Arwain gyda phwrpas, dilysrwydd a hyblygrwydd - gwella eich gwytnwch!
Cynulleidfa
Agored i staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru - Agosáu at uwch arweinyddiaeth
Lleoliad
Rhithwir
Hyd
3 oriau
Trosolwg
Bydd eich gallu i arwain gydag eglurder a hyder mewn oes sy’n newid yn well pan fydd gennych bwrpas sydd wedi'i ddiffinio'n glir ac sy’n cyd-fynd ag – ac yn cael ei gynnal gan – arweinyddiaeth sy’n ddilys ac yn hyblyg.
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn archwilio ac yn cadarnhau egwyddorion arweinyddiaeth bwrpasol. Nid dim ond ymdrechu i fod yn gyson yn eich gwerthoedd a bod yn 'driw i chi eich hun' yw arweinyddiaeth ddilys, ond hefyd esblygu ac addasu yn awr yn ogystal ag i’r dyfodol. Byddwch hefyd yn darganfod sut y bydd arwain gyda phwrpas, dilysrwydd a hyblygrwydd yn gwella eich gwytnwch personol ar adegau heriol â mwy a mwy o newid.
Manteision i chi
Byddwch yn:
- Cyflwyniad i egwyddorion ac offer i ganfod a chadarnhau eich pwrpas.
- Archwilio’r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddilys yn eich dull arwain.
- Cydnabod yr angen i fod yn hyblyg a dilyn cynlluniau ac egwyddorion gydag ystyriaeth, hyblygrwydd a dealltwriaeth.
- Archwilio a chymhwyso strategaethau craidd a fydd yn datblygu eich gwytnwch personol.
Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Cynulleidfa darged
Mae'n agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:
- Agosáu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain)
Cost
Nid oes unrhyw dâl.
Sut i wneud cais
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
- X
Dilynwch ni @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru