Cyrsiau byr a dosbarthiadau meistr
Cyfres o gyrsiau datblygu byr sy’n agored i reolwyr ac arweinyddion ar draws holl wasanaethau cyhoeddus Cymru. Ymyriadau byr ydyw’r rhain, wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’n gyflym agwedd benodol ar eich sgiliau arwain.
-
Adnewyddu ac Ail-egnïo
Gall arweinyddiaeth fod yn heriol a rhoi boddhad mawr. Mae'r sesiwn ryngweithiol a myfyriol hon yn cyflwyno offer a strategaethau i'ch helpu i gynnal egni, lles ac effeithiolrwydd dros amser.
-
Arwain ar Iâ
Cynulleidfa: Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, Hyd: 3 oriau
-
Arwain gyda phwrpas, dilysrwydd a hyblygrwydd - gwella eich gwytnwch!
Bydd eich gallu i arwain gydag eglurder a hyder mewn oes sy’n newid yn well pan fydd gennych bwrpas sydd wedi'i ddiffinio'n glir ac sy’n cyd-fynd ag – ac yn cael ei gynnal gan – arweinyddiaeth sy’n ddilys ac yn hyblyg.
-
Arweinyddiaeth yn gryno
Cynulleidfa: Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, Hyd: 1 awr
-
Asesiad Rhestr Cymhwysedd Emosiynol a Chymdeithasol (ESCI)
Gyda dim ond un cyfle ar gael bob mis, manteisiwch ar y cyfle hwn i wella eich datblygiad a'ch arferion fel arweinydd, ac arwain gyda mwy o effeithiolrwydd a hyder.
-
Cyflwyno gwelliant parhaus
Cynulleidfa: Agored i bob sefydliad sector cyhoeddus ac elusen gofrestredig yng Nghymru; Hyd: 1 diwrnod
-
Cyfres dosbarthiadau meistr
Bydd y damcaniaethwyr blaenllaw yn rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol a byddant yn cynnig syniadau unigryw, rhagweithiol ac arloesol i alluogi arweinwyr y gwasanaeth cyhoeddus i ddefnyddio syniadau'r dyfodol i roi cysyniadau heddiw ar waith.
-
Insights Discovery
Bydd Insights Discovery yn newid y ffordd rydych chi'n gweld eich hun ac eraill. Mae'n gymorth pwerus i’ch helpu tuag at hunanymwybyddiaeth yn eich rôl fel arweinydd. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn, sy’n defnyddio Insights Discovery, offeryn seicometrig sy'n seiliedig ar seicoleg Carl Jung, yn eich helpu i berfformio ar eich gorau trwy wella eich dealltwriaeth ohonoch chi eich hun ac eraill.
-
Llywio Gwleidyddiaeth Sefydliadol
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn gwella eich dealltwriaeth ac yn rhoi mwy o grebwyll gwleidyddol i chi tra’n byw gwerthoedd arwain a dylanwadu gydag uniondeb. Bydd y mewnwelediadau a geir hefyd yn eich cynorthwyo i feddwl a gweithredu mewn ffyrdd sy'n helpu i gyflawni amcanion personol, tîm a sefydliadol. Hyd: 3 oriau.
-
Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol
Cynulleidfa: Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, Hyd: 2 oriau