Ysgol Aeaf 2020 - mwy o wybodaeth
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm yr Ysgol Aeaf drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.
Gwneud cais am yr Ysgol Aeaf
Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais, os gwelwch yn dda:
- Amcanion Personol - Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 50 a 100 gair)
- Amcanion yr Adran/Sefydliad - Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Aeaf? (rhwng 50 a 100 gair)
- Datganiad Canlyniadau Personol - Sut bydd yr Ysgol Aeaf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 50 a 100 gair)
Faint mae'n ei gostio?
£500 + TAW. Mae hyn yn cynnwys:
- mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Aeaf
- pecyn cynrychiolydd
- llety (dydd Mawrth 4 Chwefror i dydd Gwener 7 Chwefror 2020)
- brecwast, pryd o fwyd gyda'r nos a chinio yn ystod y digwyddiad
Rhaid i chi dalu unrhyw gostau personol sy'n codi, megis teithio i'r digwyddiad ac oddi yno. Gall llefydd bwrsari fod ar gael ar gais i sefydliadau yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol.
Sylwch: Os byddwch yn cael lle ar y rhaglen ac wedyn yn penderfynu tynnu’n ôl, bydd Academi Wales yn cadw’r hawl i godi cost lawn y rhaglen ar eich sefydliad. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Dewisiadau llety a disgowntiau
Digwyddiad preswyl yw’r Ysgol Aeaf a threfnir llety ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.
Gallwn ni drefnu rhywfaint o lety i’w rannu. Mae’r ystafelloedd agored, hael hyn mewn bloc llety newydd o safon uchel gyda chyfleusterau gwneud te a choffi ac ar raddfa ostyngol fel y gwelir isod. Noder mai ystafelloedd i un person yw’r rhai eraill.
Ein cyfraddau awgrymedig ar gyfer ystafelloedd i fwy nag un unigolyn yw:
Sengl | £500.00 fesul cynrychiolydd |
Dwbl | £350.00 fesul cynrychiolydd |
Triphlyg | £200.00 fesul cynrychiolydd |
Efallai yr hoffech ystyried hyn fel opsiwn wrth ddewis a nodi’r bobl yr hoffech eu cynnig o’ch sefydliad. Noder bod dyrannu’r ystafelloedd hyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r broses ddethol ar gyfer yr Ysgol Aeaf.
Ystafelloedd mawr, sy'n cynnwys llawr isaf a llawr mezzanine, 3 gwely sengl ar bob llawr, ystafell ymolchi ar y cyd gyda thoiled, a thoiled a basn ymolchi ar wahân ar y llawr isaf.
Ystafelloedd dau wely, yn cynnwys 2 wely sengl ac ystafell ymolchi ar y cyd, gyda chawod a thoiled.
Dim ond os gwneir cais ymlaen llaw y defnyddir yr ystafelloedd hyn ar gyfer mwy nag un person.
Am ragor o fanylion, anfonwch air i flwch derbyn yr Ysgol Aeaf drwy e-bostio.
Talu ffioedd eich cwrs
Os yw eich cais yn llwyddiannus, mae ein canllawiau caffael yn golygu y bydd yn rhaid i ni anfonebu eich sefydliad am y swm perthnasol ar ôl i chi fod yn yr Ysgol Aeaf.
Ymgeiswyr o'r tu allan i Lywodraeth Cymru
Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:
- enw’r person a fydd yn gyfrifol am drefnu taliad ar gyfer eich lle fel cynrychiolydd
- enw’r sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
- enw a chyfeiriad e-bost eich swyddog bilio/cyfrifol
Ar ôl cadarnhau eich lle, byddwn yn cysylltu â’r person cyfrifol / swyddog bilio er mwyn iddo roi rhif archeb brynu i ni. Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw eich swyddog bilio pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gais, rhowch eich manylion eich hun ac fe wnawn ni gysylltu â chi i gael y manylion hyn. Mae’n bwysig eich bod yn darparu’r wybodaeth uchod er mwyn sicrhau eich lle.
Bydd yr anfonebau’n cael eu hanfon a’r ffioedd yn cael eu casglu ar ôl y digwyddiad.
Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion anfonebu, cysylltwch â’n Rheolwr Cyllid drwy anfon e-bost.
Creu eich archeb prynu
Defnyddiwch y wybodaeth a nodir isod os bydd angen i’ch sefydliad baratoi ei archeb brynu ei hun i dalu'r costau hyn:
Cyflenwr
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cyswllt: Academi Wales
Ffôn: 03000 256 687
E-bost: academiwales@llyw.cymru
Ymgeiswyr o Lywodraeth Cymru
Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen gais, byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:
- cyfeiriad e-bost eich rheolwr cyllid yn Llywodraeth Cymru
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â’ch rheolwr cyllid a fydd yn gorfod darparu codau gweithgarwch ac elw'r ganolfan ar gyfer talu’r ffi o £500 fesul cynrychiolydd (does dim TAW i’w hychwanegu). Bydd trosglwyddiadau cofnodi yn cael eu cyhoeddi a bydd ffioedd eich cwrs yn cael eu casglu ar ôl y digwyddiad.
- Cyn rhoi ei fanylion, rhaid i chi ofyn i unrhyw un rydych chi’n ei enwi fel swyddog bilio/cyfrifol a chael ei gymeradwyaeth.
Os oes angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo arnoch, cysylltwch â’n Rheolwr Cyllid drwy anfon e-bost.
Paratoi ar gyfer yr Ysgol Aeaf
Amserlen fras – agor a chloi'r digwyddiad
Dydd Mawrth 4 Chwefror 2019
- 11 yp: cofrestru a phennu pwy sy'n aros ble (os ydych chi'n cyrraedd cyn 11am rhowch wybod inni os gwelwch yn dda)
- 12 yp: cinio
- 1 yp: rhaglen yn dechrau
Dydd Gwener 7 Chwefror
- 12.30 yp: diwedd y rhaglen
Oes rhaid i mi fod yno drwy gydol y digwyddiad?
Oes - rhaid i gynrychiolwyr fod yn bresennol drwy gydol y rhaglen. Mae wedi cael ei chynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn elwa'n llawn oni fyddwch yn cwblhau pob agwedd.
Os ydw i'n byw gerllaw'r lleoliad - gaf i deithio yno bob dydd?
Cewch - fodd bynnag, rydym yn eich annog i fanteisio ar ochr breswyl y rhaglen. Os ydych chi'n byw'n lleol cewch deithio'n ôl ac ymlaen i'ch cartref - rhowch wybod cyn gynted â phosib os nad oes angen llety arnoch. Rhaid i gynrychiolwyr dibreswyl dalu'r cyfraniad o £500 + TAW.
Cyfleusterau gofal plant / crèche
Nid oes cyfleusterau gofal plant/ crèche ar gael. Bydd disgwyl ichi wneud eich trefniadau gofal plant eich hun.
Prydau a lluniaeth
Mae prydau a lluniaeth wedi eu cynnwys yn y rhaglen (fodd bynnag nid yw alcohol na lluniaeth y bar neu'r caffi yn gynwysedig)
- Brecwast: rhwng 7.30 a 8.30 yb bob dydd
- Swper: 7.30 yp.
Mae bar bychan sy’n derbyn arian parod a chaffi ar y safle. Noder: nid oes peiriant codi arian yn y lleoliad nac yn agos ato. Codwch arian cyn dod os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r cyfleusterau hyn.
Anghenion dietegol arbennig neu anghenion meddygol/mynediad eraill
Nodwch ar eich ffurflen gais os oes gennych chi anghenion dietegol arbennig neu feddygol. Os oes angen fe wnawn ni gysylltu gyda chi'n nes at y digwyddiad.
Y Gymraeg
Mae’r Ysgol Aeaf yn Saesneg ei chyfrwng. Ond mae’r deunyddiau a'r pecynnau i gynrychiolwyr ar gael yn ddwyieithog
Cyswllt ffôn symudol / y we
- Oherwydd lleoliad anghysbell y ganolfan, efallai na fydd llawer o signal ffôn symudol. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio llinell ddaearol 24/7.
- Mae WiFi ar gael ym mhobman heblaw am y capel.
Beth fyddai'n ddefnyddiol i'w bacio?
- Fflachlamp: Safle bach yw Nant Gwrtheyrn ond, o achos ei leoliad, mae symud rhwng y neuadd weithgaredd a'r llety (yn enwedig yn y nos) yn gallu bod yn arbennig o dywyll felly byddai fflachlamp yn ddefnyddiol.
- Pethau ymolchi, sychwr gwallt ac ati
- Arian parod (sylwch: nid oes peiriannau arian na siopau gerllaw)
- Cyflenwad o de, llaeth a bisgedi, gan fod gan rai o'r bythynnod geginau (ond cyflenwir yr holl fwyd a lluniaeth eraill yn ystod y digwyddiad)
Cod gwisg
- Sesiynau ystafell ddosbarth - mae croeso i chi wisgo’n hamddenol.
- Taith gerdded - awgrymwn eich bod yn dod â dillad cynnes, cyfforddus ar gyfer yr awyr agored, ac esgidiau cryf. Bydd hi'n anodd rhagweld y tywydd a gall droi'n oer iawn.
