Ysgol Haf 2019 - mwy o wybodaeth
Arweiniad ar gyfer gwneud cais
Pa mor benodol dylwn i fod ynglyn â fy amcanion personol/sefydliadol?
Lawrlwythwch ein dogfen 'Canllawiau ar amcanion a chanlyniadau personol a sefydliadol' i gael rhagor o wybodaeth ac i weld enghreifftiau. Ni ddylai’r amcanion fod yn fwy na 100 gair. Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly gwnewch yn siwr bod eich amcanion mor benodol â phosib er mwyn cryfhau eich cais.
Opsiynau achredu
Mae pob taith yn dechrau gyda'r cam cyntaf, a gallai eich cais i fynychu Ysgol Haf Academi Wales eleni fod eich cam cyntaf chi tuag at ennill cymhwyster lefel uwch, cydnabyddedig megis Doethuriaeth - trwy gwblhau modiwl academaidd newydd, sy'n gysylltiedig â'ch amser yn yr Ysgol Haf.
Mae'r modiwl 'Adolygiad o Ddysgu Proffesiynol' yn unigryw, gan ei fod wedi'i ddatblygu fel man cychwyn ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (DProf) ond gellir ei ddefnyddio tuag at Dystysgrif Ȏl-raddedig (PGCert), Diploma Ôl-raddedig (PGDip), Gradd Meistr (MA) neu Radd Meistr Proffesiynol (MProf). Felly, beth bynnag yw'ch dyheadau academaidd, gall y modiwl hwn eich helpu ar eich ffordd.
Fel arfer, byddai'r modiwl hwn yn costio £1,500. Fodd bynnag, gall cynrychiolwyr yn yr Ysgol Haf gofrestru am £600 ac mae nifer fach o fwrsariaethau ar gael gan Academi Wales sy'n lleihau'r gost ymhellach fyth ac yn cynorthwyo gyda hyd at 50% o'r gost. 5 mlynedd fel arfer yw hyd yr amser a gymerir i ennill DProf, a hynny ar gyfanswm cost o tua £15,000.
Bydd angen i chi gyflwyno cais i'r Brifysgol er mwyn cofrestru ar y modiwl hwn, a hynny unwaith y bydd eich lle yn yr Ysgol Haf wedi'i gadarnhau. Rhaid cwblhau'r cofrestriad erbyn diwedd mis Mai ac mae’r lleoedd gwag ar y modiwl hwn wedi’u cyfyngu i 10 ar gyfer 2019.
Ar ôl cofrestru, fe'ch gwahoddir i fynychu 2 sesiwn tiwtorial yn ystod yr Ysgol Haf - y naill ar y bore Llun a’r llall ar y nos Iau. Ni fydd y sesiynau tiwtorial hyn yn para mwy nag awr. Yn ystod gweddill yr ysgol haf, fe'ch anogir i gwrdd yn anffurfiol â'ch cyd-fyfyrwyr, er mwyn helpu i gefnogi eich gilydd trwy rai o'r tasgau fydd wedi’u pennu. Bydd gweddill eich cefnogaeth ar sail 1 i 1 trwy gyfrwng Skype, e-bost neu alwadau ffôn.
Bydd cyflwyno'ch gwaith ar gyfer y modiwl hwn yn digwydd ym mis Ionawr/Chwefror 2020. Yn dilyn hynny, gall y rhai sy'n dymuno gweithio tuag at DProf ddechrau ar eu modiwl nesaf ym mis Mawrth. Gall y rhai hynny sy'n dymuno gweithio tuag at ddyfarniad ymadael arall drafod a chynllunio eu llwybr gyda'u tiwtor.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Julie Crossman julie.crossman@uwtsd.ac.uk neu Christine Davies christine.davies@uwtsd.ac.uk.
Rhagor o wybodaeth fanwl
Faint mae'n ei gostio?
£500 + TAW (cofiwch dydy hyn ddim yn cynnwys y costau ar gyfer yr achrediad dewisol)
Mae hyn yn cynnwys:
- mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Haf
- pecyn cynrychiolydd
- llety (o nos Lun 24 i nos Iau 27 Mehefin 2019)
- brecwast, cinio a phryd o fwyd gyda'r nos yn ystod y digwyddiad
Rhaid i chi dalu unrhyw gostau personol sy'n codi, megis teithio i'r digwyddiad ac oddi yno, papurau newydd, bil yn y bar, ac ati.
