English

Ysgol Haf Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan 2020

Dyddiadau:

22 i 26 Mehefin 2020, Preswyl

Prifysgol Cymru, Llanbedr

Canfonwch eich cais erbyn:

Llwybr 1: 16 Mawrth 2020
Llwybr 2: 6 Ebrill 2020
Darllenwch: Sut mae gwneud cais?

Cost:

£500 + TAW

Ni dderbynnir ceisiadau Ysgol Haf.

Yn sgil y datblygiadau diweddar yn ymwneud â COVID-19, mae ein bywydau a sut rydym yn gweithio wedi newid yn ddramatig yn ystod y pythefnos diwethaf.

Rydym wedi gohirio digwyddiad eleni tan flwyddyn nesaf, pan ein bwriad fydd llwyfannu Ysgol Haf 2021 gan ddefnyddio thema eleni ‘Arwain i Bawb – Creu Diwylliannau a Hinsoddau’, gan adeiladu ar y rhaglen bresennol o siaradwyr lle bo hynny’n briodol.

Byddwn yn cadw’ch ceisiadau a’ch manylion cyswllt; bydd yn rhaid i’r rheiny a wnaeth gais drwy eich cyswllt sefydliadol drafod â nhw i ofyn am eglurder o ran y broses ar gyfer mynychu digwyddiad y flwyddyn nesaf. Byddwn yn cysylltu â’r rheini ohonoch a wnaeth gais yn uniongyrchol yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Byddwn yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau ar ein gwefan, Twitter a'n rhestr bostio. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n dilyn, yn hoffi ac yn tanysgrifio i gael yr holl newyddion diweddaraf!

Trosolwg

Darllenwch taflen wybodaeth Ysgol Haf 2020 yma

Mae’r Ysgol Haf yn brofiad dysgu preswyl dwys dros bum diwrnod a fydd yn dwyn ynghyd arweinwyr a rheolwyr i drafod materion allweddol sydd ynghlwm â phwnc arwain penodol.

Bydd yr wythnos o ddysgu yn canolbwyntio ar 'Arwain i Bawb – Creu Diwylliannau a Hinsoddau'.

Manteision i chi

Mae’r wythnos wedi’i llunio fel rhaglen ‘ymestyn’ a fydd yn rhoi cyfle i chi adolygu a gloywi eich sgiliau, cael gwybodaeth newydd a dod i wybod mwy am arferion arwain arloesol. Bydd cyfle i chi edrych ar ffyrdd arloesol o ‘ddarparu busnes’, gan fanteisio ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiadau byd-eang.

'Mae’n brofiad mor wych cael fy amgylchu gan gynifer o bobl o wahanol gefndiroedd, pob un eisiau gwella eu hunain – roedd yna deimlad gwirioneddol o un gwasanaeth cyhoeddus i Gymru.'

Cynadleddwr 2019, Heddlu De Cymru

'Ar ddechrau taith yr Ysgol Haf mae’n amhosibl dychmygu y gellid cyflawni twf mor ddwys mewn pwer personol a phwer grwp mewn pedwar diwrnod. Diolch yn fawr am y cyfle i gymryd rhan a herio fy hun mewn cymaint o ffyrdd gwerth chweil.'

Cynadleddwr 2019, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

'Mae’r Ysgol Haf wedi newid fy mywyd yn llythrennol, o ran fy agwedd bersonol at fy ngyrfa, ond hefyd yn fy mywyd personol. Mae’n gyfle gwych a byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sydd eisiau bod y gorau y gallant fod. Diolch Academi Wales am y profiad hwn, fe drefnoch chi hyn yn berffaith!'

Cynadleddwr 2019, Llywodraeth Cymru

Siaradwyr

Mae siaradwyr 2020 yn cynnwys:

Mae rhagor o wybodaeth amdanynt ar gael yn yr adran siaradwyr Ysgol Haf 2020

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Ar gyfer pwy mae’r Ysgol Haf?

Anelwyd yr Ysgol Haf at uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru, sy’n dylanwadu a llunio cyflenwi ein gwasanaethau ac sy’n ymwneud ag arwain newid.

Lleoliad

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 7ED

Mae manylion ynghylch sut i gyrraedd Llanbedr Pont Steffan hefyd ar gael ar wefan y Brifysgol (dolen allanol).

Cost

Mae cost o £500 ar gyfer yr Ysgol Haf sy’n cynnwys cyfraniad at gostau dysgu ar gyfer y digwyddiad. Talir am gost llety a bwyd ar gyfer yr wythnos ond ni fydd y rhaglen yn talu am gostau teithio cynrychiolwyr.

Gofynnir i chi, os dyfernir lle i chi yn yr Ysgol Haf a’ch bod wedyn yn penderfynu peidio ymuno yn y rhaglen, y gall eich sefydliad fod yn atebol i dalu’r gost iawn.

Sut mae gwneud cais?

Cyn i chi gychwyn ar eich cais, gwiriwch a yw'ch sefydliad wedi'i gynnwys ar ein rhestr cysylltiadau sefydliadol. Os ydyw, rhaid i chi gysylltu â'r cyfeiriad a restrir yn gyntaf, fel y gall eich cyswllt benderfynu a allwch wneud cais am le.

Mae dangos elw ar fuddsoddiad yn bwysicach nag erioed yn yr hinsawdd sydd ohoni heddiw. Mae elw ar fuddsoddiad yn golygu mwy na dim ond budd ariannol. Mae’n ymwneud ag effaith gynaliadwy y dysgu i chi ac i’ch sefydliad, a sut mae hyn yn gysylltiedig â'r gwasanaethau a ddarperir i bobl yng Nghymru. Mae’n hynod berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio mewn cyfnod heriol ac sy’n awyddus i wneud gwelliannau sylweddol i ganlyniadau ei sefydliad.

Mae 2 ffordd o wneud cais am le

Llwybr 1: Enwebiad - 16 Mawrth 2020

Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad sydd ar y rhestr cysylltiadau sefydliadol, mae’n rhaid i chi gysylltu â'r unigolyn a enwir i gael gwybod sut mae gwneud cais drwy eich proses fewnol. Yna, bydd arnoch angen llenwi ein ffurflen gais ar-lein erbyn 16 Mawrth 2020.

Cofiwch: ni allwn dderbyn ceisiadau uniongyrchol gan weithwyr y sefydliadau hyn (oni bai ein bod wedi cael caniatâd gan y cyswllt sefydliadol).

Ar ôl i’ch sefydliad gadarnhau eich enwebiad, bydd modd i chi lenwi ein ffurflen gais ar-lein.

Llwybr 2: Annibynnol - 6 Ebrill 2020

Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad sydd ddim ar y rhestr cysylltiadau sefydliadol uchod, gallwch lenwi ein ffurflen gais ar-lein yn annibynnol (mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan eich prif weithredwr neu’ch uwch arweinydd) erbyn 6 Ebrill 2020.

Ffurflen gais

Ni dderbynnir ceisiadau Ysgol Haf.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o fanylion am yr Ysgol Haf ar gael yn ein gwybodaeth fanwl.