- Mae’n dipyn o draddodiad bod pobl sy’n dod i’r Ysgol Aeaf yn mynd ar daith gerdded ben bore ar hyd llwybr yr arfordir cyn i sesiynau ddechrau. Os hoffech chi wneud hyn dewch â fflachlamp, esgidiau addas a dillad cynnes priodol.
Lluniau/recordio fideo
Cadwn yr hawl i dynnu lluniau/fideo yn ystod y digwyddiad a gallant gael eu defnyddio at bwrpas cyhoeddusrwydd a chreu gwybodaeth dysgu.
Paratoadau personol
Yn gymwys, rhaid ichi gwblhau'r holl waith a osodir gan y siaradwyr o flaen llaw.
Hyb Cynrychiolwyr
Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gofrestru â Hyb Cynrychiolwyr yr Ysgol Aeaf. Mae hwn yn safle caeedig diogel a gallwch fynd iddo unrhyw bryd, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd yr Hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio â’ch cyd-gynrychiolwyr.
Mae’n bwysig eich bod yn mewngofnodi i’r Hyb i gael diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth bwysig am y rhaglen.
(Noder: bydd angen o leiaf Internet Explorer 11 i gael mynediad i Safle’r Dirprwyon).
Teithio
Trenau
Rhannu car
Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i'r digwyddiad ac oddi yno.
Cysylltiadau
Tîm yr Ysgol Aeaf
academiwaleswinterschool@llyw.cymru
03000 256 687
Nant Gwrtheyrn - y Lleoliad
Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NL
Ffôn: 01758 750 334
Unrhyw gwestiynau eraill
Cysylltwch â ni ar 03000 256687 neu e-bostiwch academiwaleswinterschool@llyw.cymru
Cadeirydd
Paul Schanzer
Cyfarwyddwr Dros Dro, Academi Wales
Mae gan Paul dros 25 mlynedd o brofiad ym maes datblygu arweinyddiaeth ar ôl ymuno â GIG Cymru fel ymarferydd datblygu yn ystod y 1990au.
Mae Paul wedi gweithio yn Academi Wales, Llywodraeth Cymru ers 2013. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi arwain ar ddatblygu ar lefel llywodraethu, gweithredol a bwrdd ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru
Ac yntau wedi datblygu fframweithiau asesu uwch dimau ar gyfer arweinwyr, mae Paul yn gysylltiedig â galluogi uwch dimau a byrddau. Eu helpu i adnabod y nodweddion, y dulliau a’r strategaethau sydd eu hangen ar sefydliadau i weithredu a chynnal perfformiad uchel sefydliadol.
Mae gan Paul ddiddordeb arbennig mewn archwilio cysyniadau sy’n ymwneud â dynameg unigolion, grwpiau a systemau a’u heffaith ar wneud penderfyniadau effeithiol ar lefel bwrdd. Ar ôl cwblhau’r ‘Board Level Dynamics Programme’ gyda’r Tavistock Institute, cyfrannodd bennod astudiaeth achos i ‘High Performing Boards – exploring the influence of unconscious behaviours for the Dynamics at Boardroom Level’ (A Tavistock Primer for Leaders, Coaches and Consultants), a gyhoeddwyd yn 2019 gan Routledge.
Siaradwyr
Dr Margaret Heffernan
Mae Margaret Heffernan yn entrepreneur, Prif Weithredwr ac awdur. Mae’n ysgrifennu llyfrau a blogiau, yn dysgu ac yn mentora prif weithredwyr ac uwch weithredwyr.
Fe’i ganwyd yn Texas, ei magu yn yr Iseldiroedd a’i haddysgu ym Mhrifysgol Caergrawnt. Gweithiodd i Radio’r BBC am bum mlynedd ble bu’n ysgrifennu, cyfarwyddo, cynhyrchu a chomisiynu llu o raglenni dogfen a dramâu. Yn ystod ei 8 mlynedd fel cynhyrchydd teledu, gwnaeth ffilmiau dogfen i Timewatch, Arena a Newsnight. Cynlluniodd ac uwch gynhyrchodd gyfres 13 rhan ar y Chwyldro Ffrengig i’r BBC ac A&E. Bu hefyd yn cynhyrchu fideos cerddoriaeth gyda Cherddorfa Siambr Llundain er mwyn codi arian i gronfa Libanus Unicef.
Ar ôl gadael y BBC, hi oedd yn rhedeg y gymdeithas fasnach IPPA, oedd yn cynrychioli buddiannau cynhyrchwyr ffilm a theledu annibynnol a chafodd ei disgrifio unwaith fel “y sefydliad lobïo mwyaf nerthol yn Lloegr.”
