English

Mwy o wybodaeth

Adolygwch amserlen y rhaglen isod, gan y bydd y cais yn ei gwneud yn ofynnol i chi nodi unrhyw ddyddiadau na fyddwch yn gallu bod yn bresennol.

  • 13 Mai 2025, 10:00 i 12:00, Gweithdy ar fyrddio (rhithiol)
  • 12 Mehefin 2025, 10:00 i 17:00, Sesiwn 1 – Sefydlu (yn bersonol)
  • 13 Mehefin 2025, 09:30 i 15:00, Sesiwn 1 – Sefydlu (yn bersonol)
  • 2 Gorffennaf 2025, 09:30 i 14:00, Sesiwn 2 - Pennu'r cyd-destun: Cymru Iachach (rhithiol)
  • 11 Medi 2025, 09:30 i 15:00, Sesiwn 3 - Datblygu a chyfleu eich cynnig arweinyddiaeth (rhithiol)
  • 16 Hydref 2025, 10:00 i 15:00, Sesiwn 4 – Llywodraethu a sicrwydd; Rôl y ffrind beirniadol (yn bersonol)
  • 25 Tachwedd 2025, 09:30 i 13:00, Sesiwn 5 - Ansawdd, perfformiad, cynllunio a chyllid (rhithiol)
  • 20 Ionawr 2026, 10:00 i 15:30, Sesiwn 6 - Arwain system iechyd a gofal o ansawdd (yn bersonol)
  • Chwefror 2026 (dyddiad i'w gadarnhau), 09:30 i 17:00, Sesiwn 7 - Beth sydd nesaf? (yn bersonol)

Bydd angen i’ch cais rhoi tystiolaeth eich bod yn dangos y gwerthoedd a’r sgiliau sy’n allweddol i rôl Aelodau Bwrdd Annibynnol y GIG, sef:

  • Ymrwymiad i gadw at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a Gwerthoedd GIG Cymru
  • Ymrwymiad i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a sicrhau bod ystod amrywiol o leisiau'n cael eu clywed a'u hystyried
  • Y gallu i weithio ar y cyd ac fel rhan o dîm i gyflawni nodau cyffredin.
  • Y gallu i ddefnyddio dealltwriaeth strategol a/neu brofiad byw er budd cwsmeriaid/defnyddwyr gwasanaeth.
  • Y gallu i ddarparu her a chraffu annibynnol a chynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd.
  • Dealltwriaeth o lywodraethu, rheoli risg a systemau rheolaeth fewnol a sicrwydd effeithiol

Bydd y canllawiau hyn yn eich cynorthwyo i gwblhau'r adran hon o'r cais.

Ni ddylai eich enghreifftiau fod yn fwy na 250 gair fesul cwestiwn (2 funud i bob cwestiwn os ydych yn cyflwyno cais fideo). Gall y rhain ddod o unrhyw ran o'ch bywyd a'ch profiad personol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gyflogaeth, gwirfoddoli a gweithgareddau cymunedol.

Dywedwch wrthym am amser rydych chi wedi hyrwyddo cynhwysiant, a'r effaith a gafodd hyn

Dylai eich ateb i'r cwestiwn hwn ddarparu enghraifft benodol sy'n dangos sut rydych chi'n gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo cynhwysiant yn weithredol. Yn y cwestiwn hwn, dylech hefyd ystyried sut rydych yn arddangos gwerthoedd canlynol GIG Cymru:

  • Canolbwyntio ar atal, gwella iechyd ac anghydraddoldeb
  • Buddsoddi mewn staff/eraill

Disgrifiwch sut rydych chi'n creu ymddiriedaeth a hyder gyda phobl drwy berthynas gadarnhaol

Dylai eich ateb i'r cwestiwn hwn ddarparu enghraifft benodol sy'n dangos sut rydych chi'n mynd ati i ffurfio perthnasoedd effeithiol â phobl o ystod o gefndiroedd amrywiol, gan rannu gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth, er mwyn galluogi cydweithio.

Yn y cwestiwn hwn, dylech hefyd ystyried sut rydych yn arddangos gwerthoedd canlynol GIG Cymru:

  • Gweithio mewn partneriaethau go iawn
  • Buddsoddi mewn staff/eraill

Disgrifiwch amser pan wnaethoch chi gymhwyso'r gwersi o lwyddiant neu gamgymeriad i sicrhau canlyniad gwell

Dylai eich ateb i'r cwestiwn hwn roi enghraifft sy'n dangos sut rydych chi’n

  • hyrwyddo gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth
  • cydnabod a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer arloesi a gwella
  • nodi a rheoli risgiau a/neu broblemau.

Yn y cwestiwn hwn, dylech hefyd ystyried sut rydych yn arddangos gwerthoedd canlynol GIG Cymru:

  • Rhoi ansawdd a diogelwch uwchlaw popeth arall
    Integreiddio gwelliant i waith bob dydd
    Buddsoddi mewn staff/eraill

Mewn dim mwy na 500 gair / 4 munud, dywedwch wrthym pam yr ydych yn gwneud cais ar gyfer y rhaglen Darpar Aelodau Bwrdd. Cofiwch gynnwys:

  • Beth sy'n eich cymell i wasanaethu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • Sut mae'r rhaglen yn cyd-fynd â'ch amcanion datblygiad personol a/neu broffesiynol

Nid yw penodiadau bwrdd cyhoeddus at ddant pawb. Gall y rôl fod yn heriol. Gall deiliaid penodiadau cyhoeddus gael effaith fawr ar gyflawni polisïau a gwasanaethau yn llwyddiannus, a daw hynny â lefel uchel o gydnabyddiaeth gyhoeddus a chyfrifoldeb. Yn y cwestiwn hwn cewch gyfle i ddangos:

  • pam mae gennych ddiddordeb mewn penodiad cyhoeddus yng Nghymru
  • beth fyddech chi'n ei gyfrannu at y rhaglen ac i rolau o'r fath yn y dyfodol, a
  • sut rydych yn teimlo y byddai cymryd rhan yn y rhaglen yn cefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol ehangach.

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau.