English

Ysgol Haf 2026

  • Cynulleidfa
    Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector gwasanaeth cyhoeddus a'r sector gwirfoddol yng Nghymru

  • Lleoliad
    Preswyl
    Campws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

  • Dyddiadau
    23 i 26 Mehefin 2026

  • Cost
    Codir £600 + TAW ar gynadleddwyr

'Ysbryd Arweinyddiaeth: Myfyrio, Ailgysylltu, Ailddychmygu'

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Trosolwg

Bydd yr Ysgol Haf yn dathlu 21 mlynedd yn 2026, ac rydym yn falch iawn o ddod â phrofiad cyffrous, diddorol ac ysbrydoledig arall i chi eleni. 

Mae prif raglen eleni, Ysbryd Arweinyddiaeth, yn brofiad preswyl trochol a gynhelir dros 4 diwrnod yn lleoliad prydferth Llanbedr Pont Steffan, yn y gorllewin. Mae'r Ysgol Haf yn dod ag arweinwyr at ei gilydd i rwydweithio, dysgu a mynd i'r afael â materion allweddol yn y gwasanaeth cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’r rhaglen Ysbryd Arweinyddiaeth yn daith Ysgol Haf drawsnewidiol ar gyfer y rhai sy’n ysgogi newid ym maes arweinyddiaeth. 

Y manteision i chi

Mae Ysbryd Arweinyddiaeth yn cynnig cyfle unigryw i gamu'n ôl o’r pethau o ddydd i ddydd, i fyfyrio ar eich cyfraniad i arweinyddiaeth, ailgysylltu ag ysbryd ac ailddychmygu dyfodol gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

  • Myfyrio: Creu lle ar gyfer dealltwriaeth bersonol a myfyrio ar y cyd ar eich cyfraniad fel arweinydd, eich effaith a'ch gwaddol yng nghyd-destun gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

  • Ailgysylltu: Cryfhau perthnasoedd, meithrin ymddiriedaeth ar draws sectorau, ac ymrwymo i bwrpas cyffredin ac uchelgais gyfunol Arwain dros Gymru.

  • Ailddychmygu: Herio meddwl sefydledig, creu posibiliadau newydd o fewn systemau, gwasanaethau, a dulliau arweinyddiaeth sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Mae gan Academi Wales safle unigryw yn nhirwedd Cymru. Gyda mynediad at arweinwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus, dealltwriaeth o anghenion arwain a thrawsnewid ein harweinwyr presennol ac yn y dyfodol, a lefelau uchel o arbenigedd wrth weithredu ymyriadau ystyrlon ac effeithiol, mae gennym ran allweddol i’w chwarae yn nyfodol Cymru.

Mae strategaeth newydd Academi Wales yn cyflwyno ein diben uchelgeisiol i drawsnewid Cymru drwy ragoriaeth mewn arweinyddiaeth.

Mae sawl edefyn aur yn rhedeg drwy bopeth a wnawn: Gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ethos Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, pwyslais cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, hyrwyddo’r Gymraeg a defnyddio dulliau digidol a hybrid i gefnogi darpariaeth o ansawdd.

Yr hyn a ddywedodd cynadleddwyr y gorffennol

“Diwrnod gwych arall. Mae'r egni sy'n cael ei gynhyrchu o amgylch yr ysgol yn rhywbeth nad ydw i erioed wedi'i deimlo o'r blaen. Mae'r rhwydweithiau rydw i'n eu creu wedi dangos y posibiliadau diddiwedd sydd gennym mewn gwasanaeth cyhoeddus, os ydyn ni’n dweud bod meithrin perthnasoedd yr un mor bwysig ag unrhyw beth arall" 

"Mae'r Ysgol Haf wedi bod yn bleser llwyr i mi. Mae fy niolch yn enfawr ac rydw i'n mynd i rannu fy mhrofiadau gyda phawb yn fy rhwydwaith. Diolch yn fawr am y cyfle hwn"

"Diolch am 4 diwrnod anhygoel, mae wedi bod yn ddwys, yn hwyliog, yn llawn gwybodaeth, yn ddwfn, yn flinedig, yn gyffrous ac mor fuddiol yn gyffredinol"

"Cyfuniad gwych o siaradwyr i ddod ag wythnos mor anhygoel i ben. Roeddwn i'n drist i adael, gan fy mod wedi mwynhau fy amser yn gallu cael gwybodaeth a sylwadau gan unigolion o'r un anian. Mae gen i hyder newydd a mwy o gymhelliant yn barod i ddychwelyd i'r gwaith" 

Er mwyn eich helpu i gael blas ar brofiad yr Ysgol Haf, mae fideos o flynyddoedd blaenorol ar gael ar ein sianel YouTube.

Cadeiryddion a siaradwyr

Bydd y rhaglen 4 diwrnod lawn ac amrywiol yn cynnwys siaradwyr sy'n academyddion ac yn arbenigwyr yn eu maes dewisol. Bydd profiad yr Ysgol Haf yn rhoi cyfle i chi fynd amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a gyflwynir gan academyddion, ac awduron a all rhoi dealltwriaeth a gwybodaeth i'ch cefnogi chi, eich sefydliadau, a'r gymuned rydych chi'n ei gwasanaethu.

Dysgwch fwy am y cadeiryddion a'r siaradwyr.

Bydd rhagor o fanylion am ein siaradwyr yn cael eu cyhoeddi’n fuan. Tanysgrifiwch i'n Bwletin, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ewch i'n tudalennau gwe i gael y newyddion a'r diweddariadau diweddaraf am Ysgol Haf 2026.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at arweinwyr profiadol; pobl sydd â mwy o brofiad arweinyddiaeth - yn arwain swyddogaethau neu wasanaethau drwy osod cyfeiriad strategol a sicrhau cysondeb rhwng nifer o dimau.

Mae’r Ysgol Haf yn addas ar gyfer y rhai sy’n arwain tîm, cangen neu adran yn eu sefydliad, gyda chyfrifoldeb am greu amgylchedd gwaith effeithiol i’w staff, ac am nodi a hwyluso unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gyflawni amcanion eu sefydliad.

Cost

Codir tâl ar gynadleddwyr o £600 + TAW ar gyfer yr Ysgol Haf sy’n cynnwys cyfraniad at gostau dysgu’r digwyddiad.

Sylwch, os tynnwch chi’n ôl o’r rhaglen ar ôl i le gael ei ddyfarnu i chi ar yr Ysgol Haf, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Bwrsariaethau

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau o hyd at 100% tuag at gost cynrychiolwr Ysgol Haf 2026. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir, grwpiau lleiafrifol a difreintiedig.

Dysgwch fwy am wneud cais am fwrsariaeth.

Gwnewch gais am yr Ysgol Haf

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Ebrill 2026. Mae ceisiadau nawr ar gau.

Mwy o wybodaeth

I ddarganfod mwy, gan gynnwys sut i gyflwyno cais cryf, gweler ein tudalen rhagor o wybodaeth.