Sylwch: os ydych yn cael lle yn yr Ysgol Haf ac wedyn yn tynnu eich enw yn ôl, gallai fod yn ofynnol i’ch sefydliad dalu'r gost yn llawn.
Sut ydw i'n talu? Pa wybodaeth sy'n angenrheidiol?
Bydd eich sefydliad yn cael ei anfonebu am y swm perthnasol ar ôl i chi fod yn yr Ysgol Haf.
Ymgeiswyr o'r tu allan i Lywodraeth Cymru
Pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais, byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:
- enw’r sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
- enw a chyfeiriad y swyddog bilio
- cyfeiriad e-bost y swyddog bilio
Cyflenwr: Mae Academi Wales yn rhan o Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriad cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n cysylltu â’r swyddog bilio i gael rhif yr archeb brynu ar ôl i'ch lle gael ei gadarnhau. Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw eich swyddog bilio, rhowch eich manylion eich hun ac fe wnawn ni gysylltu â chi’n ddiweddarach i roi cyfle i chi adnabod eich swyddog bilio i gael y manylion hyn. Bydd yr anfonebau’n cael eu hanfon, a bydd y ffioedd yn cael eu casglu ar ôl y digwyddiad.
Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion anfonebu, cysylltwch â’n Tîm Cyllid drwy anfon e-bost at AW.Busnes@llyw.cymru
Ymgeiswyr o Lywodraeth Cymru
Pan fyddwch chi’n cwblhau eich cais, byddwn yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:
- cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid Llywodraeth Cymru
Mae Academi Wales yn rhan o Llywodraeth Cymru. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhaid i’ch rheolwr cyllid LlC roi’r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:
- Canolfan elw
- Cod gweithgarwch
- Rhif personél neu enw’r cynrychiolydd
Byddwn yn cyhoeddi trosglwyddiadau cofnodi i gasglu ffioedd y cwrs ar ôl y digwyddiad.
Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo, cysylltwch â’n Tîm Cyllid AW.Busnes@llyw.cymru
Amserlen fras – agor a chloi'r digwyddiad
Dydd Llun 24 Mehefin
9.30 i 11.30 y.b.: cofrestru a phennu pwy sy'n aros ble
12 y.b.: cinio
1 y.p.: rhaglen yn dechrau
Dydd Gwener 28 Mehefin
12 y.p.: diwedd y rhaglen
Oes rhaid i mi aros am yr wythnos gyfan?
Mae'r Ysgol Haf wedi cael ei datblygu yn brofiad dysgu cynhwysfawr sy’n para am wythnos. Dylech gwblhau'r wythnos gyfan er mwyn elwa i’r eithaf ar y cyfle hwn.
Hefyd, os ydych chi’n bwriadu achredu eich dysgu, bydd angen i chi fod yn bresennol bob diwrnod fel rhan o’r broses achredu. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadran ‘Opsiynau achredu'.
Beth os ydw i'n byw yn ardal y Brifysgol? Oes rhaid i mi breswylio yno?
Rydym yn annog y cynrychiolwyr i breswylio ar y cwrs, ond efallai y byddai'n well gennych aros gartref a theithio os ydych yn byw yn yr ardal. Mae disgwyl i'r holl gynrychiolwyr ddod bob diwrnod i fanteisio ar y dysgu. Rhowch wybod cyn gynted â phosibl os nad oes angen llety arnoch chi.
Oes cyfleusterau gofal plant neu crèche ar gael yn yr Ysgol Haf?
Nid oes cyfleusterau gofal plant na crèche yn y Brifysgol. Bydd disgwyl i'r cynrychiolwyr wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain.
Prydau a lluniaeth
Mae prydau a lluniaeth wedi'u cynnwys yn y rhaglen (fodd bynnag nid yw alcohol na lluniaeth y bar neu'r caffi yn gynwysedig).
- Brecwast: rhwng 7 a 8.30 y.b.
- Swper: 7.30 y.p.
Beth y dylwn ei wneud os oes gennyf ofyniad arbennig o ran deiet neu ofynion meddygol eraill?
Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon fel rhan o’r broses gwneud cais. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw anghenion meddygol neu ddeietegol penodol. O ran gofynion deiet, noder fod y Brifysgol yn gweini amrywiaeth o fwyd. Hefyd mae archfarchnad o fewn pellter cerdded i'r campws.
Cyswllt ffôn symudol / y we
- Nodwch fod y signal ffôn a gwe yn gallu bod yn afreolaidd o achos y lleoliad anghysbell, ac yn ddibynnol ar y tywydd
- Mae cyswllt diwifr ar gael yn y brif neuadd
Beth fyddai'n ddefnyddiol i'w bacio?
- Pethau ymolchi, sychwr gwallt ac ati
- Fflip fflops i’w gwisgo yn y blociau llety
- Drych
- Cyflenwad o de, llaeth a bisgedi, gan fod gan rai o'r bythynnod geginau (ond cyflenwir yr holl fwyd a lluniaeth eraill yn ystod y digwyddiad)
Cod gwisg
- Lled-ffurfiol
Ffotograffiaeth/recordio fideo
Byddwn yn tynnu lluniau ac yn gofyn am adborth a sylwadau gydol y digwyddiad. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu'r deunyddiau ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol; neu mae'n bosibl y byddwn yn eu defnyddio at ddibenion marchnata'r digwyddiad a hyfforddiant gan Academi Wales yn y dyfodol. Bydd cyfle i chi gytuno i ymddangos yn y deunyddiau hyn neu optio allan wrth i chi lenwi’r ffurflen gais.
Paratoadau personol
Lle y bo’n briodol, mae’n rhaid i chi gwblhau'r holl waith a osodir gan y siaradwyr ymlaen llaw.
Cysylltiadau
Tîm yr Ysgol Haf
ysgolhaf@llyw.cymru
03000 256 687
Teithio
Cyrraedd y lleoliad
http://www.uwtsd.ac.uk/lampeter/travelling-to-lampeter/
Trafnidiaeth Cymru
Bysiau
Rhannu car
Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i'r digwyddiad ac oddi yno.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm yr Ysgol Haf drwy anfon e-bost at Ysgol Haf.
Siaradwyr 2019
Nazir Afzal OBE
Bu Nazir Afzal OBE yn Brif Erlynydd y Goron yng Ngogleddorllewin Lloegr ac yn fwy diweddar, bu’n Brif Weithredwr Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Yn ystod ei yrfa dros 24 mlynedd, bu’n erlyn rhai o achosion uchaf eu proffil yn y wlad, ac yn cynghori ar nifer o bynciau cyfreithiol cenedlaethol gan gynnwys Trais yn Erbyn Menywod a Merched,cam-drin plant yn rhywiol a thrais ar sail anrhydedd.
Roedd ei erlyniadau o’r gang a oedd yn paratoi plant ar gyfer rhyw yn Rochdale, y cyflwynydd BBC Stuart Hall a channoedd o rai eraill yn arloesol gan ysgogi’r gwaith sydd wedi trawsnewid trefniadau amddiffyn plant. Mae ef hefyd yn Gynghorydd Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar Drais ar Sail Rhywedd. Yn fwy diweddar, ymunodd â Chronfa Arloesedd Google ar gyfer gwrth-eithafiaeth.
Mae wedi derbyn nifer o anrhydeddau. Yn 2005, dyfarnwyd OBE iddo am ei waith gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a’i waith gyda chymunedau lleol. Cafodd yr anrhydedd hefyd o fod yr unig gyfreithiwr erioed i erlyn achos gerbron y Frenhines.
Tony Bovaird
Mae Tony Bovaird yn Athro Emeritws Rheolaeth a Pholisi Cyhoeddus yn INLOGOV, Prifysgol Birmingham, DU ac yn Gyfarwyddwr y sefydliad dielw Governance International. Mae ei ymchwil yn ymwneud â rheoli strategaeth a pherfformiad yn y sector cyhoeddus, gwerthuso gwasanaethau cyhoeddus a chyd-gynhyrchu gan ddefnyddwyr a chymunedau. Mae ei gleientiaid yn cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd, OECD, Senedd y DU, Swyddfa’r Cabinet a nifer o lywodraethau rhyngwladol ac awdurdodau lleol.
