth

      Os ydych chi’n uwch arweinydd deinamig a dewr, sy’n benderfynol o gael effaith ehangach drwy arwain ac ysgogi newid o fewn diwylliant o ymddiriedaeth a thrugaredd, yna dyma’r Profiad Uwch Arweinyddiaeth i chi

    • Rhaglen arweinyddiaeth Sero Net

      Ydych chi’n barod i arwain y newid? Gwnewch gais heddiw ac ymunwch â’r ymgyrch dros ddyfodol gwyrddach i Gymru.

    • Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan

      Rydym wedi ymrwymo i gefnogi diwylliant coetsio sy’n cael ei arddel mewn sefydliadau sy’n gweithio ym mhob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru. Rydym wedi creu’r rhwydwaith hwn er mwyn dod ag adnoddau at ei gilydd, rhoi cyfle i gael sesiynau coetsio traws-sector am ddim, a helpu coetswyr.

    • Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol

      Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gallwn ni greu gweithle hapusach a mwy llwyddiannus.

    • Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

      Mae’r Ysgol Haf yn brofiad dysgu preswyl dwys sy’n dod ag arweinwyr ac uwch reolwyr ynghyd i fynd i’r afael â materion allweddol ar bwnc penodol yn ymwneud ag arweinyddiaeth.

  • Arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr.

    • Coetsio

      Os hoffech chi ddod o hyd i goetsiwr i helpu eich datblygiad personol neu broffesiynol, gallwch gofrestru â’r wefan hon a chwilio trwy ein rhestr o goetswyr.

    • Cyfres dosbarthiadau meistr

      Bydd y damcaniaethwyr blaenllaw yn rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol a byddant yn cynnig syniadau unigryw, rhagweithiol ac arloesol i alluogi arweinwyr y gwasanaeth cyhoeddus i ddefnyddio syniadau'r dyfodol i roi cysyniadau heddiw ar waith.

    • Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan (AWCIC)

      Ymarferwyr gwelliant parhaus yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sydd â sylfaen wybodaeth eang am dechnegau gwelliant parhaus.​

    • Cynhadledd Coetsio Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

      Mae pwysigrwydd coetsio yn hynod arwyddocaol wrth gefnogi eraill i fod â meddwl cliriach, gwneud penderfyniadau a chynllunio at y dyfodol. Mae'r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn cefnogi'r rheiny sydd â rôl goetsio ffurfiol neu anffurfiol o fewn eu sefydliadau.

    • Profiad Uwch Arweinyddiaeth

      Os ydych chi’n uwch arweinydd deinamig a dewr, sy’n benderfynol o gael effaith ehangach drwy arwain ac ysgogi newid o fewn diwylliant o ymddiriedaeth a thrugaredd, yna dyma’r Profiad Uwch Arweinyddiaeth i chi

    • Rhaglen arweinyddiaeth Sero Net

      Ydych chi’n barod i arwain y newid? Gwnewch gais heddiw ac ymunwch â’r ymgyrch dros ddyfodol gwyrddach i Gymru.

    • Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan

      Rydym wedi ymrwymo i gefnogi diwylliant coetsio sy’n cael ei arddel mewn sefydliadau sy’n gweithio ym mhob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru. Rydym wedi creu’r rhwydwaith hwn er mwyn dod ag adnoddau at ei gilydd, rhoi cyfle i gael sesiynau coetsio traws-sector am ddim, a helpu coetswyr.

    • Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

      Mae'r Ysgol Aeaf yn darparu dulliau newydd, arloesol i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â gofod, fel y gallant fynd ati i ddatrys heriau cymhleth yn y byd go iawn; Preswyl.

Os nad oes gan y rhaglen y mae gennych chi ddiddordeb ynddo unrhyw ddyddiadau ar y gweill, peidiwch â phoeni! Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio. Pan fydd rhagor o ddyddiadau’n codi, fe rown wybod i chi. Yn y cyfamser, mae croeso i chi bori drwy ein Hadnoddau dysgu a’n Rhwydweithiau.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, cysylltwch â ni.