Yn 1994, dychwelodd i UDA ble bu’n gweithio ar ymgyrchoedd busnes cyhoeddus yn Massachusetts a gyda chwmnïau meddalwedd oedd yn ceisio llwyddo gyda chynnyrch amlgyfrwng. Datblygodd gynnyrch amlgyfrwng gyda Peter Lynch, Tom Peter, Standard & Poors a The Learning Company. Yna ymunodd â CMGI ble bu’n rhedeg, prynu a gwerthu busnesau mawr y rhyngrwyd, fel Prif Weithredwr InfoMation Corporation, ZineZone Corporation a’r iCASY Corporation. Cafodd ei henwi’n un o 100 Uchaf y Rhyngrwyd gan Silicon Valley Reporter yn 1999, un o’r 25 Uchaf gan gylchgrawn Streaming Media ac un o’r 100 uchaf o Brif Weithredwyr y Cyfryngau gan The Hollywood Reporter. Enillodd ei hymgyrch “Tear Down the Wall” yn erbyn AOL wobr arian SABRE am gysylltiadau cyhoeddus yn 2001.
Mae Margaret wedi cyhoeddi pum llyfr: mae 'The Naked Truth: A Working Woman’s Manifesto' (Wiley, 2004) am yrfaoedd merched. Mae 'Women on Top: How Female Entrepreneurs are Changing the Rules for Business Success' (Penguin 2007) yn dilyn y cynnydd mewn entrepreneuriaid benywaidd. Cyrhaeddodd ei thrydydd llyfr, 'Wilful Blindness' (Simon & Schuster 2011 a fersiwn ddiwygiedig yn 2019) restr fer Llyfr Busnes Gorau’r Flwyddyn y Financial Times/Goldman Sachs; yn ddiweddarach disgrifiodd yr FT y llyfr fel un o rai pwysicaf y ddegawd. Mae ei holl waith yn trafod pam a sut mae cwmnïau sy’n llawn gweithredwyr dawnus, llawn cymhelliad ac ymroddiad yn methu â darganfod problemau mawr neu ddal gallu arloesol deallusol llawn eu pobl. Mae 'A Bigger Prize' (Simon & Schuster 2014) yn trafod sut y gall unigolion a sefydliadau fod yn wirioneddol greadigol a chydweithrediadol: ble mae’r rhwystrau rhag llwyddo a sut i’w goresgyn. Yn 2015 cyhoeddodd TED 'Beyond Measure: The Big Impact of Small Changes' sy’n trafod rhinweddau diffiniedig sefydliadau sy’n gynaliadwy arloesol. Mae sgyrsiau TED Margaret wedi cael eu gwylio gan dros 9 miliwn o bobl.
Bu Margaret yn rhan o 'Changing the Rules' ar BBC Radio 4, a enillodd Wobr Bri’r Cyfryngau 2007. Mae hefyd wedi ysgrifennu a chyflwyno sawl rhaglen Ddadansoddi ar gyfer BBC Radio 4. Drwy Merryck & Co., mae’n mentora arweinwyr busnesau byd-eang. Mae addysgu yn Ysgol Reoli Prifysgol Caerfaddon ac wedi cael ei gwahodd i siarad mewn ysgolion busnes o gwmpas y byd, gan gynnwys Ysgol Fusnes Harvard, Ysgol Rotman, Ysgol Fusnes Llundain ac Ysgol Polisi Cyhoeddus Lee Kuan Yew. Mae hefyd yn darlithio’n eang mewn sefydliadau nor amrywiol â Banc Ffederal UDA, Accenture, Intel, Google, Microsoft, Roche, KLA-Tencor, State Street, Khosla Ventures, Standard Chartered Bank, Chrysler, J.P.Morgan Chase a Procter & Gamble. Mae hefyd yn ysgrifennu darnau’n achlysurol i’r Financial Times.
Gemma Morgan
Hyfforddais yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst a fi oedd y ferch gyntaf i ennill Cleddyf Carmen gan Ei Mawrhydi y Dywysoges Frenhinol, am berfformiad rhagorol fel swyddog ifanc. Rwy’n gyn-athletwr rhyngwladol, bûm yn gapten ar dîm lacrós Cymru gan gystadlu mewn tair pencampwriaeth Cwpan y Byd. Enillais wobr ‘Y Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr’ yn Ewrop ym Mhencampwriaeth 1997.