Emmanuel Gobillot
Wedi’i ddisgrifio fel ‘y gwrw arweinyddiaeth cyntaf i genhedlaeth MySpace’ a’r ‘llais mwyaf arloesol mewn arweinyddiaeth heddiw’, mae Emmanuel wedi gweithio gyda sefydliadau sy’n amrywio o Astra Zeneca i Zurich Financial Services drwy Google a’r Cenhedloedd Unedig. Ers mwy na 15 mlynedd, mae ei ymyriadau wedi canolbwyntio ar greu’r gallu mewn sefydliadau i ddarparu canlyniadau drwy arweinyddiaeth o’r radd flaenaf. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd y cwmni ymgynghori Collaboration Partners sy’n arbenigo mewn helpu sefydliadau i gydweithio’n well.
Mae’n un o siaradwyr arweinyddiaeth prysuraf Ewrop; ef yw awdur ‘The Connected Leader’, llyfr a mynd mawr arno yn y DU a’r UD a gyhoeddwyd gan Kogan Page, a ‘LeaderShift’ a ‘Follow the Leader’. Cafodd ei lyfr diweddaraf, ‘Disciplined Collaboration’, ei gyhoeddi gan Urbane yn 2016. Mae ei lyfrau wedi’i sefydlu fel un o’r meddylwyr mwyaf blaenllaw ar fodelau.
Dr Margaret Heffernan
Mae Margaret yn entrepreneur ac yn awdur pum llyfr. Mae dros saith miliwn o bobl wedi gweld ei sgyrsiau TED. Hi yw arweinydd Rhaglen Arweinyddiaeth Gyfrifol y Forward Institute, a thrwy Merryck & Co., mae hi’n mentora prif weithredwyr ac uwch swyddogion gweithredol nifer o sefydliadau mawr byd-eang. Mae ganddi ddoethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Caerfaddon ac mae’n parhau i ysgrifennu i’r Financial Times a’r Huffington Post.
Sophie Howe
Cafodd Sophie ei phenodi'n Gomisiynydd cyntaf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ym mis Chwefror 2016. Ei rôl yw gweithredu fel gwarcheidwad buddiannau cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi'r cyrff cyhoeddus a restrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i weithio tuag at gyflawni'r nodau llesiant.
Cyn y rôl hon, Sophie oedd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu cyntaf De Cymru. Yn y rôl hon, bu'n arwain rhaglenni i fynd i'r afael â throseddu treisgar a thrais yn erbyn menywod a merched, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a gweithio mewn partneriaeth. Diwygiodd raglenni ar gamddefnyddio sylweddau a rheoli troseddwyr a negydodd y rhaglen waith a rennir gyntaf rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Heddlu De Cymru.
Mae Sophie hefyd wedi gweithio fel Cynghorwr Arbennig i'r Llywodraeth gan roi cyngor polisi a gwleidyddol ar gymunedau, llywodraeth leol, diogelwch cymunedol, tai, adfywio a chydraddoldeb.
Gyda chefndir mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth ar ôl rheoli'r adran gyfreithiol yn y Comisiwn Cyfle Cyfartal ac yna fel cynghorwr polisi yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, cadeiriodd ac ysgrifennodd Sophie adroddiad Panel Arbenigwyr Comisiwn y Cynghorwyr ar gynyddu amrywiaeth mewn Llywodraethau Leol.
Bu Sophie'n gynghorydd Sir yng Nghaerdydd - y Cynghorydd ieuengaf yng Nghymru ar ôl cael ei hethol yn 21 oed. Yn ystod ei naw mlynedd fel Cynghorydd bu'n Ddirprwy Arweinydd yr Wrthblaid am gyfnod, yn ogystal ag aelod o'r Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc.
Ar hyn o bryd mae'n aelod o Bwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac yn Cadeirio’r Rhwydwaith Sefydliadau ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol . Mae yn byw yng Nghaerdydd hefo’i gwr Ceri a phump o blant.
Julie James AC
Nes iddi gael ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Abertawe, roedd Julie yn gyfreithiwr amgylcheddol a chyfansoddiadol blaenllaw. Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol yng Nghyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa gyfreithiol mewn Llywodraeth Leol, yn gweithio fel cyfreithiwr polisi gyda Bwrdeistref Camden yn Llundain cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna i Gyngor Dinas a Sir Abertawe.
