English

Deallusrwydd Emosiynol

Cynulleidfa
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Lleoliad
Rhithwir

Hyd
1.5 awr

Cost
Dim cost i gynrychiolwyr

Trosolwg

Mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn cynnig cyflwyniad i Ddeallusrwydd Emosiynol a pham ei fod yn bwysig mewn arweinyddiaeth.

Byddwn yn archwilio beth yw Deallusrwydd Emosiynol, sut mae'n wahanol i Gyniferydd Deallusrwydd (IQ), a pham mae'n chwarae rhan mor bwysig yn y ffordd rydyn ni'n ymddangos yn y gwaith. Gyda'n gilydd, byddwn yn myfyrio ar sut y gall datblygu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth emosiynol ein helpu i arwain yn fwy effeithiol, yn enwedig mewn amgylcheddau heriol neu brysur.

Bydd lle i rannu syniadau, myfyrio ar eich profiadau eich hun, ac ystyried camau bach, realistig y gallech eu cymryd i ddatblygu eich deallusrwydd emosiynol dros amser.

Byddwch yn:

  • Archwilio beth yw deallusrwydd emosiynol a pham mae'n bwysig mewn arweinyddiaeth
  • Myfyrio ar sut mae eich emosiynau’n effeithio ar eich ymddygiad a'ch perthnasoedd
  • Ystyried ffyrdd syml, ymarferol o ddatblygu ymwybyddiaeth emosiynol a’r gallu i reoleiddio emosiynau
  • Cysylltu ag eraill a rhannu profiadau arweinyddiaeth

Manteision i chi

  • Mwy o ymwybyddiaeth o'ch arferion emosiynol a'ch cryfderau emosiynol
  • Syniadau ar gyfer rheoli emosiynau'n fwy effeithiol yn y gwaith
  • Sylfeini cryfach ar gyfer cyfathrebu a chydweithio

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:

  • Arweinwyr cynnar - Pobl sy'n dechrau eu gyrfa arweinyddiaeth - yn arwain tîm neu'n dylanwadu trwy arbenigedd a pherthnasoedd.
  • Arweinwyr profiadol - Pobl sydd â mwy o brofiad arweinyddiaeth - yn arwain swyddogaethau neu wasanaethau drwy osod cyfeiriad strategol a sicrhau cysondeb rhwng nifer o dimau

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr.

Sut i wneud cais