Fel siaradwr gwadd, ymgynghorydd a hyfforddwr, mae gen i 20 mlynedd o brofiad rhyngwladol o arwain a pherfformiad tîm yn y sectorau milwrol, busnes a chwaraeon elît. Rwy’n Gymrawd y Sefydliad Arwain a Rheoli. Mae fy ngwaith yn cynnwys hwyluso strategaethau ar lefel bwrdd, hyfforddi gweithredol gyda brandiau byd-eang a datblygu timau chwaraeon elît.
Rwy’n Llysgennad i Elusen ‘Help for Heroes,’ sy’n helpu Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Prydain. Roeddwn wrth fy modd i gael bod yn rhan o raglen ddogfen y BBC ‘Gareth Malone and the Invictus Games Choir,’ a chydweithiais gydag Ei Fawrhydi y Tywysog Harry a Warner Brothers i hyrwyddo’r ffilm ‘Dunkirk.’ A minnau wedi dioddef o straen wedi trawma o ganlyniad i fy ngwasanaeth milwrol, rwy’n ymgyrchu i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn sefydliadau heddiw.
Jonathan Stebbings
Uwch Gynhyrchydd Rhaglenni, Olivier Mythodrama
Mae Jonathan wedi bod yn gweithio’n rhyngwladol fel hwylusydd, hyfforddwr, anogwr a siaradwr gwadd ers 1998. Mae’n gweithio gyda phrif weithredwyr a byrddau, yn ogystal â graddedigion a staff y rheng flaen ar gyfer sefydliadau fel Barclays, BNP Paribas, Goldman Sasch, BNY Mellon, Aviva, HSBC, Hachette, Cisco, Freshfields, S&P Global, 3M, Stanley Black & Decker, Allied Domecq a Toyota.
Mae’n canolbwyntio ar effaith bersonol (gan gynnwys gwaith corff a llais), cyfathrebu unigol a sefydliadol, rheoli ac arwain, ac arloesedd a chreadigrwydd.
Mae gan Jonathan MA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac mae wedi addysgu Shakespeare a drama. Mae ganddo hefyd gefndir masnach eang, ar ôl gweithio fel cyfreithiwr masnach yn Llundain a Rhydychen, ac i ICI.
Mae ganddo TAR, mae’n Uwch-ymarferydd NLP ac yn Ymarferydd mewn Therapi Llinell Amser a Hypnotherapi. Mae wedi ei ardystio mewn MBTI, SDI, Theori Ymwybyddiaeth o Berthnasoedd a Phroffil Rheoli Timau TMSFO a Phroffil Ymgyfarwyddo â Chyfleoedd QO2.
Mae wedi bod yn brif gyflwynydd gydag Olivier Mythodrama™ ers 2004.
Fons Trompenaars
Fons yw’r prif awdurdod ar reoli trawsddiwylliannol. Mae wedi treulio dros 30 mlynedd yn helpu arweinwyr Fortune 500 i reoli a datrys eu problemau busnes a diwylliannol er mwyn cynyddu effeithiolrwydd a pherfformiad byd-eang, yn enwedig ym meysydd globaleiddio, cydsoddi a chaffael, adnoddau dynol a datblygu arweinyddiaeth. Ers 1997, caiff Fons Trompenaars ei gydnabod yn un o’r meddyliau gorau wrth gysylltu gwahanol ddiwylliannau mewn busnes yn Thinkers50 ac yn 2017 cafodd ei dderbyn i Oriel Anfarwolion Thinkers50. Mae wedi gwerthu dros hanner miliwn o lyfrau mewn dros 10 o ieithoedd, fel 'Riding the Waves of Culture' (3ydd argraffiad 2012), cyfrol lwyddiannus iawn sy’n dweud bod meddwl am benbleth yn hanfodol wrth wneud penderfyniadau mewn cyd-destun rhyngddiwylliannol.
Mae gan Trompenaars Hampden-Turner (sydd hefyd wedi ei enwi ar ôl ei gyd-awdur rheolaidd Charles Hampden-Turner) swyddfeydd yn Amsterdam sydd â rhwydwaith fyd-eang ac mae’n gweithredu bas data mwyaf y byd ym maes rheoli rhyngddiwylliannol. Yn seiliedig ar y data hwn, yn ddiweddar cyflwynodd Fons ap newydd 'Culture for Business' yn TEDxAmsterdam ac mae wedi ychwanegu at hyn dros y blynyddoedd gydag ap Gender and Generation. Nod yr ap yw bod pobl yn deall gwreiddiau gwahanol ddiwylliannau’n well ac yn cael cyngor ar sut i wneud busnes mewn gwledydd eraill.
https://www2.thtconsulting.com/about/people/fons-trompenaars/