Ers cael ei ethol, mae Julie wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Cyhoeddodd Julie’r adroddiad ‘Dylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael yr Ewrop’ fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael y Pwyllgor Menter a busnes. Eisteddodd Julie hefyd fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016 penodwyd Julie yn Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Penodwyd Julie yn Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 Penodwyd Julie yn Weinidog dros dai a llywodraeth leol.
Rainer Kattel
Mae Rainer Kattel yn athro ac yn ddirprwy gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi a Phwrpas Cyhoeddus, Coleg Prifysgol Llundain. Mae wedi cyhoeddi’n eang ar bolisi arloesedd, sut i lywodraethu hynny a materion rheoli penodol. Mae ei ddiddordebau ymchwil hefyd yn cynnwys arloesedd yn y sector cyhoeddus, trawsnewid digidol ac arianoliad (financialization).
Mae ei lyfrau diweddar yn cynnwys 'The Elgar Handbook of Alternative Theories of Economic Development' (golygwyd gyda Erik Reinert a Jayati Gosh; Elgar, 2016), 'Financial Regulations in the European Union' (golygwyd gyda Jan Kregel a Mario Tonveronachi; Routledge, 2016), 'Innovation Bureaucracy' (gyda Wolfgang Drechsler a Erkki Karo; Yale, i’w gyhoeddi yn 2020), ac adran arbennig ar bolisi arloesedd a galluoedd dynamig sy’n canolbwyntio ar gyflawni yn y sector cyhoeddus yn 'Industrial and Corporate Change' (golygwyd gyda Mariana Mazzucato; 2018).
Yn 2013, dyfarnwyd Gwobr Wyddoniaeth Genedlaethol Estonia iddo am ei waith ar bolisi arloesedd.
Catherine Mangan
Mae gan Catherine ddiddordeb ymchwil arbennig mewn cyflawni newid o fewn y sector cyhoeddus. Mae ei meysydd diddordeb yn cynnwys integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol, datblygu gweithlu’r dyfodol ac arweinyddiaeth ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Mae Catherine yn gyd-gynullydd modiwl arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus i raglenni Meistr a gradd prentisiaeth yr Adran mewn Rheolaeth Gyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
Mae hi hefyd yn gyd-gynullydd rhaglenni ar integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol a rheolaeth gyhoeddus ryngwladol. Mae Catherine yn datblygu ac yn darparu rhaglenni arweinyddiaeth gan gynnwys Rhaglen Datblygu Graddedigion Cenedlaethol, rhaglen Darpar Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus a’r rhaglen Arweinyddiaeth Gyflawn i ddarpar brif weithredwyr. Mae hi’n cynnal ymchwil ym maes gofal cymdeithasol ac yn arbennig y berthynas rhwng gwahanol rannau’r system a sut mae hynny’n effeithio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd. Mae Catherine yn goetsiwr gweithredol cymwys ac mae’n ysgrifennu erthyglau yn rheolaidd i newyddiaduron academaidd a’r wasg broffesiynol.
Shan Morgan
Ar ôl ymgymryd ag amrywiaeth eang o rolau o fewn y gwasanaeth sifil am nifer o flynyddoedd, daeth Shan yn Llysgennad ei Mawrhydi i’r Ariannin a Paraguay yn 2008 cyn cael ei phenodi’n ddirprwy gynrychiolydd parhaol UKRep ym mis Gorffennaf 2012, gan gynrychioli’r DU ar Bwyllgor Cynrychiolwyr yr UE o’r Aelod-wladwriaethau (Coreper I).
Ym mis Chwefror 2017, ymgymerodd Shan â’i swydd fel Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, lle mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wrth gyflawni blaenoriaethau Gweinidogion, gan reoli cyllideb o £15 biliwn.
