Ysgol Haf Rithwir Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan 2020
Trosolwg
Nawr yn ei 15fed flwyddyn, rydym yn falch iawn o gyhoeddi eleni y byddwn yn cynnal Ysgol Haf rithwir, gan edrych yn ôl ar y cyfoeth o brif siaradwyr ysbrydoledig a thalentog o ddigwyddiadau'r gorffennol, i greu Ysgol Haf a gynlluniwyd i gefnogi ein hanghenion arweinyddiaeth a dysgu yn y sefyllfa bresennol.
Mae'r Ysgol Haf rithwir yn dechrau am hanner dydd ddydd Llun 22 Mehefin ac yn gorffen am hanner dydd ddydd Gwener 26 Mehefin. Gallwch gyrchu'r digwyddiad rhithwir trwy wefan Academi Wales yn rhad ac am ddim.
Bydd y rhaglen ddyddiol yn cynnwys sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw yn bennaf, felly nid oes angen i chi wneud cais fel mewn blynyddoedd blaenorol ac nid yw niferoedd y sesiynau wedi'u cyfyngu; byddwch yn gallu cyrchu'r cynnwys ar adeg sy'n gyfleus i chi ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan bob dydd na gwylio pob sesiwn. Bydd pob sesiwn gyweirnod yn cynnwys cyflwyniad wedi'i recordio ymlaen llaw gan aelod o fwrdd cynghori Academi Wales.
Rydym yn croesawu'r cyfle i gefnogi ein cydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, a gobeithiwn y bydd ein Hysgol Haf rithwir gyntaf erioed yn bleserus ac yn ddiddorol!
Manteision i chi
Cynlluniwyd ein Hysgol Haf rithwir i roi cyfle i chi adolygu ac adnewyddu eich sgiliau, meithrin gwybodaeth newydd a chael mewnwelediadau i'ch ymarfer arwain. Byddwch yn cael cyfle i archwilio ffyrdd arloesol o ‘gyflawni’r busnes’, gan dynnu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad byd-eang.
Rhith siaradwyr
Bydd siaradwyr rhithwir Ysgol Haf ar gyfer 2020 yn cynnwys:
Darganfyddwch fwy am y siaradwyr yn yr adran siaradwyr Ysgol Haf Rithwir 2020.
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd
Hyrwyddo arloesi a newid
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Synnwyr strategol
Cynulleidfa darged
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i anelu at holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru. Byddwch yn elwa fwyaf o’r Ysgol Haf os ydych yn uwch reolwr neu’n arweinydd sy’n dylanwadu ac yn siapio cyflwyno gwasanaethau, ac wedi ymroi i arwain newidiadau.
Mae rhai o'n sesiynau siaradwyr ar gael i'r cyhoedd drwy ein sianel YouTube.
Amserlen
Dydd Llun 22 Mehefin
- Thimon de Jong - Y Pendil Ymddiriedaeth a Meddylfryd y Nyrs yng nghyfnod (ar ôl) y Corona Times
- Julie James AS – Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Dydd Mawrth 23 Mehefin
- Sharon Turnbull - Goroesi, Ffynnu a Chynnal mewn Amseroedd Anodd
- Emmanuel Gobillot – O’r Effeithlon i’r Eithriadol
Dydd Mercher 24 Mehefin
- Keith Grint – Problemau Cythreulig ac Arweinyddiaeth
- Naomi Stanford – Archwilio Dewrder yn y Gweithle
Dydd Iau 25 Mehefin
- Richard Varey – Gwella gallu eich sefydliad drwy ‘Weithredu Dewr’
- Amy Brann – Meithrin Potensial: Datblygu ac Ysbrydoli Eraill
Dydd Gwener 26 Mehefin
Cost
Nid oes unrhyw gost ar gyfer y digwyddiad hwn.
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi cofrestru ar wefan Academi Wales er mwyn gweld y rhan fwyaf o'r sesiynau Ysgol Haf. Gallwch ymaelodi os ydych yn gweithio mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru.
Cwestiynau cyffredin
Oes angen gwneud cais?
Nid oes angen i chi wneud cais am Ysgol Haf Rithwir eleni. Cofrestrwch ar ein gwefan i greu cyfrif a byddwch yn gallu gwylio ein sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw wrth i ni eu cyhoeddi bob dydd.
Rydym hefyd yn cynnal rhai sesiynau ar-lein byw yn ystod yr Ysgol Haf - gallwch ddod o hyd iddynt ar ein tudalen digwyddiadau ar y gweill. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif ac yna gwneud cais am bob un o'r sesiynau yr hoffech chi ymuno.
Mae gan ein sesiynau byw leoedd cyfyngedig, a byddwn yn derbyn ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin.
Beth yw'r amserlen?
Nid oes amserlen gaeth - bob dydd byddwn yn rhestru sawl sesiwn wedi'i churadu sy'n gysylltiedig â thema'r gynhadledd, a gallwch wylio pa bynnag sesiynau sydd o ddiddordeb i chi ar amser sy'n fwyaf addas i chi
Bydd yna gymysgedd o sesiynau hen a newydd - gallwch chi eisoes weld llawer o'n prif siaradwyr yn ein Adnoddau Dysgu
Oes angen cymryd amser bant o'r gwaith i gymryd rhan?
Nid yw'r Ysgol Haf yn gofyn i chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith - rydym wedi'i ddylunio fel y gallwch gael mynediad iddo pryd bynnag y mae'n gyfleus i chi
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
Ysgol Haf
- Twitter
Dilynwch ni @AcademiWales#AWSummerSchool a #YsgolHafAW