Nick Richmond
Mae gan Nick frwdfrydedd mawr dros gynllunio gweithleoedd ffyniannus trwy greu gwaith ystyrlon i ffurfio sefydliadau iach sy’n perfformio’n dda. Mae ef wedi gweithio fel ymgynghorydd sefydliadol ar draws nifer o sectorau dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae Nick yn cyfrannu’n frwd at y gymuned cynllunio a datblygu sefydliadol fel un o Gyfarwyddwyr Tricordant, ac fel Cadeirydd Fforwm Cynllunio Sefydliadol Ewrop. Mae e’n defnyddio dulliau arloesol gan gynnwys Lego® Serious Play® i helpu arweinwyr a sefydliadau ffynnu mewn cyd-destunau cymhleth.
Ian Robertson
Mae Ian Robertson yn gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Iechyd Ymennydd Byd-eang (www.gbhi.org), yn Athro Emeritws yng Ngholeg y Drindod Dulyn, yn Wyddonydd Hybarch ym Mhrifysgol Texas yn Dallas ac yn Athro Gwadd yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
Mae e’n arbenigwr rhyngwladol ar gysylltiadau meddwl-ymennydd mewn anhwylderau emosiynol ac anhwylderau’r ymennydd. Mae ef hefyd wedi ymgymryd ag uwch swyddi ym mhrifysgolion Columbia, Caergrawnt a Toronto. Fel niwrowyddonydd a seicolegydd clinigol hyfforddedig, mae ymchwil Ian yn ceisio pontio’r bwlch rhwng gwyddoniaeth yr ymennydd, seicoleg dynol a’r heriau personol y mae pob un person ar y blaned yn eu hwynebu o bryd i’w gilydd.
Mae nifer o’i lyfrau wedi’u cyfieithu a’u hadolygu gan gynnwys 'The Stress Test', 'Mind Sculpture', 'The Mind’s Eye', 'Stay Sharp' and 'The Winner Effect', a chyfeirir yn eang atynt ledled y byd. Mae ei flogiau a’i negeseuon trydar poblogaidd i’w gweld ar ianrobertson.org a @ihrobertson.
Sharon Turnbull
Mae Sharon yn arbenigo mewn datblygu arweinyddiaeth annibynnol, ac mae’n academydd sy’n cyhoeddi ac yn cyfrannu yn y maes arwain, newid sefydliadol, a datblygu gweithredol byd-eang ers blynyddoedd lawer. Mae wedi gweithio gydag arweinwyr o ystod eang o sectorau o bedwar ban byd i’w cefnogi hwy a’u sefydliadau i ffynnu yn y byd cyfnewidiol hwn.
Mae wedi addysgu mewn nifer o ysgolion busnes yn y DU a thramor, ac wedi cyd-ysgrifennu tri llyfr. Mae ganddi ddiddordeb yn y ffordd y gall trawsffurfiad personol a sefydliadol atgyfnerthu ei gilydd, ac yn y berthynas bwysig rhwng arwain, twf personol, cynhyrchaeth sefydliadol a’r cyfrifoldeb am gymdeithas.
Yr Her Arweinyddiaeth – o’r effeithlon i’r eithriadol
Yn ystod y digwyddiad, bydd Ysgol Haf 2019 yn gyfle i adolygu a gloywi sgiliau arwain hollbwysig, cael gwybodaeth newydd a chryfhau dealltwriaeth o’r ymarfer arwain diweddaraf yn ogystal ag ymchwilio i ffyrdd arloesol o newid ymddygiad er mwyn cael canlyniadau gwahanol, a dysgu sut i ‘gyflawni busnes’ mewn ffordd wahanol er mwyn ateb y galw sy’n wynebu’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Mae rhaglen ddysgu’r Ysgol Haf wedi cael ei datblygu i helpu i drawsnewid eich arddull arwain o’r effeithlon i’r eithriadol; i ddefnyddio eich gwerthoedd a’ch ymddygiadau chi eich hun i helpu pobl i deimlo, meddwl a gweithredu y tu hwnt i’r terfynau y maen nhw’n eu dychmygu, ac i ddefnyddio’r galluoedd a’r capasiti sydd gennych chi go iawn i ateb gofynion arwain mewn gwasanaeth cyhoeddus a bod yn arweinydd sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Bydd yr wythnos hon yn darparu dysgu sy’n ychwanegu gwerth ac yn eich helpu i greu llwyddiant yn eich rôl, gyda’ch tîm ac er budd eich sefydliad.